Rhagfyr 1999. Sut i gynnal Cyfarfodydd Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn llwyddiannus yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rhagair
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r cychwyn cyntaf wedi galw am Gynulliad Cenedlaethol trwyadl ddwyieithog. Er mwyn sicrhau hynny rhaid wrth fwy na system gyfieithu effeithiol. Mae'n rhaid gwneud yn siwr hefyd fod aelodau'r Cynulliad yn gwneud y defnydd helaethaf posibl o'r Gymraeg ac yn manteisio ar bob cyfle i wneud hynny.
Mae cyfrifoldeb arbennig ar gadeiryddion y pwyllgorau i greu awyrgylch fydd yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Rhaid gwneud yn siwr nad oes neb yn teimlo dan unrhyw fath o anfantais pan yn siarad Cymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Gyda sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol enillodd y Gymraeg statws newydd yng Nghymru. Bellach mae hi yn iaith llywodraeth yng Nghymru. Mae cyfrifoldeb ar holl aelodau'r Cynulliad fod y statws hwn yn cael ei warchod.
Branwen Niclas
Cadeirydd
Sian Howys
Cadeirydd, Grŵp Democratiaeth
Dafydd Morgan Lewis
Swyddog Ymgyrchoedd y Cynulliad
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Rhagarweiniad
At ei gilydd, mae gweinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ffenomen gymharol newydd ac er bod defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf, nid yw gweithredu drwy gyfrwng y ddwy iaith eto'n beth cwbl arferol a diffwdan. Mae myrdd o rwystrau cyfundrefnol a seicolegol yn sefyll yn ffordd dwyieithrwydd gweithredol, ond gydag ymdrech drefnus y mae modd eu gorchfygu. Mater o gefnu ar hen agweddau ac arferion a chofleidio rhai newydd ydyw.
Diben y llyfryn hwn yw cynnig arweiniad ymarferol ar sut i gynnal cyfarfodydd pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ffordd fydd yn chwythu bywyd i'r egwyddor o gyfartaledd rhwng y ddwy iaith ac yn rhoi lle teilwng i'r Gymraeg fel priod iaith yn ei gwlad ei hun.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gosod dyletswydd statudol ar y Cynulliad i weithredu'r egwyddor fod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal ei fusnes. Os yw'r Cynulliad yn methu yn hyn o beth, y mae'n agored i arolwg barnwrol.
Credwn fod Cadeiryddion y Pwyllgorau yn allweddol wrth greu amgylchedd lle mae aelodau o'r Pwyllgorau ac eraill sy'n cyfrannu iddynt yn teimlo'n gwbl rydd i ddefnyddio'r naill iaith neu'r llall yn Ùl eu dymuniad.
Seiliwyd y llyfryn hwn ar lyfryn a gynhyrchodd Ysgrifenyddiaeth Bwrdd Trysorlys Canada o'r enw Chairing Meetings a seiliwyd yn ei dro ar brofiad helaeth arbenigwyr yn y maes.
Sefydlu Fframwaith
Nid drwy hap a damwain y daw dwyieithrwydd gweithredol yn realiti yn y Cynulliad. Fel y dadleuodd Cymdeithas yr Iaith yn ei dogfen Dwyieithrwydd Gweithredol, rhaid i'r Cynulliad ddatblygu polisi iaith cynhwysfawr ac integredig a sefydlu fframwaith i roi'r polisi hwnnw ar waith. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth fod yna weithredu ar yr argymhelliad hwnnw a'r canlyniad yw'r sefyllfa anfoddhaol bresennol lle y mae dryswch ac ansicrwydd ynglŷn ’ dwyieithrwydd yn y Cynulliad a phenderfyniadau unigol yn cael eu cymryd gan unigolion y tu allan i fframwaith cyffredinol i'r corff cyfan.
Pwyswn ar y Cynulliad i:
ddatblygu polisi iaith gynhwysfawr ac integredig;
llunio canllawiau ymarferol ar sut i weithredu'r polisi;
cyfathrebu'r polisi a'r canllawiau i'r Aelodau, staff y Cynulliad a'r cyhoedd;
monitro ac adolygu'r polisi.
