Diffyg Buddsoddi yn y Gymraeg ac ar y Gymraeg: Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2015-16

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

Delwedd 

 

Diffyg Buddsoddi yn y Gymraeg ac ar y Gymraeg: Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

1.Cyflwyniad - Toriadau, Tanfuddsoddi a Diffyg Strategaeth 

Mae'r ganran o wariant Llywodraeth Cymru sy'n cael ei fuddsoddi mewn prosiectau sy'n ymwneud yn benodol â'r Gymraeg yn bitw iawn - dim ond 0.16% o holl wariant y Llywodraeth. Mae hynny'n cymharu'n anffafriol iawn gyda gwlad fel Gwlad Basg lle buddsoddir cyfran bron saith gwaith yn fwy o'u cyllideb yn benodol ar yr iaith o'i gymharu â'r sefyllfa yma (£84 miliwn o gyllideb rhanbarthol 2014).   

Ar ben hynny, dangosodd ein hymchwil y tanfuddsoddi difrifol sy’n digwydd o fewn gwariant prif-ffrwd y Llywodraeth - gyda llai nag 1% o wariant ar raglenni megis addysg i oedolion yn y gymuned yn cael ei wario ar weithgareddau cyfrwng Cymraeg. 

Yn ôl cyllideb 2014-15, cafodd y gwariant ar ‘yr iaith Gymraeg’ ei dorri o £25,076,000 y flwyddyn gynt i £24,376,000 yn 2014-15. Cynlluniwyd iddo gwympo ymhellach i £23,511,000 yn 2015-16. Dyna doriad o £700,000 y flwyddyn hon a £856,000 yn 2015-16. 

Cafwyd nifer o newidiad o fewn y flwyddyn ariannol hefyd, er enghraifft y toriadau o £700,000 gofynnwyd i'r canolfannau Cymraeg i Oedolion ei wneud o fewn pedair wythnos, ar ben toriadau eraill oeddent eisoes yn gorfod ymdopi â nhw. Oherwydd y newidiadau hyn, nid yw'n glir p'un ai ydynt yn doriadau 'net' ai peidio - mae diffyg tryloywder a chynllunio ar gyfer y penderfyniadau hynny yn peri pryder am absenoldeb strategaeth ariannol gall ar gyfer y Gymraeg. Mae nifer o enghreifftiau lle gall cynyddu'r canran o weithgareddau Cymraeg sy'n dod o raglenni yng ngwariant prif-ffrwd y Llywodraeth.   

Credwn fod y penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth, hyd yn oed mewn cyfnod o lymder, yn fyrbwyll ac yn amlygu diffyg strategaeth trawsbortffolio ynghylch effaith y gyllideb ar y Gymraeg. Credwn y gellid fod wedi gwneud penderfyniadau llawer gwell hyd yn oed, pe byddai strategaeth drawsbortffolio clir gan y Prif Weinidog a'r gwasanaeth sifil.  

Argymhellwn fod y pwyllgor yn mynnu atebion gan weision sifil yn Uned y Gymraeg ynghylch eu penderfyniadau, ynghyd â'u methiant i wneud asesiad trawsbortffolio o effaith gwariant ar y Gymraeg a'i gyhoeddi. Mae eu hanallu i gyflawni hynny o fewn 19 mis yn codi cwestiynau mawr sydd angen eu hyateb. Credwn y dylai'r Cynulliad ofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ymgymryd â'r gwaith yn lle.  

Cyllideb Hyrwyddo'r Gymraeg 

Ym mis Hydref 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru toriad o £1.5 miliwn yn ei gwariant ar hyrwyddo'r Gymraeg dros ddwy flynedd. 

Ers hynny, rydym wedi clywed cyhoeddiadau dryslyd am arian ychwanegol ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg, nid yw'n glir a oes arian ychwanegol o gwbl. Yn ôl dadansoddiad gan un o'n haelodau, ymddengys fod Llywodraeth Cymru wedi torri tua £2.3 miliwn oddi ar gyllideb Cymraeg i Oedolion ers y Gynhadledd Fawr. 

Ymddengys felly, nid yw'r cyhoeddiadau yn newid y ffaith mai ond 0.16% o gyllideb y Llywodraeth sy'n cael ei wario ar hyrwyddo'r Gymraeg. Yng ngwlad y Basg, gwelir buddsoddiad oddeutu saith gwaith yn fwy na hynny, ac mae hynny'n rhannol gyfrifol am y twf a welwyd yn y Fasgeg dros y degawdau diwethaf.       

Credwn y dylai'r Cynulliad fel y corff graffu yn fanwl ar gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ynghylch 'arian ychwanegol' ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg a gyhoeddwyd dros y misoedd diwethaf ynghyd â'r gymhariaeth rhwng Cymru a Gwlad y Basg. 

Ymhellach, credwn y dylai'r Cynulliad sicrhau bod y gyllideb hywyddo yn pedryblu dros gyfnod rhesymol o amser.

Arian Prif-ffrwd - Dros 99% yn fuddsoddiad uniaith Saesneg 

Mae'n amlwg bod tanfuddsoddi difrifol ar weithgareddau cyfrwng Cymraeg mewn nifer o gyllidebau prif ffrwd y Llywodraeth - gan gynnwys addysg ac iechyd. Mae'r Llywodraeth yn honni mai 'diffyg galw' sy'n achosi hynny, credwn fod hynny'n amlygu meddylfryd hen-ffasiwn y gwasanaeth sifil sy'n meddwl bod gwasanaeth Saesneg yn hanfodol ac yn ddiofyn, tra bod gwasanaeth Cymraeg yn rhywbeth atodol ac yn ddewisol. 

Mae llai na phedair mil o bunnau allan o gyllideb o bron i £17 miliwn sydd wedi ei wario ar addysg cyfrwng Cymraeg i oedolion yn y gymuned, yn ôl gwybodaeth a ryddhawyd  i ni gan Lywodraeth Cymru o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth am wariant yn flynyddoedd ariannol 2009/10 i 2011/12. Yn wir, mae nifer o brif gyllidebau’r Llywodraeth yn ariannu bron dim darpariaeth yn Gymraeg, gyda dros 99% o’r arian yn mynd ar ddarpariaeth Saesneg.  

Yn ôl ein gwybodaeth, dros y dair blynedd diwethaf, allan o 90,477 prentisiaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, dim ond 354 oedd trwy gyfrwng y Gymraeg, neu lai na phedwar ym mhob mil o brentisiaethau. Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos mai 0.02% yn unig o’r un deg saith miliwn a wariwyd ar ddysgu oedolion yn y gymuned dros dair blynedd, neu £2 am bob £10,000, a ddefnyddiwyd ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg. Yn un o'r blynyddoedd, chafodd dim un geiniog ei wario o'r gyllideb ar addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.  Dros yr un cyfnod, 0.3% yn unig, neu £3 am bob £1000, o wariant ar Ddysgu Seiliedig ar Waith a ariannodd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.  

Gweler atodlen 1 am y ffigyrau manwl.    

Mae'r ffigyrau'n ysgytwol ac yn anodd iawn i'w credu. Maent yn dangos bod y Gymraeg yn cael ei thanseilio'n llwyr gan arian prif-lif Llywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd mae'r Saesneg, un o ieithoedd mwyaf pwerus y byd, yn derbyn cymhorthdal enfawr gan drethdalwyr Cymru. Mae patrymau gwariant y Llywodraeth yn lleihau defnydd y Gymraeg a'r cyfleoedd i'w defnyddio. Felly tra bod y Llywodraeth yn clustnodi symiau cymharol fach o arian i fentrau Cymraeg eu hiaith, mae effaith Cymraeg y prosiectau hynny'n cael eu tanseilio a gwrth-droi'n llwyr gan bolisïau eraill. Nid ydy Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn ffordd gydlynus felly. 

Maniffesto Byw - ymateb i argyfwng y Gymraeg 

Ym mis Rhagfyr 2012, wedi cyhoeddiad canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad, cyhoeddom ein Maniffesto Byw a alwodd am y 2 newid ariannol, ymysg degau o argymhellion eraill, er mwyn sicrhau twf yn yr iaith                    

"Adolygiad cyflawn o holl wariant y llywodraeth, gan gorff annibynnol fel Comisiynydd y Gymraeg, ac asesu perthynas y gwariant hwnnw â’r Gymraeg - sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant."  

"O ystyried y twf sydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Basgeg mewn cyfrifiadau ers 1991, dylid cynyddu’r adnoddau a roddir i hyrwyddo’r Gymraeg i lefelau’r wlad honno, sef pedair gwaith cymaint â’r gwariant presennol yng Nghymru." 

Gwasanaeth Sifil yn methu â chyflawni 

Mewn cyfarfod rhyngom a'r Prif Weinidog ym mis Chwefror 2013, fe gytunodd i gynnal yr adolygiad fel y gofynnwyd amdano uchod yn ein Maniffesto Byw. Ers hynny, rydym wedi gweld oedi rhag gweithredu gan y gwasanaeth sifil, sydd wedi creu llawer o waith papur, ond dal heb gyhoeddi yr un asesiad.   

Wedi tua 18 mis o aros am gyhoeddiad yr asesiad, a sawl addewid, ysgrifennom unwaith eto gan ofyn: 

"Mewn cyfarfod gyda ni ar Chwefror 6ed 2013, dywedoch wrthym y byddai'ch Llywodraeth yn cynnal asesiad effaith ar y Gymraeg o bob ceiniog a warir gan Lywodraeth Cymru ar draws eich holl adrannau. Pryd bydd yr asesiad yn cael ei gyhoeddi?"  

Cawsom ymateb yn datgan bod 'Asesiad effaith newidiadau’r gyllideb ar y Gymraeg a chydraddoldebau eraill' i'w gyhoeddi, ac y byddai 'Dadansoddiad Canlyniadau Gwariant: Ymarfer gwbl newydd ar gyfer 2014 ydy hwn sy’n gofyn i adrannau adnabod prif raglenni gwariant sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg o fewn eu meysydd', ond doedd dim asesiad cynhwysfawr i'w gyhoeddi yn lle dywedasont: 

"... rwy’n siŵr y byddwch yn gweld nad oes ‘cyhoeddiad’ fel allbwn i’r gwaith hwn, ond yn hytrach, proses gyllidebu’r sefydliad ydyw ...  Mae cynnydd a gwaith sylweddol wedi digwydd dros y flwyddyn diwethaf ..." 

Yn lle derbyn yr asesiad cyflawn felly, derbyniom ffurflen a fydd yn cael ei ddefnyddio gan weision sifil wrth wneud penderfyniadau ariannol. Felly, rydyn ni, drwy ychydig o geisiadau rhyddid gwybodaeth yn unig, wedi llwyddo cyhoeddi mwy na'r gwasanaeth sifil mewn 19 mis erbyn hyn.  

Rydym wedi adnabod nifer o feysydd lle mae tanfuddsoddi, galwn ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r meysydd hyn drwy gynyddu'r canran sy'n mynd at weithgareddau cyfrwng Cymraeg.  

Hefyd, dylai Comisiynydd y Gymraeg gyhoeddi asesiad cyflawn o effaith ar y Gymraeg holl wariant Llywodraeth Cymru ar draws pob adran.  

Anwybyddu'r Gynhadledd Fawr - y Llywodraeth yn anwybyddu ei ymgynghoriad ei hunan 

Adeg cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fwriad i gynnal ymgynghoriad ynghylch sefyllfa'r iaith, croesawsom y fenter, gan ddisgwyl casgliadau gwrthrychol a gweithredu arnynt. Nid dyna rydyn ni wedi ei gweld ers hynny. 

Yn ôl yr adroddiad am gasgliadau'r Gynhadledd Fawr1: 

“Un thema gyffredinol, a chwbl allweddol, a fu’n rhedeg drwy’r holl gyfraniadau [oedd yr angen] i’r Llywodraeth gynyddu ei buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg er mwyn sicrhau gweithredu effeithiol.” Tudalen 8, Iaith fyw: dweud eich dweud, Gorffennaf 2013 

Yn lle hynny, rydyn ni wedi gweld toriadau yn nghyllideb hyrwyddo'r Gymraeg a diffyg gweithredu ar y problemau ynghylch cyllidebau prif-ffrwd y Llywodraeth.                

Pergyl i Annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg 

Pryderwn yn fawr am rym ariannol Llywodraeth Cymru dros Gomisiynydd y Gymraeg, corff sydd, yn statudol, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gyfrifol am reoli Llywodraeth Cymru a'i gydymffurfiaeth â dyletswyddau iaith 

Nid yw'n bosib i'r Comisiynydd weithredu'n wrthrychol, ac yn gwbl annibynnol. A fydd y Comisiynydd yn gallu ochri â hawliau iaith y cyhoedd yn erbyn Llywodraeth sydd wedi torri ei wariant y llynedd, ac y gallai parhau i wneud toriadau pellach ar unrhyw adeg? Mae sefyllfa Comisiynydd y Gymraeg yn wahanol i nifer o Gomisiynwyr eraill, gan fod ganddi rymoedd statudol llawer iawn mwy pwerus oherwydd diffyg cydymffurfiaeth nifer o gyrff i gadw at eu dyletswyddau ers degawdau 

Gwelwyd toriad o 10% yn 2014-2015 i gyllideb Comisiynydd y llynedd. Deallwn fod y Llywodraeth yn ystyried toriadau pellach i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mewn llythyr o Ddirprwy Gyfarwyddwr y Gymraeg i'r Comisiynydd yn Ionawr 2014, sy'n cadarnhau'r toriad, dywed: "Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymofyn am drafodaethau penodol rheolaidd ar gyllideb gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn y dyfodol. " 

Dadleuom yn ystod cyfnod pasio Mesur y Gymraeg 2011 y dylid ymdrin â chyllideb y Comisiynydd yn yr un modd â'r Archwilydd Cyffredinol, corff sy'n derbyn arian yn syth o grant bloc Cymru. Credwn y dylai'r Cynulliad deddfu er mwyn sefydlu'r un system ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg yn sgil y profiad anffodus iawn dros y blynyddoedd diweddar.   

Casgliadau

Credwn felly y dylid: 

  • pedryblu'r gyllideb ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg er mwyn agosáu at lefelau buddsoddiad yng Ngwlad y Basg; 

  • gosod allan cyllideb tymor hirach ar gyfer y Gymraeg fel bod modd cynllunio'n gall ar gyfer twf yr iaith; 

  • comisiynu Comisiynydd y Gymraeg i gyhoeddi adolygiad cynhwysfawr o effaith ar y Gymraeg holl wariant Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, ac, wedi cyhoeddi'r asesiad, dylai'r Cynulliad weithredu ar newidiadau i'r gyllideb er mwyn sicrhau bod cyfran deg o gyllidebau prif-ffrwd y Llywodraeth yn cael eu buddsoddi yn y Gymraeg; 

  • deddfu dros gyllideb sefydlog a llif ariannol annibynnol ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg er mwyn diogelu annibyniaeth y swydd. 

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

Medi 2014 

Atodlen 1 - Enghreifftiau o effaith negyddol ar y Gymraeg o fewn gwariant prif-ffrwd  

(a) Mae cyfanswm y gwariant a gyfrifwyd ar gyfer gweithgareddau  Dysgu Seiliedig ar Waith (WBL) a ddarparwyd drwy gyfrwng y  Saesneg, y Gymraeg ac yn ddwyieithog, ar gyfer y cyfnod 2009/10 i 2011/12 i’w weld isod: 

Blwyddyn y  

Contract 

Cyfanswm y Gwariant  

ar yr holl raglenni  

Dysgu  

Seiliedig ar Waith 

Gwariant a gyfrifwyd  

ar gyfer gweithgareddau  

Dysgu Seiliedig ar Waith  

a ddarparwyd drwy  

gyfrwng y Saesneg 

Gwariant a gyfrifwyd  

ar gyfer gweithgareddau Dysgu Seiliedig ar Waith  

a ddarparwyd drwy  

gyfrwng y Gymraeg 

Gwariant a gyfrifwyd  

ar gyfer gweithgareddau  

Dysgu Seiliedig ar  

Waith a ddarparwyd  

yn ddwyieithog 

2009/10 

£119,579,654.00 

£116,694,350.71 

£188,925.32 

£2,696,377.97 

2010/11 

£115,545,759.00 

£111,387,106.65 

£117,708.31 

£4,040,944.04 

2011/12 

£109,373,427.00 

£105,413,959.26 

£412,196.21 

£3,547,271.53 

 

(b) Mae cyfanswm y gwariant a gyfrifwyd ar gyfer gweithgareddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) a ddarparwyd drwy gyfrwng y Saesneg, y Gymraeg ac yn ddwyieithog, ar gyfer y cyfnod 2009/10 i 2011/12, yn cael ei ddangos yn y tabl canlynol: 

Blwyddyn y  

Contract 

Cyfanswm y Gwariant ar weithgareddau Dysgu  

Oedolion yn y Gymuned 

Cyfanswm y Gwariant  

a gyfrifwyd ar  

weithgareddau Dysgu  

Oedolion yn y Gymuned  

a ddarparwyd drwy  

gyfrwng y Saesneg 

Cyfanswm y Gwariant  

a gyfrifwyd ar  

weithgareddau Dysgu  

Oedolion yn y Gymuned  

a ddarparwyd drwy  

gyfrwng y Gymraeg 

Cyfanswm y Gwariant  

a gyfrifwyd ar weithgareddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned  

a ddarparwyd  

yn ddwyieithog 

2009/10 

£5,684,838.00 

£5,683,894.34 

£943.66 

£0.00 

2010/11 

£5,497,838.00 

£5,492,697.56 

£0.00 

£5,140.44 

2011/12 

£5,684,838.00 

£5,680,558.24 

£2,743.94 

£1,535.82 

 

(c) Mae cyfanswm y gwariant a gyfrifwyd ar gyfer rhaglenni prentisiaeth Dysgu Seiliedig ar Waith (WBL) a ddarparwyd drwy gyfrwng y        Saesneg, y Gymraeg ac yn ddwyieithog, ar gyfer y cyfnod 2009/10 i       2011/12 yn cael ei ddangos isod: 

Blwyddyn  

y Contract 

Cyfanswm y  

Gwariant ar  

Brentisiaethau 

Cyfanswm y Gwariant ar  

Brentisiaethau a ddarparwyd  

drwy gyfrwng y Saesneg 

Cyfanswm y Gwariant ar Brentisiaethau a ddarparwyd  

drwy gyfrwng y Gymraeg 

Cyfanswm y Gwariant  

ar Brentisiaethau  

a ddarparwyd  

yn ddwyieithog 

2009/10 

£78,818,839.95 

£76,917,042.69 

£124,526.83 

£1,777,270.43 

2010/11 

£76,787,033.82 

£74,023,361.82 

£78,224.18 

£2,685,447.82 

2011/12 

£73,358,151.02 

£70,702,485.56 

£276,465.25 

£2,379,200.21 

 

(d) Mae'r tabl isod yn dangos nifer y prentisiaid a ymgymerodd â’u fframwaith prentisiaeth drwy gyfrwng y Saesneg, y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Nodwyd darpariaeth cyfrwng Cymraeg os oes o leiaf un cymhwyster fframwaith llawn wedi cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Blwyddyn y Contract 

Cyfanswm y Prentisiaid 

Prentisiaid 

Cyfrwng Saesneg 

Prentisiaid 

Cyfrwng Cymraeg 

Prentisiaid Dwyieithog 

2009/10 

32,550 

31,635 

97 

818 

2010/11 

25,517 

24,320 

85 

1,112 

2011/12 

35,928 

34,522 

172 

1,234