1. Cyflwyniad
1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ymgyrchu am dros hanner canrif dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.
1.2. Dywed strategaeth iaith Llywodraeth Cymru – Iaith Fyw: Iaith Byw – a gyhoeddwyd yn 2012 ei bod yn "adeiladu ar weledigaeth Iaith Pawb a gyhoeddwyd yn 2003". Prif nodau Iaith Fyw: Iaith Byw oedd y canlynol:
-
cynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad yr iaith ac sy’n ei defnyddio
-
rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
-
cynnydd yn hyder pobl a’u rhuglder yn yr iaith
-
mwy o ymwybyddiaeth ymhlith pobl o werth y Gymraeg, fel rhan o’n treftadaeth genedlaethol a hefyd fel sgìl defnyddiol mewn bywyd modern
-
sefydlogi sefyllfa’r Gymraeg o fewn ein cymunedau
-
lle amlwg i’r Gymraeg ar draws y cyfryngau digidol
"Gwireddu’r weledigaeth
"Mae dwy elfen graidd i bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer gwireddu ein gweledigaeth. Yn gyntaf, drwy fesurau i alluogi ac annog plant a phobl eraill i gaffael yr iaith, fel annog trosglwyddo’r iaith yn y cartref a sicrhau twf pellach mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ail, drwy fesurau i alluogi ac annog pobl i ddefnyddio’r iaith yn feunyddiol, fel creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol, wrth eu gwaith, wrth dderbyn gwasanaethau, ac wrth fwynhau adloniant a hamdden.
1.3. Prif dargedau Iaith Pawb – Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru (2003) oedd codi nifer y siaradwyr Cymraeg bum pwynt canran ledled Cymru (o 20.7% yn 2001 i 25.7% yn 2011) ac atal y dirywiad yn nifer y cymunedau Cymraeg:
“Erbyn 2011 – bod y ganran o bobl Cymru sy’n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu 5 pwynt canran o’r ffigwr a ddaw i’r amlwg o gyfrifiad 2001;
“bod y lleihad yn nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gan dros 70% o'r boblogaeth yn cael ei atal;” [tud.11, Iaith Pawb (2003)]
2.Sylwadau Cyffredinol
2.1. Dangosydd y Gymraeg (rhif 26)
2.1.1. Ar yr olwg gyntaf, dyw hi ddim yn glir beth yw ystyr y frawddeg sy'n esbonio sut y bydd dangosydd 26 yn cael ei fesur:
"Y ganran o’r oedolion sy’n siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg ac yn siarad Cymraeg yn feunyddiol a’r ganran o’r plant sy’n rhugl ac yn siarad Cymraeg gartref."
Nid oedd yn glir i ni ai 4 mesur gwahanol o dan yr un dangosydd oedd dan sylw neu un fformiwla. Wedi i ni wneud ymholiadau, esboniodd prif ystadegydd y Llywodraeth wrthon ni dros y ffôn mai dwy fformiwla i fesur cynnydd sydd dan sylw yma, sef:
(i) Canran yr oedolion sy’n siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg ac yn siarad Cymraeg yn feunyddiol; a
(ii) Canran y plant sy’n rhugl ac yn siarad Cymraeg gartref.
2.1.2. O ystyried esboniad y swyddog, credwn fod y targedau clir a fabwysiadwyd yn Iaith Pawb yn cynnig sail gadarnach i adeiladu arnynt wrth ystyried dangosyddion i fesur ffyniant y Gymraeg na'r cynnig yn y ddogfen ymgynghorol. Byddai'r cynnig presennol yn aneglur ac yn ddryslyd i gyrff a'r cyhoedd.
2.1.3 Credwn fod angen dau ddangosydd ar wahân i'r Gymraeg: un sy'n mesur cynnydd o ran gallu pobl yn y Gymraeg; ac un arall o ran defnydd. Byddai hynny'n dilyn patrwm clir strategaeth Iaith Pawb a byddai'n galluogi cymhariaeth glir gydag ystadegau'r Cyfrifiad. Credwn y byddai'n anodd mesur llwyddiant a chynnydd pe bydden nhw'n cael eu cymysgu fel y maent yn y ddogfen ymgynghori bresennol.
2.1.3. Credwn ei bod yn hynod bwysig bod modd cysoni data'r Cyfrifiad a'r dangosydd arfaethedig. Felly dylid ystyried cynnwys cwestiynau yn Arolwg Cenedlaethol Cymru sy'n defnyddio yn union yr un geiriad â'r rhai a ddefnyddir yn y Cyfrifiad. Byddai hynny'n sicrhau y bydd modd cymharu'n well a pharhau i allu defnyddio'r Cyfrifiad fel y safon aur ar gyfer mesur cynnydd. Nodwn fod anfanteision o fabwysiadu dangosydd nad yw'n cynnig cysondeb gyda'r hyn sy'n ofynnol yn unol â'r Safonau Hybu na Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru – Iaith Fyw: Iaith Byw.
2.1.3 Ni chredwn fod canran yr oedolion sy’n siarad "mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg" yn ffon fesur gywir ar gyfer y dangosydd. Er mwyn sicrhau rhagor o gysondeb gyda'r Cyfrifiad a thargedau Iaith Pawb, awgrymwn y dylid defnyddio'r mesur a ofynnir yn y Cyfrifiad, sef, faint o bobl sy'n gallu siarad y Gymraeg, yn hytrach na chreu dangosydd newydd.
2.1.4 Bydd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru yn cael eu disodli yn 2017. Mae'n bwysig nad yw'r dangosyddion hyn yn atal y Llywodraeth nesaf rhag edrych ar ddangosyddion pwysig eraill yn y trafodaethau hynny.
2.1.5. Nodwn nad oes dangosydd sy'n nodi faint o gymunedau Cymraeg sydd: mater sy'n rhan hollbwysig o'r gwaith o asesu cyflwr yr iaith. Credwn fod angen casglu'r ystadegau hyn yn fwy rheolaidd na phob deng mlynedd fel y gwneir gan y Cyfrifiad a'u defnyddio er mwyn mesur y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran ffyniant y Gymraeg. Mae angen dyfeisio dangosyddion eglur yn ogystal. Mae cyfartaledd y siaradwyr Cymraeg yn un, ond un arall i'w ystyried yn ogystal yw nifer y cymunedau cymuned a thref sy'n cynnal eu cyfarfodydd a chofnodion yn Gymraeg. Gellid ystyried mesur y nifer o swyddi o fewn cyrff cyhoeddus lle mae Cymraeg rhugl yn hanfodol hefyd.
2.1.6 Ymhellach, credwn fod bwriad y dangosydd yn y ddogfen arfaethedig i ddim ond edrych ar ddefnydd plant o'r Gymraeg fel grŵp penodol mewn cymdeithas yn gamgymeriad. Credwn fod angen edrych ar ddefnydd yr iaith yn y gweithle a'r gymuned yn ogystal.
ARGYMHELLIAD: Dylid llunio dau ddangosydd newydd ar gyfer y Gymraeg, yn hytrach na'r un presennol. Byddai un dangosydd yn mesur gallu pobl i siarad Cymraeg. Byddai un arall, ar wahân, yn mesur defnydd o'r iaith.
Dylai'r dangosydd newydd am allu yn y Gymraeg gynnwys mesur sy'n galluogi cymharu â gwybodaeth am allu o ystadegau'r Cyfrifiad. Dylai'r dangosydd defnydd, neu ddangosydd arall, gynnwys mesur o ran nifer y cymunedau lle siaredir yr iaith yn helaeth, sef cymunedau lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Dylai'r dangosydd defnydd hefyd fesur defnydd pobl o'r Gymraeg yn y gweithle, yn y gymuned ac defnydd o'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau, yn ogystal â defnydd plant yn y cartref.
3.Pwyntiau Eraill
3.1. Mae dangosyddion 4, 5 a 6 yn ymwneud ag addysg. Mae'n hanfodol bwysig bod y dangosyddion hyn yn nodi'r ganran sy'n astudio drwy'r Gymraeg wrth fesur cynnydd fel bod cyrff yn nodi eu cynnydd yn unol â'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, Safonau'r Gymraeg ynghylch cyrsiau a hyfforddiant, a'u Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (lle bo'n berthnasol). Ymhellach, mae dangosydd 5 yn sôn am yr opsiwn o gynnwys cymhwysterau Cymraeg iaith gyntaf, neu, Saesneg, yn y mesur. Dylai'r Cymraeg fel cymhwyster - boed yn iaith Gymraeg, ail iaith neu'r cymhwyster Cymraeg newydd a fydd yn cynnwys holl ddisgyblion Cymru - orfod cael eu nodi fel rhan o fesur cynnydd, yn hytrach na bod yn opsiwn i rai sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg.
3.2. Credwn y dylai fod dangosydd ychwanegol i ddangosydd 23 ynghylch tai; mae angen cael dangosydd ynghylch fforddiadwyedd tai oherwydd eu heffaith ar allfudo, sef y prif ffactor (ar wahân i farwolaeth) sy'n arwain at ddirywiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg.
3.3. Y Gymraeg sydd â'r nifer isaf o ddangosyddion sy'n berthnasol iddi o'r saith nod llesiant. Mae angen ail-ymweld â'r mater yma a nodi perthnasedd rhagor o'r dangosyddion i'r Gymraeg, megis dangosyddion 16, 18 a 19.
3.4. Ymhellach, ceir nifer o ddangosyddion, megis dangosydd 25, lle dylid nodi faint sy'n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg.
3.5. Allfudo siaradwyr Cymraeg o Gymru yw'r prif ffactor, ar ol lefelau marwolaeth, sy'n arwain at ddirwyiad yn niferoedd siaradwyr y Gymraeg. Mae allfudo hefyd yn effeithio ar gynaliadwyedd a hyfywedd cymunedau ac yn enwedig ar gymunedau lle siaredir y Gymraeg fel prif iaith y gymuned. Credwn felly y dylid ystyried cynnwys dangosydd ynghylch allfudo.
4.Casgliadau
4.1. Mae dewis dangosyddion cywir ar gyfer y Gymraeg yn bwysig iawn o ran llywio strategaethau iaith nifer o sefydliadau, felly mae angen ailystyried y dangosydd arfaethedig presennol. Mae angen un dangosydd sy'n mesur gallu pobl yn y Gymraeg a dangosydd ar wahân yn mesur defnydd o'r Gymraeg. Yn ogystal mae angen prif-ffrydio ffyrdd o fesur cynnydd o ran y Gymraeg yn nifer o'r dangosyddion eraill, yn enwedig y dangosyddion addysg.
Ionawr 2016
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg