Lidl UK GmbH
19 Worple Road
Wimbledon
Llundain SW19 4JS
Tachwedd 12fed, 2014
Annwyl Ronny Gottschlich,
Ysgrifennwn atoch yn dilyn eich datganiadau cyhoeddus parthed eich polisi iaith dros y dyddiau diwethaf, a'r gohebiaeth ddiweddar rhyngoch a Chomisiynydd y Gymraeg a ddaeth i'n sylw.
Rydym yn deall eich bod wedi gwahardd gweithwyr rhag siarad ieithoedd heblaw Saesneg yn eich siop yn Kirkcaldy, ac y bu'r un polisi gennych ymhob rhan o'r Deyrnas gyfunol, yn ôl eich datganiadau: "It is Lidl UK company policy that staff speak in English to customers, irrespective of their native language."... "We do have a general policy in the UK stating that we carry out our working communication in English, such as when speaking to fellow employees on the shop floor."
Yn foesol, rydyn ni'n credu y dylai bawb gael y rhyddid i ddefnyddio eu dewis iaith. Rydym yn anghytuno â'ch rhesymu, yn eich datganiadau, mai Saesneg yw'ch hunig iaith gwaith "for the benefit of all our customers as well as our staff to ensure a comfortable environment where all feel included," a hefyd, "to help reduce misunderstandings and encourage the building of good relationships across the business and with customers". Does dim perygl, o ran diogelwch neu fasnach, mewn caniatâu i weithwyr siarad eu mamiaith â'i gilydd ac â chwsmeriaid - boed eu mamiaith yn Bwyleg, yn Gymraeg, neu'n unrhyw iaith arall. A allwch chi gadarnhau felly eich bod yn tynnu'r sylwadau anffodus hyn yn ôl?
Mae eich datganiadau diweddar yn awgrymu'n gryf nad oedd Lidl yn ymwybodol o newidiadau diweddar yn y Gyfraith yng Nghymru - rydym yn pwyso ar Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn mynd ati'n ragweithiol i'ch hysbysu chi, a chwmnïau eraill, o'ch dyletswyddau. Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ers 2011 (Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011). Yn benodol, mae'r Mesur yn sefydlu'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac yn ei wneud yn anghyfreithlon i ymyrryd â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.
Rydym yn croesawu eich hymrwymiad, yn eich llythyr i Gomisiynydd y Gymraeg dyddiedig Tachwedd 11eg, i barchu rhyddid eich gweithwyr i siarad Cymraeg â'i gilydd a gyda chwsmeriaid, ac i addasu eich llawlyfr â'ch posteri mewnol i adlewyrchu hynny. Hyderaf y byddwch yn adolygu'r polisïau a gyfeirwyd atynt uchod hefyd. Nid yw'n ddigon i ddatgan nad oes unrhyw "waharddiad" ar ddefnydd o'r Gymraeg yn eich siopau - rhaid sicrhau bod eich polisïau yn gyfiawn ac yn gyfreithiol, a'ch bod yn mynd ati'n ragweithiol i annog defnydd o'r Gymraeg yn eich siopau.
Yn ogystal â gofynion statudol i barchu hawliau sylfaenol, onid oes hefyd dyletswydd moesol ar gwmni mawr fel Lidl i ddarparu gwasanaeth cyflawn i’w cwsmeriaid yn Gymraeg? Wedi’r cyfan, os na allwn fyw trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru, ble felly gallwn ni fyw yn Gymraeg?
Galwn felly ar gwmni Lidl weithredu'n gadarnhaol ar y pwyntiau canlynol:
-
polisi ysgrifenedig sy'n nodi (i) bod gan weithiwyr a chwsmeriaid yr hawl ddiamod i siarad Cymraeg, Pwyleg neu unrhyw iaith arall yn eich siopau yng Nghymru, a (ii) eich bod yn croesawu ac yn annog y defnydd o'r Gymraeg yn eich siopau;
-
sicrhau bod pob arwydd yn eich siopau yng Nghymru yn ddwyieithog;
-
Polisi Cyflogaeth ac Ymgyrch Recriwtio fydd yn sicrhau digon o staff sy'n medru ymdrin â chwsmeriaid yn y Gymraeg ym mhob siop yng Nghymru;
-
labeli dwyieithog clir ar yr holl gynnyrch o du Lidl;
-
deunydd hyrwyddo a marchnata (e.e. taflenni, hysbysebion, arwyddion dros dro) dwyieithog;
-
cyhoeddiadau uchelseinyddion dwyieithog yn holl siopau Cymru;
-
os ydych yn cyflwyno tiliau hunan wasanaeth, eu bod yn ddwyieithog.
Hyderaf y gallwch sicrhau eich bod yn diwygio'ch polisi iaith yn syth - a fydd, gobeithio, yn creu cyfle i ni drafod ein galwadau uchod yn adeiladol. Byddem yn barod iawn i gwrdd â’ch uwch swyddogion er mwyn trafod y materion hyn.
Yn gywir,
Jamie Bevan
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg