Dileu Cymraeg Ail Iaith – oedi tan 2026

Annwyl Kirsty Williams AC 

 

Ysgrifennwn i godi pryderon difrifol ynghylch yr awgrym yn y ddogfen “Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl 2017-21” na fydd disgyblion yn sefyll y cymhwyster Cymraeg cyfun newydd (a fydd yn disodli Cymraeg Ail Iaith) tan 2026 ar y cynharaf.  

Mae hynny’n fater difrifol iawn gan y byddai'n golygu bod cenhedlaeth arall o blant yn cael eu gadael ar ôl gyda degau o filoedd o blant ychwanegol yn cael eu hamddifadu o ruglder yn Gymraeg.  

Ar 28 Medi 2016, yn siambr y Cynulliad Cenedlaethol, gwnaeth Gweinidog y Gymraeg ymrwymiad y byddai un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl yn disodli Cymraeg Ail Iaith erbyn 2021:  

Cwestiwn Siân Gwenllïan AC: “... A allech chi gadarnhau’r hyn a gafodd ei adrodd yn y wasg wedi’r cyfweliad ar ‘Newyddion 9’, sef y byddwch chi yn disodli’r cymhwyster Cymraeg ail iaith gydag un cymhwyster Cymraeg ac mai hwnnw fydd pob disgybl yn ei ddefnyddio erbyn 2021?”  

Alun Davies AC: “... Mi fydd y cymhwyster Cymraeg ail iaith yn cael ei ddisodli yn y ffordd yr ydych chi wedi’i awgrymu yn 2021, ac mi fyddwn ni’n edrych ar sut yr ydym yn mynd i ddatblygu ‘qualifications’ gwahanol ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau o 2021.”  

Ac mewn llythyr atom ar 12fed Hydref 2016, dywedodd y Gweinidog y byddai cynllun gweithredu yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2016 yn esbonio sut y bydd y Llywodraeth yn disodli’r cymwysterau Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl. Rydym eto i weld cynllun o'r fath.   

Ar dudalen 20 y ddogfen 'cenhadaeth ein cenedl', dywedir y bydd 'addysgu’r cymwysterau TGAU newydd am y tro cyntaf yn dechrau' yn 2024/5, sy'n awgrymu bydd rhaid aros tan 2026/27 nes bod un cymhwyster Cymraeg yn cael ei sefyll gan bob disgybl.    

Mae'r ddogfen felly yn groes i ymrwymiad Gweinidog y Gymraeg a wnaed ym mis Medi 2016 y byddai un cymhwyster Cymraeg newydd yn disodli Cymraeg ail iaith erbyn 2021.   

Yn ogystal, mae'n groes i argymhelliad yr Athro Sioned Davies yn ei hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Medi 2013 y dylai Cymraeg Ail Iaith gael ei ddiddymu o fewn pum mlynedd fan hwyraf, sef erbyn 2018. Yn wir, yn ôl amserlen bresennol y Llywodraeth, bydd disodli Cymraeg Ail Iaith yn digwydd chwe blynedd yn hwyrach nag amserlen Sioned Davies. Credwn ei bod yn bwysig eich atgoffa bod yr adroddiad hwnnw a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru wedi dweud 

“Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. … mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro … Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”    

Un iaith i bawb: adolygiad o Gymraeg ail iaith  - mis Medi 2013  

Hoffem wybod sut mae cynllun i beidio â disodli'r cymhwyster tan 2024/5  sef 11 mlynedd ar ôl cyhoeddi adroddiad Sioned Davies  yn newid cyfeiriad fel 'mater o frys'.   

Mae’r amserlen yn hollol annerbyniol i ni fel mudiad, ac yn wir mae'n gwneud ffars o amserlen adroddiad Sioned Davies. 

Derbyniwn yn llwyr fod angen datblygu'r cwricwlwm newydd yn iawn, yn enwedig ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad sy'n gwbl newydd i'r gyfundrefn addysg. Fodd bynnag, mae hanfodion dysgu ac addysgu iaith yn egwyddorion sydd eisoes yn bodoli. Yr hyn sy’n chwyldroadol ym maes y Gymraeg yw dileu Cymraeg ail iaith, sy'n golygu codi safonau'n sylweddol a pheidio â pharhau i amddifadu bron i 80% o blant Cymru o'r hawl i fyw yn Gymraeg.    

Nodwn y bydd y cwricwlwm newydd ar gael i arbrofi gydag ef yn 2019 ac y bydd amlinelliad o gamau cynnydd disgwyliedig disgyblion ar gael ar yr un adeg. Galwn arnoch felly i gyhoeddi manylion y TGAU Cymraeg cyfun newydd yn 2019 yn ogystal fel eu bod yn agored i ysgolion eu defnyddio. 

Fel arall, pryderwn am yr amserlen yn y ddogfen ac am oblygiadau hynny i'r rhan helaeth o bobl ifanc Cymru sy’n cael eu gadael i lawr bob dydd gan y system bresennol. Byddai’n hollol annerbyniol pe bai disgyblion yn gorfod aros tan ganol y degawd nesaf nes eu bod yn cael cyfiawnder a chydraddoldeb.  

Ni fydd cyhoeddi manylion y TGAU a'r arholiad Cymraeg newydd hynny’n peri problemau i’r rhan fwyaf o ysgolion. Ac, am gyfnod pontio dros dro tan 2021,  gallai'r cymhwyster cyfun newydd barhau ochr yn ochr â'r hen gymhwyster. Gallai'r Llywodraeth gynnig cymhelliant i siroedd, ysgolion ac eraill ddilyn y cymhwyster newydd o 2019 ymlaen yn lle ei orfodi o'r cychwyn cyntaf. Hoffem ofyn i chi roi cyfarwyddyd clir i CBAC a Chymwysterau Cymru i ddatblygu'r cymhwyster newydd erbyn 2019.  

Yn olaf, pryderwn yn ogystal nad oes cyfarwyddyd clir na chadarn gan Lywodraeth Cymru i Gyngor y Gweithlu Addysg i gynllunio hyfforddiant athrawon er mwyn sicrhau cyflawni ar ymrwymiadau'r Llywodraeth (i) ddisodli Cymraeg ail iaith gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl erbyn 2021; a (ii) gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rydym wedi datgan o'r blaen mai dim ond drwy osod targedau, neu isafsymiau, clir ar ddarparwyr hyfforddiant cychwynnol i athrawon i gynhyrchu niferoedd cynyddol o athrawon sy'n dysgu drwy'r Gymraeg y gwelir y cynnydd sydd ei angen er mwyn cyrraedd amcanion cenedlaethol y Llywodraeth.  

 

Yr eiddoch yn gywir, 

  

Toni Schiavone 

Cadeirydd, Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith 

 

copi at: 

Gweinidog y Gymraeg Alun Davies AC, Yr Athro Sioned Davies, Darren Millar AC, Llyr Huws Gruffydd ACSiân Gwenllïan AC, Suzy Davies AC, Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Comisiynydd y Gymraeg