Meini prawf drafft ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon

Meini prawf drafft ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon 

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg   

1.Cyflwyniad  

1.1 Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

1.2. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau un continwwm dysgu'r Gymraeg, ac i  ddisodli'r cymwysterau Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl erbyn 2021. 

1.3. Ymhellach, mae gan y Llywodraeth nifer o dargedau o ran cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ei Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. 

1.4. Pwysleisir pwysigrwydd y maes yma yn Strategaeth Iaith ddrafft Llywodraeth Cymru : 

"Gweithredu yn y tymor byr: y pum mlynedd cyntaf ...   

Rydym yn glir bod y system addysg am fod yn allweddol o ran creu siaradwyr Cymraeg y dyfodol. Mae ein system addysg, wrth reswm, yn llwyr ddibynnol ar ein hathrawon. Ein blaenoriaeth fwyaf dros y pum mlynedd nesaf felly fydd cynyddu capasiti’r system addysg i ddiwallu’r angen i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, ac i ddiwallu’r angen i wella sut caiff y Gymraeg ei haddysgu yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Mae hynny’n golygu hyfforddi athrawon newydd a gwella sgiliau’r athrawon presennol. "  

1.5. Gan ystyried y pwyslais cryf y mae'r Llywodraeth yn ei roi ar bwysigrwydd y maes yma, a'r newidiadau mawr sydd ar y gweill yn y system draddodiadol Saesneg, pam nad oes cyfeiriad at yr ymrwymiadau hyn yn y meini prawf neu ddogfennaeth arall yr ymgynghoriad hwn? Dyna'r prif gwestiwn mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei ateb. 

2. Sylwadau Cyffredinol 

2.1. Mae rhan helaeth gwendidau'r ddogfen yn adlewyrchu methiant y Llywodraeth i ystyried ei hymrwymiadau o ran y Gymraeg, megis y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg a sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg ac un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl. Awgrymwn fod angen ailystyried cynigion y ddogfen yn rhinwedd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n galw am newidiadau pellgyrhaeddol i'r gyfundrefn. 

2.2. Yn Atodiad 2 y 'Gofynion trosfwaol', meini prawf y mae’n rhaid i bob rhaglen astudio eu bodloni, does dim sôn am y Gymraeg. Mae hynny'n rhyfeddol, o ystyried yr anghenion o ran y gweithlu a thargedau'r Llywodraeth. 

2.3 Er bod y meini prawf yn nodi bod rhai sgiliau a chymwysterau eraill yn hanfodol ar gyfer y cwrs a staff sy'n addysgu athrawon dan hyfforddiant, nid ydynt yn nodi bod y Gymraeg yn hanfodol. Yn hytrach, mae ymrwymiadau niwlog ynghylch cefnogi staff i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Gan fod angen newid ar frys, nid oes amser bodloni gydag ymrwymiad niwlog o'r fath: mae'n rhaid i'r Gymraeg fod yn hanfodol. 

2.4. Fel cyflogwyr, mae'n bwysig nodi y mae'n debyg y bydd dyletswydd, drwy Safonau'r Gymraeg, ar brifysgolion, ymysg eraill, i gynnig gwersi dysgu a gloywi Cymraeg i'w holl staff. Pam, felly, nad yw'r ddarpariaeth hon yn cael ei droi yn ofyniad mewn maes mor allweddol â hyfforddiant y gweithlu addysg? 

2.5. Ar hyn o bryd, mae rhan fwyaf y rhai sy'n mynd drwy Addysg Gychwynnol Athrawon yn dod o Gymru. Credwn, felly, mai rhesymol yw disgwyl: 

(i) o fewn pum mlynedd, bod hanner y myfyrwyr sy'n cwblhau eu cwrs yn gadael y gyfundrefn yn medru addysgu drwy'r Gymraeg; 

(ii) o fewn deng mlynedd bod yr holl fyfyrwyr sy'n cwblhau eu cwrs yn gadael y gyfundrefn yn medru addysgu drwy'r Gymraeg. 

2.5. Credwn ymhellach y dylai pawb sy'n dilyn cwrs hyfforddi cychwynnol wella eu sgiliau Cymraeg, ac y dylent sefyll arholiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer y Tystysgrif Sgiliau Cymraeg. Yn ogystal â hynny, dylai pob cwrs hyfforddi gynnig o leiaf un modiwl hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. 

3. Sylwadau Penodol – Dogfen Ymgynghori 

3.1. Dylai paragraff 2.5 a 2.6 gyfeirio at amcanion Strategaeth Iaith Ddrafft Llywodraeth Cymru. Nodwn gyda chryn ddiddordeb y datganiad ym mharagraff 2.16:  

"O ran AGA, nid yw Llywodraeth Cymru yn rheoli’n uniongyrchol pa gyrsiau a gynigir mewn sefydliadau penodol, yn cynnwys a ydynt yn cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, mae’n rheoli’r cyflenwad o athrawon cychwynnol drwy bennu dyraniadau targed ar gyfer derbyniadau cyffredinol ar gyfer recriwtio i AGA yng Nghymru."   

3.2 Mae darn hwn yr ymgynghoriad yn taro ar wraidd y broblem bresennol – dylai Llywodraeth Cymru osod targedau o ran y canran a nifer y cyrsiau a gynhelir drwy'r Gymraeg er mwyn sicrhau cyflenwad cynyddol o athrawon sy'n addysgu drwy'r Gymraeg. Mae hynny'n gwbl hanfodol er mwyn sicrhau y caiff targed miliwn o siaradwyr ei gyflawni. Fodd bynnag, nid oes cynnig yn y meini prawf i newid y sefyllfa bresennol.  

3.4. Cyfeirir at ddewis ysgolion y mae myfyrwyr yn cael profiad ynddyn nhw. Credwn fod angen i bob un myfyriwr cael yr hawl i ddysgu drwy'r Gymraeg ym mha ysgol bynnag maen nhw'n dysgu neu hyfforddi i ddysgu. Yn ogystal, dylai fod isafswm o ran y profiad ac ymarfer yn yr ysgol sy'n digwydd drwy'r Gymraeg i bob myfyriwr.  

3.5. Nodwn mewn rhai meysydd mae sgiliau megis 'profiad mewn ysgol' yn cael eu hystyried mor hanfodol na allai unigolyn gwblhau'r cwrs hebddynt. Pam nad oes disgwyliad, dros amser, y bydd pob un yn gallu dysgu drwy'r Gymraeg?  

4.Sylwadau Penodol – Meini Prawf Drafft  

4.1. Ar dudalen 6 y meini prawf drafft, datgenir:  

"Bydd y meini prawf achredu newydd yn sicrhau bod yr holl gyrsiau addysg gychwynnol athrawon yn bodloni dyheadau uchel y llywodraeth. Maent yn diffinio beth sy’n hanfodol ar gyfer darpariaeth o ansawdd uchel, gan gynnwys yr angen i ddarparwyr rhaglenni:  ... meithrin gwerthfawrogiad athrawon dan hyfforddiant o'r iaith Gymraeg a darparu cyfleoedd iddynt ddatblygu eu hyfedredd yn y Gymraeg".  

Nid yw hynny'n ddigonol o bell ffordd, mae’n rhaid i athrawon fod yn rhugl eu Cymraeg. 

4.2. Nodwn fod paragraff 4.2. ar dudalen 14 yn gosod isafswm "o leiaf draean o’u profiad mewn ysgol sy’n cael ei chydnabod am ddarpariaeth o ansawdd uchel.". Credwn y dylai fod isafswm o ran profiad cyfrwng Cymraeg yn ogystal.  

