Llythyr at Gabinet Cyngor Ceredigion par. ysgolion Dyffryn Aeron 6/11/16

Annwyl Aelod Cabinet,
Cyn i chi gwrdd fel Cabinet ddydd Mawrth i drafod darpariaeth addysg yn ardal Dyffryn Aeron hoffem i chi ystyried ein sylwadau isod.

Mae'n amlwg fod y Cyngor Sir yn ad-drefnu ysgolion er mwyn cyfleustra gweinyddol yn hytrach nag er lles addysg plant a chymunedau.
Mae gan y Cyngor swyddfeydd newydd ers rhai blynyddoedd a nifer o swyddi wedi eu symud yno ers hynny, sydd yn golygu bod llai o ddefnydd ar swyddfeydd yn Felinfach. Er mor anaddas fyddai fel safle ar gyfer ysgol mae'r Cyngor yn benderfynol o ddefnyddio'r ased, a hynny ar draul addysg a chymunedau.

Yn hytrach na rhoi rhwydd hynt i swyddogion fynd ati i ymgynghori i gau pedair ysgol a sefydlu ysgol ardal ar safle anaddas gofynnwn i chi fel aelodau Cabinet drafod cynlluniau fydd o fudd i addysg plant a chymunedau.

Yn Gywir,
Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith