Deddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd

Cyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Gorffennaf 2001

CRYNODEB

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau pasio Deddf Iaith Newydd fydd yn gosod seiliau i normaleiddio dwyieithrwydd yng Nghymru.

00. SYLWADAU CYFFREDINOL

Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau pasio Deddf Iaith fydd yn cydnabod:

  • y Gymraeg yn Briod Iaith Cymru;
  • yr angen i sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw;
  • y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru;
  • yr angen i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg ym mhob sector;
  • pwysigrwydd y Gymraeg yn y chwyldro technolegol.

Dylai'r Cynulliad sicrhau diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlu dau gorff democrataidd yn lle'r bwrdd sef Cyngor yr Iaith Gymraeg a Comisiwn Iaith, y naill i hyrwyddo, threfnu a gweinyddu'r Ddeddf a'r llall i fonitro gweithrediad y Ddeddf.

Y nod

Er mwyn sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg a chyfle cyfartal i siaradwyr Cymraeg yng Nghymru rhaid dileu'r cysyniad 'Cymraeg wrth ofyn' a dim ond 'pan fo'n rhesymol ymarferol' fel a osodir yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993. Rhaid normaleiddio'r egwyddor o ddwyeithrwydd yng Nghymru gan sicrhau cydraddoldeb llawn a gwasnaethau trylwyr dwyieithog. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ddibynnol ar ewyllus da, dros y ddegawd diwethaf profwyd bod angen mwy na hynny i sicrhau dwyieithrwydd.

01. CYNNWYS DEDDF IAITH NEWYDD

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gofyn am ddeddfwriaeth newydd i sicrhau'r canlynol:

01.1 Cydnabod y Gymraeg yn Briod Iaith Cymru

Galwn am ddatganiad cyfreithiol sy'n cadarnhau'r ffaith mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru.

01.2 Cydnabod y Gymraeg yn Iaith Swyddogol yng Nghymru

Galwn am gydnabod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.
Galwn am gydraddoldeb go iawn i'r Gymraeg â'r Saesneg ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru drwy gydnabyddiaeth gyfreithiol o'r egwyddor gyffredinol bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.
Galwn am ddiddymu'r cymal sarhaus 'yn briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol' yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 (5 (2)) a Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (47(1); 66(4)).
Galwn am ddiddymu cyfyngu'r egwyddor i wasanaethau cyhoeddus a gweinyddu cyfianwder.

01.3 Darparu Gwasanaeth yn Gymraeg ym mhob Sector

Galwn am yr hawl i dderbyn gwasanaeth ac i ymwneud â phob darparwr gwasanaeth yn Gymraeg. Galwn am yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle gan gynnwys yr hawl i ddysgu'r Gymraeg. Galwn am yr hawl i gael achos llys yn Gymraeg, a diwygio Deddf Rheithgorau 1974 (fel y'i diwygiwyd ym 1988) yn ôl yr angen.

01.4 Darparu Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn Gymraeg

Galwn am i'r Cynulliad Cenedlaethol sefydlu Tasglu Technoleg Gwybodaeth i ddatblygu adnoddau electronig yn Gymraeg ac i sicrhau bod mynediad rhwydd i'r rhain ym myd addysg, yn y gweithle ac ym mhob man arall. Nid yw'n dderbyniol fod rhaid i bobl droi at y Saesneg er mwyn cymryd rhan yn y chwyldro technolegol.

02. CAMAU TREFNIADAETHOL

02.1 Creu trefn weinyddu, monitro a chynllunio democrataidd sy'n atebol i bobl Cymru

Galwn am ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlu Cyngor yr Iaith Gymraeg i hyrwyddo'r iaith ac i ddwyn ynghyd cynrychiolwyr o'r holl sectorau sydd eisioes yn gweithredu polisïau o blaid y Gymraeg. Bydd hwn yn gorff statudol a bydd gorfodaeth ar bob pwyllgor pwnc ac adran o'r Cynulliad i ymgynghori â'r Cyngor wrth lunio a gweithredu polisïau. Bydd hwn yn gorff bydd yn ymgorffori'r gwybodaeth a'r ymarfer gorau parthed datblygu gwasanaethau dwyieithog. Bydd hyn yn digwydd ochr yn ochr a rhaglen waith pwyllgor llorweddol yr iaith Gymraeg.

Dylai'r Cyngor hefyd gynnwys sefydlu Canolfan Safoni Termau Genedlaethol a Chorff Cynllunio Ieithyddol, gyda staff arbenigol i fod yn gyfrifol am lunio map sosio-ieithyddol o Gymru a pharatoi cyngor am hybu a gwarchod y Gymraeg, a chynlluniau tymor hir ar gyfer yr iaith fyddai â mewnbwn i holl bwyllgorau a holl adrannau y Cynulliad.
Galwn am sefydlu Comisiwn Iaith ac iddo ddyletswydd statudol i fonitro gweithrediad y Ddeddf a phwerau i orfodi mewn achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth a dyfarnu iawndal i bobl sy'n dioeddef oherwydd diffyg cydymffurfiaeth. Y Comisiwn Iaith fyddai'n delio â chwynion ynghylch diffyg darpariaeth yn y Gymraeg ac yn ceisio datrys anghydfodau ieithyddol.

02.2 Strwythur matrics cyflawni'r Ddeddf Iaith

Galwn am greu matrics o lefelau cyrhaeddiad fydd yn seiliedig ar amrywiol ffactorau megis natur y gwasanaeth; adnoddau'r darparwr; nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg; lefel y cyswllt â'r cyhoedd; a'r defnydd o dechnoleg. Nid dros nos y bydd hinsawdd ieithyddol Cymru yn newid o blaid y Gymraeg. Bydd y matrics hwn yn ffordd o flaenoriaethu ble mae'r angen mwyaf a chreu amserlen er mwyn sicrhau sefydlu dwyiethrwydd llawn yng Nghymru a pharhad y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw. Cyngor yr Iaith fydd yn gyfrifol am lunio'r matrics. Y corff hwn fydd yn gosod targedau cyrhaeddiad penodol a chynyddol a'u monitro yn effeithiol a theg. Y nod yn y pendraw fydd sicrhau dwyieithrwydd trwyadl ym mhob agwedd ar fywyd ym mhob ran o Gymru.

02.3 Gwneud Hybu'r Gymraeg yn un o Brif Ddyletswyddau'r Cynulliad Cenedlaethol

Galwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i dderbyn ei gyfrifoldeb o ddiogelu'r iaith Gymraeg a gwneud hybu'r Gymraeg yn un o'i brif ddyletswyddau. Cyfeirir yn Gwell Cymru at y nod o greu Cymru ddwyieithog. Dylai Llywodraeth y dydd fabwysiadu holl arwyddocad y nod yma a sicrhau bod holl weithrediad y Cynulliad o ran ei adrannau a phwyllgorau yn cyfrannu at gyflawni'r nod yma yn unol â'r weledigaeth o greu gwell Cymru mewn difrif.

Galwn am ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy ychwanegu adran debyg i adrannau 120 a 121 ynghylch gwarchod a hybu'r Gymraeg. Byddai hyn yn peri i'r Gymraeg droi'n bwnc llorweddol yn y Cynulliad yn hytrach nag yn un pwnc yn unig. Byddai'r Gymraeg yn ffactor o bwys wrth lunio polisi ym mhob maes felly ac nid yn cael ei hynysu fel testun ar gyfer diwylliant neu addysg yn unig.

03. ESBONIO EGWYDDORION DEDDF IAITH

03.1 Cydnabod y Gymraeg yn Briod Iaith Cymru

03.1.1 Y Gymraeg yw priod iaith Cymru. Mae hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru, boent yn siaradwyr Cymraeg ai peidio. Mae gan y Gymraeg berthynas unigryw â Chymru. Mae hi'n un o'r elfennau sy'n gwneud Cymru yn arbennig fel gwlad ac felly mae hi'n symbol grymus o'r hunaniaeth Gymreig. 03.1.2 Mae Cymru'n wlad amlieithog, fel y bu erioed i raddau gwahanol rhwng ieithoedd y Rhufeinaid, y Gwyddelod, y Llychlynwyr, y Saeson, y Normaniaid a'r Fflemingiaid a'r ieithoedd a siaredir gan gymunedau ethnig Cymru - ond drwy gydol ei hanes mae'r Gymraeg wedi bod yn gyfrwng byw ac yn brif sail ein hunaniaeth genedlaethol. Mae gan Gymru ei thimau rygbi a phêl-droed ei hun, ei hanthem genedlaethol ei hun, ei sefydliadau, gan gynnwys ei chynulliad ei hun, a'i hiaith ei hun. Nid Cymraeg yw ei hunig iaith, ond hi yw ein 'hiaith genedlaethol'.

03.1.3 Nid yw'r egwyddor hon o briod iaith yn un unigryw i Gymru. Dyma'r egwyddor sylfaenol y tu ôl i ddeddfwriaeth ieithyddol yng Ngwlad y Basg a Chatalunya yn ogystal â'r Datganiad Byd-eang o Hawliau Ieithyddol a gyflwynwyd i UNESCO. [1]
03.1.4 Mae'r Gymraeg yn iaith unigryw i Gymru. Credwn fod y cysyniad o briod iaith yn egluro'r teimlad sydd gan bobl Cymru tuag at y Gymraeg a'r berthynas arbennig ac unigryw sydd gan yr iaith a'r wlad.

03.2 Dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw

03.2.1 All iaith ddim bodoli mewn gwagle. Rhaid wrth seiliau economaidd cryf a chynllunio cymunedol i greu a chynnal cymunedau. Ni fydd y Gymraeg fyw os nad oes cymunedau yn ei defnyddio. Credwn fod rhaid wrth Ddeddf Eiddo i sicrhau mynediad teg i bobl leol yn y farchnad dai. [2]

03.3 Cydnabod y Gymraeg yn Iaith Swyddogol yng Nghymru

03.3.1 Mae angen dynodi beth yw ieithoedd swyddogol Cymru fel rhan o'i hunaniaeth greiddiol. Byddai'n gam symbolaidd i ddangos y gwerth rydym yn rhoi ar ein iaith ac yn arwydd clir i'r byd y tu allan fod Cymru'n wlad ddwyieithog a fod angen gwasanaethau dwyieithog arni. Byddai darparwyr gwasanaethau a masnachwyr yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith Gymraeg a dyhead pobl Cymru i greu dyfodol iddi.
03.3.2 Bu galw cyson am gydnabod statws swyddogol y Gymraeg drwy ddatgan egwyddor gyffredinol am statws swyddogol yr iaith, gan gynnwys Statws Cyfreithiol yr Iaith Gymraeg (adroddiad Hughes Parry) 1965; mesur drafft Dafydd Wigley, et al, 1986 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg; a mesur drafft Bwrdd yr Iaith Gymraeg o Ddeddf yr Iaith Gymraeg.
03.3.3 Mae gan y Gymraeg statws swyddogol cyfyngedig mewn rhai meysydd yn barod, ond mae'r datganiadau hyn ar wasgar mewn deddfau gwahanol. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn sôn am drin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod nhw'n gyfartal o dan amodau penodol, sef:
(a) wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfianwder; a
(b) chyn belled ag y bo'n 'briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol'.

Nid oes rheidrwydd felly i drin y ddwy iaith yn gyfartal. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi dilysrwydd cyfartal i fersiynau Cymraeg a Saesneg o ddogfennau a awdurdodir gan Weinidogion y Goron ac, oddiar 1999 gan y Cynulliad Cenedlaethol, ond nid yw'r Ddeddf yn ymdrin yn benodol â statws cyfreithiol dogefnnau preifat sydd â goblygiadau cyfreithiol.
03.3.4 Byddai'n gwneud statws cyfreithiol y Gymraeg yn ddatganiad clir i bawb yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol, a'r byd yn gyfan. Mae'r dryswch ym meddyliau'r cyhoedd ynghylch statws cyfreithiol yr iaith yn amlwg. Honnodd aelod o gyngor Sir Gaerfyrddin ei bod yn anghyfreithlon i siarad Cymraeg yng Nghabinet y Cyngor; mae gweision sifil yn y Cynulliad Cenedlaethol yn mynnu mai'r Saesneg yw'r unig iaith fewnol swyddogol; yn gyson mae cyflogwyr yn gwahardd eu gweithwyr rhag siarad Cymraeg.
03.3.5 Mae Saesneg yn iaith swyddogol de facto yng Nghymru, gan mai Saesneg yw unig iaith Senedd y Deyrnas Gyfunol, Saesneg a ddysgir i ffoaduriaid, Saesneg yw iaith cofnodion y llysoedd, a rhaid gallu siarad Saesneg i wasanaethu ar reithgor. Nid oes gan y Deyrnas Gyfunol gyfansoddiad ysgrifenedig a'r traddodiad hwnnw o gymryd pethau'n ganiataol oni phrofir yn wahanol sydd i gyfrif pam nad oes datganiad ffurfiol o statws swyddogol y Saesneg fel sydd ar gyfer ieithoedd eraill mewn gwladwriaethau sydd â chyfansoddiad ysgrifenedig.
03.3.6 Mae'r Gymraeg yn anomali yn Ewrop gan nad yw'n iaith swyddogol. Yn gyffredinol, mae ieithoedd 'lleiafrifol' sydd yn ieithoedd swyddogol yn dal eu tir yn fwy na ieithoedd sydd ddim yn swyddogol. Nid yw statws swyddogol ei hun yn ddigon ond mae'n rhan o osod seiliau ar gyfer polisïau blaengar. Mae gan Gatalaneg, Basgeg, a Galisieg statws swyddogol yn yr ardaloedd ble mae'r ieithoedd hynny yn ffynnu.

