Gwreiddiwch yn y Gymuned: Papur Trafod

Gwreiddiwch yn y Gymuned
Effeithiau canoli economaidd ar gymunedau Cymru

Papur Trafod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Awst 2003

Swyddfa Cymdeithas yr Iaith, Pen Roc, Rhodfaír MÙr, Aberystwyth, SY23 2AZ
FfÙn (01970) 624501 Ffacs (01970) 627122 Ebost swyddfa@cymdeithas.com

Cyflwyniad
Yn nhyb Cymdeithas yr Iaith, mae dyfodol yr iaith Gymraeg, fel iaith fyw, yn mynd law yn llaw gydaín gallu i adeiladu cymunedau cynaladwy - mewn ardaloedd gwledig a threfol - ym mhob rhan o Gymru. Er mwyn cyrraedd at y nÙd yma, bydd galw am gynllunio cymdeithasol manwl, sydd yn rhoi ystyriaeth i sawl maes - o fyd addysg, i faes tai a chynllunio ac hefyd yr economi. Ym mhob achos, bydd angen ystyried beth yn union yw anghenion ein cymunedau ynghyd ’ sut ywír ffordd orau o ateb yr anghenion hynny.

Ar hyn o bryd, nid yw anghenion ein cymuedau yn cael eu gwasanaethu. Yn hytrach, yr hyn a welwn ar bob lefel, yw proses o ganoli grym, sydd yn golygu bod ein cymunedau yn colliír gallu i reoli eu dyfodol eu hunain. Dyma sylweddoliad sydd yn codi yn uniongyrchol o ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith. Dro ar Ùl tro, wrth ymgyrchu dros fesurau a chonsensiynau mewn sawl maes, gwelsom gwmniau a sefydliadau yn symud i ffwrdd oddi wrth y Gymraeg aír cymunedau hynny sydd yn sail iddi.

Mae hyn yn arbennig o wir ym maes yr economi, lle maiír pwyslais presennol ar ganoli gweinyddiaeth a swyddfeydd wedi arwain at golli nifer o swyddi lleol. Ymhellach, maeír twf di-rwystr yn nylanwad nifer o gwmniau mawr, megis yr archfarchnadoedd, wedi niweidio seiliau cynhenid yr economi leol. Golyga hyn, fod y cyfoeth yn ogystal aír grym, yn llifo i ffwrdd oír gymuned.

Maeír rhain yn faterion sydd yn peri pryder mewn nifer o wahanol wledydd. O ganlyniad, dros y blynyddoedd diwethaf daeth mwy a mwy o bobl i drafod y sefyllfa, gan ystyried syniadau amgen. Yma yng Nghymru, mae angen i ni hefyd i fynd ati i drafod oblygiadauír materion hyn. Dylai hon fod yn drafodaeth sydd yn rhoi lle canolog i anghenion yr iaith Gymraeg, ond sydd hefyd yn cwmpasu materion amgylcheddol, amaethyddol a diwydiannol.

Yn y papur hwn ceir amlinelliad o rai oír newidiadau a welodd ein cymunedau dros y blynyddoedd diwethaf. Edrychir yn benodol ar achos yr archfarchnadoedd, gan ystyried effeithiau cymysglyd eu twf ar yr economi aír diwylliant lleol. Yn olaf cynigir rhai camau y gellid eu cymerud er mwyn dechrau ar y gwaith o sicrhau bod datblygiadauír dyfodol yn gweddu anghenion ein cymunedau.

Pwysleisiwn mai nÙd y papur yw i godi cwestiynau ac i hybu trafodaeth wleidyddol. O ganlyniad, buaswn yn gwerthfawrogi derbyn unrhyw sylwadau neu awgrymiadau.

Diriwiad yr economi leol
Dros y degawd diwethaf gwelsom ddatblygiadau economaidd enfawr o ran canoli a dad-reoleiddio. O ganlyniad, fe danseiliwyd llawer iawn o fusnesau a gwasanaethau lleol. Dyma ergyd ddeuol i ddyfodol ein cymunedau Cymraeg, gan y golyga fod llai o gyflogeth leol ar gael ac hefyd fod y darparwyr canolog newydd yn llawer llai tebygol o gynnig gwasaneth Cymraeg.

