Ar raglen Good Morning Wales bore yma dywedodd Peter Hain ei fod yn falch fod Llywodraeth y Cynulliad, Swyddfa Cymru a San Steffan wedi canfod 'common sense solution' ynghylch y Gorchymyn Iaith. Yn ei farn ef mae'r Gorchymyn wedi cael ei wella yn ystod y broses ac nad oedd e'n awyddus i weld 'burden of regulation' ar fusnesau preifat ac mae'n credu fod busnesau wedi gwneud cymaint eisoes drwy ewyllys da. Dyna oedd y maen prawf yn ei farn ef felly, sicrhau nad oedd rhaid i gorfforaethau gymryd yr iaith o ddifrif a sicrhau na fydd Cymru fyth yn genedl wirioneddol ddwyieithog.
Doedd dim iot o wahaniaeth gan y Blaid Lafur am farn y busnesau preifat adeg cyflwyno'r lleiafswm cyflog, ond mae'n gyfleus iawn nawr a dyna ddweud y cyfan am eu 'sosialaeth'.
Beth mae'r Gorchymyn Iaith terfynol yn ei olygu i bobl o ddydd i ddydd o ran hawliau?
- pe bai'r Cynulliad yn dewis cynnwys y sector breifat mewn mesur byddai modd, pe dewisent wneud hynny, i roi dyletwswydd ar gwmniau sy'n derbyn dros £400,000 o arian cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg i'r cyhoedd. (Mae'n debyg yr oedd Hain yn awyddus i'r trothwy fod yn £1 miliwn). Digon hawdd i'r unigolyn wybod lle mae ei hawliau felly? Bydd rhaid cario rhestr o'r cwmniau hyn o gwmpas ym mhoced ei jîns rhag ofn bydd eisiau defnyddio eu gwasanaethau.
- Mae'r Gorchymyn yn rhoi cyfle i'r mesur gynnig y 'rhyddid' i siarad y Gymraeg yn y gweithle. Dyw hyn fawr o gysur i David Jones o Gaergybi oedd methu dweud wrth ei fos fod ganddo hawl i weithio yn y Gymraeg, neu weithiwr yng Nghyngor Caerdydd a gafodd ei wahardd rhag danfon e-byst dwyieithog.
- Mae'n bosib y gellid rhoi dyletswyddau ar ddarparwyr telegyfathrebu a bysiau er mwyn gwneud hynny'n gyson â threnau.
Hawliau anghyflawn fydd mesur iaith yn gallu ei gynnig o ganlyniad i'r pwerau cyfyng fydd gan y Cynulliad dros yr iaith Gymraeg. Ond hawl yw hawl, dyw hanner hawl ddim yn gweithio, mae naill ai ganddo chi'r hawl i rywbeth neu ddim. Felly, mae Llywodraeth y Cynulliad o ganlyniad i'r Gorchymyn Iaith byth yn mynd i fedru cyflawni addewid dogfen Cymru'n Un i gynnwys hawliau mewn mesur. Tra bod hawliau yn anghyflawn, nid hawliau fyddan nhw. Mae mwy o siawns achosi anghydfod os yw hawliau'n amodol hefyd. Bydd busnesau yn gofyn 'pam rhoi dyletswydd arnom ni a nid ar Tescos a Morrisons?' Bydd defnyddwyr yn gofyn 'sut ydw i wybod lle a phryd rwy'n gallu defnyddio'r Gymraeg?'
Dyna pam mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu am fesur sy'n cynnwys yr holl sectorau fel bod modd creu maes chwarae gwastad i'r Gymraeg, gan roi hawliau cyflawn i bobl Cymru ac adfer urddas y sawl sydd am ddefnyddio'r Gymraeg. Swydd y Comisiynydd Iaith fyddai penderfynu pwy fyddai'n dod o dan y ddeddf a phryd. Beth fydd rôl y Comisiynydd Iaith bellach gyda mesur fydd yn cynnig cyn lleied o bwerau iddo fod yn bencampwr dros yr iaith Gymraeg? A fydd yn cael ei lesteirio gan gwmniau sy'n ceisio ffeindio ffordd o gwmpas y trothwy ac yn dweud wrth bobl Cymru fod ble a phryd mae hawliau ganddynt i'r Gymraeg.
Mae angen gosod yr agenda yn glir mewn mesur, a dweud mai'r bwriad yw normaleiddio'r iaith yng Nghymru a'i gwneud hi'n haws i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Dywedodd Alun Ffred yn Golwg yn ystod yr haf, 'Ni'n deddfu er mwyn dangos ein bod ni'n gwneud rhywbeth dros y Gymraeg.' Os nad yw e'n glir pam fod angen deddf - mae'n rhaid gofyn cwestiynau difrifol!
Ymddengys fod Swyddfa Cymru wedi cael y gorau ar y Cynulliad. Gydag adroddiad cadarnhaol o blaid trosglwyddo'r holl bwerau gan Bwyllgor Craffu'r Cynulliad, ac adroddiad syndod o amwys gan y Pwyllgor Materion Cymreig, mae'n syndod fod y Gorchymyn wedi ei wanhau. Mae'n well gan Lywodraeth y Cynulliad blesio elfennau gwrth-Gymreig o fewn y Blaid Lafur na gwneud gwahaniaeth real i sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru. Mae Plaid Cymru yn dweud y bydd popeth yn iawn wedi refferendwm, ond fe ddylen nhw fod yn dangos arweiniad cadarn nawr hyd yn oed os yw'r cyfansoddiad yn gawl potsh. O ystyried fod Alun Ffred yn dweud fod y Gorchymyn yn cynnwys y pwerau angenrheidiol i be maen nhw eisiau mewn mesur nawr, a fyddai'r mesur a fydd yn cael ei greu yn unrhyw cryfach hyd yn oed os fasai'r pwerau dros y Gymraeg yng Nghymru?