Annwyl Syr/Fadam,
Ysgrifennaf ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn ymateb i nodau drafft datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Y Gymraeg fel un o’r nodau
Rydym wedi croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cynnwys yr iaith Gymraeg yn eu nodau drafft. Fodd bynnag, credwn y byddai’r geiriad hwn yn well o ran y nod sy’n ymwneud â’r Gymraeg:
“Cymru lle bo pobl yn cymryd rhan yn ein diwylliannau, sy’n perthyn i ni i gyd, sef lle y mae’r Gymraeg yn ffynnu yn ein cymunedau”
Credwn fod angen cydnabod yn y nodau bod y Gymraeg yn berthnasol i holl gymunedau a diwylliannau Cymru.
Dangosodd canlyniadau'r Cyfrifiad diweddaraf dirywiad dychrynllyd yn nifer siaradwyr y Gymraeg a nifer y cymunedau lle mai'r Gymraeg yw prif iaith y gymuned. Felly, credwn fod angen i'r nod cyfeirio at le'r Gymraeg yn ein holl gymunedau ledled y wlad.
O ran y nodau eraill, cytunwn â barn Cynghrair y Trydydd Sector ar ddatblygu cynaliadwy, sy’n dadlau dros nodau canlynol:
“Cymru...
(a) llewyrchus ac arloesol;
(b) gyda chymdeithas gref, iach a chyfiawn;
(c) sy’n defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r byd yn unig;
(ch) sy’n byw o fewn terfynau amgylcheddol;
(d) lle bo pobl yn cymryd rhan yn ein diwylliannau, sy’n perthyn i ni i
gyd, sef lle y mae’r Gymraeg yn ffynnu yn ein cymunedau; a
(dd) gydag amgylchedd naturiol gwydn a bioamrywiaethol"
Y Gymraeg yn niffiniad y Bil, nid y nodau’n unig
Nodwn ymrwymiad clir, personol y Gweinidog, a wnaed i bwyllgor Amgylchedd y Cynulliad, i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o'r diffiniad o ddatblygu cynaliadwy ym Mil Cenedlaethau’r Dyfodol, nid y nodau yn unig. Edrychwn ymlaen at sut y bydd yn sicrhau hynny yn y Bil pan y'i cyhoeddir.
Nodwn ymhellach fod y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Peter Davies wedi galw ar i’r Gymraeg fod yn y diffiniad o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil. Nodwn fod rhai wedi galw am ddiben statudol i'r Bil Cynllunio sydd ond yn cyfeirio at 'ddatblygu cynaliadwy' fel diben y drefn honno. Os dyna fydd penderfyniad y Llywodraeth ynghylch y Bil Cynllunio, mae’n golygu ei fod yn hanfodol bod y Gymraeg yn rhan o’r diffiniad o ddatblygu cynaliadwy ym Mil Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal â bod yn un o’r nodau yn y Bil.
Yn gywir,
Robin Farrar,
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg