Annwyl Meri Huws – Comisiynydd y Gymraeg
Rydym yn cysylltu â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, er mwyn gosod cwyn ffurfiol yn erbyn Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG).
Fel y gwyddoch mai'n siŵr, mae'r mater hwn wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar, oherwydd penderfyniad y Cynghorydd Sian Gwenllïan (Cyngor Gwynedd) i ymddiswyddo o fwrdd CCG, gan nad oedd amod wedi ei osod, yn dweud fod yn rhaid i ymgeiswyr mewn hysbyseb ar gyfer dwy swydd haen uchel fod yn gallu siarad Cymraeg yn hanfodol.
Mae'r ddwy swydd wedi eu hysbysebu, heb osod y gofyniad Cymraeg yn hanfodol, gan gynnig cyflog o dros £80,000 yr un. Rydym felly'n grediniol bod CCG wedi torri eu cynllun iaith yn y cyd-destun hwn.
Rydym yn glir ein barn hefyd, bod gosod Cymraeg yn hanfodol ar ddwy swydd rheoli uwch, yn bwysig iawn, er mwyn cadw ethos a meithrin ethos ieithyddol CCG, mewn ardal lle mae canran uchel iawn yn siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf.
Gofynnwn i chwi ymchwilio ymhellach i'r mater hwn.
Edrychwn ymlaen at glywed yn ol gennych.
Osian Jones
Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – Gogledd Cymru.