03.3.7 Wrth i'r Undeb Ewropeaidd ehangu i'r dwyrain, fe fydd nifer ychwanegol o ieithoedd yn dod yn rhan o'r system Ewropeaidd. Ar hyn o bryd 11 iaith swyddogol sydd, ond gyda phob gwladwriaeth newydd daw o leiaf un iaith arall yn ei sgil. Dyma gyfle i ieithoedd fel y Gymraeg, Basgeg, Catalaneg ac ati geisio cydnabyddiaeth ar lefel Ewropeaidd. Ar hyn o bryd mae Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd yn gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion a chymunedau Ewrop sy'n siarad iaith wahanol i iaith swyddogol eu gwladwriaeth drwy gau yr ieithoedd hyn allan o rai rhaglenni gwariant.
03.3.8 Gan fod hybu'r Gymraeg yn faes sydd y tu allan i Fformiwla Barnett ar hyn o bryd, rhaid i'r Cynulliad drafod cyllid am hyn â'r Trysolrys. Byddai'n haws i'r Cynulliad ddadlau am arian ar gyfer y Gymraeg pe bai'r iaith â statws swyddogol.

03.4 Cydnabod yr angen i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg ym mhob sector

03.4.1 Nid statws y darparwr sy'n bwysig yn hyn o beth boed yn gyhoeddus, yn breifat, neu'n wirfoddol ond y ffaith eu bod yn cynnig gwasanaeth i'r cyhoedd. Dylai'r cyfrifoldeb i ddarparu gwasanaeth Cymraeg fod yn ddibynnol ar natur y gwasanaeth ac nid ar natur y darparwr. Dim ond wedyn y rhoddir cyfle cyfartal i siaradwyr Cymraeg. 03.4.2 Diffyg amlwg yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 yw nad yw'n cynnwys gwasanathau a ddarperir gan y sector preifat a gwirfoddol. Mae'r ffin rhwng yr hyn sy'n 'breifat' a'r hyn sy'n 'gyhoeddus' yn llawer llai eglur erbyn heddiw gan fod llawer o'r hen gyfleustodau cyhoeddus (dwr, nwy, trydan, y rheilffyrdd) wedi'u preifateiddio a does dim hawl gan gwsmeriaid i dderbyn gwasanaeth yn y Gymraeg ganddynt. Mae rhai gwasanaethau o bwys bellach yn cael eu darparu gan fudiadau gwirfoddol. 03.4.3 Dadleuir nad oes hawl gan y Wladwriaeth ymyrryd yn y farchnad rydd, ond credwn ei bod yn ddyletswydd ar y Wladwriaeth i ddiogelu hawliau sylfaenol y rhai mwyaf difreintieidig mewn cymdeithas. Nid yw allgau cymdeithasol yn llesol. Mae deddfwriaeth i ddiogelu hawliau menywod, lleifafrifoedd ethnig, pobl anabl a'r amgylchedd eisoes yn bodoli ac yn effeithio ar fusnes a diwydiant. 03.4.4 Mae modd cynorthwyo busnes a diwydiant i gydymffurfio â deddfau newydd drwy ostwng trethi busnes a chyflwyno'r newidiadau yn raddol dros gyfnod o amser. Credwn bod angen creu strwythur matrics o lefelau o gyrhaeddiad derbyniol a hynny'n ddibynol ar natur y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig; adnoddau'r darparwr; nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg; lefel y cyswllt â'r cyhoedd; a'r defnydd o dechnoleg.

03.4.5 Mae gweithlu dwyieithog yn meddu ar fwy o sgiliau na gweithlu uniaith. Gwelir yn Sbaen mai'r ardaloedd sydd â ieithoedd eu hunain yw'r rhai mwyaf ffyniannus yn economaidd, a bod llwyddiant economaidd yn mynd law yn llaw â pholisïau cryf o normaleiddio'r iaith. Mae polisïau cryf o blaid yr iaith yn creu marchnadoedd mewnol newydd na all cystadleuwyr o'r tu allan eu cyflenwi gan roi mantais i ddiwydiant cynhenid.
03.4.6 Credwn bod angen creu cyfleon i weithwyr fedru derbyn gwasanaeth cyfangwbl ddwyieithog yn y gweithle gan ddewis yr iaith y maent yn dymuno gweithio ynddi. Dylid rhoi'r hawl i bob gweithiwr fedru dysgu'r Gymraeg o fewn y gweithle.
03.4.7 Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn galluogi pobl i weithredu'n uniaith Saesneg o fewn y sector gyhoeddus ond nid yn uniaith Gymraeg. Wrth gofrestru babanod, er enghraifft, gellir gwneud yn uniaith Saesneg, neu'n ddwyieithog ond nid yn uniaith Gymraeg. Yn yr un modd nid oes hawl gan ddiffynyddion mewn llys i fynnu ynadon, barnwyr a rheithgor Cymraeg eu hiaith. Mae'n bosibl y bydd y llys yn trefnu cyfieithu, ond mewn gwlad ddwyieithog, dylai fod hawl gan ddinesydd glywed ei achos heb gyfrwng cyfieithu. Credwn y dylai'r llysoedd allu cynnig gwasanaeth cwbl Gymraeg, gan gynnwys y ffurflenni pwrpasol yn Gymraeg, barnwr, swyddogion llys, a rheithgor sy'n deall Cymraeg i unrhywun sy'n dymuno hynny. Credwn ymhellach mai cyfrifoldeb y llysoedd (yn hytrach na'r sawl sydd ar dreial) yw gofyn i bobl a ydynt yn dymuno cael achos yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac y dylent wneud y paratoadau angenrheidiol at hynny.

03.5 Cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg yn yn chwyldro technolegol

03.5.1 Mae chwyldro'r Rhyngrwyd a gwasanaethau electronig wedi gweddnewid y ffordd rydym yn cyfathrebu â'n gilydd ac â chyrff cyhoeddus a busnesau. Ond ddaeth y Ddeddf Iaith ddiwethaf i rym cyn i oblygiadau hynny ar ein bywydau ddod yn amlwg. Nid yw Deddf Iaith 1993 yn cyffwrdd â datblygiadau newydd fel y We Fyd-Eang a gwasanaethau dros-y-ffôn. Mae angen sicrhau lle i'r Gymraeg yn y byd electronig newydd, neu bydd y Gymraeg yn cael ei gadael ar ôl unwaith eto.

03.5.2 Gan nad yw Deddf Iaith 1993, na'r cynlluniau iaith a greuwyd yn ei sgîl, yn sôn am wasanaethau electronig, mae rydd hynt i gyrff cyhoeddus yng Nghymru anwybyddu eu cyfrifoldebau i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd yn y maes hwn. Mae ugeiniau o engreifftiau o gynghorau sir ac adrannau llywodraethol, er enghraifft, sydd â gwefannau uniaith Saesneg er bod ganddynt gynlluniau iaith a gymeradwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Ac wrth i'r Cynulliad a San Steffan symud at ddarparu gwasanaethau llywodraethol ar-lein, y tueddiad yw i anghofio am y Gymraeg. Mae angen adolygu cynlluniau a pholisïau iaith presennol i sicrhau eu bod yn ymdrin â gwasanaethau electronig, a sicrhau bod ystyriaeth i'r Gymraeg wrth gynllunio unrhyw brosiectau ar-lein newydd.
03.5.3 "Ewyllys da" sydd wedi bod wrth wraidd polisïau llywodraethau dilynol i berswadio cwmnïau preifat i ddefnyddio'r Gymraeg. Ond hyd yma, nid yw "ewyllys da" wedi perswadio unrhyw un o'r banciau, cymdeithasau adeiladau na siopau mawr i ddefnyddio'r Gymraeg pan ddaw at dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu. A fydd datblygiadau technolegol yn golygu y bydd rhaid ail-gynnal holl ymgyrchu ieithyddol y degawdau diwethaf i ennill lle i'r Gymraeg ar wefannau ac mewn canolfannau galw? Daw maint y broblem yn amlycach wrth ystyried polisi'r banciau o ganoli adnoddau ac erydu dulliau traddodiadol o wasanaeth: wrth gau canghennau yng nghefn gwlad Cymru, honnai'r banciau nad yw unrhywun ar eu colled gan y gallai'u cwmseriaid defnyddio gwasanaethau newydd dros-y-ffôn ac ar-lein. Nid yw'r gwasanaethau hyn ar gael yn Gymraeg o gwbl. Mae'r technoleg ei hun hefyd wedi creu meysydd newydd cyfan o gwmnïau, megis y cwmnïau ffonau symudol, sydd wedi llwyddo i anwybyddu sefyllfa ieithyddol Cymru yn gyfangwbl, a rhedeg estyniadau o'u busnesau o'u pencadlysoedd yn Lloegr. Y unig ffordd i sicrhau gwasanaethau Cymraeg gan y cwmnïau hyn yw Deddf Iaith Newydd sy'n cynnwys gwasanaethau'r sector breifat ym mhob maes o'u gweithgaredd.

03.5.4 Mae technoleg newydd yn gallu bod o fudd enfawr wrth addysgu, ond gwelwn perygl gwirioneddol i'r rheiny sy'n astudio trwy'r Gymraeg fod o dan anfantais wrth ddefnyddio CD-ROMiau ac adnoddau ar-lein i gynorthwyo â'u gwaith. Mae gwyddionaduron, cyfeirlyfrau ac adnoddau electronig di-ri ar gael yn Saesneg i annog dysgu, tra fod adnoddau cyffelyb yn y Gymraeg yn brin. Gall ddisgybl cyfrwng Saesneg droi at Encarta neu gyhoeddiadau tebyg wrth wneud ymchwil ar gyfer gwaith - rhaid i ddisgybl cyfrwng Gymraeg fod yn gyfieithydd hefyd os yw am wneud yr un fath. Dim ond ambell i gyhoeddiad electronig sydd ar gael i'r dosbarth yn y Gymraeg: dylid annog, cefnogi a chynorthwyo sefydliadau fel y prifysgolion a chynghorau sir i ddarparu deunydd addysgol newydd ar-lein ac ar ffurfiau electronig.
03.5.5 Un o'r rhwystrau mwyaf i ddefnyddio'r Gymraeg gyda thechnoleg newydd yw'r diffyg meddalwedd a systemau gweithredu sydd ar gael yn Gymraeg. Hyd yn hyn, ychydig iawn o raglenni sydd ar gael yn y Gymraeg, ac mae'r rhan fwyaf o'r rheiny yn canolbwyntio ar faes creu cynnwys Cymraeg - e.e. y gwirydd sillafu, CySill - nid ar Gymreigio'r meddalwedd ei hunan. Oherwydd trwyddedau y rhan fwyaf o becynnau meddalwedd, dim ond y gwneuthurwr gwreiddiol sydd â'r hawl i greu fersiynau mewn ieithoedd amgen. Gwneud elw yw diben y cwmnïau hyn, a'u dadl nhw yw bod creu meddalwedd Cymraeg yn aneconomaidd, heb unrhyw ystyriaeth i oblygiadau cymdeithasol a diwylliannol hynny. Dim ond y Cynulliad Cenedlaethol, fel sefydliad llywodraethol Cymru, all rhoi'r achos dros y Gymraeg i gwmnïau meddalwedd mawr, a phwyso arnynt i leoleiddio eu pecynnau. Serch hynny, mae angen gofalu rhag ymddiried gormod ym mharodrwydd cwmnïau fel Microsoft i gydweithio. Gallai'r Cynulliad gymryd arweiniad blaengar yn y maes, a hybu prosiectau meddalwedd rydd a chôd agored, nad sydd dan reolaeth unrhyw gwmni unigol. Gan nad oes trwyddedau llym ar y cynnyrch hyn, gallai'r Cynulliad fynd ati ei hun i drosi systemau a phecynnau meddalwedd gyfan yn gymharol rhad, gan eu hybu a'u dosbarthu fel a mynn. Mae systemau gweithredu fel Linux a phecynnau swyddfa megis OpenOffice eisoes wedi ennill eu plwyf yn y darnau helaeth o'r byd nad sy'n defnyddio'r Saesneg fel brif iaith, ac yn y pendraw gallai Cymru arwain y maes mewn systemau agored, rhydd, gan sicrhau arbedion sylweddol i adrannau llywodraethol a'r system addysg, er enghraifft, ac ennyn manteision economaidd o gael arbenigedd dechnegol gref.
03.5.6 Mae angen sicrhau lle i'r Gymraeg mewn technolegau newydd, sydd ar y gorwel ar hyn o bryd, ond a fydd yn ganolog i'n bywydau yn y dyfodol. Gallai'r rhain gael effaith andwyol anhygoel ar yr iaith os nad ydym yn barod i gydio yn yr awennau nawr a'u hanelu ar lwybr sy'n cynnwys y Gymraeg. Enghreifftiau amlwg yw technoleg adnabod llais a chyfarwyddiadau llafar, sy'n debygol o ddod yn gyffredin mewn blynyddoedd i ddod. Yn ogystal, gallai technoleg cyfieithu peiriant, er enghraifft, rhoi hwb sylweddol i greu gymdeithas gwir ddwyieithog. Rhaid creu strategaeth hir-dymor a phell-gyrhaeddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg ym maes technoleg, gan fonitro datblygiadau newydd ac adolygu'r strategaeth yn reolaidd, a gweithredu i hybu defnydd o'r Gymraeg mewn technolegau newydd

04. CYFRIFOLDEB Y CYNULLIAD

Yr unig ffordd i normaleiddio dwyieithrwydd yng Nghymru yw trwy Ddeddf Iaith berthnasol a pholisïau blaengar. Gan Lywodraeth Cymru mae'r cyfrifoldeb i sicrhau fod hyn yn digwydd.
Amcangyfrifir bod rhwng 20-50% o holl ieithoedd y byd yn marw ac erbyn 2100 y bydd 90% o ieithoedd y byd wedi diflannu am byth oddi ar wefusau dynol ryw. Mae gan ieithoedd lleiafrifol sydd â Deddfau Iaith fwy o sail i greu polisïau fydd yn arwain at oroesi. Mae ieithoedd heb ddeddfau i'w hamddiffyn yn llawer mwy tebygol o farw. Mae Basgeg a Chatalaneg yn llawer cryfach mewn rhanbarthau yn Sbaen ble mae Deddfau Iaith yn eu cefnogi nag ydyn nhw yn y rhannau o Ffrainc lle nad oes unrhyw ddeddf i'w hamddiffyn. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb arbennig i warchod a hybu'r Gymraeg am na wneir hynny yn unman arall yn y byd na gan neb arall. Y Gymraeg yw ein cyfraniad pwysicaf i amrywiaeth ddiwylliannol y byd. Os methwn â gwneud hynny, ac mae'r Gymraeg yn marw, bydd Cymru a'r byd wedi colli rhywbeth na ellir ei adfer.
Hyd yn hyn, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi methu'n alaethus ag ystyried y Gymraeg fel ffactor o bwys wrth lunio polisïau. Yn fynych, ni sonnir amdani o gwbl, ac os yw'n cael ei chrybwyll o gwbl gall fod mewn cyd-destun negyddol neu'n arwynebol. Nid yw strwythur gwaith y Cynulliad yn gymorth yn hyn o beth. Rydym wedi argymell eisioes yr angen am strategaeth traws-bynciol i'r Gymraeg gan greu rhaglen lorweddol sefydlog. [3]
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gosod dyletswydd statudol ar y Cynulliad i arfer ei swyddogaethau gan dalu sylw priodol i'r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb. [4] Mae hyn yn golygu bod cyfle cyfartal (fel mae'n cael ei ddehongli'n gyfreithiol, sef o ran rhyw, hil ac anabledd) yn gorfod cael ei ystyried wrth lunio a gweithredu polisïau'r Cynulliad. Rhaid i'r Cynulliad gyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n dangos pa mor effeithiol mae'r trefniadau i wneud hynny wedi bod. Yn yr un modd, mae dyletswydd arno i hybu datblygu cynaliadwy wrth arfer ei swyddogaethau. Mae'n gorfod llunio cynllun i ddangos sut mae'n bwriadu gwneud hyn, ei adolygu, a'i gyhoeddi ac adrodd ar y camau a gymerwyd tuag at weithredu'r cynllun mewn adroddiad blynyddol. [5]

RHAN II - ATODIAD

05. BARN GWLEIDYDDION CYMRU AR DDEDDF YR IAITH GYMRAEG 1993

Yn ystod y drafodaeth ar y mesur yn Nhy'r Cyffredin yng Ngorffennaf 1993 dywedodd Wyn Roberts, ' …y mae'r iaith Gymraeg yn Iaith swyddogol yn y wlad hon. Nid oes angen datgan hynny mewn cyfraith. Nid yw'n cael ei ddatgan mewn cyfraith yn achos y Saesneg. Mae'r Saesneg hefyd yn iaith swyddogol.' Y methiant hwn i ddatgan yn gwbl ddigamsyniol statws swyddogol y Gymraeg oedd un o brif gwynion nifer o AS Cymru. Siom i Cynog Dafis (Plaid Cymru) oedd 'the failure to make an unequivocal declaration of official and equal status.' Pwysleiodd Donald Anderson (Llafur), '…we want Welsh to have the same status as English.' Os ydyw'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru yna pam na ddylid datgan hynny mewn cyfraith? Ni all y Gymraeg fod yn gyflawn gydradd â'r Saesneg yng Nghymru os na wneir hynny.
Yn ystod y ddadl ar fesur yr Iaith Gymraeg pwysleisiodd Rhodri Morgan (Llafur), '...the government…says that it is the Welsh Language Bill, but unfortunately what we have is a Welsh language quango Bill - what might be called a quango for the lingo…We shall be abstaining tonight because we hope to have the opportunity before long to do the job properly. That will be done when we revisit the question of a Welsh language measure when we are in government.' Ag yntau bellach yn brif weinidog y Cynulliad Cenedlaethol mae'n drist nad yw wedi manteisio ar y cyfle ond yn dewis yn hytrach parhau â'r agenda a etifeddodd gan y Blaid Geidwadol.

06. BETH GELLIR EI WNEUD AR UNWAITH

06.1 Datgan staws swyddogol i'r Gymraeg a chydnabyddiaeth iddi fel priod iaith Cymru

Yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 1998 gall y Cynulliad 'ystyried… unrhyw fater sydd yn effeithio ar Gymru' gan 'gyflwyno penderfyniadau priodol'. [6] Mae geiriad yr Adran hon o'r Deddf yn ddigon eang i gynnwys penderfyniadau ar ffurf drafft o Ddeddf Seneddol, gan gynnwys deddfwriaeth yn ymwneud â'r iaith, i'w gyflwyno i'r Senedd drwy ddealltwriaeth gyda'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Aelodau Seneddol Cymreig.

Rhydd Deddf Llywodraeth Cymru yr hawl i'r Cynulliad i wneud 'beth bynnag y mae'n ei ystyried yn briodol i gefnogi yr iaith Gymraeg.' [7] Mae hwn yn allu penagored y gellir ei ddefnyddio yn adeiladol, er enghraifft, yn annibynnol ar Senedd Westminster y mae modd i'r Cynulliad ei hun wneud datganiad cynhwysfawr yn cyhoeddi natur unigryw yr iaith Gymraeg fel iaith hanesyddol y genedl ers mwy na mileniwm a hanner ac yn un o ddwy iaith swyddogol Cymru yn gydradd â'r Saesneg, yn rhan o'n treftadaeth ac yn eiddo i holl bobl Cymru

06.2 Siarsio Bwrdd yr Iaith Gymraeg i gynnwys y sector preifat ar unwaith

O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, mae hawl gan y Cynulliad i wneud Gorchymyn Statudol (is-ddeddf) i ychwanegu enw unrhyw gorff cyhoeddus sydd, yn ei dyb, yn ymarfer swyddogaethau o natur cyhoeddus at restr y rhai y cyfeirir atynt yn y Ddeddf. Gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg yna roi rhybudd iddynt i baratoi a chyflwyno Cynllun Iaith. [8] Y diffiniad clasurol yw corff (boed hwnnw'n adran o'r llywodraeth, yn awdurdod cyhoeddus neu'n gwmni masnachol) 'a chanddo ddyletswyddau i'w cyflawni er budd y cyhoedd'. Os yw corff felly dan ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru (hyd yn oed os yw hefyd yn darparu gwasanaethau tebyg yn Lloegr) y mae'n dod oddi mewn i'r categori o gyrff y gellir eu rhoi ar restr y rhai y gall Bwrdd yr Iaith eu gorfodi i gyflwyno Cynllun Iaith. Ymhlith y cwmnïau hyn y mae cwmnïau y mae eu gweithgareddau yn effeithio'n drwm ar fywyd beunyddiol pobl Cymru wrth iddyn nhw gyflawni dyletswyddau statudol a gyflawnir gan y cyfleustodau cyhoeddus a breifateiddiwyd sef nwy, trydan, dwr, telathrebu a rheilffyrdd. At y rhain gellid ychwanegu trafnidiaeth gyhoeddus - y cwmnïau bysus, Cownteri'r Swyddfa Bost, a rhai cyrff na fuont erioed yn ganghennau o'r llywodraeth nac unrhyw awdurdod cyhoeddus megis banciau a chymdeithasau adeiladu. Gall y Cynulliad felly fynnu bod cwmnïau preifat sy'n darparu gwasanaeth yn cael eu dwyn i fewn i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn syth.

06.3 Dileu cymalau o reolau sefydlog y Cynulliad sy'n gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg

Os yw'r Cynulliad am gymryd unrhyw gam dan Adrannau 32 neu 33 er mwyn rhoi grym i'r egwyddor fod y Gymraeg i'w thrin ar dir cyfartal â'r Saesneg yna mae'n holl bwysig fod pwyllgor penodol ar yr Iaith Gymraeg yn cael ei sefydlu i ymwneud yn benodol â'r defnydd o'r Gymraeg yn a gan y Cynulliad. Mae'n bwysig hefyd fod y Cynulliad yn ufuddhau i'w Gynllun Iaith ei hun.

Ôl-nodiadau

  1. Gweler Deddf Normaleiddio'r Iaith Basgeg 1982; Deddf Iaith Catalaneg 1998; a'r Datganiad Byd-eang o Hawliau Ieithyddol (Barcelona 1996)
  2. Gweler CYIG, Llawlyfr Deddf Eiddo (1999)
  3. CYIG, Agenda ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (1998)
  4. Deddf Llywodraeth Cymru (1998), Adran 120
  5. Deddf Llywodraeth Cymru (1998), Adran 121
  6. Deddf Llywodraeth Cymru (1998), Adran 33
  7. Deddf Llywodraeth Cymru (1998), Adran 32 ( c )
  8. Deddf Llywodraeth Cymru (1998), Adran 6 (i )