Annwyl Will Godfrey,
Hoffwn ddiolch i chi ar ran cell Casnewydd Cymdeithas yr Iaith am gyfarfod â rhai o’n haelodau ar y 7fed o Dachwedd i drafod rhai o ofidion Cymry Cymraeg y ddinas am ddarpariaeth Gymraeg y Cyngor. Yn dilyn ein cyfarfod penderfynom anfon y llythyr hwn er mwyn esbonio i chi yr hyn caethom ni o’r cyfarfod.
Dechreuom drwy drafod y wefan. Nodom ein anfodlonrwydd gyda’r sefyllfa bresennol, gan ofyn i chi am amserlen bosibl ar gyfer datblygiad y wefan. Dywedoch eich bod wedi cael cyfarfod gyda’r Comisiynydd a’ch bod wedi dod i gytundeb y byddwch yn cyfieithu 5 tudalen we erbyn diwedd mis Gorffennaf. Dywedoch eich bod mynd i gyfieithu’r 5 tudalen yma am fod 70% o’r bobl sydd yn ymweld â’r wefan yn gweld y 5 tudalen hyn. Gofynnom pam nad oedd modd sicrhau bod tudalennau sydd yn cael eu cyhoeddi rhwng nawr a’r haf yn mynd yn ddwyieithog. Ateboch drwy ddweud “It’s not that we can’t do it, we’ve agreed to do it in the summer”. Mae yno filoedd o dudalennau i’r wefan, ac mae cynnig cyfieithu 5 yn yr haf yn gwbl annerbyniol Mae’n anodd i mi gredu bod Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud bod hyn yn dderbyniol. Siaradais gyda swyddog yn swyddfa’r Comisiynydd a ddwedodd eu bod yn disgwyl i fwyafrif y wefan fod yn Gymraeg yn yr haf, nid 5 tudalen yn unig. Cyngor Casnewydd yw’r unig gyngor yng Nghymru gyfan, heb wefan Gymraeg. Cytunwyd hefyd ei bod yn bosib i’w wneud ar hyn o bryd, heb orfod cael y System Rheoli Cynnwys newydd. Nodoch fod y gost cyfieithu yn ormod i gyfieithu’r wefan yn gyfan gwbl.
Yn ail, fe drafodom arwyddion y Cyngor. Nododd un o’n haelodau bod gwelliant wedi bod yn narpariaeth y Cyngor cyn Eisteddfod 2004, ond, ers hynny, mae’r arwyddion oedd yn ddwyieithog wedi bod yn mynd i fyny unwaith eto yn uniaith Saesneg, er enghraifft ym Mharc Chwarae Tredgar. Nodom fod hyn yn groes i gynllun iaith y Cyngor ac ateboch nad oeddech yn sylweddoli bod y cynllun iaith yn dweud hynny. Derbynioch felly eich bod yn torri eich cynllun iaith. Roedd yno arwyddion uniaith Saesneg yng nghyntedd y Cyngor, sydd eto yn mynd yn groes i’r cynllun iaith. Dywedoch fod rheini yn hen arwyddion, a’i fod yn fater i’r adrannau unigol i ddewis cyfieithu arwyddion a phosteri.
Trafodom hefyd y mater o ddeunyddiau marchnata y cyngor gan nodi bod y mwyafrif yn uniaith Saesneg, gydag ychydig iawn o bethau Cymraeg i’w gweld yn y llyfrgell. Nodom fod hyn eto yn dorri’r cynllun iaith. Derbynioch chi hynny gan ddweud na ddylech fod yn addo pethau nad oedd modd ei gwneud. Dywedoch hefyd, fod y cynllun iaith wedi ei ysgrifennu gan y weinyddiaeth flaenorol, nid eich gweinyddiaeth chi. Er hynny, dyna yw cynllun iaith y Cyngor, a dyna ddylid cael ei ddilyn gennych.
Cyn ein cyfarfod, cafodd ein haelodau gyfle i gael sgwrs fer gyda un o weithwyr derbynfa’r cyngor. Dywedodd nag oedd yno unrhyw siaradwr Cymraeg yn gweithio yn y dderbynfa, ond am un oedd yno yn achlysurol. Dywedodd eu bod yn awyddus i ddysgu Cymraeg, ond nid oedd hi’n ymwybodol o wersi Cymraeg yn cael eu cynnig gan y Cyngor oherwydd eu horiau gweithio. Mae’n amlwg fod yno bobl sydd yn awyddus i ddysgu Cymraeg yn gweithio i’r Cyngor, ond nid oes digon yn cael eu drefnu ar eu cyfer. Wrth siarad am eich llinell ffôn a’r ffaith ei fod yn cael ei ateb yn uniaith Saesneg, addawoch edrych mewn i’r mater. Gobeithiwn y bydd yna hyfforddiant ymwybyddiaeth fel bod cysondeb i’w weld yn y Cyngor. Nododd ein haelodau eu bod yn aml yn cael eu datgysylltu ar ôl gofyn am wasanaeth Gymraeg dros y ffôn.
Hoffwn bwysleisio nad yw ymddygiad y cyngor ar hyn o bryd yn dderbyniol o gwbl, ac yn gwbl groes i’ch addewidion yn eich cynllun iaith statudol. Os nad oes ymateb brys i’r pwyntiau hyn, bydd ein haelodau yn ystyried yr holl opsiynau ymgyrchu sydd ar gael iddynt er mwyn cywiro’r sefyllfa. Rydyn ni eisiau i bawb gael byw yn Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, a dylai pawb - boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu beidio - gael yr hawl i’w chlywed, i’w defnyddio a’i gweld yn eu bywydau beunyddiol.
Yn gywir,
Euros ap Hywel
Swyddog Maes y De,
Cymdeithas yr Iaith