Eithriadau i bremiwm y Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi yng Nghymru

C1 A ddylai eiddo Dosbarth F gael ei eithrio rhag y premiwm am 12 mis ar ôl i brofiant neu lythyrau gweinyddu gael eu rhoi?

Dylai.

C2 A ddylai Anecs sydd wedi ei ddodrefnu ac sy’n cael ei drin fel rhan o’r brif annedd gael ei eithrio rhag premiwm y Dreth Gyngor ar ailgartrefi?

Dylai, ond os bydd defnydd o'r anecs yn newid, dylai'r eithriad ddod i ben.

C3 Ydych chi'n meddwl na ddylai anecs, sy'n cael ei osod fel llety tymor byr, gael ei eithrio rhag y premiwm?

Ni ddylai anecs sy'n cael ei osod fel llety tymor byr gael ei eithrio rhag y premiwm (oni bai ei fod  yn agored i dreth annomestig oherwydd ei fod yn cael rhentu am 70 noson neu ragor y flwyddyn).

C4 Oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch cymhwyso a gweinyddu eithriad o’r fath?

Mae'n bosib y bydd rhaid gwirio rhai anheddau  i wneud penderfyniad ar sut maent yn cael eu defnyddio.  Fodd bynnag, dylai fod yn bosib gwirio p'un a yw anecs yn cael ei osod fel llety tymor byr ar sail fasnachol yn yr un modd â bythynnod gwyliau a fflaatiau gwyliau.

C5. A ddylai perchnogion eiddo sydd wrthi’n cael ei farchnata ar gyfer ei werthu neu ei osod gael eu heithrio rhag premiwm y Dreth Gyngor ar ail gartrefi?

Dylai, os bydd modd iddynt ddangos tystiolaeth briodol.

C6. Os felly, pa dystiolaeth y dylid gofyn i berchnogion ei dangos i brofi bod eu heiddo wrthi’n cael ei farchnata ar gyfer ei werthu neu ei osod?

Dylid gofyn am:

  • Tystiolaeth fod yr eiddo wrthi’n cael ei farchnata gan asiant;
  • Tystiolaeth fod yr eiddo wrthi’n cael ei farchnata gan wefan gwerthu  neu osod eiddo;
  • Tystiolaeth fod yr eiddo yn cael ei hysbysebu'n lleol (e.e. hysbyseb mewn papur newydd lleol, arwydd 'Ar Werth' neu 'Ar Osod' y tu allan i'r eiddo);
  • Tystiolaeth, os yw'r eiddo ar osod, ei fod ar osod fel llety tymor hir a bydd yn bosib i'r tenant breswylio yn yr eiddo am 12 mis o bob blwyddyn (h.y. ni fydd disgwyl i'r tenant adael yr eiddo am gyfnod oherwydd bod y perchenog am ei ddefnyddio am gyfnod byr o amser, naill ai'n achlysurol neu'n rheolaidd).
  • Tystiolaeth fod yr eiddo ar werth/ar osod am bris sy'n rhesymol i'r ardal; 
  • Tystiolaeth fod yr eiddo wedi cael ei werthu’n ddiweddar yn amodol ar  gontract neu ei rentu yn amodol ar gytundeb tenantiaeth ond ei fod yn dal yn wag oherwydd bod y cytundeb gwerthu neu rentu yn cymryd amser i’w gwblhau am ei fod yn rhan o gadwyn.

C7. Ydych chi’n meddwl bod eithriad rhag y premiwm am 2 flynedd i eiddo sydd wrthi’n cael ei farchnata ar gyfer ei werthu neu ei osod yn gyfnod rhesymol i alluogi’r perchnogion i adfer defnydd yr eiddo?

Dylai eithriad rhag y premiwm bara am 12 mis ar ôl i'r eiddo gael ei roi ar werth/ar osod, yn yr un modd ag eiddo Dosbarth F.  Nid oes rheswm pam y byddai'n cymryd rhagor o amser i osod neu werthu eiddo sydd wedi bod yn ail gartref nag eiddo a oedd yn perthyn i rywun sydd wedi marw.

C8. A fyddai’n fwy priodol rhoi arweiniad i Awdurdodau Lleol ynglŷn â chymhwyso’r eithriad hwn yn hytrach na gosod ei gymhwyso i mewn yn y ddeddfwriaeth?

