Siarter Ieithoedd Lleiafrifol: 5ed adroddiad cyfnodol y DU

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

Siarter Ieithoedd Lleiafrifol: 5ed adroddiad cyfnodol y DU
Nodyn Cymdeithas yr Iaith

1.Cyflwyniad

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

1.2. Rydym yn ddiolchgar i'r pwyllgor am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth.

2. Prif Sylwadau

2.1. Hoffem dynnu sylw'r pwyllgor at nifer o ddatblygiadau sy'n haeddu sylw ynghylch cydymffurfiaeth awdurdodau Cymru a Phrydain ynghylch y Siarter:

    Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil arfaethedig y Gymraeg sy'n cynnig diddymu Comisiynydd y Gymraeg a gwanhau nifer elfennau pwysig y gyfundrefn hawliau iaith a fyddai'n gam mawr yn ôl o ran defnydd a statws yr iaith;

    Safonau Iechyd gwan a basiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r diffyg camau 'concrit' i wella cynllunio'r gweithlu a darpariaeth iechyd. Mae ystadegau diweddar yn dangos cwymp dros y blynyddoedd diweddar yn y nifer o feddygon teulu sy'n medru'r Gymraeg er enghraifft;

    Rydym yn pryderu am effaith y canllawiau cynllunio, Nodyn Cyngor Technegol 20, sydd yn anghyfreithlon ac, yn gyffredinol, yn ceisio atal awdurdodau cynllunio rhag cynnal asesiadau effaith iaith ar ddatblygiadau unigol;

    Er ein bod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, gresynwn fod y Llywodraeth wedi gosod targedau is ar gyfer twf addysg cyfrwng Cymraeg nag yn ei strategaeth flaenorol yn 2010. Croesawn adolygiad Aled Roberts o'r gyfundrefn Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, a gobeithiwn y bydd cyfundrefn gadarnach a chliriach yn ei lle maes o law;

    Pryderwn am y gwariant a darpariaeth isel iawn o brentisiaethau, addysg bellach ac addysg i oedolion drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn achos prentisiaethau, dim ond oddeutu 140 prentisiaeth cyfrwng Cymraeg sydd, allan o dros 48,000 a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi tynnu sylw at y broblem ddybryd hon yn ogystal;

    Croesawn bolisi Llywodraeth Cymru o ddileu Cymraeg ail iaith a'i ddisodli drwy sefydlu un continwwm ac un cymhwyster i bob disgybl ond pryderwn am arafwch y broses – ni fydd gweithredu llawn tan 2026, 13 mlynedd ers adroddiad brys gan Yr Athro Sioned Davies;

    Pryderwn am y cwymp yn y niferoedd sy’n hyfforddi i fod yn athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg a'r diffyg gweithredu cadarn gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â phroblemau penodol y Gymraeg;

    Mae cynigion Llywodraeth Prydain i wneud toriadau pellach i S4C a gosod tynged cyllideb y sianel ynghlwm â Siarter y BBC yn destun pryder mawr. Pryderwn yn fawr na fydd S4C yn bodoli fel darlledwr annibynnol wedi 2022, os yw cynigion Llywodraeth Prydain yn cael eu gweithredu. Bydd un o'r ychydig sefydliadau Cymraeg eu hiaith yn cael ei thraflyncu gan sefydliad Saesneg eu hiaith. Erbyn hyn, mae fwyfwy o gyllideb S4C – sianel yr aberthodd cymaint o bobl eu rhyddid drosti – yn sybsideiddio rhaglenni Saesneg ac mae hanner swyddi S4C yn mynd i gael eu lleoli ym mhencadlys y BBC yng Nghaerdydd;

    Effaith Brexit ar nifer o faterion, yn enwedig ar gymunedau a'r diwydiant amaethyddol sydd mor bwysig i hyfywedd y Gymraeg ar lawr gwlad;

    Effaith llymder ar ystod a safon y gwasanaethau Cymraeg, er bod y Safonau yn effeithio ar rai gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir trydydd parti.

3. Sylwadau Eraill

3.1. Iechyd

3.1.1. Nodwn argymhelliad clir Pwyllgor Gweinidogion Cyngor Ewrop yn dilyn y 4ydd adroddiad i "gymryd camau concrit i gynyddu'n bellach defnydd y Gymraeg mewn gofal iechyd a chymdeithasol"1 ("take concrete steps to further increase the use of Welsh in health and social care").

3.1.2. Pryderwn fod y Safonau Iechyd a basiwyd gan y Senedd ym mis Mawrth eleni yn annigonol i sicrhau gwelliannnau sylfaenol i ddarpariaeth gofal iechyd drwy'r Gymraeg gan eu bod yn:

(i) eithrio darprwyr gofal iechyd sylfaenol, megis fferyllfeydd a meddygfeydd, o'r rheoliadau er mai nhw yw prif bwynt cyswllt – ac yn aml, unig bwynt cyswllt – y cyhoedd â'r gwasanaeth iechyd;

(ii) gwadu'r hawl gan bobl i dderbyn gofal iechyd wyneb yn wyneb, gan gynnwys ymgynghoriadau clinigol, yn Gymraeg mewn ysbytai – boed drwy wasanaeth cymorth cyfieithu neu staff sy'n medru'r iaith – sef y prif wasanaeth a ddarperir gan wasanaethau iechyd;

3.1.3. Anwybyddodd y Llywodraeth holl argymhellon pwyllgor trawsbleidiol2 yn y Senedd i:

" ... cyflwyno rheoliadau ychwanegol cyn gynted ag sy’n ymarferol, sy’n sefydlu hawliau clir i gael gwasanaethau gofal iechyd wyneb yn wyneb yn Gymraeg."

"... cyflwyno rheoliadau diwygiedig cyn gynted ag sy’n ymarferol, sy’n nodi safonau cliriach ar gyfer datblygu gwasanaethau Cymraeg yn y sector gofal sylfaenol."

3.1.4. Yn benodol, rydym yn bryderus nad yw'r Llywodraeth yn cymryd camau digonol i gynllunio'r gweithlu iechyd yn enwedig gan ystyried yr ystadegau diweddaraf sy'n amlygu cwymp yn nifer y meddygon teulu sy'n medru'r Gymraeg3. Galwn ar y Llywodraeth i:

    Gosod cwotâu ar ysgolion meddygol a cholegau hyfforddi eraill o ran hyfforddi meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd eraill sy'n medru'r Gymraeg

    Sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor i gynyddu darpariaeth hyfforddiant meddygol yn Gymraeg

3.1.5. Parthed erthygl 13(2)(c) y Siarter, mae'r Safonau Iechyd yn benodol yn eithrio cartrefi4 gofal sy'n destun pryder i ni yn ogystal.
3.2. Bil arfaethedig y Gymraeg – troi'r cloc yn ôl

3.2.1. . Credwn y byddai cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil y Gymraeg yn gam mawr yn ôl i statws a defnydd yr iaith. Credwn y byddai'r papur gwyn yn cael yr effaith ganlynol ar y gyfundrefn bresennol:

    Byddai'n troi'r cloc yn ôl drwy ail-sefydlu nifer o elfennau aflwyddiannus cyfundrefn Deddf Iaith 1993

    Byddai'n gwanhau hawliau ac yn lleihau grym y defnyddiwr gan:

        y byddai'n rhaid cwyno wrth gyrff unigol ac na fyddai modd mynd yn syth at y Comisiynydd;

        mai dim ond ynghylch cwynion 'difrifol' y byddai modd cynnal ymchwiliadau;

        y byddai'n rhoi’r grym i osod Safonau ar gyrff i’r Llywodraeth yn lle’r Comisiynydd

        y byddai'n gwanhau rheoleiddio wrth gyfuno swyddogaethau rheoleiddio a hyrwyddo o fewn un corff a fydd yn gorfod aberthu ei waith rheoleiddio er mwyn canolbwyntio a llwyddo yn ei waith hybu a hyrwyddo

    Byddai'n cymhlethu'r system drwy ychwanegu haen ychwanegol, ond ddi-rym, o 'ddyletswyddau cynllunio ieithyddol', ar ben y Safonau a'r cynlluniau iaith (sy'n dal i fod yn weithredol mewn rhai sefydliadau).

    Byddai'n ei gwneud yn llai tebygol y bydd mwy o’r sector breifat yn gorfod darparu gwasanaethau Cymraeg gan na fyddai amserlen i osod Safonau ar restr benodol o gyrff ac oherwydd mai'r Llywodraeth, ac nid y Comisiynydd, fyddai'n gyfrifol am gychwyn y broses o ddod â mwy o sectorau o dan ddyletswyddau iaith

    Byddai'n blaenoriaethu buddiannau cyrff yn lle defnyddwyr, er enghraifft mae'r Papur Gwyn yn argymell y dylai fod 'siop un stop' er hwylustod i gyrff, ond byddai'r cynigion yn gorfodi defnyddwyr i gwyno wrth gannoedd o gyrff unigol am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg.

    Byddai'n canoli grym yn nwylo Llywodraeth Cymru gan mai nhw fyddai'n rheoli'n llwyr pwy sy'n dod o dan ddyletswydd iaith, pa rai, dan ba amodau ac erbyn pryd. Y Llywodraeth hefyd fyddai'n penodi prif swyddogion y cyrff fyddai'n rheoleiddio a hybu hawliau i'r Gymraeg

3.2.2. Mae llai na dwy flynedd ers i gyfundrefn y Safonau, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, fod mewn grym. Croesawn gyhoeddiad y dystiolaeth gyntaf sy'n ymdrin ag effaith y Safonau ar ddefnydd y Gymraeg, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017 yn adroddiad sicrwydd 2016-17 y Comisiynydd "Hawliau'n Gwreiddio". Yn yr adroddiad, drwy gymharu ystadegau blwyddyn gyflawn dan y gyfundrefn Safonau a'r flwyddyn cyn iddynt ddod i rym, amlygir nifer o ddatblygiadau cadarnhaol, gan gynnwys:

    Mae 76% o siaradwyr Cymraeg o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella, a dim ond 10% yn anghytuno â hynny

    Mae 57% yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg

    Roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer 25% o'r swyddi a hysbysebwyd – o gymharu â 16% yn 2015-16 – sy'n gynnydd o 56%

    Yn y sector iechyd (nad yw'n rhan o'r gyfundrefn Safonau eto) roedd canran y swyddi a hysbysebwyd lle roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol wedi aros yn ei hunfan (rhwng 2015-16 a 2016-17), a hynny ar ddim ond 1% o swyddi

    Gwelwyd cynnydd, o 50% yn 2015-16, i 96% yn 2016-17, yn nifer y gwasanaethau ffôn lle cynigir dewis iaith yn ddiofyn

    Gwelwyd cynnydd, o 32% yn 2015-16, i 45% yn 2016-17, yn nifer y cynghorau sy'n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg

3.2.3. Nodwn gyda chryn syndod absenoldeb unrhyw dystiolaeth ryngwladol na domestig gadarn ym mhapur gwyn y Llywodraeth. Nodwn yn enwedig absenoldeb unrhyw dystiolaeth ynghylch profiad pobl o geisio defnyddio gwasanaethau Cymraeg a'r rhwystrau sy'n eu hwynebu, er bod tystiolaeth ar gael megis Arolwg Defnydd Iaith Llywodraeth Cymru ac adroddiad Cyngor ar Bopeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg.

3.2.4. Nodwn ymhellach, a chyda chryn bryder, penderfyniad y Llywodraeth i oedi pellach cyn pasio Safonau mewn sectorau eraill, megis meysydd trafnidiaeth, telathrebu a phost, nes bod Bil y Gymraeg wedi ei basio, er gwaetha'r dystiolaeth uchod am effaith gadarnhaol y Safonau ar ymddygiad cyrff. Bydd hynny'n dal hawliau pobl i'r Gymraeg yn ôl mewn meysydd sy'n cael effaith mawr ar fywydau rhan helaeth poblogaeth Cymru.

3.2.5. Gallwn ni grynhoi ein safbwynt ar y Bil arfaethedig fel a ganlyn:

    Dylai Llywodraeth Cymru ollwng cynigion y papur gwyn a dechrau eto gan eu bod wedi gwrando ar gyrff a busnesau ar draul hawliau cefnogwyr a defnyddwyr y Gymraeg.

    Bod cynigion y papur gwyn mor bell o ddeddfwriaeth gall a fyddai'n amddiffyn ac ymestyn hawliau i'r Gymraeg fel y byddai'n well peidio â deddfu o gwbl na phasio cynigion o'r fath, a bwrw ati i wneud y gwaith y gellir ei wneud, ond sydd heb ei wneud, o dan y Mesur presennol.

    Dylid estyn y Safonau i weddill y sector preifat drwy enwi sectorau ar wyneb y Mesur, gan ddechrau’n syth gydag archfarchnadoedd, banciau, cyrff y goron, mân-werthwyr a chwmnïau sydd â throsiant uwch na ffigwr penodol, gydag amserlen, a hawl i gynnwys rhagor o sectorau drwy is-ddeddfwriaeth. Os yw safbwynt y Llywodraeth bresennol yn parhau i fod fel y'i hamlinellir yn y Papur Gwyn, sef nad ydynt o blaid ymestyn Safonau i weddill y sector preifat, byddai'n fwy llesol gweithredu'r Mesur presennol yn llawn yn hytrach na deddfu o'r newydd.

    Dylid cadw Comisiynydd y Gymraeg fel corff rheoleiddio ar wahân gan ei fod yn fodel a ddefnyddir yn rhyngwladol a bod yna Gomisiynwyr Plant, Pobl Hŷn a Chenedlaethau’r Dyfodol. Byddai sefydlu Comisiwn yn lle Comisiynydd y Gymraeg yn gam mawr yn ôl ac yn gyfystyr ag ail-sefydlu Bwrdd yr Iaith – cyfundrefn a ddiddymwyd yn 2012 oherwydd ei methiannau.

    Mae angen hawliau cyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg ar wyneb y ddeddfwriaeth, i gyd-fynd â’r Safonau, er eglurder i’r cyhoedd ac er mwyn llywio’r Safonau i sicrhau eu bod yn esblygu ac yn gwella ac er mwyn llenwi’r mannau gwan ynddynt.

3.2.7. Parthed erthygl 7 para 4 y Siarter, rydym wedi cwyno bod y Llywodraeth allgau'r cyhoedd o weithdai oedd yn rhan o gasglu tystiolaeth ar gyfer y papur gwyn ar Fil y Gymraeg. Ac wedyn, anwybyddodd y Llywodraeth atebion gan rhan helaeth y cyhoedd ac ni gofnododd chwaith sylwadau'r cyhoedd yn y gweithdai.
3.3. Diffyg Gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan awdurdodau Prydeinig

3.3.1 Rydym wedi nodi bod problemau cynyddol gyda'r diffyg ac ansawdd isel gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gyrff Prydeinig nad ydynt yn dod dan y gyfundrefn Safonau oherwydd bod Ysgrifennydd Cymru yn gwrthod rhoi cysyniad iddynt gael eu cynnwys dan y gyfundrefn. Dyma rai enghreifftiau diweddar o'r diffyg darpariaeth:

    Diffyg profion gyrru Cymraeg o ganlyniad i gynnwys prawf llywio â lloeren (satnav);

    Diffyg gwasanaethau ar-lein Cymraeg ar gov.uk gyda nifer o wasanaethau ddim yn gweithio'n iawn neu'n llawn;

    Diffyg pasbortau Cymraeg

3.4. Addysg

3.4.1. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Fodd bynnag, nid yw'r camau yn y cynllun gweithredu a'r strategaeth, yn enwedig ynghylch addysg a dysgu Cymraeg i oedolion, yn ddigon uchelgeisiol i gyrraedd y targed. Yn wir, yn nhermau addysg, mae'r targedau'n is na Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg 2010. Croesawn yr adolygiad o'r gyfundrefn Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, gan ei bod yn glir nad oes cynllunio hir dymor na digon uchelgeisiol yn digwydd ar hyn o bryd.

3.4.2. Parthed Erthygl(1)(e) y Siarter, pryderwn am y rhagfarn yn erbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n derbyn gwersi Saesneg yn rhad ac am ddim, ond sydd yn y rhan fwyaf o siroedd yng Nghymru yn gorfod talu am wersi Cymraeg . Rydym ar ddeall bod y Swyddfa Gartref wedi dweud nad oes arian ar gael ar gyfer gwersi Cymraeg, a bod rhaid i awdurdodau lleol ddewis rhwng darparu gwersi Saesneg a gwersi Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod sefydlu cynllun Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill ac yn ariannu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn unig: nid yw defnydd tocenistaidd y Gymraeg o fewn gwersi Saesneg yn trin y Gymraeg a'r bobl sy'n ffoi i Gymru yn deg.

3.4.3. Rydym yn pryderu'n fawr am y gwariant a darpariaeth uffernol o isel yn y meysydd addysg canlynol:

    Prentisiaethau

    Addysg Bellach

    Addysg Oedolion yn y gymuned

3.4.4. Yn ôl y ffigyrau diweddaraf sydd ar gael5, o 2009 i 2012, 0.02% yn unig o’r un deg saith miliwn a wariwyd ar ddysgu oedolion yn y gymuned dros gyfnod o dair blynedd a ddefnyddiwyd ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg. Yn un o'r blynyddoedd, chafodd dim un geiniog ei wario o'r gyllideb ar addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

3.4.4. Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymestyn swyddogaethau y Coleg Cymraeg i ymwneud â dysgu'n seiliedig yn y gwaith ac addysg bellach. Fodd bynnag, nid oes arian wedi clustnodi ar gyfer y cyfrifoldebau ehangach hyn.
Prentisiaethau

3.4.5 Ers sawl blwyddyn, mae nifer y prentisiaethau sy'n cael eu cynnal drwy'r Gymraeg yn eithriadol o fach. Yn 2014/15, dim ond 0.3%, neu 140 prentisiaeth, a gwblhawyd yn y Gymraeg, allan o 48,345.

3.4.6. Mewn ymateb i feirniadaeth am y sefyllfa, mae swyddogion y Llywodraeth wedi newid y ffordd mae'r ystadegau yn cael eu cyflwyno. Bellach maen nhw'n cyhoeddi ffigwr arall, sef nifer y prentisiaethau gyda "rhywfaint o ddysgu dwyieithog". Gallai hynny olygu cyn lleied â chyflwyno un adnodd dysgu dwyieithog i'r myfyrwyr, ac felly nid ydym yn credu ei fod yn ystadegyn o werth. Ymhellach, pryderwn fod awydd swyddogion i ganolbwyntio ar yr ystadegyn hwnnw yn ffordd o osgoi newid polisi a thaclo hunan-fuddiannau'r darparwyr presennol.

3.4.7. Mae'r diffyg darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn destun pryder mawr iawn i ni – mae 0.3% yn chwerthinllyd o isel. Mae'r Llywodraeth yn buddsoddi llawer o arian yn yr hyfforddiant, ac mae hynny'n gwbl gywir, ond mae'n rhaid hyfforddi ein pobl ifanc i allu gweithio'n Gymraeg. Wedi'r cwbl, mae cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle yn allweddol i bolisi iaith y Llywodraeth. Yn y byd sydd ohoni, mae gormod o bobl, gan gynnwys gweision sifil, yn derbyn yn ddi-gwestiwn bod y byd gwaith bron â bod yn gyfan gwbl Saesneg.

3.4.8. Er mwyn taclo'r perfformiad cwbl annerbyniol presennol, galwn arnoch i glustnodi £10 miliwn o bunnau allan o'r gyllideb prentisiaethau, sy'n werth dros £111.51 miliwn, i fod o dan reolaeth y Coleg Cymraeg yn 2019/20. Tua 9% o'r gyllideb yw hyn, ond byddai'n gwneud gwahaniaeth mawr o ran dechrau gweddnewid y sefyllfa. Gofynnwn i'r arian a glustnodir i'r Coleg Cymraeg ar gyfer prentisiaethau gynyddu i ganran sy'n cyfateb i ganran siaradwyr Cymraeg y boblogaeth bresennol o oddeutu 20%, neu £22 miliwn y flwyddyn ar sail y gyllideb bresennol, o fewn tair blynedd, hynny yw erbyn 2021/22. Ni fyddai'r polisi hwn yn costio'r un geiniog ychwanegol i'r Llywodraeth – mater o drosglwyddo arian o'r gyllideb bresennol i'r Coleg Cymraeg fyddai hyn. Fodd bynnag, byddai'r penderfyniad yn galluogi gweddnewid y sefyllfa er lles y Gymraeg a'i lle yn y gweithle. Credwn y byddai nifer o fuddion yn deillio o fabwysiadu'r polisi hwn – byddai o fudd i sefydliadau a chwmnïau sydd am wella ar eu darpariaeth Gymraeg, o fudd ieithyddol, addysgol a diwylliannol i'r myfyrwyr, ac yn cyfrannu at leihau allfudiad siaradwyr Cymraeg ifanc o Gymru a'u cymunedau.
Cynllunio'r Gweithlu Addysg

3.4.9. Pryderwn nad oes strategaeth gynhwysfawr gan y Llywodraeth i gynllunio'r gweithlu addysg er mwyn normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg. Mae ystadegau diweddar yn dangos bod mwy o fyrfyrwyr o Gymru yn hyfforddi i fod yn athrawon yn astudio yn Lloegr, gyda hanner y myrfyrwyr o Ogledd Cymru yn mynd i astudio yn Lloegr6.

3.4.10. Rydym wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ond dydyn nhw heb osod unrhyw dargedau i ddarparwyr hyfforddiant athrawon i sicrhau canrannau uwch yn hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg.

Gofal Plant

3.4.11. Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio cynnig 30 awr yr wythnos o ofal plant yn rhad ac am ddim i rieni mewn gwaith. Mae cwestiwn a fydd y ddarpariaeth yn sicrhau hawliau a normaleiddio gofal plant cyfrwng Cymraeg.

4. Y Cyfryngau

4.1. Pryderwn yn fawr na fydd S4C yn bodoli fel darlledwr annibynnol wedi 2022 yn sgil adolygiad Euryn Ogwen Williams o'r sianel ac ymateb Llywodraeth Prydain San Steffan iddo fe. Ein prif bryderon yw'r canlynol:

    Wedi toriadau o 36% i gylllideb S4C ers 2010, bydd mwy o doriadau am y 2 flynedd nesa o achos rhewi'r gyllideb

    Wedi 2020, bydd toriadau pellach, gyda grant £7 miliwn y Llywodraeth yn cael ei ddiddymu

    Wedi 2022, does dim sicrwydd o unrhyw arian o gwbl gan y bydd penderfyniadau ariannol yn hollol ddibynnol ar siarter y BBC

4.2. Nodwn ymhellach bod yr adolygiad a gynhaliwyd gan Euryn Ogwen Williams wedi gwrthod cwrdd â ni fel mudiad ac wedi anwybyddu deiseb a gyflwynwyd iddo yn dadlau dros ddatganoli darlledu.

4.3. Rydym wedi croesawu lansiad Radio Cymru 2 fel cam yn y cyfeiriad cywir gyda gwasanaeth 2 awr y dydd, pryderwn am ddominyddiaeth gynyddol y BBC o'r cyfryngau yng Nghymru.

4.4. Mae prinder difrifol o oriau darlledu yn Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol yn ogystal ac mae diffygion difrifol gyda'r gyfundrefn reoleiddio. Pryderwn ymhellach am gynlluniau Llywodraeth Prydain i lacio'r rheoleiddio radio'n bellach fel na fydd unrhyw amodau Cymraeg ar drwyddedau radio.

4.5. Mae cynifer o broblemau I'r Gymraeg o ganlyniad i'r Gymraeg o ganlyniad i'r gyfundrefn ddarlledu Brydeinig, fel ein bod, fel mudiad wedi blaenoriaethu ymgyrchu dros ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.

4.4. Parthed erthygl 11(1)(e), rydym ar ddeall bod hyfforddiant i newyddiadurwyr a ariennir drwy grant Llywodraeth Cymru i Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn uniaith Saesneg

4.5 O ran ffilmiau, rydym wedi cwyno wrth Lywodraeth Cymru am y prinder buddsoddiad mewn ffilmiau Cymraeg a ariennir drwy ei chronfa Buddsoddi yn y Cyfryngau. Dim ond 0.57% o arian sydd wedi ei fuddsoddi yn ffilmiau Cymraeg o'r gronfa honno a sefydlwyd yn 2014 ac sy'n werth £30 miliwn dros gyfnod o 5 mlynedd.

4.6. Pryderwn ymhellach bod papur newydd Y Cymro wedi ei israddio o bapur wythnosol i un misol – credwn y dylai fod buddsoddiad pellach er mwyn datblygu'r papur ymhellach.
5. Gweinyddiaeth a Llywodraeth Leol

5.1. Rydym yn croesawu symudiad Cyngor Ynys Môn at weinyddiaeth fewnol Gymraeg.

5.2. Pryderwn fodd bynnag am ddiffyg defnydd mewnol y Gymraeg gan Lywodraeth – rydym ar ddeall nad oes yr un o gyfarwyddwyr Llywodraeth Cymru yn medru'r Gymraeg bellach.

5.3. Rydym yn pryderu yn bellach am fethiant Llywodraeth Cymru i ddatganoli swyddi ac adrannau i Ogledd na Gorllewin y genedl er bod cyrff newydd fel Awdurdod Cyllid Cymru wedi ei sefydlu'n ddiweddar. Byddai datganoli adrannau a chyrff i'r ardaloedd hynny yn rhywbeth fyddai'n hwb economaidd i ardaloedd lle mae canrannau uchel o siaradwyr Cymraeg.

6. Sylwadau Eraill

6.1. Parthed erthygl 13(1)(b), mae cwmnïau, megis SportsDirect, yn mabwysiadu a gweithredu polisïau o wahardd defnydd yr iaith o hyd. Credwn nad yw'r gyfraith yn ddigon cadarn yn y maes hwn.

6.2. Parthed y system gynllunio, pryderwn am effaith targedau tai cenedlaethol ar gymunedau Cymraeg eu iaith. Collfarnwn Lywodraeth Cymru am gyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol 20 newydd sy'n ceisio atal cyrff rhag cynnal asesiadau effaith iaith ar ddatblygiadau unigol, er bod y canllawiau yn groes i ddarpariaethau Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

Cymdeithas yr Iaith

Mai 2018

1 https://search.coe.int/cm/Pages/result_details.aspx?ObjectId=09000016805...

2 http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld11476/cr-ld11476-w.pdf

3 https://gov.wales/docs/statistics/2018/180426-general-medical-practition...

4 http://www.cynulliad.cymru/laid%20documents/sub-ld11429/sub-ld11429-w.pdf (tudalen 9)

5 http://cymdeithas.cymru/sites/default/files/Ystadegau%20gwariant.pdf

6 http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44071663