Adolygiad Polisi o'r Iaith Gymraeg mewn Addysg

Mae Cymdeithas yr Iaith yn amheus o Gylch Garchwyl adolygiad y Pwyllgor Addysg yn yr un modd ag yr ydym yn amheus o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Diwylliant ei hunan yn ei adolygiad. Amau ydym na ellir cynnal adolygiad llwyddiannus o sefyllfa'r iaith tu fewn i fframwaith pwyllgor arbennig fel Diwylliant ac y dylid yn hytrach archwilio fel y mae holl benderfyniadau'r Cynulliad yn effeithio ar yr iaith.

Enghraifft gyfredol o hyn yw nad yw canllawiau'r Cynulliad ar gyfer ffurfio Strategaethau Cymunedol (sef cydlynu gweledigaeth cynghorau a phartneriaid am ddyfodol eu siroedd) yn cyfarwyddo fod angen unrhyw ystyriaeth o barhad yr ia.ith a chymunedau Cymraeg lleol o fewn y siroedd. Felly hefyd, mewn llawer o ffyrdd, mae'r drefn addysg yn ei hanfod yn hytrach nac yn ei chyfrwng yn unig yn milwra'n erbyn buddiannau'r iaith a chymunedau Cymraeg. Nid ydym o'r farn fod y Cylchoedd Gorchwyl yn ddigon eang. Nid ydym, fodd bynnag, yn dibrisio'r themau allweddol a amlinellir ar gyfer yr adolygiad hwn. Byddwn yn ymateb iddynt yn Adran B. Yn gyntat; fe drown at ein gweledigaeth sylfaenal o gyfraniad y drefn addysg tuag at greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.

A. DYLANWADU AR Y BYD TRWY ADDYSG

(1) Credwn fod perygl y gall "datblygu addysg Gymraeg" ddod yn nod ynddo'i hun yn hytrach nag yn gyfrwng tuag at nod - sef cynyddu'r defnydd a wneir o'r Gymraeg yn y wlad. Gallai'r~`byd addysg Gymraeg" ymdroi'n ddiwydiant hunangynhaliol yn hytrach na chyfrannu at newid y byd trwy ddiogelu ac adfer yr iaith. Mae'r broblem hon yn adlewyrchiad o broblem ehangach o ran y gagendor rhwng y drefn addysg yn gyffredinol a'r byd tu allan (fe12 realiti cyfochrog). Mae'n broblem gyffredinol iawn ond bod gyda ni yng Nghymru gymhelliad ychwanegol dros bontio'r gagendor er mwyn sicrhau fod yr addysg Gymraeg yn dylanwadu ar fywyd yng Nghymru'n gyffredinol.

(2) Mae perygl (anochel i ddechrau) ein bod yn creu bychanfyd o addysg Gymraeg nad sy'n cydweddu a phrofiad y disgybl tu allan i'r ysgol ac nad sydd o reidrwydd yn effeithio ar y realiti allannol. Os yw'r Gymraeg yn cael ei chysylltu a'r ysgol yn unig ac nad yw'n tresmasu ar brofiad bywyd allanol y disgybl, mae'r gwerth yn gyfyngedig o ran datblygiad yr iaith.

(3) Os bydd natur yr addysg yn magu uchelgais mewn disgybl i ymadael a'i gymuned gweithio mewn amgylchfyd Saesneg, eto nid yst_yrid yr add_ysg yn "fuddsoddiad da" o ran datblygiad yr iaith.

(4) Momentwm ein trefn addysg yw hybu'r ymdrech am lwyddiant unigolyddol ac eto mae iaith yn ei hanfod yn ffenomenon gymunedol. Nod addysg Gymraeg ddylai fod cynnig i'r disgybl unigol fynediad a chyfranogiad llawn yn y diwylliant Cymraeg yn ystyr eang y gair. Nid yw Cymdeithas yr Iaith yn derbyn mai nod sylfaenol addysg Gyrnraeg ddylai fod cynyddu nifer yr unigolion sy'n medru'r iaith er y cydnabyddwn ei bod yn haws mesur targedau unigolyddol o'r fath na mesur y defnydd a wneir yn gymunedol o'r Gymraeg. Cydnabyddwn wrth gwrs fod cysylltiad amlwg rhwng nifer y siaradwyr Cymraeg a'r defnydd potensial yn gymunedol a wneir ohoni. Fadd bynnag, mae angen ail-ddiffinio'n hamcanion.