Dylai Awdurdodau Lleol fod â'r gallu i godi'r premiwm llawn ar ail gartref sydd ar werth/ar osod os nad oes tystiolaeth ddigonol bod y perchenog wrthi'n ceisio gwerthu neu osod yr eiddo.  Fodd bynnag, dylid gosod hyn yn y ddeddfwriaeth er mwyn rhoi grym statudol i benderfyniadau i beidio ag eithrio rhai anneddau rhag y premiwm.

 C9 A ddylai perchnogion ail gartrefi, y mae eu prif gartref yn annedd gysylltiedig â’u gwaith, gael eu heithrio rhag premiwm y Dreth Gyngor?

Ni ddylai perchnogion ail gartrefi, y mae eu prif gartref yn annedd gysylltiedig â’u gwaith, gael eu heithrio rhag premiwm y Dreth Gyngor oni bai nad oes modd iddynt breswylio yn yr annedd gysylltiedig â'u gwaith am 12 mis o'r flwyddyn, neu nid oes modd i bartner a/neu deulu'r perchenog breswylio gyda hi/fe yn yr annedd gysylltiedig â'i (g)waith ac felly, mae'r partner/teulu yn preswylio yn yr ail gartref am 12 mis o'r flwyddyn.

C10 Pa dystiolaeth y dylai perchnogion ail gartrefi orfod ei darparu i brofi eu bod yn byw mewn anheddau cysylltiedig â’u gwaith?

Dylid darparu tystiolaeth gan y cyflogwr bod perchenog yr ail gartref yn cael ei (d)darparu gydag annedd fel rhan o'i swydd, a bod disgwyl iddo/i breswylio yn yr annedd honno tra ei fod/ei bod yn dal y swydd.

C11 Ydych chi'n meddwl na ddylai'r eithriad gynnwys ond pobl yr ystyrir eu bod yn byw mewn llety cysylltiedig â’u gwaith?

Ni ddylid eithrio pobl sy'n byw mewn llety cysylltiedig â gwaith eu partner/plant neu aelod arall o'r teulu.

C12 Ydych chi'n meddwl bod angen eithriad ychwanegol i sicrhau bod ail gartrefi Gweinidogion yr Efengyl wedi eu heithrio rhag y premiwm?

Nac ydyn, oni bai nad oes modd iddynt breswylio yn llety'r eglwys/capel am 12 mis o'r flwyddyn, neu nid oes modd i bartner a/neu deulu'r perchenog breswylio gyda hi/fe yn llety'r eglwys/capel ac felly, mae'r partner/teulu yn preswylio yn yr ail gartef am 12 mis o'r flwyddyn.

C13 Ydych chi'n meddwl bod angen eithriad ychwanegol i sicrhau bod personél sy'n preswylio yn llety'r Lluoedd Arfog ac sydd hefyd yn berchen ail gartrefi, wedi eu heithrio rhag y premiwm?

Ni ddylai perchnogion ail gartrefi sy'n preswylio yn llety'r Lluoedd Arfog gael eu heithrio rhag premiwm y Dreth Gyngor oni bai nad oes modd iddynt breswylio yn llety'r Lluoedd Arfog am 12 mis o'r flwyddyn, neu nid oes modd i bartner a/neu deulu'r perchenog breswylio gyda hi/fe yn llety'r Lluoedd Arfog ac felly, mae'r partner/teulu yn preswylio yn yr ail gartef am 12 mis o'r flwyddyn (e.e. oherwydd bod y partner yn gweithio mewn un lleoliad, ond mae'r perchenog wedi cael ei anfon i leoliad arall ac yn preswylio yn llety'r Lluoedd Arfog yno).

C14 Ydych chi’n meddwl y dylai’r eithriad rhag y premiwm ar gyfer anheddau cysylltiedig â gwaith fod yn gymwys ddim ond os yw’r annedd yn y DU?

Ydyn.

C15 A ddylai lleiniau lle cedwir carafanau ac angorfeydd lle cedwir cychod gael eu heithrio rhag premiwm y Dreth Gyngor?

Dylai, os nad oes neb yn aros yn y garafan/cwch am 70 noson y flwyddyn neu ragor.  Fel arall, dylid ystyried y garafan/cwch yn ail gartref arferol.

C16. Oes yna unrhyw fathau o gartrefi tymhorol (Dosbarth A) yr ydych chi'n credu y dylent gael eu heithrio rhag premiwm y Dreth Gyngor? Os felly, sut ydych chi'n meddwl y dylent gael eu henwi a'u diffinio mewn deddfwriaeth?

Os yw carafán sefydlog/chalet mewn maes carafannau/parc gwyliau lle nad oes modd byw yno drwy'r flwyddyn, mae yna ddadl nad oes modd ystyried y garafán/chalet yn annedd barhaol a allai gael ei defnyddio gan rywun sydd angen cartref parhaol.  Felly, gellid dadlau y dylai carafannau/chalets o'r fath gael eu heithrio o'r premiwm.  Fodd bynnag, os yw'n bosib byw yn y maes carafannau/parc gwyliau drwy'r flwyddyn, yna dyw carafannau sefydlog neu chalets yno ddim yn wahanol i unrhyw fath o annedd arall lle mae'n bosib byw drwy'r flwyddyn ac felly dylid eu hystyried yn ail gartrefi fel tŷ neu fflat;

Dylid eithrio adeiladau (e.e. hen ysguboriau) sydd wedi cael eu haddasu'n dai gwyliau fel busnes ac nid oes modd eu rhentu fel anheddau parhaol o dan amodau'r caniatâd cynllunio.  Ar y llaw arall, os yw cais i newid defnydd y tai hyn yn llwyddiannus ac mae'n dod yn bosib i'w defnyddio fel anheddau parhaol, ni ddylent gael eu heithrio o'r premiwm wedi i hyn ddigwydd.

C17. Oes yna unrhyw eithriadau eraill y dylid eu hystyried i bremiwm y Dreth Gyngor ar ail gartrefi?

Tai sy'n adfeiliedig a does dim modd byw ynddyn nhw (e.e. does dim to neu dyw'r to neu'r lloriau ddim yn ddiogel) ac sy'n wag ers amser maith (e.e. 50 blynedd).  Er na fyddwch am roi rheswm i rywun i beidio cynnal a chadw tŷ er mwyn osgoi treth, ar y llaw arall, mae angen ystyried ffermydd gyda hen fwthyn ar y tir sy'n adfail ers blynyddoedd (cyn i'r teulu presennol ddechrau ffermio'r tir) a does dim digon o arian gan y perchnogion i'w atgyweirio. Teimlwn y gallai fod yn annheg eu cosbi am hyn.  Fodd bynnag, dylai fod yn bosib i'r cyngor adfeddiannu ac atgyweirio annedd sydd ddim mewn cyflwr digon da i fyw ynddi ar hyn o bryd ond y byddai'n bosib ei hatgyweirio yn weddol hawdd (h.y. fyddai dim angen ailadeiladu'r rhan fwyaf ohoni).  

Ail gartrefi lle mae rhywun yn byw yn y ddau gartref yn barhaol, er enghraifft, mae cwpl yn berchen ar dŷ yn Aberystwyth a fflat yng Nghasnewydd oherwydd bod y gŵr yn gweithio yn Aberystwyth a'r wraig yn gweithio yng Nghasnewydd, ond mae'r wraig yn teithio'n ôl i'r cartref teuluol yn Aberystwyth i fod gyda'r gŵr a'u plant dri diwrnod yr wythnos.  Fodd bynnag, dylai pellter y daith rhwng y ddau weithle gael ei ystyried wrth benderfynu a yw'r trefniant hwn yn rhesymol - h.y. petai hi'n rhesymol i ddisgwyl i un aelod o'r cwpl deithio'n ôl o'r cartref teuluol yn ddyddiol, ni ddylai'r ail gartref gael ei eithrio o'r premiwm. 

C18. A ddylid adolygu unrhyw eithriadau presennol eraill i’r Dreth Gyngor yng ngoleuni cyflwyno’r premiwm?

Gellid edrych ar eithrio neuaddau preswyl os ydynt yn wag yn ystod tymhorau'r brifysgol y maent yn perthyn iddi.

C19. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch gweinyddu’r cynigion arfaethedig?

Gan fod nifer o ddisgowntiau yn y meysydd a ddisgrifir a threfniadau ar gyfer asesu p'un a yw eiddo yn gymwys am ddisgownt, gellid defnyddio trefniadau tebyg ar gyfer asesu p'un a yw'r eiddo yn cael ei eithrio o'r premiwm.

C20. Ydych chi’n meddwl y dylai’r arweiniad ymdrin â’r meysydd hyn?

Ydyn.

C21. Oes yna unrhyw feysydd eraill y dylid ymdrin â hwy yn yr arweiniad  i Awdurdodau Lleol?

Byddai'n ddefnyddiol darparu diffiniadau mwy manwl o'r gwahanol fathau o eiddo sy'n gymwys am eithriad.