Annwyl Brif Weinidog David Cameron AS,
Ysgrifennwn atoch er mwyn gofyn i chi ymyrryd a newid safbwynt Arweinydd Tŷ'r Cyffredin Chris Grayling a ddywedodd na fyddai hawl gan Aelodau Seneddol i siarad Cymraeg yn Uwch Bwyllgor Cymreig San Steffan.
Yn y Senedd ar 9fed Mehefin 2016, dywedodd y Gweinidog: "...Yn fy marn i, o ystyried y ffaith mai Saesneg yw iaith y Tŷ, ac o ystyried y byddai'n costio trethdalwyr arian i'w newid ar hyn o bryd, os ydi rhywun yn cyrraedd y Tŷ sy'n methu siarad Saesneg mae'n bosib bydd rhaid i ni edrych ar y mater eto ... Ond rwy'n credu ein bod wedi ystyried y mater yn ofalus iawn ac y dylen ni gadw'r drefn bresennol lle mai Saesneg yw iaith y Tŷ hwn."
Mae'n hawl ddynol sylfaenol i siarad Cymraeg, ac mae dadl Chris Grayling AS yn hurt ac yn anwybodus. Credwn ei fod wedi dwyn anfri ar Senedd San Steffan, ei swyddfa a'i Lywodraeth. Wrth glywed ei sylwadau, bydd pobl Cymru yn dod i'r casgliad nad oes ots gan y Llywodraeth am y Gymraeg, iaith fyw hynaf Ewrop.
Credwn fod statws yr iaith Gymraeg, fel iaith fyw hynaf ynysoedd Prydain, yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Prydain ei barchu a gweithredu yn unol â fe. Dylai fod gan Aelodau Seneddol yr hawl i siarad Cymraeg yn holl drafodion y Senedd, yn enwedig yn nhrafodion yr Uwch Bwyllgor Cymreig.
Mae'r Gymraeg yn rhan hanfodol o hunaniaeth pawb sy'n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt – boed nhw'n siaradwyr Cymraeg ai peidio. Er ei fod yn ymddangos fel pe bai pawb sy'n siarad Cymraeg hefyd yn siarad Saesneg, mae'n bwysig cofio bod nifer fawr o bobl yn gallu mynegi eu hunain llawer yn well yn y Gymraeg nag ieithoedd eraill.
Galwn arnoch chi felly i ymyrryd a newid safbwynt Arweinydd Tŷ'r Cyffredin a'ch Llywodraeth ar y mater hwn er mwyn dangos bod ots gyda chi a'ch Llywodraeth am ffyniant y Gymraeg a'i statws.
Yr eiddoch yn gywir,
Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Copi at:
ASau Cymru
Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Chris Grayling AS
Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS
Alun Davies AC, Gweinidog dros y Gymraeg, Llywodraeth Cymru