Coleg Ffederal Cymraeg - Cynllun Gweithredu

Cyflwyna'r papur hwn gynllun gweithredu ar gyfer sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg (CFfC), un o bolisïau rhaglen llywodraeth Cymru'n Un sef y glymblaid rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru. Ers i'r cysyniad o CFfC gael ei fabwysiadu fel polisi llywodraeth bu dechrau trafod ynghylch pa fath o strwythur fyddai i'r CFfC ac edrychwyd drachefn ar rai o'r gwahanol gynlluniau a roed gerbron yn y gorffennol. Mae'n fwy priodol nag erioed felly ein bod yn symud ymlaen i ystyried strwythur yr hyn a adwaenwn fel y CFfC a'n gobaith, yn y papur hwn, fydd goleuo rhyw ychydig ar yr hyn y mae'r term yn ei olygu. Mae angen troi'r slogan yn sylwedd.

Coleg ffederal Cymraeg - Cynllun Gweithredu, Tachwedd 2007 (Ail argraffiad, Tachwedd 2008) (pdf - 225kb)