Drafft Argymhellion i Weithgor Iaith Powys
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Rhanbarth Powys a Changen Maldwyn
Rhagair
Yn wyneb Cyfrifiad 2011 a’r cwymp yn nifer y siaradwyr a chymunedau Cymraeg yn y sir cyhoeddir drafft ymgynghorol o argymhellion Cymdeithas yr Iaith yn ardal Powys am sut i fynd i'r afael â'r argyfwng hwnnw. Rydyn ni'n croesawu sylwadau ar y cynnwys.
Credwn fod cyfrifoldeb ar y cyngor i roi arweiniad drwy ei weithgareddau ei hun, ac i bartneriaid a chyrff eraill mewn sefyllfaoedd lle nad yw’n meddu ar y grym uniongyrchol i weithredu.
Yn y cyfamser felly rydyn ni'n galw ar Gyngor Powys i gydnabod yr argyfwng sydd yn wynebu'r iaith a'n cymunedau, ac ymhellach a bod cyfle ac angen gweithredu ar frys er mwyn rhwystro dirywiad pellach.
Cangen Maldwyn, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Gorffennaf 2015
1.Bod y Cyngor Sir yn datgan yn glir pwysigrwydd y Gymraeg fel rhan annatod o dreftadaeth hanesyddol Powys
2.Bod y Cyngor yn datgan yn glir fod y Gymraeg yn fater llorweddol sy’n berthnasol i bob agwedd o weithgarwch yr awdurdod a’i phartneriaid
3.Bod yr iaith yn perthyn i bob rhan o’r Sir
4.Bod yr iaith yn fater o gynaladwyedd sy’n cydblethu efo egwyddorion cynaladwyedd cymunedol, economaidd a chymdeithasol
5.Bod yr iaith yn ‘sgil ac yn adnodd allweddol i ddinasyddion y dyfodol
6.Bod y Cyngor yn pryderu am y gostyngiad a welwyd yng Nghyfrifiad 2011 ac yn derbyn yr angen am weithredu cyflawn i wrthsefyll y duedd hynny yn y dyfodol
7.Bod Cyngor Powys yn ‘sgil cydnabod pwysigrwydd y cymunedau traddodiadol Cymraeg efo dros 25% o’r boblogaeth yn siarad yr iaith, yn dynodi statws arbennig o sensitifrwydd ieithyddol i’r ardaloedd hynny
8.Bod y Cyngor Sir yn derbyn bod angen gweithredu’n ddwys yn y cymunedau hynny i wrthsefyll y tueddiadau diweddar ac yn gweithredu ar sail hynny drwy gynlluniau gweithredu iaith leol
Iaith Fewnol
1.Bod y Cyngor yn sicrhau bod canran y siaradwyr Cymraeg yn y Cyngor o leiaf 20% o’r gweithlu
2.Bod y Cyngor yn sicrhau bod holl staff y Cyngor sy’n gwasanaethu'r ardaloedd traddodiadol Cymraeg yn medru’r Gymraeg
3.Bod y Cyngor, os nad yw’n medru darparu gwasanaethau Cymraeg yn yr ardaloedd hynny yn cael y gwasanaeth o Wynedd ac yn llunio strategaeth i’r perwyl hynny
Addysg
1.Bod y Cyngor Sir yn sefydlu Ysgol Bro Hyddgen yn Ysgol 2A (Ysgol Gymraeg)
2.Bod y Cyngor Sir yn sefydlu Ysgol Uwchradd Gymraeg newydd i wasanaethu Gogledd Ddwyrain y Sir.
3.Bod y Cyngor Sir yn sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg yn y Trallwng
4.Bod y Cyngor Sir yn symud pob un ysgol dwy ffrwd ym Maldwyn ar hyd y continwwm ieithyddol er mwyn cynyddu'r niferoedd i’r ysgol uwchradd newydd cyn gynted â phosib
5.Bod y Cyngor Sir yn gwella darpariaeth addysg Gymraeg yn ardal Llanidloes drwy sefydlu darpariaeth ffrwd newydd yn yr Ysgol Gynradd
6.Bod y Cyngor Sir yn sefydlu canolfan i hwyrddyfodiaid cynradd ac uwchradd yn ardal Llanfair Caereinion
7.Yn sgil y twf poblogaeth yn ardal Drenewydd bod y Cyngor Sir ddim yn bodloni ar un ysgol gynradd Gymraeg yno ond bod yn barod i ddatblygu un arall ymhen 5 mlynedd
8.Bod Cyngor Sir Powys yn cydweithio’n agos gyda’r Mudiad Meithrin a darparwyr gofal plant preifat i sicrhau bod addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg ar gael yn hwylus ym mhob rhan o’r sir a bod dilyniant cadarn yn digwydd i addysg gynradd cyfrwng Cymraeg;
9.Bod y Cyngor Sir a’r Mudiad Meithrin yn cydweithio’n agos gyda chynlluniau megis Dechrau’n Deg, sy’n rhoi cefnogaeth i rieni mewn cymunedau difreintiedig, i sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle priodol yn y gweithgareddau a ddarperir ganddynt ar draws y sir;
10.Bod y Cyngor Sir efo Menter Brycheiniog a Menter Maldwyn yn cynnal ymgyrch marchnata dwys manteision addysg Gymraeg yn arbennig yn ardal Llandrindod, Llanfair ym Muallt ac Aberhonddu er mwyn parhau efo’r cynnydd a fu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn ardal Gogledd Ddwyrain Maldwyn
11.Bod y Cyngor Sir yn gweithio efo Mudiad Meithrin i sicrhau bodolaeth lleoliadau blynyddoedd cynnar 3oed yn ardaloedd Llanandras, Gwernyfed a Crughywel;
12.Bod y Cyngor Sir yn cynllunio i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Llanandras, Gwernyfed a Crughywel drwy osod prosesau yn eu lle i sefydlu ffrydiau Cymraeg yno ac felly yn dechrau llenwi’r bwlch daearyddol sylweddol yn y ddarpariaeth a geir ar hyn o bryd;
13.Bod y Cyngor Sir, yn wyneb y ffaith bod Ysgol Gymraeg Y Glowyr yn llawn, yn datblygu ysgolion eraill cylch Ystradgynlais ar hyd y continwwm ieithyddol ar fyrder efo’r nod o gynyddu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y cylch.
14.Bod y Cyngor Sir, mewn cydweithrediad a Menter Brycheiniog, Menter Maldwyn a Rhieni dros Addysg Gymraeg, yn cynnal ymgyrch farchnata barhaus ar draws y sir i hyrwyddo addysg Gymraeg a manteision dwyieithrwydd i rieni a disgyblion;
15.Bod y Cyngor Sir yn ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu cynllun ail-gyfle yn Ysgol Llanfair ym Muallt gan fabwysiadu’r Cynllun Trochi sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin;
16.Bod y Cyngor Sir, mewn cydweithrediad a’r mentrau iaith yn cynnal cyfarfodydd cyson gyda rhieni ynglŷn â manteision addysg Gymraeg;
17.Bod y Cyngor Sir yn rhoi arweiniad i sicrhau bod ysgolion uwchradd Saesneg y sir yn symud ar hyd continwwm iaith a’u bod yn creu ethos sy’n annog parch tuag at y Gymraeg;
18.Bod y Cyngor Sir yn darparu sesiwn hyfforddiant i lywodraethwyr cynradd ac uwchradd ar fanteision addysg Gymraeg a’r rhesymau addysgiadol, economaidd a chymunedol pam y dylid ehangu’r ddarpariaeth ar draws y sir;
19.Bod y Cyngor Sir yn mabwysiadu Siarter Iaith Gymraeg Cyngor Gwynedd (sy’n annog plant i siarad Cymraeg yn yr ysgol ac yn gymunedol) a’i addasu at ofynion ffrydiau ac ysgolion Cymraeg Powys;
20.Bod Adran Addysg y Cyngor Sir yn annog pob ysgol gynradd ac uwchradd i sefydlu Cyngor Iaith (tebyg i’r Cyngor Eco) er mwyn hyrwyddo gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol a chodi ymwybyddiaeth o’r iaith ymhlith siaradwyr Cymraeg a dysgwyr;
21.Bod yr Urdd a Menter Iaith Brycheiniog yn ceisio nawdd i benodi swyddog ieuenctid i weithio yn Ysgol Llanfair ym Muallt (tebyg i’r datblygiad diweddar yn Ysgol Dyffryn Conwy) i hybu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol o fewn yr ysgol ac ar lefel gymunedol;
22.Bod Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor Sir yn cydweithio a’r Mentrau Iaith i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc;
23.Bod Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn darparu cyfleoedd i blant a theuluoedd i fwynhau gweithgareddau hybu darllen drwy gyfrwng y Gymraeg;
24.Bod Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif-ffrydio ar draws holl wasanaethau’r partneriaid a bod darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc i ddefnyddio’r iaith yn ganolog i’w strategaeth
25.Bod y ganolfan awyr agored ym Mhenfforddlas sydd ym meddiant Powys, yn cael ei drosglwyddo i fenter gymdeithasol fydd yn gweithredu’n gyfan gwbwl ddwyieithog.
Hamdden a Chwaraeon
1.Bod y Cyngor Sir yn cynllunio a darparu mwy o wasanaethau hamdden, megis gwersi nofio, drwy gyfrwng y Gymraeg;
2.Bod y Cyngor Sir yn sicrhau bod staff sy’n medru siarad Cymraeg yn rhugl ar gael yn y canolfannau hamdden lle ceir ysgolion/ffrydiau Cymraeg;
3.Bod yr Urdd yn penodi swyddog datblygu i Dde Powys yn fuan iawn yn lle dibynnu ar swyddog Gogledd Powys i ‘neud pob dim
4.Bod y Cyngor Sir yn cydweithio a’r Urdd i ddarparu mwy o gyfleoedd hamdden a chwaraeon yn Gymraeg i blant a phobl ifanc;
5.Bod y Cyngor Sir yn cydweithio a’r Urdd i hyfforddi mwy o hyfforddwyr chwaraeon cyfrwng Cymraeg;
6.Bod y Cyngor Sir, pan drosglwyddir y canolfannau hamdden i ymddiriedolaeth hyd fraich, yn sicrhau ar ffurf contract, bod darpariaeth lawn o wasanaethau Cymraeg yn cael eu darparu;
7.Bod y Cyngor Sir a’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion yn cefnogi staff y gwasanaeth hamdden i ddysgu Cymraeg er mwyn medru cynnig gwasanaeth dwyieithog cyflawn;
8.Bod y ddwy Fenter yn gweithio gyda chlybiau chwaraeon lleol i’w cefnogi i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u darpariaeth;
9.Bod Powys yn cefnogi Menter Brycheiniog i weithredu'r pecyn argymhellion ar gyfer y sector awyr agored ym Mhowys mewn perthynas ag ysgolion Cymraeg y De, sef ffrwyth gwaith ymchwil a wnaed yn 2014
Gweithgareddau Cymunedol
1.Bod yr Urdd a Menter Brycheiniog yn darparu cyfleoedd cymdeithasol i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i oriau ysgol;
2.Bod Powys efo’r ddwy Fenter yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth iaith yng nghlybiau ieuenctid y Cyngor Sir;
3.Bod y ddwy Fenter yn cydweithio gydag S4C i adnabod disgyblion ar draws yr ystod oedran fyddai’n gallu gweithredu fel ‘hyrwyddwyr y sianel’ ac i rannu gwybodaeth ymhlith eu cyfoedion drwy wahanol ddulliau cyfathrebu am gyfresi neu raglenni penodol;
4.Bod y Mentrau yn cydweithio efo Radio Cymru i ddatblygu cynllun hyrwyddo’r orsaf ar gyfer pobl ifanc gan gydweithio efo ee Ysgol Gwynllyw ar becyn o weithgareddau;
5.Bod Powys yn datblygu prosiect ‘Ail-gydiwch yn eich Cymraeg’ i gyn disgyblion Ysgol Llanfair ym Muallt ac Ystalyfera fel bo modd iddynt gadw mewn cysylltiad â’r iaith drwy weithgareddau cymdeithasol neu drwy’r
cyfryngau cymdeithasol;
6.Bod Powys yn datblygu Canolfan Gymraeg yn Llandrindod fydd yn ffenest siop i’r Fenter ac yn ffocws i Gymraeg i Oedolion ac yn fodd i godi proffil y Gymraeg yn yr ardal;
7.Bod y Fenter yn datblygu presenoldeb stryd fawr ynghanol Ystradgynlais gan ddarparu ystod o adnoddau a bwrlwm newydd;
8.Bod y Fenter yn cydweithio’n agos gyda’r Mudiad Meithrin i ddarparu cyfleoedd cymdeithasol i deuluoedd a phlant er mwyn cryfhau’r defnydd cymunedol o’r iaith Gymraeg;
9.Bod Powys yn cefnogi ymdrechion y Fenter i wyntyllu efo Cymdeithas Amaethyddol Cymru'r posibilrwydd i drefnu Gŵyl ar gyfer plant a phobl ifanc ar safle’r sioe gan gydweithio efo’r Mudiad Meithrin, Urdd, S4C, ysgolion Cymraeg er mwyn cael bwrlwm i’r teulu trwy’r Gymraeg.