4.3. Ym mharagraff 4.4.1 ar dudalen 17, nid oes cyfeiriad at sgiliau iaith staff sefydliadau addysg uwch, er bod gofyniad o ran cymhwyster lefel uwch o ran y cwrs maent yn ei addysgu. Dylai fod disgwyliad o ran gallu Cymraeg y staff hyfforddi yn ogystal. Credwn ei fod yn realistig disgwyl bod pob aelod staff wedi cyrraedd rhuglder a'r gallu i ddysgu drwy'r Gymraeg o fewn y pum mlynedd nesaf. Yn ogystal, mae'n rhaid gosod nod bod pob gweithiwr sefydliad addysg uwch perthnasol yn gallu hyfforddi athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg.  

4.4. Er ein bod yn croesawu'r ymrwymiad ar dudalen 18 ym mharagraff 4.4.2, sef y "Dylai SAU gefnogi athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol a’r iaith Cymraeg." Fodd bynnag, mae angen targed o ran cyrhaeddiad yn ogystal. 

4.5. O ran paragraff 4.4.3, dylai fod ymrwymiad i ddarparu'r holl adnoddau yn Gymraeg  

4.6. O ran mewnbynnau rhaglenni yn adran 5 ar dudalen 19, mae'n rhaid ychwanegu disgwyliad y bydd y bartneriaeth yn cyrraedd y nod o sicrhau, dros amser, y bydd yr holl athrawon yn medru dysgu drwy'r Gymraeg. Os yw'r Llywodraeth am gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, yna mae’n rhaid i ddarparwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan y gweithlu yn y pendraw.   

4.7. Dylai fod opsiwn i ymestyn y cyrsiau cymhwyso a gyfeirir atynt ar dudalen 20 ym mharagraff 5.3 am flwyddyn er mwyn i bobl ddi-Gymraeg ddod yn rhugl eu Cymraeg er mwyn medru dysgu drwy'r Gymraeg.  

4.8. Dylai fod sôn am sgiliau Cymraeg yn adran 5.4 ar dudalen 21 yn ogystal â sgiliau "rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol".  

4.9. Yn adran 5.5, dylid ychwanegu'r angen i feddu ar ddealltwriaeth o hanes Cymru  

4.10. Yn adran 5.7.1. ar dudalen 22 ac yn y ddogfen mewn adrannau eraill, dylid nodi'r disgwyliad o ruglder yn y Gymraeg sydd yn gynwysedig ym mhedair prif ddiben y cwricwlwm newydd, sef "yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd: ... yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg"  

4.11. Nodwn fod paragraff 5.10 ar dudalen 25 yn enghraifft o sgil neu brofiad sy'n cael ei gymryd o ddifrif ac sy'n hanfodol. Oni ddylai'r Gymraeg gael ei hystyried yn yr un modd? Pam nad oes hyfforddiant digonol, er mwyn bodloni'r disgwyliad bod athrawon yn medru dysgu drwy'r Gymraeg? Credwn y dylid defnyddio adnoddau Cymraeg i Oedolion er mwyn cynorthwyo’r nod.  

4.12. Collfarnwn yn llwyr y ffaith nad oes yr un cyfeiriad at y Gymraeg yn "atodiad 2: Gofynion trosfwaol" sef y meini prawf y mae’n rhaid i bob rhaglen astudio eu bodloni.   

4.13. Yn "atodiad 3: Gofynion derbyn ar gyfer athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru," dylid gwneud cymhwyster gradd B neu uwch yn y Gymraeg yn hanfodol cyn derbyn unrhyw athro dan hyfforddiant. Dylai'r gallu i ddarllen yn effeithiol a chyfathrebu’n glir a chywir drwy gyfrwng y Gymraeg fod yn hanfodol ar gyfer pob un cyn cychwyn, gan gynnig blwyddyn ychwanegol o hyfforddiant dwys er mwyn galluogi pobl lai abl eu Cymraeg i ymuno â'r cwrs.  

Toni Schiavone  

Cadeirydd, Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg  

Tachwedd 2016