Cyflwynwyd cwyn gan Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith na wnaeth Cyngor Sir Ceredigion gyflawni ei ddyletswyddau statudol ac wedi methu cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn Cod Trefniadaeth Ysgolion (Argraffiad 2018).
y gŵyn yw nad yw'r cyngor wedi dilyn y camau cywir wrth i'r Cabinet benderfynu cychwyn ymgynghoriad statudol i gau pedair ysgol wledig Gymraeg yn y sir – sef Ysgolion Craig-yr-Wylfa, Syr John Rhys, Llanfihangel-y-Creuddyn a Llangwyryfon - ar sail Papurau Cynnig sydd yn rhagdybio o blaid cau y bedair ysgol.