Siom oedd bod yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus ddiweddar a drefnwyd gan Fwrdd yr Iaith yng Nghaerfyrddin. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, fe heriwyd panel o siaradwyr - a oedd yn cynnwys aelodau amlwg o'r Bwrdd, ynghyd a'i Brif Weithredwr newydd, Meirion Prys Jones - i egluro pam nad oeddent yn gweld yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Yn anffodus roedd eu hatebion yn boenus o ystradebol.
Byrdwn eu neges oedd nad oes unrhyw angen am ddeddfwriaeth bellach, er mwyn sicrhau bod gan Gymry Cymraeg yr hawl i dderbyn gwasanaethau modern yn eu hiaith eu hunain. Llawer gwell yw dibynnu ar allu 'gwyrthiol' y Bwrdd i berswadio cwmniau di-ri i gydnabod y Gymraeg, gan apelio at eu hewyllys da.
Wrth gwrs, mae ewyllys da tuag at y Gymraeg yn bwysig - does neb yn gwadu hynny. Ymhellach, does dim amheuaeth y gwelwyd twf mawr yn yr ewyllys da sy'n bodoli tuag at y Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, a bod hyn yn ei dro wedi achosi i rai cwmniau a sefydliadau wneud rhywfaint o ddefnydd o'r iaith. Serch hynny, ynghanol yr holl drafod ynglyn ag ewyllys da, mae un gair pwysig yn mynd ar goll - hawliau.
Ar hyn o bryd, nid oes gan siaradwyr Cymraeg unrhyw hawliau cyfreithiol i ddisgwyl derbyn gwasanaeth Cymraeg gan gwmniau preifat. Hyd yn oed yn achos rhai o'r gwasanaethau preifat hynny sydd eisioes ar gael yn y Gymraeg, does dim i'w rhwystro - fel a welir mor aml erbyn hyn - rhag cael eu tynnu yn ol. Yn wir, mae'r sefyllfa bresennol yn golygu bod disgwyl i siaradwyr Cymraeg i wneud ymdrech ymwybodol a pharhaol, er mwyn hyd yn oed cyfiawnhau bodolaeth hynny o wasanaethau sydd eisioes ar gael yn y Gymraeg. Ac os yw rhai o'r cwmniau hyn yn penderfynu bod cynnig gwasanaeth Cymraeg yn mynd yn groes i fuddiannau eraill - dyna hi, beth bynnag ddywed y Bwrdd Iaith. Dyna yw realiti dibynnu ar ewyllys da.
Felly, mewn oes fodern, lle gwelir cymaint o wasanaethau yn cael eu preifateiddio, mae ein cyfleoedd ni i ddefnyddio'r Gymraeg yn ddibynnol ar ddim mwy na mympwy rhyw reolwr neu weinyddwr. Yn sicr nid oes gennym unrhyw hawliau. Yn y cyfamser, fe saif y Bwrdd Iaith yn y canol yn ceisio plesio pawb, ond, yn y pendraw, yn gwenud dim mwy na thwyllo ei hun.
Fe welwyd gwerth dibynnu ar ddim mwy nag ewyllys da yn ystod protest a gynhaliwyd gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith, yng nghanol Caerdydd ar ddechrau Ionawr. Bryd hynny, fe ymwelwyd ag Orange, y cwmni ffonau symudol. Dyma'r cwmni a gyhoeddodd yn falch yn ystod haf 2000 (yn dilyn rhai misoedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith) ei fod yn gweithio gyda'r Bwrdd Iaith, er mwyn cynnig gwasanaethau Cymraeg i'w gwsmeriaid. Tair mlynedd yn ddiweddarach, yn ystod y brotest yng Nghaerdydd, cafwyd y cyfle i weld beth oedd canlyniad holl waith perswadio y Bwrdd yr Iaith. Beth tybed oedd yr arwydd o ewyllys da Orange tuag at y Gymraeg - un arwydd wrth y drws yn dweud croeso!
Wrth ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd, mae Cymdeithas yr Iaith yn datgan yn agored mai ein nod yw sicrhau bod gan bawb yng Nghymru yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng naturiol, a bod hynny yn cael ei ddiogelu o fewn fframwaith o hawliau cyfreithiol. Serch hynny, trwy fynnu pledio gwerth perswad ac ewyllys da, mae'r Bwrdd Iaith yn gwadu i ni'r hawliau hyn. O ystyried y dystiolaeth bresennol, onid yw hi'n hen bryd iddynt ddechrau egluro pam?
Huw Lewis - Chwefror 2003