Ymateb Carwyn Jones i'r Maniffesto Byw

Llythyr Carwyn Jones

Ei Ymateb Manwl i'r Maniffesto Byw

6 Mehefin 2013
 
Annwyl Toni,
 
Maniffesto Byw ar gyfer Cymunedau Byw 
 
Ysgrifennaf atoch mewn ymateb i’ch llythyr dyddiedig 4ydd o Ionawr 2013 ynglŷn â 
‘Maniffesto Byw ar gyfer Cymunedau Byw" Cymdeithas yr Iaith. Yn fy nghyfarfod gyda chi 
a’ch cydweithwyr ar y 5ed o Chwefror, cytunais i roi ymateb i chi ar eich Maniffesto. 
Mae’r Maniffesto’n fanwl a phellgyrhaeddol ac rwy’n amgáu ymateb i bob un o’r 
argymhellion fel y’u nodir yn eich dogfen, lle mae’r argymhelliad yn berthnasol i Lywodraeth 
Cymru.
 
Wrth wneud hynny, dylwn bwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymrwymedig i 
wireddu’r weledigaeth a amlinellir yn ein Strategaeth y Gymraeg 2012-2017: Iaith Fyw: Iaith 
Byw sef gweld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru. 
 
‘Rwy’n cydnabod hefyd, wrth i ni barhau i roi ein Strategaeth ar waith, bod canlyniadau 
Cyfrifiad 2011 wedi tynnu sylw at rai cwestiynau heriol yr wyf yn benderfynol o fynd i’r afael 
â nhw. Y cwestiwn pwysicaf i mi yw sut mae annog pobl ifanc sy’n dysgu’r Gymraeg drwy’r 
system addysg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd. 
 
Er bod canlyniadau’r Cyfrifiad yn siomedig, nid oeddent yn syndod. Roedd Iaith Fyw: Iaith 
Byw wedi rhagweld, i raddau helaeth, bod natur cymunedau Cymraeg eu hiaith yn newid, a 
bod patrymau o ran defnyddio’r Gymraeg mewn cymunedau, mewn teuluoedd, ac ymysg 
pobl ifanc yn enwedig, yn newid. 
 
Mae eich Maniffesto wedi rhoi llawer inni gnoi cil arno. Roedd ein trafodaeth yn ein cyfarfod 
ym mis Chwefror yn adeiladol ac yn pwysleisio ein bod yn rhannu’r un dymuniad i weld y 
Gymraeg yn ffynnu. Mae sawl un arall ledled Cymru yn rhannu’r dymuniad hwn hefyd. Dyna 
pam rwy’n edrych ymlaen at glywed barn pobl o bob cwr o Gymru, ac o bob cefndir, yn 
ystod y Gynhadledd Fawr. Bydd y safbwyntiau hynny’n llywio ein proses o ddatblygu 
polisïau ar gyfer y Gymraeg. Gobeithiaf hefyd y bydd y trafodaethau cyn ac yn ystod y 
Gynhadledd Fawr yn ysbrydoli eraill - o sefydliadau mawr i grwpiau cymunedol ac unigolion 
- i gydweithio er mwyn cryfhau sefyllfa’r Gymraeg.
 
Yn gywir