Trafnidiaeth Cymru - Dylunio Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, gan gynnwys y Metro
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
1.Cyflwyniad a chyd-destun
1.1 Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd yn ymgyrchu dros y Gymraeg a chymunedau Cymru ers dros hanner canrif a mwy, fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.
1.2 Mae'r Gymdeithas yn credu'n gryf yn hawliau pobl Cymru i fyw eu bywydau'n gyflawn yn Gymraeg ac yn hawliau dinasyddion ein gwlad i fedru gweld, clywed, a defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau yn ddi-rwystr ac yn ddi-wahân.
1.3 Rydym yn derbyn cwynion yn wythnosol gan ein haelodau ynghylch diffyg gwasanaethau Cymraeg gan gwmnïau trafnidiaeth, gan gynnwys cyhoeddiadau uniaith Saesneg ar drenau a gorsafoedd trenau, diffyg Cymraeg ar gyfryngau cymdeithasol, a thocynnau Saesneg.
1.4 Mae'r ymateb hwn wedi'i ogwyddo'n bennaf at Adran A y ddogfen ymgynghori – Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, ond mae ysbryd yr ymateb yr un mor berthnasol i wasanaeth Metro'r De.
2. Crynodeb
2.1 Mae'r Gymdeithas yn croesawu dyhead Llywodraeth Cymru i wella system drafnidiaeth y wlad a sicrhau ei bod yn diwallu anghenion dinasyddion Cymru.
2.2 Mae datganoli pwerau dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn cynnig cyfle amlwg i gyfrannu at wireddu'r nod hwnnw a chreu gwasanaeth rheilffyrdd i Gymru sy'n seiliedig ar ddiwallu anghenion Cymru a'i phobl, sy'n ystyriol o'n cymunedau ac sy'n atebol i'n dinasyddion – yn hytrach na chyfundrefn sy'n creu cyfoeth ar eu traul. O safbwynt y Gymraeg, mae'r gwasanaeth presennol yn methu'n llwyr â gwneud hynny ac ystyriwn felly fod yn rhaid mynd ati o ddifrif – drwy gyfrwng y fasnachfraint newydd a threfniadau cysylltiedig – i ail-wampio'r gwasanaeth yn llwyr o blaid yr iaith a'i siaradwyr.
2.2 Serch hynny, mae'n ymddangos fod y sylw a roddir i'r Gymraeg yn y broses gaffael hyd yn hyn yn gwbl annigonol. Yn wir, mae'n destun pryder fod mwy o sylw manwl i'r Gymraeg yn yr ymgynghoriad lefel uchel ('Pennu Cyfeiriad') cyntaf nag sydd dan ystyriaeth yn yr ymgynghoriad hwn i bennu gofynion penodol. Dylid ystyried y Gymraeg fel mater llorweddol sy'n cyffwrdd ar bob un o feysydd darparu'r gwasanaeth rheilffyrdd a phob agwedd ar brofiad y teithiwr. Mae'n annerbyniol felly fod ein hiaith genedlaethol unigryw yn derbyn cyn lleied o ymdriniaeth ac ystyriaeth yn y ddogfen sy'n llywio'r gwaith o godi gwasanaeth rheilffyrdd newydd ein cenedl.
2.3 Yn gryno, mae angen bod yn gwbl eglur o'r disgwyliadau fydd ar y cwmni sy'n llwyddo i ennill cytundeb y fasnachfraint o ran cynnig gwasanaethau cyflawn Cymraeg ynghyd â chadarnhau ar fyrder y bydd Trafnidiaeth Cymru – yn achos y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaeth y fasnachfraint ei hun – yn gweithredu yn unol â Safonau'r Gymraeg yn yr un modd yn union â Gweinidogion Cymru.
3.Sylwadau Penodol
3.1 Ceir cyfeiriad bras ac arwynebol at y Gymraeg ar dudalen 16-17 y ddogfen ymgynghori. Cyfeirir at Adroddiad Ymchwiliad Safonau Comisiynydd y Gymraeg a oedd yn canolbwyntio ar y pedair masnachfraint bresennol. Fel mae adroddiad y Comisiynydd yn ei bwysleisio, mae'r ymchwiliad hwnnw yn fwy perthnasol i'r drefn bresennol ac mae'n rhybuddio y dylid rhoi ystyriaeth lawn i ofynion safonau'r Gymraeg mewn unrhyw gontract masnachfraint newydd. Byddem wedi disgwyl gweld y ddogfen hon yn cynnwys cynigion manwl, yn ehangu ar gynnwys y ddogfen ymgynghori lefel uchel, ynghylch gofynion ar y gweithredwyr arfaethedig i wella'r gwasanaeth yn Gymraeg i deithwyr. Dyma dim ond rhai agweddau ar wasanaethau Cymraeg y mae hangen eu hystyried o dan holl adrannau a phenawdau sy'n canolbwyntio ar flaenoriaethau'r contract o safbwynt gwasanaethau i deithwyr:
I. Cynllunio'r Daith
Dylai pob gwefan a phlatfform sy'n cynnig gwybodaeth, gan gynnwys un 'national rail', weithredu'n llawn yn Gymraeg
Dylai pob ap weithredu'n llawn yn Gymraeg
Dylai holl wybodaeth a ddarperir ar systemau gwybodaeth gyhoeddus yn Gymraeg, gan gynnwys systemau electronig, clywedol, fideo a pheiriannau hunan-wasanaeth
Dylai holl staff tocynnau a gwybodaeth mewn gorsafoedd fedru darparu gwasanaeth wyneb yn wyneb yn Gymraeg
II. Gwasanaethau
Mae gwasanaethau cyflymach a gwell rhwng y De a'r Gogledd yn bwysig. Mae gwasanaethau uniongyrchol o Ynys Môn i Gaerdydd, o Aberystwyth i Gaerdydd ac o Gaerfyrddin i Gaerdydd yn hynod o bwysig er enghraifft
Dylid buddsoddi yn ail-agor y llinell rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth fel hwb economaidd i'r Gorllewin a chynlluniau eraill a fyddai'n creu rhwydwaith cenedlaethol gwirioneddol
III. Profiad yn yr Orsaf
Mae llawer iawn o broblemau sylfaenol gyda gwasanaethau Cymraeg mewn gorsafoedd trên, gan gynnwys:
- diffyg croeso Cymraeg gan staff
- ddiffyg gwasanaethau Cymraeg wyneb yn wyneb wrth brynu tocynnau
- diffyg tocynnau Cymraeg
- diffyg arwyddion electronig Cymraeg
- diffyg cyhoeddiadau sain Cymraeg
Dylai pob aelod o staff gallu cyfathrebu'n sylfaenol yn Gymraeg
Dylai fod gan staff hawliau i wersi Cymraeg
IV. Profiad ar y Trên
Mae llawer iawn o broblemau sylfaenol gyda gwasanaethau Cymraeg ar y trenau hefyd, gan gynnwys:
- dim cyfathrebu sylfaenol yn Gymraeg gan staff ar y tren (mae pob aelod o staff yn gallu gweud "Tocynnau os gwelwch yn dda / Tickets please")
- diffyg arwyddion electronig Cymraeg
- diffyg cyhoeddiadau sain Cymraeg
3.2 Mae angen i'r gwasanaeth newydd sydd i'w gyflwyno drwy gyfrwng y fasnachfraint hon gydnabod yn llawn statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru yn ogystal â chydnabod hawliau teithwyr i gael gwasanaeth Cymraeg. Mae cannoedd ar filoedd o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau hyn bob dydd ac felly mae'n rhaid i'r Gymraeg fod yn gwbl greiddiol i'r gwasanaethau. Dyma'r cyswllt cyntaf y caiff llawer o deithwyr a thwristiaid â Chymru, felly mae'n bwysig fod y Gymraeg i'w gweld yn amlwg.
3.3 Yn ogystal â'r ymateb hwn, cyflwynwn (fel dogfen atodol) waith ymchwil a wnaed gan y Gymdeithas y llynedd i brofiadau teithwyr presennol wrth geisio defnyddio'r Gymraeg ar wasanaethau rheilffyrdd – mewn ymateb i Ymchwiliad Safonau Comisiynydd y Gymraeg.
3.4 Rydym yn awyddus i drefnu cyfarfod â swyddogion Trafnidiaeth Cymru i gael deall mwy am y broses caffael, a sicrhau bod y Gymraeg a gwasanaethau rheilffyrdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystyriaeth flaenllaw ym mhob agwedd ar y fasnachfraint newydd.
Mai 2017
Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Atodlen 1 – Ein Hymateb i Ymchwiliad Safonau trenau a bysiau'r Comisiynydd