(5) Ailosodwn yr amcanion fel hyn, sef a) Pontio'r gagendor rhwng y byd addysg Gymraeg a realiti Cymru'n gyffredinol fel bod y byd addysg yn dylanwadu'n drwm ar y realiti hwnnw, a (b) C_ynyddu'r defn_ydd a wneir o'r iaith a chynnal ac adeiiadu cymunedau Cymraeg yn hytrach na chynyddu'r nifer o siaradwyr unigol. O dderbyn amcanion o'r fath, daw set wahanol o flaenoriaethau i'r amlwg.

B. BLAENORIAETHAU O RAN ADDYSG GYMRAEG

(1) Bu newid yn y gorllewin yn ystod yr wythdegau o geisio dysgu'r Gymraeg i bawb mewn ysgolion cynradd i ddysgu'n gyffredinoi trwy gyfrwng y Gymraeg fel bad disgyblion yn dod i'r arfer o drin materion yn naturiol Gymraeg. Mae angen datblygiad cyffelyb yn awr ym maes dysgu ail iaith, sef bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddysgu a thrin rhyw ran o'r cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg.

(2) Mae'n bwysig hef_yd nad yw ysgoiion cynradd Cymraeg y gorllewin _yn s_ymud yn eu hunfan. Tu fewn i ystod eang yr ysgolion categori A hyn y mae amrywiaethau mawr o ran 1lwyddiant ysgolion unigol i gaei pob disgybl i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyfrwng naturiol addysg a chyfathrebu. Mae angen cysoni'n unol a'r arferion gorau, ac ni bu unrhyw ymdrechion i'r cyfeiriad hwn. Nid oes ymgais gyson i welia effeithlonrwydd ysgolion Cymraeg eu cyfrwng nac i ychwanegu at eu nifer trwy fad ysgolion "dwyieithog" yxi_tlatbiygu'n Gymraeg a rhagor o ddefnydd o'r iaith yn yr ysgolion eraill.

(3) Gan mai ein dadl sylfaenol yw mai cynnwys a swyddogaeth yr addysg (ac nid ei chyfrwng yn unig) sy'n milwra'n erbyn buddiannau'r Gymraeg a chynnal ac adeiladu cymunedau Cymraeg, nid yw'n ddigonol cyfieithu'r cwricwlwm presennol i'r Gymraeg. Gallai addysg o'r fath trwy'r Gymraeg ddiwreiddio Cymry ifainc o'u cymunedau yn fwy trylwyr na phetai'r addysg yn Saesneg gan y byddent yn uniaethu'n fwy. Mae angen i'r Cynulliad - trwy A.C.C.A.C - weithredu adolygiad llwyr o'r cwricwlwm yng Nghymnz. Hanfod y cwricwlwm newydd ddylai fod pontio" gagendor rhwng y drefn addysg a" byd tu allan trwy wneud astudiaeth o'r gymuned, ein gwlad a'r byd cyfoes yn sylfaen i'r boll ganfod ac addysgu. Gellir meithrin, mewn modd mwy perthnasol, gwybodaeth a sgiliau mewn hanes, daearyddiaeth, llenyddiaeth, y gwyddorau, gwieidyddiaeth ac economeg trwy astudiaethau o'r fath. Byddai llawer o'r ffynonellau'n naturiol Gymraeg a byddid yn dechrau defnyddio'r Gymraeg i drin y byd o'n cwmpas.

(4) Trwy gwricwlwm perthnasol o'r fath, gellid yn well feithrin sgiliau ymchwilio, casglu a dadansoddi gwybodaeth a ffurfio barn. Dylai'r addysg fod yn weithredol h.y. dysgu trwy weithredu ar brosiectau cymunedal gan roi mewnbwn i brosesau llywodraeth leol. Byddai addysg o'r fath trwy gyfrwng y Gymraeg yn meithrin ymwybyddiaeth o berthyn a chyfrifoldeb at gymunedau lleol a sgiliau dysgu dylanwadu a chydweithio gydag eraill. Rhesymol yw casglu y byddid yn cynyddu'r defnydd cymunedol o'r iaith a pharodrwydd Cymry ifainc i aros ac ailadeiladu eu cymunedau ynghyd a dealltwriaeth am sut i wneud hynny. Gellid cyfiawnhau'r hall ddatblygiadau hyn ar sail prosesau addysgiadol a'r galw democrataidd am greu dinasyddion effro. Swyddogaeth y Gymraeg yw fel cyfrwng cyrnunedol - arall yw swyddogaeth ieithoedd "rh_yngwladol" bellach - ac ni ellir ei hadfer ond yng nghyd-destun cymunedau byw ac effro. Mae'r obsesiwn am greu o hyd rhagor o unigolion Cymraeg yn methu'r pwynt.

(5) Mae angen gweddnewid hefyd ein sefydliadau addysgiadol er mwyn sicrhau eu bod _yn cyfrannu tuag at ddiogelu ac ailadeiladu ein cymunedau Cymraeg. Mewn dogfennau fel 2000 - Her i Ysgolzon Gwledig, mae Cymdeithas yr Iaith wedi dadlau fod angen rhoi swyddogaeth newydd i ysgolion pentrefol trwy eu datblygu'n ganolfannau addysg, cyfathrebu a datblygu sgiliau newydd i'r gymuned gyfan. Rhaid wrth ffocws ar unrhyw gymuned fyw ac, fel hyn, gallai'r ysgolion ddod yn beiriannau adfer ein pentrefi Cymraeg. O ran cyflwyno ystod eang o brofiadau addysgiadol a chyfathrebu cymdeithasol Fr disgyblion, mae angen hwyluso cydweithio rhwng ysgolion pentrefol cyfagos mewn clystyrau neu mewn ffederasiynau ffurfiol. Fel hyn, gellir sicrhau'r holl fanteision addysgiadol tra'n cadw'r addysg o fewn y gymuned. Yn lie creu rhagor o ddisgyblion unigol Cymraeg, swyddogaeth addysg Gymraeg fel hyn yw bad yn allwedd i gymuned leol fel y mae neu o ran ei photensial i fod yn gymuned Gymraeg. Gallai'r Pwyllgor Addysg ymchwilio i'r holl anawsterau ymarferol sy'n atal creu ffederasiynau ar y funud.

(6) Yn yr un modd, mae angen datblygu ein sefydliadau addysg uwch fel peiriannau i yrru ein rhanbarthau. Credwn fod angen newid sylfaenol iawn yn nhrefn addysg uwch yng Nghymru er mwyn hybu'r iaith ac, yn y man cyntaf, er mwyn atal y niwed rriawr a wneir i'r laith trwy'r drefn bresenriol addysg uwch. Rhoddwil amlinelliad cryno o'n hachos yma gan nad yw'r adolygiad fel petai'n cyffwrdd a'r maes hwn, ac eto mae ei ddylanwad yn enfawr. Mae'r drefn addysg uwch yng Nghymru wedi dangos ei hunan yn gwbl analluog i ddarparu addysg trwy gyfiwng y Gymraeg ar unrhyw raddfa sylweddol. Credwn fod y diffyg hwn yn codi o natur y drefn bresennol - o gynnwys a holl swyddogaeth yr addysg yn ogystal ag o gyfrwng yr addysg. Mae dyfodol yr iaith a chymunedau Cymraeg yn amherthnasedd corfforaethol gan ein Sefydliadau Addysg Uwch. Nid yw cynnwys yr addysg yn arbennig o berthnasol i anghenion Cymru ac, o ganlyniad, Saesneg yw iaith naturiol yr addysg. Mae'r sector addysg uwch yn gwbl ddigywilydd yn gweld ei swyddogaeth fel hybu buddiannau'r wladawriaeth a diwydiant gan alluogi myfyrwyr unigol i ddilyn gyrfaoedd yn y meysydd hyn. O ddiffiniad bydd unrhyw gyrsiau Cymraeg o ddiddordeb ymylol mewn trefn o'r fath. Mae Cymdeithas yr Iaith yn gaiw am newid natur a swyddogaeth addysg uwch a fyddai'n arwain at newid cynnwys yr addysg a fyddai yn ei dro'n rhoi lle mwy naturiol i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr ydym o blaid estyn yr egwyddor gyfun gan gyfuno sefydliadau addysg uwch a phellach ynghyd ag addysg gydol oes mewn sefydliadau taleithiol a fyddai'n gweld eu pwrpas fel gwasanaethu'r dalaith y'u lleolir ynddynt gan yrru datblygiad economaidd a diwylliannol trwy ymchwil a phrosiectau mewn cydweithrediad ag awdurdodau 11eo1 ac eraill. Yn lle'r effaith ddinistriol presennol o ddiwreiddio pobl ifainc o'u cymunedau, byddai sefydliadau o'r fath yn rhoi iddynt gyfle i gyfrannu a dylanwadu, a Chymraeg fyddai cyfrwng naturiol llawer o'r addysg.

(7) Yn yr amser byr, dylid rhoi llawer o bwyslais ar sector addysg bellach o ran blaenoriaethu datblygiad addysg Gymraeg, gan fad y sector hon yn dylanwadu'n drymaf ar iaith y gymuned. Dyma'r sector sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith a gwasanaethau yn y g_ymuned leol ac s_y'n galiu gwneud gwahaniaeth _yn s_yth i safle'r iaith yn y gymuned leoi. Dyma hefyd gyfran helaeth o fyfyrwyr sydd wedi ymgartrefu yn yr ardal, a dyma'r sector lle bu esgeuluso mawr ar ddatblygu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn awr. Am y rhesymau hyn i gyd, mae gwerth Ilawer fwy uniongyrchol o fuddsoddi yn y sector hon nac mewn Ilawer o feysydd eraill lle bo gobeithio am ganlyniadau rywbryd yn y d_yfodol. Dylid datblygu Colegau Ceredigion, Sir Gar, Meirion-Dwyfor, Menai a Llysfasi fel sefydliadau naturiol Gymraeg a Llandrillo a rhai sefydliadau yn siroedd Powys a Morgannwg yn ddwyieithog. Dylid estyn y ddarpariaeth o addysg trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr mewn colegau eraill trwy ddefnydd o'r dechnoleg newydd. Lle bo addysgu dwyieithog fel y cyfryw, dylid ei strwythuro'n seiliedig ar ymchwil i effeithlonrwydd.

C. THEMAU ALLWEDDOL YR ADOLYGIAD

(1) Ni chredwn fod y Cylch Gorchwyl a nbdir yn Atodiad A yn ymwneud a'r angen i'r drefn addysg hybu'n uniongyrchol y defnydd a wneir o'r Gymraeg yn y gymuned nac yn caniatau am astudiaeth o effaith strwythur a chynnwys ein trefn addysg ar barhad cymunedau Cymraeg.

(2) Mae'r Cyflwyniad i'r Themau Allweddol yn gyfyngedig i amcanion cwbl unigolyddol. Maent yn berthnasol i greu unigolion sydd a'r gallu i gyfathrebu' n Gymraeg, ond heb ymwneud o gwbl a'r angen i'r drefn addysg helpu hybu'r iaith tu allan i'r ysgol na chynnal cymunedau Cymraeg nac am agwedd y disgyblion unigol tuag at y cymunedau hyn. Cymerir mai creu mwy o unigolion Cymraeg a fydd yn cyflawni'r amcanion cymunedol ynddo'i hun. Ni dderbyniwn y rhesymeg hwn.

(3)Yn y cyswllt hwn, credwn fod sicrhau Mynediad i addysg gydol oes trwy'r Gymraeg yn arbennig o bwysig. Er mwyn cael effaith o ran parhad yr iaith, dylid edrych ar sefyllfaoedd lle mae cymunedau'n dod ynghyd i ddysgu'n hytrach na bod unigolion yn unig yn cofrestru. Cyflwynwn bolisi Cymdeithas yr Iaith o greu Clybiau Dysgu mewn ysgolion pentre (Clybiau Dysgu Cymraeg ac addysg Gymraeg ei chyfrwng) er mwyn cyrraedd math ar bob] na fyddent yn teithio at ganolfan addysgiadol i gofrestru ar gyfer cyrsiau ffurfiol. Mae hyn yn hybu Cynhwysiant Cymdeithasol ac yn golygu fod mewnfudwyr i bentre Cymraeg yn Ilawer fwy tebyg o ddefnyddio'r iaith yn eu cymuned o ddysgu gyda'i gilydd. 1Vlae'r drefn bresennol o gyllido o ran niferoedd ac achredu yn milwra'n erbyn Clybiau Dysgu Pentrefol o'r fath e.e. gallai i 6-8 o fewnfudwyr i bentre Cymraeg ddod ynghyd yn ysgol y pentre i ddysgu'r iaith gyda'i gilydd gael effaith Ilawer fwy uniongyrchol ar y defnydd o'r iaith na dosbarth Ilawer fwy niferus o unigoiion yn dod ynghyd at fan canolog. Nid adlewyrchir y realiti hwn yn y drefn gyllido.

(4) Mewn adrannau blaenorol yr ydym wedi ymdrin a nifer o'r themau eraiil y cyfeirir atynt fel y Cwricwlwm, y defnydd o'r Iaith ym y Gymuned, Hyfforddiant Galwedigaethol, a Materion Cyllido perthynol i Cymraeg i Oedolion. Dylid cynllunio a chyllido darpariaeth ym maes Cymraeg i Oedolion ar sail yr hyn sydd ei angen i alluogi dysgwyr y Gymraeg i Mod yn ddefnyddwyr Cymraeg hyderus yn eu cyrnunedau a'u gweithleoedd. Nid oes modd cyflawni hyn trwy ddefnyddio fformiwla gyllido foel sy'n seiliedig ar niferoedd mewn dosbarth ac achredu.

(5) Credwn mai cam gwael oedd preifateiddio'r gwasanaeth gyrfaoedd a bod angen ail-integreiddio'r gwa.sanaeth yn rhan hanfodol o'r drefn addysg. O oedran cynharach, dylai fod cyngor ynghylch datblygu'r math ar sgiliau a a.llent alluogi disgybl i greu gwaith yn y gymuned leol.

(6) O ran y Gymraeg yn y Gweithle, credwn ei bod yn bwysig fod sefydliadau addysg uwch a phellach yn teilwra a marchnata cyrsiau i alluogi gweithwyr mewn sefydliadau lleol (ysbytai, banciau, sector adwerthol neu arlwyo etc) i gyflawni'u gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai deddfwriaeth sy' n cadarnhau rheidrwydd statudol ar gyflogwyr i gynnal lefel benodol o wasanaeth trwy'r Gymraeg o gymorth i symud rhwystr amharodarwydd nifer i ryddhau staff ar gyfer cyrsiau. Dylid ystyried cynnwys mewn deddfwriaeth hawl i dderbyn hyfforddiant Cymraeg mewn cyfnod penodedig o amser cyflogedig. Maes hynod o bwysig i ddyfodol yr iaith yn ei chadarnieoedd yw datblygu'r Gymraeg yn gyfrwng gweinyddiaeth fewnol llywodraeth ieol mewn rhai siroedd. Mae cyfraniad pwysig gan y drefn addysg - o ran darparu cyrsiau penodol- er mwyn sicrhau nad oes unrhyw unigoiion o blith gweithwyr presennol y sefydliadau hyn yn cael eu hamddifadu o gyfleon o ganlyniad i ddatbiygiad polisi o'r fath. Mae angen yr un fath i'n Ilywodraeth ganolog ystyried hyfforddi gweision suful i gyflawni eu dyletswyddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy gyfrwng trefn addysg gefnogol, gallwn ni i gyd fod yn rhan o adeiladu gwlad ddwyieithog.

Cymdeithas yr Iaith 27/02/02