Addysg Bellach yng Nghymru

ADDYSG 16+ MEWN YSGOLION

Yn draddodiadol, bu rhwyg rhwng addysg academaidd 'chweched dosbarth' ac addysg alwedigaethol mewn sefydliadau eraill. Bu Ilawer o bwyso dros y blynyddoedd i sicrhau'r hawl i addysg academaidd yn y Gymraeg a, Ile bo chweched dosbarthiadau'n parhau, bydd Cymdeithas yr laith Gymraeg yn pwyso am

  • ddatblygu rhwydwaith o ysgolion Cymraeg penodedig a sicrhau fod pob pwnc yn yr ysgolion hyn yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
  • raglen i ddatblygu ysgolion naturiol Gymraeg a fydd yn cynnig ystod cyflawn o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg - gyda rhaglen amser a thargedau pendant i gyflawni hyn
  • sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei dysgu'n effeithiol fel pwnc, ac fel rhan hanfodol o unrhyw gwrs ehangach a ddatblygir yn y dyfodol i gymryd Ile Safon 'A'

COLEGAU ADDYSG BELLACH - Y SECTOR A ESGEULUSWYD

Tuedda myfyrwyr safon 'A' i gael eu diwreiddio o'u cymunedau Ileol trwy'r system addysg uwch. Mae myfyrwyr colegau addysg bellach, fodd bynnag, yn Ilawer fwy tebygol o aros yn eu cymunedau, ac mae eu cyrsiau yn fwy tebygol o fod yn berthnasol i fywyd bob dydd cymunedau Ileol. Eto, dyma'r union sector o addysg sydd bron yn gyfangwbl Saesneg. Gwaethygodd y sefyllfa hyd yn oed fr y y-.r, 10, 93 pan ddaeth y colegau'n mini-Quangos or ol i'r Toriaid eu datgysylltu o reolaeth ddemocrataidd yr Awdurdodau Addysg Lleol. Bradychir dyheadau miloedd o Gymry Cymraeg ifainc trwy'r sector hon o'r system addysg. Ni bydd Cymdeithas yr laith Gymraeg yn esgeuluso'i chyfrifoldeb dros y myfyrwyr hyn - byddwn yn ymgyrchu o hyn allan dros eu hawl i dderbyn addysg gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg.

CYTUNDEB CYMDEITHAS YR IAITH I YMGYRCHU

Mae Cymdeithas yr laith yn ymrwymo i ymgyrchu i weddnewid y colegau addysg bellach a sicrhau eu bod yn

  • cynnig ystod gyflawn o addysg Gymraeg
  • gwasanaethu'n cymunedau Ileol
  • derbyn adfer rheolaeth ddemocrataidd arnynt

Bydd ein hymgyrch ar ddwy lefel. Ar raddfa leol, byddwn yn canolbwyntio'n pwysau i ddechrau ar y sefydliadau canlynol:

i. Coleg Meirion Dwyfor
ii. Coleg Menai
iii. Caleg Llandrillo
iv. Coleg Ceredigion
v. Coleg Sir Gaerfyrddin

Byddwn hefyd yn cadw golwg ar nifer o golegau trydyddol ac addysg bellach ym Mhowys, Dyffryn Clwyd, Sir Benfro a Morgannwg. Mae arweinyddiaeth rheoli y mwyafrif o'n prif 'dargedi' wedi newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac 'rydym yn hyderus o gynnydd buan. Ar raddfa genedlaethol, byddwn yn pwyso or i'r Swyddfa Gymreig derFynnu'r Quango Ariannu Addysg Bellach - sydd heb unrhyw arbenigedd addysgiadol - ac ailsianelu'r arian or gyfer addysg bellach trwy'r Awdurdodau Addysg Lleol. Ni bydd hyn yn adfer yr Awdurdodau Addysg Lleol fel darparwyr uniongyrchol, ond bydd yn cadarnhau eu swyddogaeth fel cynllunwyr strategol ac yn gorfodi colegau i ymostwng i orolwg ddemocrataidd. Yn yr un modd, dylid trawsnewid y TECs fel eu bod yn atebol i'r Awdurdodau Lleol.

EGWYDDORION SYLFAENOL EIN HYMGYRCH

1. Fod angen creu trefn newydd o addysg bellach yng Nghymru fel rhan o'r ymgyrch dros Drefn Addysg Annibynnol a Democrataidd i Gymru sy'n gweddu i anghenion Cymru.

2. Fad angen system integreiddiedig Gymreig o arfarnu cymwysterau galwedigaethol, gan mor wastraffus yw'r gwaith o gyfieithu cyrsiau gwahanol gyrff arholi sy'n dyblygu ei gilydd ac yn cynnig gwasanaeth gwael i Gymru.

