Menter Iaith Ddigidol
Papur Safbwynt Cymdeithas yr Iaith
Sefyllfa
Gwelwn y gall y Gymraeg gael ei hennill neu ei cholli fan hyn.
Mae datblygu’r Gymraeg ar lein ac yn ddigidol yr un mor bwysig i’r Gymraeg ag oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg a datblygiad y wasg brintiedig yng Nghymru - mae’n hanfodol.
Rydym yn colli’r frwydr ar hyn o bryd ac mae’r ychydig o Gymraeg sydd i’w chael ar-lein yn cael ei foddi.
Yr Angen
Mae angen ymchwilio i’r hyn sydd ar gael ar-lein ac yn ddigidol yn barod yn Gymraeg. Mae angen edrych i weld sut mae’r bobl yn defnyddio’r hyn sydd ar gael a sut gellir gwella mynediad iddo.
Mae angen ymchwilio i’r rhwystrau sydd yn wynebu pobol wrth greu a dod o hyd i ddeunydd ar lein yn Gymraeg ac ymchwilio i’r atebion i oresgyn y rhwystrau hyn.
Rhaid mynd ati i adnabod anghenion megis creu mwy o ddeunydd, hyrwyddo deunydd a chreu platfformau newydd sy’n cyfateb i’r rhai sydd ar gael mewn ieithoedd eraill, gan ar yr un pryd ddatblygu syniadau gwreiddiol.
Rhaid hefyd edrych ar heriau technolegol sydd yn wynebu’r Gymraeg ar lein ac ymateb i’r heriau hynny.
Nod
Nod Menter Iaith Ddigidol yw cynyddu cyfleoedd i weld, clywed, creu a defnyddio'r Gymraeg ar y wê ac yn ddigidol, ar draws platfformau ar-lein.
Mae’n hanfodol i’r Fenter rymuso ac arfogi pobol ar lawr gwald i greu deunydd yn hytrach nag i ganolbwyntio ar greu defnydd ei hun yn unig.
Strwythur
Rydym wedi rhoi’r enw ‘Menter’ ar y corff hwn am fod cysyniad ‘mentrau iaith' yn agosach at gyfleu'r syniad na llawer o sefydliadau a chyrff eraill, ond nid yw'r sefydliad newydd o reidrwydd yn efelychu mentrau iaith o ran strwythur a'i ddulliau o weithredu.
Mae rhaid pwysleisio y credwn ei bod yn bwysig mai corff ar wahan fydd y Fenter Iaith Ddigidol, ar wahan i fentrau iaith eraill a phob corff a sefydliad arall yng Nghymru. Credwn fod pwysigrwydd datblygiad yn y maes hwn mor fawr, fod angen sefydlu corff yn ei hun i fynd i’r afael â’r her. Mi fydd cyfleon, wrth gwrs, yn codi i gydweithio ac i bartneriaethu â sefydliadau eraill.
Nid ydym yn galw am bencadlys penodol o ran swyddfa i’r Fenter hon - byddai natur y swydd yn golygu mai allan yn y maes ac arlein y byddai angen i unrhyw gyflogai fod.
Bydd Bwrdd Rheoli i’r Fenter ac mi fyddai yn hanfodol i’r Bwrdd hwnnw fod yn ddeallusol yn y maes ac â phrofiad o greu deunydd. Dylai fod cynrychiolaeth arno o fudiadau ieuenctid Cymru ac arweinwyr yn y maes penodol hwn.
Amcanion
-
edrych i weld beth yw’r holl sydd ar gael ar lein yn Gymraeg ar hyn o bryd a chasglu’r wybodaeth at ei gilydd wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen
-
cynnal gwaith ymchwil i’r bwlch anferth sydd yn bodoli ar hyn o bryd
-
galluogi pobol ar lawr gwlad i greu deunydd o bob math yn Gymraeg
-
creu deunydd newydd
-
gwella ymwybyddiaeth ymhlith unigolion, grwpiau a sefydliadau o beth sydd ac a fydd ar gael, ac ymchwilio i sut sydd orau i gasglu a chyflwyno’r deunydd hyn
-
cynnal gwefannau yn yr hir dymor. Mae angen ymchwilio ac yna creu a chynnal platfformau newydd fydd â seilwaith cadarn iddynt allu bodoli yn yr hir dymor.
-
edrych ar heriau technolegol eraill sydd yn wynebu’r Gymraeg gan edrych ar yr atebion sydd ar gael a sut mae ehanghu ar y rheiny a chynnig atebion newydd.
Bydd y Fenter Ddigidol hefyd yn:
-
gweithredu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg
-
o ran ei benderfyniadau creadigol mi fydd yn gweithredu yn annibynnol o unrhyw sefydliad neu gwmni arall
-
ffurfio partneriaethau ar brosiectau gyda sefydliadau a grwpiau yng Nghymru, ac â chymunedau o ieithoedd eraill ar draws y byd
-
yn ofalus i sicrhau'r gorau o fuddsoddiad heb ddyblygu gwaith
-
defnydd o dechnolegau cydweithio i hwyluso gwaith dydd-i-ddydd
Ariannu
Bydd rhaid i’r Fenter Iaith Ddigidol dderbyn arian sylweddol gan y Llywodraeth - swm a fyddai yn adlewyrchu’r brys sydd i fynd i’r afael â’r maes hwn wrth i ni ymdrechu tuag at y miliwn o siaradwyr Cymraeg ac yn adlewyrchu pwysigrwydd y maes yn hynny o beth a hefyd yn swm a fyddai yn adlewyrchu anferthedd y dasg.
Grŵp Digidol
Cymdeithas yr Iaith
Awst 2019