‘Moderneiddio’ Iaith Sir Gâr - Effaith cau Ysgolion Pentrefol ar gyfrwng yr addysgu yn Sir Gâr.

Yn y papur hwn, ystyriwn oblygiadau cynlluniau Cyngor Sir Gâr mewn perthynas uniongyrchol â chyfrwng addysgu plant yn y sir. Cyflwynwn dystiolaeth sy’n dangos y gall y strategaeth arwain yn uniongyrchol at leihad sylweddol yn nifer y plant sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir Gâr ac y bydd yn tanseilio’r polisi y brwydrwyd mor galed i’w gyflwyno – sef cyflwyno addysg yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn y cymunedau Cymraeg trwy ysgolion Categori A.

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen llawn. (Dogfen PDF)