Amlinelliad bras o araith Menna Machreth
Deg mlynedd ar hugain yn ôl, llwyddodd cannoedd o bobl, os nad miloedd, i ennill ymgyrch er mwyn i ni allu gweld a chlywed y Gymraeg ar y teledu. Fe wnaeth llawer ohonyn nhw aberthu llawer; achosion llys, carchar (buodd un dyn yn y carchar am dair mlynedd.) A'r cyfan er mwyn cael sianel Gymraeg annibynnol. Y cyfan er mwyn i wylwyr Cymru allu gael gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli ar y cyfryngau. Ac yn y diwedd, fe drechon nhw'r Llywodraeth Doriaidd.
'Bythefnos yn ôl, gwnaed penderfyniad gan dri neu bedwar dyn am ddyfodol y sianel unigryw hon; yn dweud fod rhaid torri arian, bod y sianel i fod yn rhan o'r BBC, heb unrhyw sicrwydd y bydd annibyniaeth gan y sianel nac arian ar ôl 2015. A gwneud y penderfyniad yma, heb siarad ag unrhyw un yng Nghymru, gan ddangos yn glir eu hagwedd dirmygus nhw at ein cenedl.
Heddiw, rydym ni yma, tu allan i adeilad ni'n eu hadnabod fel yr Hen Swyddfa Gymreig. Pam ry'n ni'n eu galw hi'n hen swyddfa Gymreig? Mae'r Toris yn ein trin ni fel pe bae'r Swyddfa Gymreig dal i fodoli. Mae'n benderfyniad hollol annemocrataidd.
Pobl Cymru dalodd am S4C drwy ymgyrchu amdani. Mae'r Llywodraeth yn dweud mai nhw sy'n talu amdani a bod rhaid cwtogi ar wariant cyhoeddus. Pam? Oherwydd fod banciau wedi chwarae o gwmpas gydag arian ffug, a ni sy'n gorfod talu ag arian go iawn. Ac mae'r arian yma'n mynd i ail-lenwi'r coffrau a sefydlogi'r banciau. Mae'r toriadau yn anghywir ac anheg achos y banciau ddylai dalu. Mae'r Blaid Doriaidd yn gwasanaethu y banciau ac yn sefyll lan dros y drefn fanicio global. Ni wedi talu unwaith, a nawr maen nhw'n mynd i neud i ni dalu unwaith eto. Byddan nhw'n gwbl hapus i fwydo'r bancwyr tra bydd pobl yn ddi-waith a phlant yn byw mewn tlodi. Byddan nhw'n gwbl hapus i dlodi diwylliannol fodoli yng Nghymru wrth i S4C grebachu, tra bod Rupert Murdoch yn cael dominyddu'r cyfryngau.
Gadewch i ni fod yn glir ynghylch difrifoldeb y sefyllfa.
Mae annibyniaeth S4C yn y fantol. Mae'n rhaid wrth wasanaeth cyfryngau cyhoeddus Cymraeg i sicrhau plwraliaeth a democratiaeth. D'yn ni ddim eisiau mynd nôl i sefyllfa lle mae'n rhaid i raglenni Cymraeg gystadlu â rhaglenni Saesneg am arian. A beth fydd yn digwydd i gwmniau annibynnol o dan y BBC?
Rhoi fformiwla ariannu teg ar gyfer S4C fydd yn rhoi sicrwydd ar gyfer ei dyfodol hir-dymor, a sicrhau ei bod yn gorff y tu hwnt i ymyrraeth wleidyddol. Ymgyrchwyd yn galed i gael deddf y sianel Gymraeg - i warchod S4C rhag sefyllfaoedd fel hyn. Mae'r argyfwng hwn yn amlygu pam bod angen creu seiliau cadarn i'r Gymraeg oherwydd maen nhw'n gallu cael eu dwyn oddi dan ein traed yn hawdd iawn. Dyna pam bod angen statws swyddogol ar yr iaith Gymraeg i fod yn darian rhag gwahaniaethu yn erbyn yr iaith, a hawliau er mwyn gwarantu y pethau pwysig doed â ddêl i ddinasyddion; pethau pwysig fel yr hawl i weld a chlywed ein hiaith ar y cyfryngau.
Mae Jeremy Hunt wedi gweld ffordd i dorri mwy o arian wrth i S4C gael ei hariannu gan y ffi drwydded. Erbyn 2015, mae'n cynllunio bydd yr arian a gyfrennir gan ei adran ef tuag at S4C wedi gostwng 94%, gan gymryd bydd arian yn dod o'r ffi drwydded. Ond hyd yn oed yn fwy brawychus yr wythnos hon oedd clywed cynnwys y Mesur Cyrff Cyhoeddus. Mae hwnnw'n rhoi p?er i'r Gweinidog i newid arian S4C fel y mynna, gan roi dyfodol y sianel a gallu'r sianel i greu rhaglenni, yn llwyr yn ei ddwylo ef. Ymhellach, mae'r mesur yn rhoi p?er i Gweinidog i allu diddymu, ie diddymu, S4C yn llwyr unrhyw bryd heb orfod ymgynghori â neb.
Ni allwn adael i hyn ddigwydd. Ni methu gadael i rywun heb unrhyw syniad am Gymru na'i hiaith i gael y cyfle i wneud penderfyniad o'r fath. Dim ond yng Nghymru dyle fod trafodaeth o'r fath yn y lle cyntaf. Yng Nghymru dylai'r cyfrifoldeb dros ddarlledu fod, ni ddylai benderfynu ar ddyfodol y cyfryngau yn ein gwlad ni, dyna holl bwynt datganoli. Gorau po gynta y bydd darlledu yn cael ei ddatganoli o ddwylo'r Toriaid. Gan hyderu fod gan y Cynulliad yr aeddfedrwydd arian tuag at y Gymraeg. Ac os datganoli darlledu, mae angen ffederaleiddio'r BBC hefyd!
Brwydr fawr - ein sianel ni yw hi. Nid oes dim unrhyw sianel arall wedi cael ei sefydlu achos ymgyrch mor ryfeddol a welon ni yn y saithdegau. Ond yn anffodus, dyw ffyddlondeb a welwyd ym mhobl Cymru wrth ymgyrchu am y sianel heb cael ei hadlewyrchu yn agwedd S4C tuag at bobl Cymru. Nid yw S4C wedi bod yn atebol i'w chynulleidfa na'r weledigaeth a'i chynhyrchodd:
Dyw'r rhaglenni ddim wedi bod yn plesio gwylwyr.
Cyfyngwyd ar nifer y cwmniau cynhyrchu yn lle cael amrywiaeth o gwmniau. Teimlad bobl yn y diwydiant nad oes ganddyn nhw'r cyfle i fod yn greadigol a meithrin eu creadigrwydd.
Methwyd yn eu rôl i fod yn fuddsoddiad economaidd mewn amryw ardaloedd o Gymru.
Dyma pam roedden ni eisiau i deitl y Rali yma gynnwys yr her i gael S4C newydd. Dydyn ni ddim yn ymgyrchu am beth sydd gyda ni nawr, ni eisiau S4C sy'n ymateb ac yn cynrychioli y Gymry o'n cwmpas ni. Yn wir, mae'r sefyllfa BBC Cymru wedi bod yn llwm ers blynyddoedd wrth i arian gael ei dorri a methiant llwyr i wasanaethu Cymru a cynrychioli bobl Cymru ar y sgrin. Nid brwydr dros bobl mewn siwtiau sydd wedi creu llwybr llewyrchus i'w hunain yn sgîl y sianel yw hon. Mae angen rhyddhau creadigrwydd er mwyn bod y cyfryngau holi ac arbrofi beth yw bod yn Gymro neu'n Gymraes drwy greu ecosystem o gyfryngau newydd. Ein sianel ni yw hi a mae'n rhaid i ni adennill y sianel i'r hyn ni eisiau iddi fod.
Mae cyfleoedd yn y byd digidol - ac mae angen i ni eu cymryd oherwydd rydym ni eisiau i'r iaith fod ar flaen y gâd! Mae buddsoddiad sylweddol mewn cyfryngau digidol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn briod iaith pob cyfrwng. Mae angen ystyried ymestyn maes gorchwyl Awdurdod S4C i gynnwys cyfryngau digidol a chyfryngau eraill y tu hwnt i deledu. Rhaid sicrhau bod arian teg yn mynd tuag at y cyfryngau digidol er mwyn adeiladu cynulleidfa y dyfodol, gan sicrhau bod teledu llinellol yn parhau yn gryf.
Rydym ni oll wedi dod yma heddiw gyda'n pryderon unigryw am y sefyllfa. O dan y faner yma mae na lot o syniadau a lot o groesdynnu hefyd. Mae ganddon ni gyd ein pryderon unigryw am y sefyllfa. Ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydym ni eisiau gweld y Gymraeg ar flaen y gâd a radicaleiddio beth sydd ganddom ni.
Nid ymgyrch am S4C yn unig yw hon. Mae angen i ni fel dinasyddion gymryd y cyfrifoldeb i sicrhau sefyllfa'r Gymraeg a'r pethau mwyaf cadarnhaol yn ein gwlad ni. Mae'n dda gweld y pleidiau i gyd yn cyd-weithio i sicrhau mor bwysig yw sianel Gymraeg annibynnol i Gymru. Cefnogwn yn llwyr eu galwad am adolygiad annibynnol o S4C cyn symud ymhellach. Ond wrth bwyntio bys at Lundain, rhaid gwneud yn si?r bod Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn gwneud y mwya mae'n gallu gwneud dros y Gymraeg.
Yn olaf er mwyn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa bresennol, galwn ar i bobl Cymru i ymrwymo i atal talu'r drwydded deledu o'r 1af o fis Rhagfyr ymlaen oni gymerir camau cyn hynny i sicrhau fod annibyniaeth S4C yn cael ei sicrhau drwy ei ryddhau o gydreolaeth y BBC, a hefyd bod cyllid digidol ar gyfer sicrhau ei dyfodol yn cael ei ei glustnodi.
Rydym wedi trechu'r Toriaid unwaith, ac mae modd gwneud hynny eto.
Os ych chi'n credu mai ein sianel ni yw hi ac o ddifrif am greu dyfodol gwell iddi, gadewch i'n hymateb ni i'r argyfwng yma fod yn deilwng ohonom fel cenedl.
Menna Machreth
Tachwedd 6ed 2010, Parc Cathays, Caerdydd