Banciau - sylwadau a thystiolaeth at sylw Comisiynydd y Gymraeg

  Gallwch ddarllen y ddogfen gyfan, gydag atodlenni, yma

 

Banciau - Diffyg Parch at y Gymraeg

Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith at sylw Comisiynydd y Gymraeg, Tachwedd 2014

Crynodeb

Yn y pump atodlen isod, ceir tystiolaeth o achosion penodol, ond wrth drafod gyda'n haelodau, mae'n amlwg fod diffygion cyffredinol yn y sector sy'n mynd tu hwnt i gwynion am fanciau unigol. Yn benodol:

  • Bod banciau yn tanseilio seiliau cymunedol y Gymraeg trwy gau canghennau, a gorfodi eu cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau canolog (nad ydynt, yn aml, ar gael yn Gymraeg) yn eu lle

  • Nid oes gwasanaeth bancio ar-lein ar gael yn Gymraeg

  • Does yr un banc yn cynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn a chyson.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw'n gyson y dylai'r sector Bancio dod o dan y mesur iaith a'r gyfundrefn safonau, a fyddai'n fodd i fynd i'r afael â gwendidau sylfaenol o'r fath. Yn y cyfamser, credwn fod dyletswydd foesol ar y banciau i ddarparu'r gwasanaethau hyn, ac y dylai'r Comisiynydd gwneud popeth yn ei gallu i'w perswadio i ddatblygu a chynnal gwasanaeth Cymraeg cyflawn.

Yn ogystal â'r diffygion cyffredinol uchod, mae achosion lle gall fod banciau yn torri'r gyfraith fel y mae'n sefyll, a dylai'r Comisiynydd ymchwilio i achosion o'r fath. Os yw siec neu fandad yn cael ei wrthod am ei fod yn uniaith Gymraeg, neu ddogfen yn cael ei wrthod fel tystiolaeth swyddogol, mae'r banc yn ymddwyn pe na bai gan y Gymraeg iaith swyddogol o fath yn y byd. Dyma enghreifftiau lle mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg - i gwblhau ffurflen, i lunio cyfansoddiad - ac mae'r banc yn gwrthod derbyn dilysrwydd y Gymraeg. Yn ogystal â diffyg gwasanaeth Cymraeg (sy'n anfoesol), onid oes ymyrryd gyda'r rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg (sy'n anghyfreithlon ac yn rheswm dros ymchwiliad) mewn achosion o'r fath?

Dyma grynodeb o'r mathau o gwynion yr ydym yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd:

  • Gwrthod dogfennau am eu bod yn Gymraeg - yn ogystal â phroblemau or-gyfarwydd gyda sieciau a chyfarwyddiadau bancio, mae enghreifftiau'n codi'n gyson o fanciau yn gwrthod derbyn dogfennau fel tystiolaeth am eu bod yn Gymraeg.

  • Peiriannau arian parod ddim ar gael yn Gymraeg, gan gynnwys anghysondeb darpariaeth rhwng peiriannau'r un banc, a gyda chardiau gwahanol fanciau yn yr un peiriant.

  • Dogfennau allweddol ddim ar gael yn Gymraeg.

  • Bancio dros y ffôn - cwynion am ddarpariaeth anghyson, galwadau at linellau Cymraeg yn cael eu dargyfeirio at linellau Saesneg, a'r Gymraeg yn cael ei drin yn eilradd.

  • Diffyg bancio ar-lein - rydym yn dal i dderbyn cwynion yn aml nad oes bancio ar-lein ar gael yn Gymraeg. Fel rhan o ymgyrch i gael gwasanaethau bancio ar-lein yn Gymraeg, roedd cyfarfod rhwng Cymdeithas yr Iaith a HSBC fis Mehefin 2014. Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd HSBC i "gadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno'r gwasanaeth yma ar hyn o bryd {yn Gymraeg}, ac mae'r sefyllfa yn annhebygol o newid oherwydd y diffyg galw a ragwelir. "

  • Cau canghennau - gan ddileu gwasanaeth cymunedol pwysig mewn cymunedau Cymraeg.