Addysg: Her i Ysgolion Gwledig 2000

Mehefin 1999. Yr angen am frwydr newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg i gymunedau lleol.

A. Rhagair

Cyhoeddir y papur hwn yn ystod Eisteddfod yr Urdd a gynhelir yn Llanbedr Pont Steffan ym Mehefin 1999 - ychydig o fisoedd cyn diwedd y mileniwm - a'n dadl yw y bydd angen brwydr newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg i gymunedau lleol. Nid oes sicrwydd am oroesiad yr ysgolion, nac am y cymunedau Cymraeg chwaith.

Pan gynhaliwyd gwyl genedlaethol yn Llanbed y tro diwethaf - yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984 - cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith bapur o'r enw CYMRU 2000 [*]. Ein dadl ar y pryd oedd y gallasai cymunedau naturiol Cymraeg fod wedi diflannu ymron erbyn troad y ganrif, er y byddai dros 400,000 o unigolion yn dal i siarad Cymraeg. Yn y rhagair i'r papur hwnnw, dywedir:

Ein gobaith yw y bydd i'r ddarlun hon o Gymru 2000 sbarduno'n pobl i weithredu i atal y tueddion hyn a chreu dyfodol newydd i'n gwlad.

Efallai wir fod y ffaith nad yw ein cymunedau Cymraeg wedi diflannu'n llwyr yn destun clod i ymgyrchwyr a aeth ati wedi 1984 i greu polisiau iaith newydd yn ein hysgolion, ym myd tai a chynllunio ac a greodd hyder newydd o ganlyniad i'r ymgyrchu.

Yr un modd yn awr, mae Cymdeithas yr Iaith yn datgan fod amgylchiadau cyfoes yn milwra'n erbyn barhad o'r drefn bresennol o ysgolion gwledig ac, oni weithredir yn wahanol, y gallai llawer iawn ohonynt gau gyda chanlyniadau trychinebus i'r cymuedau y maent yn eu gwasanaethu. Nid ydym yn dweud fod hyn yn anochel - i'r gwrthwyneb, dywedwn fod hyn yn gosod her i ni feddwl a gweithredu o'r newydd er mwyn newid y tueddion ac, fel y gwnaethon ni yn 1984, gosodwn allan ein hargymhellion ni i gyflawni hyn.

 

B. Pwysigrwydd Ein Cymunedau Gwledig

Achos sylfaenol Cymdeithas yr Iaith yw bod iaith yn ffenomenon cymdeithasol yn ei hanfod, ac nad yw iaith wir yn fyw onis defnyddir yn naturiol fel cyfrwng cyfathrebu mewn cymunedau lleol. Bu bywyd cymunedol pentrefol yn asgwrn cefn felly i lawer o'n gwareiddiad Cymraeg. Er mai Saesneg oedd yr iaith swyddogol a orfodwyd o du allan, trwy gyfrwng y Gymraeg y bu i'r trigolion hyn ymwneud ’'i gilydd a diffinio eu hunaniaeth.

Yr ysgol bentref fu'r cyfrwng pwysicaf i ddatblygu'r ymwybyddiaeth hon o berthyn i'r gymuned leol. Hyd yn oed yn yr oes pan fu'r addysg yn gyfangwbl Saesneg, rhoddai'r ysgol i'r disgyblion yr ymdeimlad o berthyn ac aethant i'r ysgol uwchradd fel 'criw' y pentref.

Mae swyddogaeth gymunedol yr ysgol bentref wedi dod yn bwysicach yn siroedd Dyfed yn ystod y ddegawd ddiwethaf oherwydd dirywiad yr iaith yn y cymunedau ehangach a dyfodiad y polisi iaith newydd i ysgolion y siroedd. Mae yggol y pentref wedi dod, yn aml, yn ffocws Cymraeg y gymuned. Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig i blant mewnfudwyr. Yn lle dysgu'r Gymraeg fel pwnc yn unig mewn ysgol ardal, caiff y plant y cyfle i'w dysgu fel allwedd mynediad i ddiwylliant y pentrefi y maent wedi symud i fyw iddynt. I'r graddau y bydd yr ysgolion yn agor eu hunain i'r gymuned leol y bydd y fantais hon yn cynyddu'n bellach.

Pe collid yr ysgolion hyn, a'r plant yn cael eu symud i ysgolion mewn pentrefi eraill yn Ùl cyfleustra gweinyddwyr a chyfrifwyr, byddai'r plant yn cael eu hamddifadu o rai o gonglfeini'n haddysg gynradd - sef y sicrwydd o berthyn a chael eu hadnabod a'r gallu i gydweithio. Wedi colli'r ffocws, byddai'r weddillion o fywyd cymunedol yn mynd yn Saesneg er y byddai gan unigolion hawliau cynyddol o ran defnyddio'r Gymraeg ar faterion swyddogol - 'role-reversal' llwyr.

 

C. Rhaid i'r Drefn Newid

Ac eto, mae Cymdeithas yr laith yn cydnabod na all y drefn bresennol barhau ac nid yw'n bosibl amddiffyn ysgolion gwledig yn union fel y maent ar hyn o bryd. Adeiladwyd y mwyafrif o ysgolion gwledig Ceredigion a Chaerfyrddin rai cenedlaethau'n Ùl i wasanaethu'r patrwm o gymunedau a oedd yn bodoli ar y pryd. Fel y dywed dogfen ymgynghorol Cyngor Sir Ceredigion, Dyfodol Addysg Gynradd yng Ngheredigion (1998):

Rhaid inni holi ein hunain: a fydd system addysg gynradd, sydd a'i strwythur wedi ei gwreiddio yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ddigonol i baratoi disgyblion ar gyfer gofynion y mileniwm newydd?

Mae'r cwestiwn yn un teg, a gallwn ymhelaethu ar y mathau ar newidiadau sydd wedi ei gwneud yn anos cynnal yr hen drefn.

Yn gymdeithasol bu newidiadau mawr yn y gwead o fywyd pentrefol. Mae Cyngor Ceredigion yn dadlau fod yr holl gysyniad traddodiadol o gymuned bentrefol wedi dod i ben. Mae popeth arall yn cael ei drefnu bellach ar lefel sir neu gylch o bentrefi, a phaham y dylai ysgolion fod yn wahanol? Trwy sbectol oedolion a sbectol y ddosbarth broffesiynol, mae gan bob teulu o leiaf ddau gar, ac nid yw'n achosi unrhyw broblem i ddilyn bywyd symudol. Ni roddir llawer o sylw i'r effaith ar y plentyn o oed gynradd.

Mae polisiau tai a datblygiadau economaidd wedi ei gwneud yn anos i bentrefi barhau i gynhyrchu cenedlaethau newydd o ddisgyblion ysgol. Peidwyd ag adeiladu tai cyngor - yn wir, gorfodwyd eu gwerthu - a chanolbwyntiwyd ar adeiladu tai henoed yn ein pentrefi. Peryglwyd nifer o ysgolion oherwydd bod teuluoedd ifanc wedi gorfod symud o bentrefi at stadau tai cyngor yn y trefi neu i chwilio am waith.

Yn addysgiadol cyflwynwyd y Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n gosod pwysau ar ysgol dau athro e.e. dywed dogfen Cyngor Sir Dyfed Clystyru Ysgolion Cynradd - y Ffordd Ymlaen (Hyd 1994):

ei bod yn afresymol disgwyl i athro unigol feddu ar lefel uchel o arbenigedd mewn mwy nag ychydig o'r meysydd cwricwlaidd.

Yn wleidyddol bu nifer o newidiadau sy'n milwra'n erbyn buddiannau ysgolion bach gwledig. Mae rheolaeth leol ar gyllid a dyletswyddau cynyddol o ran gweinyddu ac asesu'n gosod baich aruthrol ar brifathrawon sydd bellach ’'r cyfrifoldeb statudol o gyflawni'r holl ddyletswyddau hyn yn eu hysgolion nhw. Mae cyfrifoldebau manwl - fel yswirio athrawon - yn awr i'w trefnu ar lefel ysgol unigol sydd heb lawer o rym (megis yr Awdurdod Addysg gynt) i ddadlau achos gyda chwmniau preifat. Mae'r ymdrech i gyflwyno dogma'r farchnad i fyd addysg wedi gosod ysgolion bach yn erbyn ei gilydd. Yn lle derbyn cenhadaeth o weithio gyda'i gilydd i wella ysgol eu pentref, anogir rhieni i ystyried eu plant fel tuniau o ffa pob a 'siopa o gwmpas' am y del gorau.

Mae'n sicr felly na all y drefn bresennol o ysgolion bach barhau fel y mae ac y bydd yn rhaid wrth newidiadau. Yn Ùl Cymdeithas yr Iaith, y gwir ddewis yw rhwng ymateb yn gadarnhaol i'r newidadau hyn gan ddatblygu'r ysgolion mewn dulliau cyffrous newydd i ateb gofynion yr oes newydd neu i ymateb yn negyddol a chaniatau i'r 'problemau' ein trechu ni. Dyna paham yr ydym wedi gosod yn deitl i'r papur hwn Her i Ysgolion Gwledig. Dyna paham y gresynwn wrth glywed addysgwyr yn cwyno am 'broblemau' ysgolion pentrefol. Oni sylweddolant mai holl hanfod y broses addysgiadol yw datrys problemau? A allasai disgybl gerdded allan o arholiad Mathemateg gan gwyno fod y papur yn llawn o broblemau?! Mae llawer o'n haddysgwyr a'n gwleidyddion lleol yn gosod esiampl wael iawn i'n plant.

 

Ch. Ymatebion I'r Sefyllfa

1. Ymateb Cyngor Ceredigion
Yn Ùl Cyngor Ceredigion, mae'r ateb yn ddigon syml - cau cymaint ag sy'n bosibl o'r 'problemau' hyn. Gyda'r esgus eu bod yn archwilio'r gwahanol bosibiliadau, gwnaeth Awdurdod Addysg Ceredigion arolwg yn nechrau 1998 o'r ddarpariaeth o addysg gynradd yn y sir. Fel rhan o'r arolwg, lluniwyd holiadur cwbl ragfarnllyd gan wahodd ymatebwyr i nodi ai cau'r mwyafrif o ysgolion bach y sir neu dim ond rhai ohonynt oedd y llwybr gorau i ddatrys materion fel codi safonau academaidd, hwyluso gwaith staff etc. Ar waetha'r propaganda, a'r gwahoddiad i gefnogi'r strategaeth o gau ysgolion, bu'r ymateb (yn Ùl adroddiad y Cyfarwyddwr i'r Pwyllgor Addysg) yn 'amwys' ac yn 'siomedig'. O ganlyniad i hyn, ac agosatrwydd yr etholiadau lleol a dyfodiad y Cynulliad, mae gwagle polisi, ac nid oes unrhyw strategaeth ar hyn o bryd gan Geredigion ar gyfer ysgolion gwledig. Bu'r Awdurdod Addysg ar y gorau'n ddi-ddychymyg ac ar y gwaethaf yn ddinistriol ei agwedd. Etholwyd Cyngor newydd ym Mai 1999.