3. Dylai sefydliadau addysg bellach gydweithio mewn cynlluniau addysg sirol (tan arweiniad yr Awdurdod Addysg Lleol) sy'n cwmpasu hall ofynion addysgiadol y sir. Bydd y drefn newydd hon o gydweithio yn ein gwaredu ni rhag yr obsesiwn am y 'farchnad' sy'n nodweddu Ilawer o weithredoedd y colegau presennol. Ar hyn o bryd fe rwystrir datblygiad cyrsiau Cymraeg trwy fod rhai darlithwyr yn gwrthod rhannu nodion Cymraeg & 'chystadleuwyr' potensial.

4. Dylai myfyrwyr Ilawn-amser ym mhob sefydliad addysg bellach dderbyn cwrs trawsgwricwlaidd cychwynnol mewn 'Astudiaethau Cymunedol', er mwyn ehangu eu sylfaen addysgiadol ac i berthnasoli'r addysg ei hun. Byddai astudiaeth o'r Gymraeg - i bawb - yn
rhan sylfaenol o hyn. Cydnabyddwn y datblygiad pwysig i'r cyfeiriad hwn gan Goleg Meirion Dwyfor ym Medi 1997, and galwn am gyflwyniad ehangach.

5. Dylai'r holl fyfyrwyr,mewn ardaloedd Cymraeg, dderbyn dros hanner eu haddysg (mewn cyrsiau galwedigaethol yn enwedig) trwy gyfrwng y Gymraeg. Cymherwn enghraifft fel y cwrs Safon 'A' mewn Astudiaethau Busnes a gynigir gan Goleg Meirion Dwyfor - cwrs hollol Saesneg a Seisnig or hyn o bryd. Os no chaiff myfyrwyr eu paratoi i fedru trefnu eu busnesau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ardal fel Meirion Dwyfor, yna dylid ystyried hyn yn fethiant addysgiadol yn hytrach nag yn anghyfiawnder ieithyddol. Yn y cyswllt hwn, dylid nodi'r sefydliad fel un sy'n methu'n addysgiadol.

6. Mewn cyrsiau eraill (yn enwedig rhai rhan-amser) dylai fod strwythur pendant i gyfweliadau gyda darpar-fyfyrwyr i sicrhau fod ganddynt wir ddewis o ran cyfrwng eu haddysg. Cyfeiriwn at noson agored Coleg Sir Gaerfyrddin y mis diwethaf lie gofynwyd i fyfyrwyr a geisiodd wneud cwrs teipio trwy gyfrwng y Gymraeg: a fyddech dal yn fodlon gwneud y cwrs yn Saesneg os no fydd or gael yn Gymraeg?

7. Cefnogwn argymhelliad y Pwyllgor Dethol Seneddol or Addysg Bellach yng Nghymru (12.03.97): We recommend that the Welsh medium factor should be further enhanced - hyn yn son am y grant penodol sydd or gael or gyfer datblygu addysg bellach ddwyieithog. Ond credwn yn gryf bad angen newid y defnydd a wneir o'r grant er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ei wir amcan. Mae'r Quango Cyllido Addysg Bellach mor aneffeithiol fel bad y colegau wedi (lwyddo i odro'r grant hwn i chwyddo eu coffrau cyffredinol, yn hytrach nag i ddatblygu addysg Gymraeg. Yn wir, mae fformiwla amcamgyfri'r grant yn eu hannog i greu grwpiau cymysgiaith Ilac. Dim and iddynt brofi fod un neu ddau o fyfyrwyr yn y grwp yn cael eu hasesu'n rhannol yn y Gymraeg, gallant hawlio'r grant yn ol y pen am bawb yn y grwp. Dylai'r grant gael ei anelu at gyrsiau a ffrydiau Cymraeg penodedig a grwpiau cymysgiaith Ile bo pob myfyriwr yn y grwp yn derbyn dros 50% o'i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

8. Dylid datblygu gwasanaeth y colegau i'r gymuned leol, yn enwedig drwy ddefnyddio'u cyfleusterau or gyfer dysgu Cymraeg i oedolion or raddfa lower helaethach.

9. Nid yw Cymdeithas yr laith yn gwrthwynebu o gwbl yr egwyddor gyfun a gynhwysir yn y cysyniad o golegau trydyddol. Ond gan fod gan golegau o'r fath fonopoli absoliwt neu ymarferol or addysg 16-18 mewn nifer o ardaloedd, credwn o'r herwydd fod eu cyfrifoldeb i ddarparu addysg gyflawn Gymraeg yn Ilawer mwy.

10.Wedi'r cyfnod dechreuol hwn pan fyddwn yn canolbwyntio or y colegau hynny sy'n gwasanaethu'n ardaloedd Cymreiciaf, mi fyddwn y flwyddyn nesaf yn estyn ein hymgyrch at golegau eraill Cymru.

Cymdeithas yr laith Gymraeg - Awst 1997