Canolwyd nifer o asiantaethau cyhoeddus megis Cyllid y Wlad aír Swyddfa Nawdd Cymdeithasol ac o ganlyniad ni cheir bellach swyddfeydd lleol yn cyflogi staff oír ardal. Mewn symudiad tebyg, canolwyd llawer o weinyddiaeth y sector breifat. Er engrhaifft, mae BT wedi cau nifer oíu cyfnewydfeydd lleol, gan sefydlu trefn ganolog yn eu lle. Yn yr un modd, caewyd nifer o fanciau lleol a diraddiwyd hynny o swyddi oedd ar Ùl. Mewn adroddiad diweddar nododd y ëNew Economics Foundationí bod y prif gwmniau ñ Barclays, Lloyds/TSB, HSBC a Nat West ñ wedi cau dros 4,000 o ganghenau yn ystod y degawd diwethaf. Pe baiír duedd yma yn parhau, erbyn 2005, byddai tua 1,600 o gymunedau, yng Nghymru a Lloegr, heb unrhyw wasanaeth bancio.

Yn ogystal, yn achos ein Swyddfeydd Post, gwelwyd diriwiad graddol dros y degawd diwethaf ñ cwymp o ryw ddau neu dri y cant bob blwyddyn. Mae diriwiad oír fath yn arbennig o niweidiol mewn ardaloedd gwledig. Nodir hyn mewn adroddiad gan yr Asiantaeth Cefn Gwlad, syín dadlau bod cau cangen oír swyddfa bost yn arwain at gwymp o 15% yng ngwerthiant siopau lleol.

Er maint y newidiadau hyn, ynghyd ’ír niwed a gaiff ei achosi, fe ellid dadlau mai nawr ywír amser i ymgyrchu. Wrth iír ymwybyddiaeth gynyddu, daeth pobl i weld fod rhywbeth pwysig iawn yn cael ei golli. Yn wir, yn sgil y duedd gynyddol o ganoli grym, mae mwy a mwy o bwyslais wedi dechrau cael ei roi, gan sylwebwyr, economegwyr a phobl gyfredin, ar werth y ëlleolí.

Yn sgil datblygiadau oír fath, mae rhai cwmniau wedi cymryd rhai camau - digon arwynebol - er mwyn ceisio ail-bwysleisio eu cysylltiadau lleol. O ganlyniad, y dasg yn awr i ymgyrchwyr o bob maes, yw manteisio ar y symudiad hyn, gan droiír ywybyddiaeth o werth y ëlleolí yn weithredu pendant er lles cymdeithasol a diwyllianol ein cymunedau.

Astudiaeth Achos ñ Yr Archfarchnadoedd
Fel rhan oír drafodaeth ynglyn ’ dyfodol economaidd ein cymunedau, un agwedd sydd wedi cael llawer iawn o sylw yw dylanwad cynyddol yr archfarchnadoedd. Er bod y cwmniau yma yn cynnig llawer iawn o wasanaethau, mae mwy a mwy o bobl bellach yn gweld yr angen i ystyried gwir effeithiau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol eu polisiau. O wneud hynny, fe welir bod eu trefniadaeth bresennol yn cyfrannu at danseilio hyfywedd yr economi leol. Yn ogystal, fel cymaint o gwmniau preifat eraill, prin iawn yw eu defnydd oír iaith Gymraeg.

Mewn ardaloedd megis de-ddwyrain Lloegr, mae dylanwad y cwmniau hyn wedi tyfuín aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf. Ar yr un pryd, gwelwyd yr economi leol yn crebachu. Digwyddohdd hyn iír fath raddau mewn rhai mannau, nes i rai sylwebwyr awgrymu fod yr economi leol ar fin ëtipioí yn llwyr, gan fod cyn lleied o arian bellach yn aros yn y gymuned.

Yma yng Nghymru, nid yw pethau wedi mynd mor bell a hyn. Eto i gyd, gellir gweld bod dylanwad yr archfarchnadoedd ar gynnydd yma hefyd, wrth iddynt chwilio am farchnadoedd a chyfleoedd newydd. O ganlyniad, maeín bwysig ein bod niín trafod yr effeithiau posib, gana rfogi pobl ’ír wybodaeth angenrheidiol i sicrhau y bydd datblygiadauír blynyddoedd nesaf yn digwydd yn Ùl anghenion y gymuned leol.

  • Budd economaidd iír gymuned leol? Ym 1998 cyhoeddwyd adroddiad gan adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth aír Rhanbarthau a oedd yn cydnabod bod twf cwmniau megis Sainsburys, Tesco, Asda a Safeway, wedi tanseilio rhagolygon nifer fawr o adwerthwyr lleol annibynnol. Nodwyd bod rhai wedi yn gweld diriwiad o rhwng 21% a 75% yn eu gwerthiant yn sgil agor archfarchnad yn yr ardal. Yn aml, gwelir nad ywír adwerthwyr annibynnol hyn yn medru cystadlu gyda darpariaeth eang y cwmniau mawr. O edrych iír dyfodol, gellir gweld y bydd yr effeithiau hyn yn dwyshau yn sgil y ffaith fod archfarchnadoedd bellach yn ehangu ar natur y gwasanaethau a gynnigir ganddynt. Erbyn hyn, maeín ddigon cyffredin iíw gweld yn gwerthu dillad, llyfrau, cerddoriaeth ac offer trydanol. Yn ogystal, maent yn cynnig gwasanaeth post a fferyllfa ac hefyd yn gwerthu petrol. Wrth gwrs, pan yn i gwneud ceisiadau am ganiatad cynllunio, bydd y cwmniau hyn yn cyfeirio at y swyddi niferus a allai gael eu creuyn yr ardal. Serch hynny, o edrych yn fanylach, fe welir fod yr effaith net ar gyflogaeth yn un negyddol ñ mewn gwirionedd bydd mwy o swyddi yn cael eu colli. Er engrhaifft, yn Ùl nifer o adroddiadau, gall cymuned golli hyd at 300 o swyddi wrth i archfarchnad agor yn yr ardal. Ymhellach maeín bwysig nodi bod yr effeithiau hyn yn ymestyn i bob rhan oír gymuned leol. Yn wir, nid yw dylanwad yr archfarchnad ond yn gyfyngedig iír sectorau hynny sydd yn cystadlu yn uniongyrchol yn ei erbyn, er engrhaifft y siopwr neuír cigydd lleol. Maeír effeithiau yn rhai eang, gan fod yr adwerthwyr lleol hyn hefyd yn cyflogi cyfrifwyr, cyfreithwyr a chrefftwyr lleol. At ei gilydd, mae dylanwad yr archfarchnadoedd aír canoli a ddaw yn sgil eu trefniadaeth, yn golygu bod mwy a mwy o gyfoeth yn llifo allan oír economi lleol. Yn y pendraw fe all hyn arwain at sefyllfa sydd yn gwbwl anghynaladwy.
  • Defnydd o gynyrch lleol Gwelir felly fod cyfraniad archfarchnadoedd iír economi leol yn aml iawn yn is na chyfraniad llawer iawn o gwmniau lleol ñ o ran cyflogaeth ac hefyd o ran cyfoeth a gaiff ei greu. Un oír prif resymau dros hyn ywír ffaith mai ychydig iawn o gynnyrch lleol a ddefnyddir gan yr archfarchnadoedd. Yn hytrach daw eu cynnyrch o storfeydd canolog, sydd fel arfer oriau i ffwrdd. Er engrhaifft, mae Sainsbury yn defnyddio storfeydd o Lannau Merswy, Birmingham a Bryste er mwyn cyflennwi ei holl siopau yng Nghymru. Ar yr un pryd, nodaír New Economics Foundation fod cynyrch lleol ond yn cyfrif am ryw 1% werthiant blynyddol Tesco. Yn yr un modd, mae Asda ñ sydd yn honi ei fod yn ceisio defnyddio cynyrch lleol ñ yn nodi bod hyn ond yn cyfrif am 2% oíi werthaint. Mewn cyferbyniad mae tystiolaeth gwahanol adroddiadau yn dangos fod cwmniau lleol yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio cynnyrch lleol. Mae hyn yn drefn lawer mwy cynaladwy, nid yn unig oherwydd ei fod yn cefnogi cynhyrchwyr lleol, ond hefyd oherwydd ei fod yn golygu bod mwy arian yn aros ac yn cylchredeg yn yr economi leol.
  • Effeithiau amgylcheddol Yn ogystal a bod o fudd economaidd, byddai defnyddio cynyrch lleol yn llesol iír amgylchedd, gan y byddai yn golygu bod dim angen i loriau i deithio pellteroedd maith oír storfa iír siop.
  • Hawliau Gweithwyr Cyfeiriwyd eisioes at y ffaith fod archfarchnadoedd, yn y pendraw, yn cael effaith net negyddol at gyflogaeth leol. Ar ben hynny, gellir codi cwestiynau ynglyn ’ natur y swyddi hynny a gaiff eu creu. Maeír mwyafrif ohonynt yn rhai isel eu safon ac undonog o ran cyfrifoldebau. Ychydig iawn o gyfle sydd ar gyfer dyrchafiad. Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghymru, lle gwelir bod y mwyafrif o swyddi uwch wedi eu canoli mewn pencadlysoedd canolog ar hyd ffin Lloegr. Ymhellach, maeír archfarchnadoedd ar flaen y gad wrth geisio hyrwyddo patrymau gweithio rhan-amser. Er engrhaifft, mae 70% o staff Safeway yn weithwyr rhan-amser. Wrth gwrs, mae gwaith rhan amser yn gyfleus ar gyfer rhai pobl, serch hynny, go brin ei fod yn cynnig llawer o gyfleoedd tymor hir. Ar ben hynny, mae gan weithwyr rhan amser lai o hawliau er engrhaifft o ran pensiynau a budd-daliadau.
  • Y Gymraeg Ar hyn o bryd, fe welir bod rhai archfarchnadoedd yn gwneud ychydig o ddefnydd oír iaith Gymraeg. Serch hynny, rhywbeth ymylol yn unig yw hyn ac yn sicr nid yw unrhyw ddatblygiad newydd ar gael yn Gymraeg. Mae grymoedd y Ddeddf Iaith bresennol yn gyfyngedig iír sector gyhoeddus ac felly nid oes disgwyl iír sector breifat i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn. Mae gohebiaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith aír archfarchnadoedd yn dangos yn glir na fyddant, fel nifer o gwmniau preifat eraill, yn gwenud defnydd ystyrlon oír iaith, hyd nes bydd deddfwriaeth yn gwneud hynnyín ofynol. O ystyried y dystiolaeth uchod, does dim amheuaeth fod yr archfarchnadoedd yn gyrff dylanwadol iawn. Yn ogystal, fe welir bod eu effeithiau ar fywyd y gymuned leol yn aml yn rhai cymysgyd iawn. Tra eu bod, ar yr wyneb, yn yn cynnig gwasaneth cyfleus ac yn honi i greu swyddi niferus, mae astudiaeth fanylach yn dangos fod yr effaith net ar gyflogaeth ac ar iechyd yr economi leol, yn aml yn un negyddol. Serch hynny, ni ellir gwadu bodolaeth y cwmniau hyn - ni fyddai ymgyrch sydd aír nÙd oíu dileu yn gyfan gwbwl yn mynd yn bell iawn. Yn hytrach, yn achos yr archfarchnadoedd, fel yn achos pob datblygiad arall, ein tasg yw i sicrhau eu bod yn gweithredu mewn modd sydd yn gyson gyda buddianauír gymuned aír diwylliant lleol.

Argymhellion Cymdeithas yr Iaith

O ystyried y sefyllfa bresennol, fe welir fod yna angen mawr i weithredu. Yma, cynigiwn gyfres o argymhellion. Nid ydym yn honi eu bod yn atebion cynhwysfawr. Serch hynny, gan fod gallu economaidd ein cymunedau yn cael ei danseilio ar raddfa mor gyflym, credwn fod yn rhaid i ymgyrchwyr a gwleidyddion ddechrau ystyried a thrafod syniadau oír fath.
 

  • Gwreiddiwch yma i werthu yma
    Yn achos pob datblygiad o bwys, dylid sefydlu partneriaeth rhwng y cwmni aír awdurdod lleol (neuír Cynulliad mewn achos o bwys cenedlaethol). Dylaiír bartneriaeth yma gynnwys cyfres o gamau, y bydd y cwmni yn ei gymryd, er mwyn cefnogiír economi leol ac fe ddylid ymgymryd ’ hwy fel rhan oír broses o dderbyn caniatad cynllunio. Er engrhaifft, yn achos yr archfarchnadoedd, dylid ymrwymo i ddefnyddio cynyrch lleol ac i gefnogi gwasanaethau lleol.
  • Asesiad o impact ieithyddol datblygiadau
    Yn achos unrhyw ddatblygiad sylweddol, dylai fod yn ofynnol iír awdurdod lleol i baratoi adroddiad manwl ar yr effeithiau posib i ragolygon yr iaith Gymraeg. Dylid gwneud hyn fel rhan oír broses o ystyried rhoi caniatad cynllunio ac fe ddylid gwrthod unrhyw ddatblygiad niweidiol. Byddai cam oír fath yn dilyn trywydd yr ëEnvironmental Impact Assessmentsí sydd bellach yn ddigon cyfarwydd.

    Er mwyn iír awdurdoadau lleol fedru gwneud y gwaith hwn yn effeithiol fe ddylaiír Cynulliad baratoi canllawiau sydd yn dangos iddynt sut yn union y dylid mynd ati i asesu imoact ieithyddol gwahanol ddatblygiadau.

  • Datblygu er lles y gymuned leol
    Dylai ein hawdurdodau lleol aír Awdurdod Datblygu gynnal ymchwil manwl a chyson er mwyn mesur llif a chylchrediad ariannol gwahanol ardaloedd. Byddai cynnal ymchwil oír fath yn arwain at well dealldwriaeth o sut yn union mae eu gwariant aíu cymorthdaliadau yn effeithio ar lewyrch ein cymunedau. Er engrhaifft, i ba raddau y maeír budd o wariant cyhoeddus yn llifo allan, yn hytrach na chylchredeg yn y gymuned. Yna dylid, defnyddioír wybodaeth yma wrth ystyried pa gyrff neu gwmniau a ddylai dderbyn arian cyhoeddus neu ganiatad cynllunio.
  • Awdit o wariant cyrff a sefydliadau dylanwadol
    Dylai gwahanol gyrff dylanwadol ñ er enrhaifft awdurdodau lleol, prifysgolion, ysbytai ayb ñ gynnal awdit manwl i ddarganfod i ba raddau y mae eu polisiau presennol, o ran stocio, prynu a chontractio, yn cefnogiír economi leol. Yna, ar sail canlyniadauír awdit, dylid llunio strategaeth fanwl sydd yn amlinellu sut y bydd y corff neuír sefydliad yn gwneud mwy o ddefnydd o gynhyrchwyr a gwasanaethau lleol.
  • Bas-data o gynhyrchwyr a gwasanethau lleol
    Dylai pob awdurdod lleol baratoi cofrestr manwl o wasanaethau a chynhyrchwyr lleol. Gallai cefnogiír sawl a gaiff ei gynnwys ar y rhestr hwn fod yn rhan oír ymrwymiadau cynllunio y bydd disgwyl i wahanol gorfforaethau eu mabwysiadu. Yn ogystal, dylai cofrestr oír fath gael ei ddefnyddio wrth i gyrff a sefydliadau dylanwadol gynnal awdit i ddarganfod i ba raddau maent yn cefnogiír economi leol.
  • Deddf Iaith Newydd
    Dylaiír Cynulliad Cenedlaethol sicrhau pasio Deddf Iaith Newydd a fydd yn sicrhau hawliau pobl Cymru i dderbyn gwasanaeth Cymraeg ym mhob sector. Maeír dystiolaeth yn dangos na fydd cyrff preifat yn parchu hawliau pobl Cymru i ddefnyddioír Gymraeg hyd nes y bydd deddfwriaeth yn gwneud hynnyín ofynol. Ymhellach, byddai gan fesur oír fath fudd economaidd, gan y byddaiín golygu bod yn rhaid i gwmniau drin Cymru fel uned weinyddol yn hytrach na dibynu ar swyddfeydd a threfniadaeth ganolog.

Llyfryddiaeth

 

  • New Economics Foundation, Ghost Town Britain; the threat from economic globalisation to livelihoods, liberty and local economic freedom, 2002
  • Planet 151, Castles of a Different Kind, 2002
  • Corporate Watch, Whatís wrong with the supermarkets? 2002
  • Colin Breed A.S. Checking out the Supermarkets; competition in retailing, 2002
  • Cyfeillion y Ddear, Ten reasons Supermarket mergers are bad for consumers 2003
  • Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Canrif Newydd Deddf Iaith Newydd, 2001
  • Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Maniffesto: Y Gymraeg yn Goroesi Globaleiddio, 2003