Cynnig Brys S4C - Cyfarfod Cyffredinol, Hydref 2010

(Cynnig a baswyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith ar Hydref 30ain, 2010)

Noda'r Cyfarfod Cyffredinol y canlynol:

• Daeth S4C i fodolaeth yn sgil ymgyrch boblogaidd hir a thrwy gonsensws gwleidyddol.
• Gosodwyd fformiwla ariannu S4C mewn statud er mwyn sicrhau na fyddai ymyrraeth wleidyddol yn y dull y'i hariennir.
• Mae lefel ariannu S4C yn adlewyrchu'r angen i sicrhau bod gwasanaeth Cymraeg yn gyfatebol a gwasanaethau prif-ffrwd ar sianeli eraill o ran safon a chreadigrwydd.
• Mae S4C yn unigryw, yn gonglfaen i'r diwylliant Cymraeg, ac yn hyn o beth yn wasanaeth na ellir ei drin yn yr un modd ag 'adrannau' llywodraethol eraill.
• Mae'r grym i benderfynu ar natur y cyfryngau yn parhau gyda Llywodraeth y DU a'r BBC.

Cred y Cyfarfod Cyffredinol:

• Mae'n hanfodol, er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a'r gallu i wneud y penderfyniadau cywir dros ddyfodol darlledu yng Nghymru, bod grymoedd deddfu dros y cyfryngau yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
• Mae'n hanfodol bod datganoli grym yn digwydd o fewn y BBC gyda system ffederal fel y dewis gorau, er mwyn sicrhau tegwch a chydbwysedd,
• Mae cyfryngau Cymraeg sydd o safon gyfatebol i'r cyfryngau a geir yn yr iaith Saesneg yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg
• Mae creu ecosystem gyfryngol amrywiol yn hanfodol i ddyfodol y Gymraeg. Mae buddsoddiad sylweddol mewn cyfryngau digidol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn briod iaith pob cyfrwng.
• Mae cydweithrediad rhwng sefydliadau cyfryngol a thu hwnt yn hanfodol er mwyn galluogi ein cyfryngau i fod mor gryf â phosib.
• Mae annibyniaeth gwasanaethau cyfryngau cyhoeddus Cymraeg yn hanfodol er mwyn sicrhau plwraliaeth gyfryngol a democrataidd. Ni ddylid ystyried ar unrhyw amod i  swyddogaethau S4C ddod o dan adain y BBC.
• Credwn fod pencadlys presennol S4C yn Llanisien yn anaddas ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru ac y dylid datganoli rhannau gwahanol o'r broses o redeg gwasanaeth cyfryngau Cymraeg cyhoeddus.

Galwa'r Cyfarfod Cyffredinol am:
• Datganoli grym dros ddarlledu Cymreig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
• Adolygiad llwyr o strwythur comisiynu, strategaeth a rôl Awdurdod S4C, gan gynnwys modelau amgen ar gyfer Awdurdod S4C a gweinyddu gwariant ar gyfryngau Cymraeg.
• Ystyriaeth am newid y berthynas Awdurdod / Sianel i un allai roi'r hyblygrwydd i Awdurdod S4C ymestyn ei faes gorchwyl i gynnwys cyfryngau digidol a chyfryngau eraill tu hwnt i deledu.
• Sicrhau bod canran sylweddol o fformiwla ariannu Awdurdod S4C yn cael ei fuddsoddi mewn cyfryngau digidol er mwyn adeiladu cynulleidfa y dyfodol, gan sicrhau bod teledu llinellol yn parhau yn gryf. Dylid penodi cyfarwyddwr digidol er mwyn datblygu hyn.
• Rhoi fformiwla ariannu teg ar gyfer S4C fydd yn rhoi sicrwydd ar gyfer ei dyfodol hir-dymor a sicrhau ei fod yn gorff tu hwnt i ymyrraeth wleidyddol
• Datganoli gwaith S4C rhwng tair canolfan ar draws Cymru, gan redeg adrannau gwahanol ohonynt yn hytrach na thaenu swyddi yn denau.

Ymhellach galwa'r Cyfarfod Cyffredinol:

• ar Aelodau Seneddol  - ac yn benodol Aelodau Seneddol Cymru - i bleidleisio yn erbyn y cymalau hynny o'r mesur Cyrff Cyhoeddus a fydd yn caniatáu i'r llywodraeth roi ei newidiadau arfaethedig ar waith.
• ar Aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i weithredu ar frys i bwyso ar eu Aelodau Seneddol lleol i'r perwyl hwn
• ar y Trefnydd Ymgyrchu ar y We newydd i ddatblygu adran amlwg ar wefan y Gymdeithas er mwyn hybu a hwyluso ymgyrch lobio o'r fath.
Yn olaf er mwyn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa bresennol, galwa'r Cyfarfod Cyffredinol ar i bobl Cymru i ymrwymo i atal talu'r drwydded deledu o'r 1af o fis Rhagfyr ymlaen oni gymerir camau cyn hynny i sicrhau fod annibyniaeth S4C yn cael ei sicrhau drwy ei ryddhau o gydreolaeth y BBC a hefyd bod cyllid digidol ar gyfer sicrhau ei dyfodol yn cael ei ei glustnodi.