10.Bod Powys yn cefnogi gwahodd Eisteddfod yr Urdd i Bowys, o bosib i’r safle sioe yn Llanelwedd neu i ardal Drenewydd
11.Bod Powys a’r ddwy Fenter yn cydweithio efo’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion i adnabod adnoddau i gyflogi trefnydd gweithgareddau cymunedol cyson ar gyfer galluogi dysgwyr i ymarfer a datblygu eu sgiliau ieithyddol y tu allan i gyd-destun dosbarth ffurfiol;
12.Bod Cyngor Powys yn cefnogi/sefydlu canolfan Cymraeg ynghanol Drenewydd fydd yn cyplysu'r mudiadau Cymraeg efo gofod i Oedolion ddysgu’r iaith, gofod i rwydweithio/cymdeithasu a man i bobl ifanc. Hynny yw creu peu iaith newydd amlwg.
13.Bod Cyngor Powys yn cefnogi sefydlu canolfan iaith ym Machynlleth fydd yn adnodd i’r ardal gyfan efo’r nod o gynyddu niferoedd sy’n dod yn rhugl.
14.Bod y Cyngor yn cefnogi prynu safle’r Eisteddfod Genedlaethol 2015 fel bo modd ei ddefnyddio yn y dyfodol ac yn sbardun i egni newydd Cymraeg yn yr ardal.
15.Bod y Cyngor yn cefnogi creu pecyn ‘Croeso’ i fewnfudwyr fydd yn codi ymwybyddiaeth am y Gymraeg a’r dreftadaeth unigryw
16.Bod y Cyngor yn cefnogi creu rhwydwaith o hwyluswyr bro yn yr ardaloedd traddodiadol Cymraeg i godi ymwybyddiaeth i fewnfudwyr am y Gymraeg, i sbarduno gweithgarwch ac annog dysgu’r iaith
Y Sector Wirfoddol
1.Bod Powys yn cydweithio’n agos gyda’r Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Sirol a’r ddwy fenter i ddatblygu marc safon i fudiadau gwirfoddol sy’n adlewyrchu eu gallu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Hyn i fod yn amod iddynt fedru cael unrhyw gytundebau oddi wrth y Cyngor Sir.
2.Bod y ddwy Fenter yn trefnu sesiynau ‘Ymwybyddiaeth Iaith’ i staff a gwirfoddolwyr yn y sector wirfoddol;
3.Bod Cyngor Powys yn mynnu bod darparwyr gwasanaethau ar eu rhan yn gweithredu’n gyfangwbwl ddwyieithog neu atal eu cytundebau
Iaith ac Economi
1.Bod y Cyngor Sir yn sicrhau bod datblygiad a chynaladwyedd yr iaith Gymraeg yn cael ystyriaeth lawn wrth asesu prosiectau newydd bydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer arian o’r Cronfeydd Ewropeaidd, Y Cynllun Datblygu Gwledig ac unrhyw ffynonellau datblygu economaidd a chymunedol eraill;
2.Bod y Cyngor yn cefnogi prosiect trwy gynllun Arwain/LEADER Powys i efelychu hyn a wnaed yng Ngwynedd,’Llwyddo yng Ngwynedd’ a thrwy hynny cefnogi chwe chymuned i gynnal awdit o’u hasedau ffisegol, cymunedol ac ieithyddol fydd yn sail i weithredu dwys o blaid y Gymraeg yn y cymunedau hynny. Argymhellir y cymunedau canlynol:
1. Pen-y-bont-fawr, Llangynog a Llanrhaeadr;
2. Foel, Llangadfan a Llanerfyl;
3. Ardal Glantwymyn;
4. Llanbrynmair;
5. Ardal Pontsenni
3.Bod y Cyngor yn cefnogi gweithredu rhaglen waith integreiddedig lleol yn yr ardaloedd uchod o blaid y Gymraeg drwy gael swyddog maes ym Mro Ddyfi, Dyffryn Banw a Dyffryn Tanat trwy’r RDP
4.Bod y Cyngor yn hyrwyddo’r Gymraeg fel sgil ac yn trefnu mynychu ffeiriau cyflogaeth mewn ysgolion neu ddigwyddiadau cyffelyb i dynnu sylw at yr angen am weithlu dwyieithog ym Mhowys efo ee'R Cyngor Sir, Awdurdod Iechyd, Llywodraeth Cymru, PAVO, sector wirfoddol;
5.Bod Powys yn cefnogi datblygiad cynllun broceriaith, sef matsio unigolion ar gyfer swyddi posib lle mae’r Gymraeg yn sgil;
6.Bod y Fenter yn hoelio sylw ar Ystradgynlais fel y man cyntaf i fabwysiadu delwedd ddwyieithog ac annog staff busnesau i gyfarch cwsmeriaid yn Gymraeg, gan gynnwys dysgwyr;
7.Bod Cyngor Powys yn sefydlu cronfa gwerth 10k y flwyddyn i weithredu pecyn ‘Naws am Le’ fydd yn fodd i godi proffil yr iaith ar arwyddion busnesau ac ati.
8.Bod y Cyngor yn cefnogi’r egwyddor o sefydlu ‘Deorfa Wledig’ i hybu mentergarwch siaradwyr Cymraeg gan efelychu a dysgu gwersi o Wlad y Basg ac Iwerddon. Sefydlir adnodd ym Machynlleth ond yn gwasanaethu Gogledd Maldwyn i gyd.
9.Bod y Cyngor yn cefnogi sefydlu cynllun ‘Llwyddo’n Lleol’ ym Mhowys i gyd-fynd a’r Ddeorfa Wledig
10.Bod y Cyngor yn cefnogi ymdrechion i sefydlu canolfan preswyl i ddysgwyr Cymraeg yn y sir i alluogi dysgwyr yr iaith gael mynediad at yr iaith yn ddwys a chynyddu’r niferoedd sy’n dod yn rhugl.
11.Bod y Cyngor yn cynorthwyo i sefydlu cronfa o 20k y flwyddyn i noddi cost cyrsiau dwys CIO i drigolion Powys
12.Bod y Cyngor yn cefnogi sefydlu canolfan cyswllt ‘Galw Cymru’ ym Mhowys i alluogi mudiadau trydydd sector Powys weithredu yn unol â safonau'r Comisiynydd Iaith ynghyd a chreu swyddi.
Cynllunio
1.Bod y Cyngor yn comisiynu gwaith ymchwil i weld effaith datblygiadau tai newydd ar y cymunedau traddodiadol Cymraeg yn ystod y Cynllun Datblygu Lleol diwethaf
2.Bod y Cyngor o dderbyn sensitifrwydd ieithyddol y cymunedau traddodiadol Cymraeg yn cyfyngu ar ddatblygiadau tai newydd yn yr ardaloedd hynny am ddegawd hyd fydd effaith newidiadau'r ddegawd flaenorol wedi setlo
3.Bod y Cyngor yn derbyn yr egwyddor o angen lleol yn sail cyn caniatáu unrhyw ddatblygiadau yn yr ardaloedd hynny
4.Bod y Cyngor yn rhoi system asesu annibynnol mewn lle ar gyfer unrhyw ddatblygiadau i weld yr effaith ar y Gymraeg. Dylid penodi cwmni arbenigol yn y maes ee Iaith Cyf, i lunio adroddiadau perthnasol.
Cyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith – Cangen Maldwyn
@cymdeithas / facebook.com/cymdeithasmaldwyn / post@cymdeithas.org / 01970 624501