Wrth roi dwyieithrwydd gweithredol ar waith yn y Pwyllgorau, mae rÙl y Cadeirydd yn allweddol. Ar y Cadeirydd y mae'r cyfrifoldeb dros gymryd camau i sicrhau bod aelodau'r pwyllgor yn teimlo'n gwbl rydd i ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn y cyfarfodydd. Rhaid i'r Cadeirydd fod yn ymwybodol o natur y dasg o'i b/flaen a gwybod beth yw'r nod y mae'n anelu ato.
Bydd gan Gadeiryddion gwahanol sgiliau ieithyddol gwahanol; bydd rhai yn gyfforddus wrth ddefnyddio'r ddwy iaith, rhai'n gyfforddus wrth ddefnyddio y naill ohonynt, ond yn medru defnyddio rhywfaint ar y llall, a bydd eraill yn gyfforddus mewn un iaith yn unig. Ond nid yw llwyddiant cyfarfod dwyieithog (h.y. cyfarfod lle mae pawb yn teimlo'n rhydd i ddefnyddio'r naill iaith neu'r llall ac yn gwneud hynny) yn dibynnu ar sgiliau ieithyddol unigol y Cadeiryddion yn unig. Mae bosibl hyd yn oed i'r Cadeirydd uniaith hyrwyddo dwyieithrwydd yn y cyfarfod. Un posibiliad ar gyfer Pwyllgorau sy'n cael eu cadeirio gan Gadeirydd uniaith yw penodi Cyd-Gadeirydd sy'n gyfforddus yn yr iaith arall i rannu gwaith y cadeirio a sicrhau cyfle i'r ddwy iaith.
Ar hyn o bryd darperir cyfieithu ar y pryd ar gyfer trafodion Cymraeg yn y Pwyllgorau, ond y mae'n amlwg o'r defnydd ar y cyfleusterau nad yw'n ddigon i roi cyfieithwyr mewn bwth i sicrhau y bydd defnydd ar y gwasanaeth.
Cyn y Cyfarfod
Dylai'r holl ddogfennau sy'n berthnasol i'r cyfarfod fod yn y naill iaith a'r llall.
Sicrhewch fod yr holl ddogfennau perthnasol yn nwylo'r cyfieithwyr.
Yr agenda: dylai'r agenda, wrth gwrs, fod yn ddwyieithog. Dylid datgan ar yr agenda bob tro y bydd yn bosibl defnyddio'r naill iaith neu'r llall yn y cyfarfod ac y bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.
Er mwyn hyrwyddo trafodaeth o bynciau yn Gymraeg nad yw'n arfer cael eu trafod yn Gymraeg, gellid sicrhau bod geirf’u o dermau perthnasol yn cael eu cylchredeg ymhlith yr aelodau a'r cyfieithwyr. Byddai angen sefydlu Uned Derminoleg yn y Cynulliad i wneud hyn yn effeithiol.
Gan fod hen agweddau ac arferion yn gyndyn o ddiflannu, cyn y cyfarfod gallai'r Cadeirydd:
atgoffa'r aelodau sy'n rhugl yn y Gymraeg fod croeso iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod;
gwahodd yr aelodau sy'n medru rhywfaint o Gymraeg i gyfrannu yn Gymraeg.
Mae'n bwysig iawn fod aelodau'r Pwyllgor yn deall o'r cychwyn bod modd defnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn y cyfarfod a gellir atgyfnerthu hyn yn weledol drwy osod copi o bolisi iaith y Cynulliad (pan ddaw) neu eiriau Deddf Llywodraeth Cymru ynghylch defnydd y ddwy iaith, neu Reol Sefydlog 8.23 -- "Caiff aelodau'r pwyllgorau, a phersonau eraill sy'n annerch y pwyllgorau siarad Cymraeg neu Saesneg, a bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer trafodion Cymraeg. Caiff personau heblaw Aelodau annerch pwyllgorau mewn ieithoedd eraill drwy gytundeb ymlaen llaw ’'r cadeirydd" -- mewn lle amlwg yn ystafell y Pwyllgor neu ar gardiau bach ar y bwrdd o flaen pob aelod. Mae hyn yn dangos mai canlyniad i bolisi swyddogol y Cynulliad yw dwyieithrwydd y cyfarfod, nid mympwy personol y Cadeirydd.
Sicrhau bod y cyfleusterau cyfieithu yn gweithio'n iawn.
Yn Ystod y Cyfarfod
Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw dangos yn eglur i bawb sy'n mynychu'r cyfarfod bod y cyfarfod yn un lle gellir defnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ddiffwdan. Os yw siarad Cymraeg yn profi'n drafferthus, troir i siarad Saesneg.
Cyferchwch yr aelodau yn Gymraeg wrth iddynt gyrraedd.
Datgenwch yn ffurfiol, bob tro wrth agor y cyfarfod, fod cyfle i siarad y naill iaith neu'r llall yn ystod y cyfarfod.
Peidiwch ’'i chymryd yn ganiataol y bydd cyfarfod yn ddwyieithog am fod cwpl o gyfieithwyr yn eistedd mewn bwth. Chi sy'n creu cyfle i ddwyieithrwydd.
Sicrhewch fod yr aelodau'n gwybod sut i ddefnyddio'r clustffonau ac atgoffwch nhw i'w gwisgo er mwyn bod yn barod i wrando ar gyfieithiad. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn cyfarfodydd pan na fydd ond ychydig o bobl yn cymryd rhan yn Gymraeg. Os na fydd pawb arall yn barod i wrando ar y cyfieithu, bydd rhaid i'r siaradwr Cymraeg ailadrodd ei hun pan fydd pawb yn barod, a gall hynny danseilio ei awydd i gyfrannu yn Gymraeg eto.
Atgoffwch yr aelodau i ddefnyddio'r microffonau wrth siarad, ni all y cyfieithwyr ond cyfieithu'r hyn maen nhw'n ei glywed.
Os yw'r aelodau yn defnyddio un iaith yn unig yn y cyfarfod, a bod siaradwyr iaith arall yn bresennol, atgoffwch nhw o bryd i'w gilydd bod offer cyfieithu yno er mwyn galluogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg.
Pan fo'n briodol, crybwyllwch lefel eich rhugledd yn eich ail iaith, a'i defnyddio hyd yn oed os nad yw'n dod yn hawdd i chi. Bydd yn esiampl i eraill.
Atgoffwch yr aelodau nad yw presenoldeb pobl uniaith Saesneg i rwystro eraill rhag defnyddio'r Gymraeg. Nid yw'n anghwrtais i siarad Cymraeg ym mhresenoldeb y diGymraeg.
Dylid osgoi rhoi'r baich i weithredu dwyieithrwydd ar y bobl sy'n dewis siarad Cymraeg. Peidiwch ’ gwneud i siaradwyr Cymraeg deimlo eu bod yn niwsans am eu bod nhw'n dymuno siarad yn Gymraeg drwy ofyn cwestiynau fel "Oes rhywun yn mynd i siarad Cymraeg yn y cyfarfod yma?". Cymerwch yn ganiataol y bydd rhai yn dymuno gwneud a datgenwch fod croeso i bawb ddefnyddio'r iaith maen nhw'n dymuno ei defnyddio.
Defnyddiwch gymaint o Gymraeg ag sy'n bosibl wrth gadeirio, e.e. wrth agor a chau'r cyfarfod, wrth ofyn am sylwadau, wrth fynd drwy'r agenda. Os ydych chi'n gwybod rhywfaint o Gymraeg, defnyddiwch hi!
Byddwch yn sensitif i gyfansoddiad ieithyddol y Pwyllgor.
Os ydych chi'n gwybod bod ambell aelod yn swil o gyfrannu yn Gymraeg, gofynnwch, yn Gymraeg, a oes ganddo ef neu hi, sylwadau.
Os yw rhywun yn siarad Cymraeg, atgyfnerthwch hynny drwy ychwanegu sylw yn Gymraeg.
Sylweddolwch fod siaradwyr Cymraeg wedi hen arfer ’ throi i'r Saesneg os oes arwydd o anhawster neu ffwdan, a gwnewch eich gorau i'w sicrhau bod perffaith hawl ganddynt siarad Cymraeg yn y cyfarfod.
Ar Œl y Cyfarfod
Os yw'r Cadeirydd o ddifrif am sicrhau cyfle cyfartal i siaradwyr y ddwy iaith yn y Pwyllgor, dylid asesu a monitro pob cyfarfod. Dylech geisio cael adborth gan aelodau'r Pwyllgor am y ffordd wnaethoch chi gadeirio'r cyfarfod o ran dwyieithrwydd. Nodwch bethau a weithiodd yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus yn ogystal ag unrhyw awgrymiadau neu feirniadaethau a gynigiwyd, ac yn bwysicach oll -- daliwch ati! Ni ddaw newid dros nos, ond fe ddaw.