Annwyl Bethan Sayed AC,
Ysgrifennaf er mwyn mynegi pryder am gynnwys papur a gyflwynwyd gan y Llywodraeth i'ch pwyllgor ynghylch Mesur y Gymraeg ddoe.
Gwanhau rheoleiddio a’r Comisiynydd drwy’r drws cefn
Fel y gwyddoch, gwrthodwyd cynigion Papur Gwyn y Llywodraeth gan fwyafrif helaeth yr ymatebwyr i ymgynghoriad y Llywodraeth a mwyafrif yr ymatebion i'ch pwyllgor yn ogystal. Fodd bynnag, mae papur tystiolaeth y Llywodraeth yn amlinellu ymdrech i wneud drwy’r drws cefn yr hyn nad oedd cefnogaeth i ddeddfu ar ei gyfer – sef cyfuno hybu a rheoleiddio o fewn un corff.
Yn y bôn, mae cynigion y Llywodraeth fel y’u mynegir ym mharagraffau 29-31 eu papur yn gyfystyr â dim llai na defnyddio bygythiad ariannol i newid blaenoriaethau, gweithgareddau a llywodraethiant y Comisiynydd. Mae’r Llywodraeth yn ceisio llwgrwobrwyo’r Comisiynydd i wanhau ei hun. Credwn fod y polisi a amlinellir ym mhapur y Llywodraeth yn annemocrataidd ac yn tanseilio annibyniaeth y Comisiynydd. Yn ogystal, mae’n gosod cynsail peryglus i Gomisiynwyr eraill ynghyd â chyrff rheoleiddio eraill.
Mae’n rhaid cofio bod y Comisiynydd yn rheoleiddio’r Llywodraeth, ac mae mynnu newid strwythur llywodraethiant y Comisiynydd er mwyn newid y pwyslais oddi ar y rheoleiddio hwnnw yn anghyfansoddiadol. Nid lle'r Llywodraeth yw ceisio defnyddio cyllideb i newid strwythur corff rheoleiddio annibynnol na’i weithgareddau. Mater i'r ddeddfwrfa yw'r strwythurau hynny.
Mae Atodlen 1, Mesur y Gymraeg 2011 ei hun yn ei gwneud yn gwbl glir y bydd y Comisiynydd yn gorfforaeth undyn sy’n annibynnol ar y Llywodraeth:
“(1) Mae'r Comisiynydd yn gorfforaeth undyn....
(4) Wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â'r Comisiynydd, rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol sicrhau bod y Comisiynydd o dan gyn lleied o gyfyngiadau ag y bo'n rhesymol bosibl wrth iddo benderfynu—
(a) ar ei weithgareddau,
(b) ar ei amserlenni, ac
(c) ar ei flaenoriaethau.”
Mae’n eglur felly bod ymdrech y Llywodraeth i gymell y Comisiynydd yn ariannol i newid ei strwythur llywodraethu a’i dulliau rheoleiddio yn groes i fwriad a llythyren Mesur y Gymraeg.
Mae’r ddeddfwriaeth bresennol hefyd yn pennu strwythur llywodraethiant y Comisiynydd ymhellach, drwy sefydlu panel cynghori yn adran 23 y Mesur. Mae sefydlu Bwrdd arall felly yn debygol o gymhlethu strwythurau’r Comisiynydd mewn ffordd nad yw’n fuddiol i'r corff nac yn gydnaws gyda’r gyfraith.
Fel y gwyddoch, roedd newid strwythur y Comisiynydd yn destun ymgynghoriad gan y Llywodraeth a’ch pwyllgor. Gwrthodwyd opsiynau a fyddai’n cyfuno hybu a rheoleiddio’r Gymraeg o fewn un corff; fodd bynnag, dyna mae’r papur tystiolaeth y Llywodraeth yn ceisio’i wneud.
Yn y Papur Gwyn, cynigiwyd yr opsiwn o sefydlu Bwrdd o dan y Comisiynydd. Ymddengys, yn ôl dadansoddiad y Llywodraeth o’r ymatebion i'r Papur Gwyn, mai dim ond 9 ymatebwr allan o 504 (neu 1.7% o’r ymatebwyr) i'r Papur Gwyn a gefnogai’r opsiwn hwnnw. Felly, mae’r Llywodraeth yn ceisio gweithredu’n groes i farn y cyhoedd, casgliadau’r ymgynghoriad yn ogystal â’r gyfraith.
Mae’r papur yma’n drwch o fygythiadau a chymhellion i sicrhau bod y Comisiynydd yn ildio i ddymuniad y Llywodraeth i wanhau’r gyfundrefn reoleiddio ac felly hawliau pobl Cymru i'r Gymraeg. Nid yw’n ddemocrataidd nac yn gyfansoddiadol iddynt wneud hyn.
Blaenoriaethau anghywir y Llywodraeth
Mae blaenoriaethau’r Llywodraeth, gyda'u hobsesiwn â strwythurau, yn hollol anghywir. Yn wir, cafodd y blaenoriaethau hynny eu trafod mewn ymgynghoriad a chawsant eu gwrthod.
Yn ei hanfod, mae’r Llywodraeth yn cynnig symud yr un potiau bach o arian ac adnoddau staff ar gyfer y Gymraeg o un sefydliad i'r llall; nid oes sôn am gynnydd sylweddol yn y buddsoddiad. Ni fydd budd i'r iaith o ganlyniad i ail-strwythuro diangen a symud staff a chyllideb o gwmpas; yn wir, cynyddu costau fydd y prif ganlyniad.
Mae’r Llywodraeth ei hun, ymatebwyr i'r ymgynghoriadau ar y Papur Gwyn a’r arbenigwyr yn glir bod y Safonau wedi gweithio, ond eto nid oes ymrwymiad gan y Llywodraeth i wneud rhywbeth mor syml â chyhoeddi amserlen ar gyfer cyflwyno Safonau ar gyfer yr holl sectorau sydd o fewn sgôp Mesur y Gymraeg. Pam? Dydy’r syniad bod Brecsit yn cyfyngu ar amser deddfu ddim yn dal dŵr: fydd pasio’r Safonau yn cymryd fawr ddim o amser deddfu’r Senedd.
Mae hyn yn codi’r cwestiwn: beth sy’n digwydd i'r pum gwas sifil a oedd yn gweithio ar y Papur Gwyn? A fyddant yn awr yn gweithio ar ddefnyddio pwerau Mesur y Gymraeg i basio Safonau ar sectorau eraill megis telathrebu, post, ynni a thrydan?
Blaenoriaethau’r Gymdeithas
Credwn, yn lle’r cynlluniau yma, bod y cyhoedd am weld ehangu a chryfhau eu hawliau i fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg. Credwn fod angen:
- Rhagor o gyllid ar gyfer hybu’r Gymraeg - dylid cynyddu’r gwariant ar brosiectau penodol i hybu’r iaith i werth 1% o gyllideb y Llywodraeth, sef y ffigwr cyfatebol yng Ngwlad y Basg;
- Sefydlu Corff Hyrwyddo newydd ar wahân i'r Llywodraeth a’r Comisiynydd;
- Amserlen glir ar gyfer cynnwys yr holl sectorau preifat a restrir ym Mesur y Gymraeg o dan y Safonau;
- Sicrhau bod capasiti o fewn y gwasanaeth sifil i basio’r Safonau gan sicrhau bod tîm o bum gwas sifil yn Adran y Gymraeg yn gweithio yn llawn amser yn benodol ar baratoi a phasio’r Safonau
- Blaenoriaethu cyflawni Strategaeth Iaith: Miliwn o Siaradwyr drwy sicrhau bod tîm o bum swyddog arbenigol yn Adran y Gymraeg yn goruchwylio ac yn gweithredu’r amcanion hynny
Diolch am eich gwaith fel pwyllgor a diolch am ystyried ein sylwadau.
Yn gywir
Osian Rhys
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith