Llythyr at Carwyn Jones a Ken Skates ynglŷn â safle Ysgol Dyffryn Teifi

Yr ail o Fedi, 2016

 

 

Ardal Twf Dyffryn Teifi

Annwyl Carwyn Jones a Ken Skates

Byddwch chi'n ymwybodol fod safle ysgol Dyffryn Teifi yn cael ei werthu mewn ocsiwn ddiwedd y mis.

Penodwyd Dyffryn Teifi yn Ardal Twf Lleol yn 2013 fel rhan o Iaith Fyw, Iaith Byw oedd yn rhan o ymateb y Llywodraeth i'r Cyfrifiad. Er hynny mae Llandysul ei hun wedi gweld colli gwasanaethau, ac mae eraill dan fygythiad nawr.

Er mwyn dangos bod penodi ardal Dyffryn Teifi yn Ardal Twf Lleol yn gam diffuant i ddiogelu'r Gymraeg yn ward mwyaf Gymraeg Ceredigion gofynnwn i chi weithredu.

Bydd Cabinet Cyngor Ceredigion yn cwrdd ddydd Mawrth nesaf (y 6ed o Fedi) a gofynnwn i chi, cyn y cyfarfod, i ategu'n galwad ni ar i'r Cabinet dynnu'r ysgol oddi ar y farchnad a thrafod gyda'r gymuned, gan fod pobl leol eisoes yn trafod ac yn awyddus i ddefnyddio'r ysgol fel adnodd cymunedol. Gofynnwn i chi alw arnyn nhw i ystyried y canlyniadau i'r gymuned o roi'r safle ar werth.

Gofynnwn hefyd i chi ystyried pa gymorth ariannol ac ymarferol y gallwch chi fel Llywodraeth ei gynnig drwy adnoddau Ewropeaidd a'r Llywodraeth ei hun

Yn Gywir,

Cen Llwyd

Is-gadeirydd Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith a Chadeirydd olaf Corff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Teifi