Safonau'r Gymraeg (maes iechyd) - Llythyr Agored at Weinidog y Gymraeg

Annwyl Weinidog,

Ysgrifennwn fel ymarferwyr ym maes gofal iechyd gan ofyn i chi newid Safonau'r Gymraeg fel bod hawliau cyfreithadwy cadarn a chlir gan y cyhoedd i dderbyn gwasanaethau gofal sylfaenol yn Gymraeg.

Pryderwn yn fawr nad yw'ch rheoliadau drafft yn sicrhau hawliau i'r Gymraeg wrth i'r cyhoedd ymwneud â gwasanaethau gofal sylfaenol y gwasanaeth iechyd. Fel y gwyddoch, prif gyswllt y cyhoedd â'r gwasanaethau iechyd yw'r gwasanaethau hyn, felly mae'n allweddol bod cleifion yn cael siarad â'r gwasanaethau gofal sylfaenol ledled y wlad yn Gymraeg.

Credwn ei bod yn hanfodol nad yw darparwyr y gwasanaethau rheng flaen hyn yn cael eu heithrio o'r Safonau arfaethedig. Wedi'r cwbl, rydym yn sôn am hawliau rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, ar adegau yn eu bywydau pan fo cyfathrebu yn Gymraeg yn bwysig iawn i'w hiechyd ac o ran sicrhau'r driniaeth orau iddyn nhw.

Yn adroddiad ‘Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad i’r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol’ yn ôl ym mis Mehefin 2014 roedd Comisiynydd y Gymraeg yn nodi'n glir ar ôl ymchwil drwyadl ei bod yn hanfodol sicrhau cysondeb o ran ymddygiad ieithyddol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ei gyfanrwydd. O ganlyniad, credwn fod rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol fod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg o dan yr un fframwaith statudol â’r byrddau iechyd a sefydliadau iechyd eraill.

Rhaid cymryd camau penodol i sicrhau bod deddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth sydd yn yr arfaeth yn adlewyrchu’r angen i hybu’r Gymraeg mewn gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae digon o waith ymchwil rhyngwladol yn ogystal yn cefnogi'r galwadau hyn.

Erfyniwn arnoch felly i newid y rheoliadau fel bod gan bobl ar lawr gwlad hawliau cadarn yn y meysydd hollbwysig hyn.

Yn gywir,

Dr Emyr Humphreys, Ymgynghorydd Gwynegonoleg

Gudrun Jones, Therapydd Celf - Gofal Oncoleg a Lliniarol

Dr Elin Walker Jones, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol

Dr Dyfed Wyn Huws, Ymgynghorydd Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd

Dr Dilys Davies, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol

Geraint Davies, Fferyllydd

Dr Llinos Roberts, Meddyg Teulu

Dr Ceril Rhys-Dillon, Ymgynghorydd Gwynegonoleg

Penny Hallas, Therapydd Celf, Anableddau Dysgu

Beca Lewis Jones, Therapydd Drama ac Arweinydd Clinigol

Eshmael Palmer, Optometrydd Arbenigol

Liz Lloyd, Seicotherapydd

Dylis Pugh, Therapydd Celf

Phil McFadden Therapydd Celf

Dr Saran Nicholas, Ymgynghorydd Haematoleg

Dr Gwyn Roberts, Meddyg Gofal Lliniarol

Paul Morgans Evans Therapydd Cerdd

Beth Pickard, Therapydd Cerdd

Dr Nia Hughes, Meddyg Teulu, Arweinydd Clwstwr Arfon

Dr Lowri Glyn, Meddyg Teulu

Martine Ormerod, Therapydd Celf

Pamela Stanley, Seicotherapydd Celf

Siân Hutchinson, Therapydd Celf

Mr Phillip Moore, Llawfeddyg Clust, Trwyn a Gwddf

Tiffany Arnold, Seicotherapydd Celf

Wynford Ellis Owen, Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol ym maes dibyniaethau

Christine Eastwood, Therapydd Cerdd

Emyr Jones, Fferyllydd

Esyllt George, Therapydd Drama

Miss Awen Iorwerth, Llawfeddyg Ymgynghorol

Gwerfyl Wyn Roberts, Uwch Ddarlithydd, Prifysgol Bangor

Owain Williams, Fferyllydd

Dr Alun Owens, Meddyg Sylfaen

Dr Arwel Parry, Meddyg Teulu

Dr Meinir Hughes, Meddyg Teulu

Dr Gwilym Pritchard, Meddyg Teulu

Dr Nerys Simpson, Meddyg Teulu