2. Ymateb Cyngor Sir Gaerfyrddin
Bu agwedd Awdurdod Addysg Caerfyrddin yn fwy cadarnhaol tuag at ysgolion gwledig, gan hybu strategaeth newydd o gael ysgolion gwledig i gydweithio a'i gilydd mewn clystyrau. Ond, yn lle arbrofi gyda gwahanol fodelau o gydweithio yn Ùl amgylchiadau lleol mae'r Awdurdod wedi penderfynu ymlaen llaw fabwysiadu un model yn unig a elwir yn 'ffederasiynau' h.y. cysylltiad ffurfiol rhwng cylch o ysgolion o dan un pennaeth sy'n ymdebygu i un ysgol aml-safle. Mantais trefniant o'r fath yw hybu cydweithrediad, ond y berygl amlwg yw ei bod yn haws cau un 'safle' o ysgol nac i gau ysgol gyfan. Mae'r polisi hwn hefyd ar hyn o bryd mewn cul-de-sac, ond mae hygrededd ariannol y polisi hwn yn ddibynnol ar benderfyniad gan y Swyddfa Gymreig ar y fformiwla gyllido h.y. a ddylid dehongli 'ffederasiwn' fel un ysgol, neu fel nifer o ysgolion at bwrpas cyllido. Mae'r Swyddfa Gymreig wedi cyfeirio'r penderfyniad hwn ymlaen at y Cynulliad Cenedlaethol. Ni bu felly unrhyw symud ymlaen ers blwyddyn.

3. Ymateb Cymdeithas Yr Iaith
Gwelwn felly fod gwagle ar hyn o bryd - diffyg arweiniad a diffyg dychymyg o ran dyfodol ysgolion gwledig. Bwriad Cymdeithas yr Iaith yw ceisio llenwi'r bwlch. Gwnaethon ni wrthod cymryd rhan yn arolwg rhagfarnllyd Cyngor Ceredigion. Awn ati'n awr i wneud arolwg brys o'r sefyllfa yng Ngheredigion a Chaerfyrddin a cheisio hybu strategaeth gadarnhaol newydd ar gyfer ysgolion gwledig.

 

D. Chwalu'r Mythau

Cyn ffurfio strategaeth newydd, mae'n rhaid chwalu rhai camsyniadau am ysgolion pentrefol.

Gwrthodwn yr honiad fod cymunedau pentrefol wedi marw ac nad yw felly o bwysigrwydd cymdeithasol gynnal ysgolion pentrefol. Mae'n wir fod gweithgareddau cymdeithasol ffurfiol (cyfarfodydd canghennau o fudiadau, nosweithiau adloniant ayb) yn tueddu i gael eu trefnu bellach ar lefel cylchoedd o bentrefi yn ardaloedd gwledig Ceredigion a Chaerfyrddin. Ond y pentref unigol (a'r gweithle) yw sylfaen bywyd cymunedol naturiol neu anffurfiol y mwyafrif o drigolion ac, ar y lefel hon y creir ymwybyddiaeth o berthyn i gymuned organig ac amlochrog o'i gwrthgyferbynnu ’ pherthyn i fudiad neu garfan diddordeb arbennig. Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd ’ gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

Gwrthodwn yr honiad nad yw ysgol yn bwysig i bentref. Mewn papur trafod ym 1993, dywedodd John Ellis (Cyn-Gyfarwyddwr Addysg Dyfed):

ei bod yn anodd mesur gwerth ysgol i'r gymuned leol.

Mae'n wir fod y werth yn amrywio o bentref i bentref - yn dibynnu ar natur y gymuned leol, union leoliad adeilad yr ysgol, ac unrhyw gyfleusterau eraill yn y pentref. Mae'r ateb yn syml - y pentrefwyr eu hunain ddylent benderfynnu ar bwysigrwydd yr ysgol i'w cymuned. Yn aml, bydd y frwydr i achub ysgol yn bywiogi pentref ac yn sbarduno gweithgarwch cymdeithasol mawr ac y mae hyn ynddo'i hun yn dangos pwysigrwydd ysgol i bentref. Mae lefel yr ymlyniad yn amrywio e.e. ym 1987, bu bygythiad i gau Ysgol Llanfihangel-ar-Arth (a leolir yng nghanol pentref nad sydd ag unrhyw neuadd arall) ac hefyd Ysgol Penwaun (a wasanaethai ardal wledig wasgarog). Achubwyd y naill a chaewyd y llall.

Gwrthodwn yr honiad na all ysgol wledig fach fod yn ysgol dda o ran yr addysg a gynigir. Nid oes angen ond cyfeirio at adroddiadau Arolygwyr i wrthbrofi hyn. Y ddoethineb gonfensiynol yw bod ysgolion pentrefol yn unedau cartrefol ac agos ond na allan nhw gynnig yr un safon o addysg h.y. eu bod yn dda'n gymdeithasol ond nid cystal yn academaidd. Dyma olwg arwynebol iawn ar hanfod addysg gynradd a datblygiad plant bach. Mae astudio adroddiadau arolygwyr yn ei gwneud yn amlwg fod gan y naill beth effaith ar y llall h.y. fod creu amgylchfyd diogel a bywiog i blant, lle cant eu hadnabod a datblygu fel unigolion, yn hybu'r broses o ddysgu. Cyfeiriwn, er enghraifft, at adroddiad diweddar (lonawr 1999) yr arolygwyr ar Ysgol Penuwch (36 o ddisgyblion):

Mae ethos teuluol arbennig sy'n gynnes ofalgar yn bodoli yn yr ysgol, ac mae hyn yn hybu datblygiad hunan-barch y disgyblion, a hyn yn ei dro yn rhoi iddynt yr hunan-hyder a'r symbyliad i wneud yn dda yn eu hastudiaethau

ac eto o'r un adroddiad:

Mae'r cwricwlwm yn eang ac yn gytbwys, ac mae'n cwrdd ’'r holl ofynion statudol. Mae ymddygiad disgyblion a'u hagwedd at waith yn dda a chaiff y rhain ddylanwad cadarnhaol iawn ar safonau cyflawniad.

Mae adroddiadau eraill gan arolygwyr yn cadarnhau'r un argraff cyffredinol o lwyddiant academaidd yr ysgolion pentrefol bach. Cyfeiriwn, er enghraifft, at yr adroddiad ar Ysgol Llanwnen (1995 - 50 o blant ar y pryd):

Mae gan y disgyblion agwedd da tuag at ddysgu. Ar ei orau mae'r addysgu'n ysgogol ac yn heriol,

ac eto, 'run flwyddyn, yr adroddiad ar Ysgol Llangynfelyn, Taliesin (38 o blant):

Mae hon yn ysgol dda. Mae'r safonau cyflwyniad yn dda iawn mewn Saesneg, Hanes, Daearyddiaeth ac Addysg Grefyddol ac yn dda yn y Gymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Mae'n wir fod gan bob ysgol gryfderau a gwendidau, ond mae'n amlwg fod cryfderau ysgolion gwledig yn tueddu i fwy na gwrthbwyso gwendidau.

Gwrthodwn yr honiad na all ysgol fach gyflwyno'n effeithiol y Cwricwlwm 'Cenedlaethol'. Mae'n wir na ellid yn rhesymol ddisgwyl gan 2 athro yr amrywiaeth o arbenigedd i gyflwyno ar eu pennau eu hunain yr holl gwricwlwm, ac felly na allai ysgolion bach, yn eu ffurf draddodiadol, gyflwyno'r cwricwlwm yn gyflawn. Ond mae hyn yn enghraifft berffaith o'r angen i ymateb i'r her a chreu trefniadau cadarnhaol newydd i alluogi ysgolion pentref i gyflawni eu gorchwylion yn effeithiol. Trwy gydweithio mewn clwstwr o ysgolion, gellir cronni a rhannu profiad llawer o athrawon ac o adnoddau materol a hybu cyfathrach ehangach ymhlith plant.

Yn sylfaenol, gwrthodwn yr honiad fod ysgolion pentrefol yn broblemau yn hytrach nag yn asedau i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Cwyn llawer o rieni am eu Hawdurdod Addysg yn y gorffennol oedd nad oeddent i'w gweld yn cymryd unrhyw ddiddordeb yn eu hysgol nes cychwyn proses o gau'r ysgol. Mae hyn yn adlewyrchiad o duedd gweinyddwyr trwy'r saithdegau a'r wythdegau i weld ysgolion bach fel 'problemau' costus i'w cau pan deuai cyfle oherwydd fod nifer y disgyblion wedi disgyn i'r lefel mympwyol o 16. Ni bu strategaeth amser hir na gwerthfawrogiad fod lefelau disgyblion yn codi ac yn disgyn yn gyson mewn pentrefi bach o ganlyniad i symudiadau ychydig o deuluoedd. Yn lle astudio hyfywedd amser hir ysgol, tuedd gweinyddwyr fu symud i mewn yn syth pan fyddai'r lefel yn disgyn o dan 16. Aethai hyn yn gylch wedyn o ddirywiad cynyddol. Trwy godi amheuaeth am ddyfodol yr ysgol, yr oedd y gweinyddwyr yn sicrhau fod llai o rieni'n danfon eu plant i'r ysgol, a daethai tranc yr ysgol felly'n broffwydoliaeth hunan-gyflawnol. Dywed Cymdeithas yr Iaith fod angen newid agwedd llwyr, a strategaeth gadarnhaol i ddatblygu ysgolion pentrefol fel asedau gwerthfawr.

 

Dd. Y Ffordd Ymlaen

Mae Cymdeithas yr laith yn argyhoeddedig na ellir amddiffyn ysgolion pentrefol bach ar eu ffurf draddodiadol, ac mai'r dull gorau o'u diogelu yw datblygu ac estyn eu gweithgareddau fel na ellir eu hepgor. Dylid estyn gweithgareddau addysgiadol yr ysgolion trwy eu cael i gydweithio'n llawn mewn clystyrau ’'i gilydd er mwyn sicrhau'r profiad addysgiadol llawnaf i'r disgyblion tra'n cadw'r addysg o fewn y gymuned. Dylid estyn ymhellach weithgareddau'r ysgol trwy ei datblygu'n ganolfan addysg i'r gymuned gyfan.

Mae angen cymryd camau breision ymlaen yn awr o ran hybu cydweithrediad rhwng cylchoedd o ysgolion gwledig cyfagos i'w datblygu fel unedau academaidd cryf. Anogwn yr Awdurdodau Addysg Sirol i hyrwyddo arbrofi gyda gwahanol fodelau o glystyru ysgolion - yn amrywio o gydweithio at ddibenion penodol yn unig drwodd at ffederasiynau ffurfiol gydag un strwythur staff. Mae Cymdeithas yr Iaith hithau yn y broses o wneud arolwg o'r posibiliadau ledled Ceredigion a Chaerfyrddin gan ddanfon holiadur (mwy cynhwysfawr nag eiddo Cyngor Ceredigion) at lywodraethwyr pob ysgol wledig yn y ddwy sir.

Ymhlith y materion y bydd angen eu trefnu ar raddfa clwstwr o ysgolion y mae'r canlynol:

Y posibiliad o ddatblygu cyfleusterau chwaraeon eto ar yr un safle.
Crynhoi a dosbarthu sgiliau addysgu athrawon.
Adolygu a rhannu adnoddau materol.
Gweinyddu, pwrcasu, yswirio etc ar ycyd.
Cyd-ddatblygu nodion cwricwlwm lleol e.e. Astudiaethau Cymunedol.
Polisiau fel Addysg Rhyw, lechyd a Diogelwch a Derbyn Plant,
Datblygu cyswllt ag ysgolion uwchradd, perthynas a rhieni, addysg gymunedol, gweithgareddau allgyrsiol etc.
Dylid creu strategaeth a Chynllun Datblygu Clwstwr a'i gyflwyno i rieni a'r gymuned i geisio cynigion o gymorth o ran codi arian ar gyfer bws mini a dulliau eraill o gludo plant o adeilad i adeilad ac i hybu ymateb o ran addysg gymunedol.

Dylai pob Bwrdd Llywodraethol hefyd drafod sut y gellir agor ysgolion fel canolfannau addysg a diwylliant i'r gymuned gyfan a hybu addysg efallai i rieni a phlant ar y cyd e.e. dysgu Cymraeg i fewnfudwyr a'u plant. Dylid trafod gydag adrannau eraill o'r cyngor, asiantaethau a'r sector wirfoddol sut y gellir gwneud y defnydd helaethaf o adeiladau ac adnoddau ysgolion i wasanaethu'r gymuned. Mae adroddiad Cyngor Sir Ceredigion (1998) ar Addysg Gynradd yn casglu mai cyfyngedig iawn yw'r defnydd cymunedol o'r adeiladau y rhan fwyaf o ysgolion:

Yn groes i'r gred boblogaidd, mae'r defnydd a wneir o ysgolion cynradd gan y gymuned wledig yn isel iawn. (1:10)

Ond, yn lle derbyn hyn fel beirniadaeth ar eu diffyg arweiniad eu hunain, mae Ceredigion yn adrodd hyn, mewn dull sgorio pwyntiau, fel cyfiawnhad dros gau ysgolion. Dyma'r fath o agwedd negyddol y mae'n rhaid ei newid.

 

E. Byrddau Llywodraethol Newydd

Mae hyn oll yn dod yn fater brys iawn erbyn hyn oherwydd - cyn diwedd 1999 - mi fydd yn rhaid i bob ysgol wledig (yn Ùl statud) ffurfio ei Bwrdd Llywodraethol unigol. Bydd hyn yn gosod pwysau aruthrol ar ysgolion gwledig bychain. Bydd yn rhaid wrth gydweithrediad i oroesi. Argymhelliad Cymdeithas yr Iaith i'r ysgolion hyn yw i gyflawni'r lleiafswm o ofynion statudol fel Byrddau Llywodraethol unigol (e.e cynnal cyfarfod statudol rhieni/llywodraethwyr, cyhoeddi adroddiad blynyddol etc) ac hefyd i drin materion yn ymwneud ’ disgyblion unigol ar lefel ystod. Ond ein hargymhelliad cryf i lywodraethwyr yw y dylid trefnu popeth posibl - gan gynnwys pob cynllunio strategol - ar lefel clwstwr o ysgolion. Fel hyn, bydd ysgolion yn cadw at ofynion y gyfraith ond hefyd yn datblygu mewn modd cadarnhaol, gan "ddod rownd" un gofyniad statudol arall eto nas lluniwyd gydag ardaloedd gwledig mewn golwg.

 

F. Dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol

Bu llawer o siarad rhethregol am allu'r Cynulliad newydd i'n huno fel cenedl. Gwyr pawb fod amheuon ac ofnau yn yr ardaloedd gwledig y bydd yr ardaloedd diwydiannol yn eu dominyddu. Pa arwydd gwell o ewyllys da ac undod na bod y Cynulliad yn penderfynu cychwyn ar lwybr newydd ar gyfer ysgolion gwledig. Mae'n rhaid i'r Cynulliad ddod i benderfyniad yn yr Hydref (gw. CH.2) ar fformiwla cyllido grwpiau o ysgolion bach. Gallai'r Cynulliad fynd yn bellach a threfnu ar gyfer 2000 symposiwm cenedlaethol ar ddatblygu ysgolion gwledig fel un o'n hasedau fel Cymry. Os bydd y Cynulliad yn methu yn ei dyletswydd, bydd Cymdeithas yr laith yn ceisio trefnu cynhadledd o'r fath.

 

Nodiadau

* Ailargreffir rhai copiau o CYMRU 2000. Rhagwelodd y papur hwn, er enghraifft, y byddai'r 'llywodraeth yn gweld yn fwyfwy gynghreiriaid iddyn nhw eu hunain yn y dosbarth adweithiol o Gymry Cymraeg a darparu handouts a swyddi bras ar eu cyfer.' Dyma'r meddylfryd a esgorodd yn wreiddiol ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg.