Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru: Mwy na geiriau...
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Diolch am y cyfle i ymateb i Strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ym
maes Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Mae Cymdeithas yr Iaith
Gymraeg yn grŵp pwyso sydd wedi brwydro dros hawliau iaith pobl Cymru ers 50 mlynedd.
Rydym wedi ceisio ymateb yn ôl y cwestiynau a ddarparwyd gyda’r ddogfen ymgynghori, ond
mae swmp ein hymateb o dan gwestiwn 8.
1. Ydych chi’n cytuno bod angen cryfhau gwasanaethau Cymraeg?
Does dim dwywaith bod angen cryfhau gwasanaethau Cymraeg yn gyffredinol yng Nghymru,
ac mae’r Gymdeithas wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i wella’r ddarpariaeth Gymraeg ymhob
sector. Yn sicr mae iechyd, gofal a gwasanaethau cymdeithasol yn feysydd sydd, ar y cyfan,
wedi esgeuluso’u dyletswydd tuag at siaradwyr Cymraeg, ac mae’r dogfennau ymgynghori eu
hunain yn llawn tystiolaeth o hynny. Mae tystiolaeth ein haelodau yn awgrymu bod y sefyllfa yn
gwbl annigonol, ac mai tameidiog os o gwbl yw’r ddarpariaeth yn y rhan fwyaf o Gymru.
Fel mae’r Llywodraeth ei hun yn ei gydnabod, mae pobl yn amharod i gwyno am ddiffyg
gwasanaeth Cymraeg yn y meysydd hyn yn arbennig, a hynny oherwydd bod pobl sy’n dod
i gysylltiad â’r gwasanaethau hyn yn aml yn fregus ac yn dibynnu ar y darparwr gwasanaeth
mewn rhyw ffordd. Mae’n hanfodol felly bod gwasanaeth Cymraeg ar gael ac yn cael ei gynnig
fel mater o drefn i bawb sy’n dod i gysylltiad â’r gwasanaethau hyn. Yn hynny o beth mae
swyddogaeth bwysig i Gomisiynydd y Gymraeg yn y maes hwn yn benodol, i fod yn rhagweithiol
gan gynnal ymchwiliadau ac ymholiadau o dan y Mesur Iaith newydd, er mwyn sicrhau bod
gwasanaethau derbyniol ar gael i bobl sydd eu hangen.
2. Ydych chi’n cytuno gyda’r rhesymau dros gryfhau gwasanaethau Cymraeg?
Croesawn y gydnabyddiaeth mai mater o angen yn hytrach na dim ond dewis yw darparu
gwasanaethau Cymraeg i lawer o bobl yng nghyd-destun iechyd, gofal a gwasanaethau
cymdeithasol. Cytunwn hefyd â’r pwyslais sydd ar iaith fel elfen allweddol o ofal, a’r
gydnabyddiaeth bod iaith yn angen gofal. Fodd bynnag, hoffem weld y Llywodraeth yn gosod
hynny yng nghyd-destun hawliau cyffredinol pobl Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg a chael
gwasanaethau Cymraeg, gan gydnabod bod gwasanaethau Cymraeg yn y maes hwn yn
hawl sylfaenol i bobl Cymru, yn ogystal ag yn angen clinigol yn aml fel y nodir. Croesawn
rai cyfeiriadau at ‘hawl’ yn y ddogfen yn hynny o beth, yn enwedig o ran y safonau a ddaw o
dan Fesur y Gymraeg 2011, ond teimlwn fod angen i’r Strategaeth ddatgan yn uniongyrchol
farn y Llywodraeth bod hawl gan bobl Cymru i wasanaethau iechyd, gofal a gwasanaethau
cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o hawliau ieithyddol sylfaenol pobl Cymru.
3. Ydych chi’n cytuno gyda’r cynnig y dylai sefydliadau iechyd a gwasanaethau
cymdeithasol fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, yn hytrach na
disgwyl i ddefnyddwyr a’u teuluoedd ofyn am wasanaethau yn Gymraeg?
Cytunwn nad oes modd rhoi cyfrifoldeb ar ddefnyddwyr a’u teuluoedd i ofyn am wasanaethau
Cymraeg, ac mae dogfennau’r ymgynghoriad yn dystiolaeth mwy na digonol o hynny.
Mae’n rhaid i sefydliadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol fod yn gyfrifol am ddarparu
gwasanaeth yn Gymraeg a’i gwneud yn amlwg bod y gwasanaeth hwnnw ar gael. Fodd bynnag,
mae’n hanfodol hefyd bod Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldeb hithau am sicrhau
bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig ym meysydd iechyd, gofal a gwasanaethau
cymdeithasol ac yn rhoi arweiniad blaengar a digyfaddawd i’r cyrff perthnasol. Mae bodolaeth y
Strategaeth yn dangos awydd y Llywodraeth i weithredu yn y maes hwn, a rhaid canmol hynny,
ond mae angen camau gweithredu llawer cadarnach er mwyn unioni’r sefyllfa bresennol, sy’n
gwbl annigonol fel mae’r Strategaeth ei hun yn ei nodi.
4. Ydych chi’n cytuno y dylai’r pwyslais fod ar gryfhau gwasanaethau Cymraeg ymysg
gwasanaethau rheng-flaen, er mwyn gwella ansawdd gofal a phrofiad defnyddwyr?
Yn sicr mae pwyslais y Strategaeth ar wasanaethau rheng flaen yn ddigon naturiol. Fodd
bynnag, mae’n bwysig deall bod popeth yn gyd-gysylltiedig. Bydd sicrhau gwasanaethau rheng
flaen digonol yn ddibynnol ar statws a defnydd y Gymraeg fel iaith yn y gwasnaethau iechyd,
gofal a chymdeithasol yn eu cyfranrwydd. Mae’r sefyllfa bresennol, lle mae holl weithredu
mewnol y gwasanaethau hyn yn digwydd yn Saesneg fel mater o drefn, yn golygu mai Saesneg
yw’r iaith ‘arferol’, a bod unrhyw ymgais i ddefnyddio’r Gymraeg yn mynd i fod yn ymdrech ac
yn eithriad o’r drefn bresennol. Problem gysylltiedig, er enghraifft, yw bod yr holl systemau
technoleg gwybodaeth yn uniaith Saesneg ar hyn o bryd ac mai dim ond yn Saesneg y caiff
gwybodaeth am gleifion/cleientiaid ei chofnodi. Mae angen datrys materion fel hyn yn ogystal â
gwasanaethau amlwg rheng flaen, oherwydd fel arall mae’r holl drefn fewnol yn milwrio yn erbyn
defnyddio’r Gymraeg.
Er mwyn gwireddu amcanion y Strategaeth mewn gwirionedd, felly, mae angen chwyldroi’r
holl drefn a buddsoddi ymdrech sylweddol er mwyn symud, gam wrth gam, tuag at droi’r
gwasanaethau iechyd, gofal a chymdeithasol yn rhai a fydd yn gweithredu drwyddynt yn
ddwyieithog a drwy gyfrwng y Gymraeg.
5. Ydych chi’n cytuno y bydd yr amcanion a amlinellir yn adran 7 o’r Fframwaith Strategol
yn arwain at well gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg a’u teuluoedd?
Ar y cyfan rydym yn cytuno â’r amcanion strategol a nodir yn adran 7. Fodd bynnag, er mwyn
iddynt arwain at well gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg a’u teuluoedd, mae angen mwy
o gamau gweithredu pendant yn deillio o’r amcanion. Yn y cynlluniau gweithredu y bydd y
Strategaeth hon yn cael ei gwireddu, ac felly dyna lle mae angen canolbwyntio.
O ran y penawdau yn adran 7 yn benodol, sef yr amcanion, credwn fod angen gwneud amcan 7.1 yn fwy eglur o ran geiriad. Mae angen addasu amcan 7.6 yn ogystal - fel y mae, nid yw’n amcan, ac felly mae angen ei wneud yn amcan eglur.
6. Ydych chi’n cytuno gyda’r camau a amlinellir yn y Cynlluniau Gweithredu?
Mae cynllun neu gynlluniau gweithredu effeithiol yn gwbl greiddiol i lwyddiant strategaeth fel
hon. Yn hynny o beth, er nad ydym yn anghytuno â llawer o gynnwys y cynlluniau gweithredu
ynddo’i hunan, teimlwn fod y cynlluniau gweithredu yn syrthio’n brin o’r hyn sydd ei angen
er mwyn gwireddu amcanion y Strategaeth. Rydym yn gryf o’r farn felly bod angen addasu’r
cynlluniau gweithredu fel eu bod yn cyfateb ag uchelgais y Llywodraeth yn y maes hwn, ac er
mwyn sicrhau na fydd y Strategaeth yn methu.
7. A ddylid cynnwys unrhyw beth arall yn y Cynlluniau Gweithredu?
Yn ein barn ni, mae angen ailedrych o ddifrif ar y cynlluniau gweithredu fel y nodwyd, gan osod
camau gweithredu uchelgeisiol, mesuradwy a fydd yn gwireddu amcanion y Llywodraeth yn
hyn o beth. Ni allwn wneud cyfiawnder â’r dasg honno yma, ond gobeithiwn fod y sylwadau yr
ydym wedi eu gwneud yn arwydd o’r newid sydd ei angen i’r cynlluniau gweithredu er mwyn
cryfhau’r Strategaeth a sicrhau ei llwyddiant. Yn hynny o beth nodwn isod ac o dan gwestiwn 8
rai materion penodol i’w hystyried ymhellach:
Gweithlu/capasiti
Mae capasiti’r gwasanaethau perthnasol o ran adnoddau dynol i ddarparu yn Gymraeg yn gwbl
sylfaenol i’r holl Strategaeth. Er bod y Strategaeth yn trafod yr anawsterau presennol, mae
bylchau amlwg o ran cynllunio newid. Mae angen i’r cynlluniau gweithredu fynd i’r afael â diffyg
capasiti o ddifrif, gan flaenoriaethu hynny o’r cychwyn cyntaf a rhoi targedau eglur a mesuradwy
a fydd yn dangos cynnydd dros gyfnod o amser. Sgiliau iethyddol staff y gwasanaethau fydd
sylfaen y Strategaeth hon, ac felly os na fuddsoddir yn helaeth yn hynny o beth, ni fydd modd
gweithredu’r Strategaeth.
Polisi recriwtio blaengar sydd ei angen i sicrhau gwasanaeth cyflawn Cymraeg yn y gwasanaeth
iechyd, a chredwn y dylai’r gwasanaeth iechyd edrych ar Heddlu Gogledd Cymru fel enghraifft
o’r math o bolisi sydd angen i sicrhau gwelliant. Os yw’r Gymraeg yn rhan hanfodol o bob elfen
o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, bydd rhaid i’r Gymraeg fod yn sgil addysgol hanfodol i
bob un o’r gweithwyr ynddi. Mae hynny’n golygu bod angen cynnwys pwyntiau yn y cynllun
gweithredu a fydd yn ei gwneud yn hanfodol i bob aelod o staff fedru rhywfaint o Gymraeg, gan
adeiladu ar hynny dros y blynyddoedd fel bod staff yn dod yn gynyddol rugl er mwyn cynnig
gwasanaeth Cymraeg cyflawn. Mae nifer gynyddol o gyrff cyhoeddus yn mabwysiadu polisïau
o’r fath, ac er mwyn gwireddu amcanion y Strategaeth, mae’n hanfodol bod hynny’n digwydd
hefyd ym maes iechyd, gofal a gwasanaethau cymdeithasol.
Comisiynu gwasanaethau
Mae’r sector breifat i’w gweld yn gynyddol ym maes gofal, ac un o’r problemau gyda hynny
yw diffyg ewyllys a gallu cwmnïau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg. Mae angen i’r
Strategaeth fynd i’r afael o ddifrif â hyn gan fod llawer o gartrefi yn cael eu rhedeg gan gwmnïau
preifat ar ran awdurdodau. Mae tystiolaeth ein haelodau yn awgrymu bod trefniadau presennol
o dan gyfundrefn cynlluniau iaith yn hollol annigonol yn hyn o beth, ac mae’r ddogfen ei hun yn
cydnabod nad yw’r drefn bresennol yn gweithio. Mae angen felly am drefniadau mwy systematig
a chadarn sy’n gorfodi cwmnïau preifat i gynnig gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd neu
wynebu cosbau ariannol sylweddol.
Gofal sy’n canolbwyntio ar y person (pwynt 1.3)
Tynnir sylw at bwynt 1.3 yng nghynllun gweithredu’r gwasanaeth iechyd fel enghraifft o’r hyn a
olygwn wrth sôn am wendid y cynlluniau gweithredu. Ym mhwynt 1.3, credwn fod lle i gryfhau
geiriad a bwriad, ac addasu’r amserlen. Mae’r trydydd targed, er enghraifft, yn sôn am gael
cyngor i’r Tasglu Gweinidogol, ond nid yw hyn i ddigwydd tan drydedd flwyddyn y Strategaeth.
Rydym o’r farn y dylai casglu gwybodaeth fel hyn ddod yn gynnar yn ystod oes y Strategaeth,
er mwyn galluogi’r cyrff perthnasol i weithio ar sail hynny. Ni welwn fod rhesymeg dros oedi o’r
fath.
Croesawn y pedwerydd targed o dan 1.3 (“AIGCP i gynnwys darpariaeth Gymraeg yn y
Fframwaith Ansawdd Blynyddol a’r Byrddau Iechyd i adolygu’r ddarpariaeth Gymraeg yn
eu hardal, yn rhan o’u hasesiad Fframwaith Canlyniadau Ansawdd”) os yw’n golygu y bydd
darpariaeth Gymraeg gwasanaethau yn ystyriaeth wrth ariannu gofal sylfaenol. Credwn fod
hyn yn ffordd ymlaen gan mai clymu gwasanaeth derbyniol yn Gymraeg gydag ariannu’r
gwasanaethau hynny yw’r unig ffordd mewn gwirionedd o sicrhau gwasanaeth o ansawdd yn
Gymraeg.
Mae’r pumed targed o dan 1.3 (“AIGCP i gynnwys sgiliau Cymraeg proffesiynolion gofal
sylfaenol yn yr Adroddiad Gofal Sylfaenol Blynyddol”) yn dderbyniol ynddo’i hun, ond mae fel pe
bai cam arall ar goll, sef yr hyn fydd yn deillio o hynny. Beth fydd yn digwydd i’r data hwnnw er
mwyn gwella gwasanaethau?
Mae’r chweched targed o dan 1.3 (“AIGCP, cyrff proffesiynol ac undebau i ystyried sut y gellid
cynnwys gwasanaethau Cymraeg yn y Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS)
a’r Contract Fferylliaeth (mae yn y Contract Deintyddol eisoes)”) unwaith eto yn darged ar gyfer
y drydedd flwyddyn. Gan mai Strategaeth tair blynedd yw hon, mae’n destun pryder i ni bod
materion o bwys yn cael eu gadael tan y drydedd flwyddyn. Beth fydd yn digwydd y cyfamser?
Rydym o’r farn mai ym mlynyddoedd cyntaf y Strategaeth y dylai’r prif gamau gweithredu
fod, fel bod newid i’w weld erbyn diwedd oes y Strategaeth. Yn ogystal, esbonnir yn y targed
bod gwasanaethau Cymraeg wedi eu nodi yn y contract deintyddol eisoes. Nid yw profiad ein
haelodau yn awgrymu bod gwasanaethau deintyddol drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gwella yn
ystod y blynyddoedd diwethaf. Beth sydd wedi ei gyflawni drwy’r ychwanegiad hwn i’r contract
deintyddol? A yw cynnydd yn cael ei fonitro? Sut y caiff pobl eu dwyn i gyfrif am fethiant yn hyn
o beth? Mae’n bwysig, wrth gwrs, bod gwasanaethau Cymraeg yn rhan o gontractau o’r fath,
ond rhaid hefyd sicrhau bod newid yn digwydd ar lefel ymarferol.
Creu gwasanaethau dwyieithog cyflawn
Mae’r ail darged o dan bwynt 2.3 yng nghynllun gweithredu’r gwasanaeth iechyd yn nodi’r
canlynol:
“Rheolwyr gwasanaeth i ystyried modelau priodol ar gyfer darparu gwasanaethau Cymraeg
yn ôl capasiti, sgiliau ieithyddol, parodrwydd a hyder staff i ddefnyddio’r iaith. (Wrth gynllunio
modelau gwasanaeth, nid oes raid i’r modelau Cymraeg a Saesneg adlewyrchu ei gilydd).”
Ein pryder gyda’r targed hwn yw’r awgrym nad bwriad y Strategaeth wedi’r cwbl yw creu sefyllfa
lle mae gwasanaeth dwyieithog cyflawn yn cael ei gynnig fel mater o drefn, ond yn hytrach bod
y status quo Saesneg yn cael ei addasu er mwyn darparu rhyw fath o wasanaeth Cymraeg,
nad yw o reidrwydd o’r un safon â’r gwasanaeth Saesneg sy’n cael ei gynnig. Mae hyn yn
nodweddiadol o agwedd llawer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru at y Gymraeg. Credwn fod rhaid
i wasanaethau iechyd, gofal a chymdeithasol gael eu creu mewn ffordd sy’n golygu eu bod ar
gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar yr un telerau ac yn ddidrafferth. Mae angen dechrau o’r
newydd gan gynllunio gwasanaethau gyda dwy iaith Cymru mewn golwg.
Pwyntiau cyffredinol ar dynhau’r cynlluniau gweithredu
Yn gyffredinol, credwn fod lle i dynhau llawer ar eiriad y cynlluniau gweithredu. Mae camau
gweithredu sy’n sôn am “ystyried” rhywbeth neu “gymryd camau i” wneud rhywbeth (e.e. pwynt
2.2) yn amwys ac yn debygol o ganiatáu diffyg gweithredu gan y cyrff perthnasol. Mae angen
newid y rhain fel eu bod yn fwy tynn yn gyffredinol felly.
Credwn hefyd fel mater o weinyddu’r cynlluniau gweithredu fod angen gwahanu pob pwynt
unigol ynddynt er mwyn sicrhau eglurder ynghylch pob cam, gan gynnwys rhifo pob un yn
unigol er mwyn hwyluso’r broses o weithredu’r camau hynny. Gwelir yn nharged 3 o dan
bwynt 3.1, er enghraifft, bod dau gam gweithredu gwahanol gan ddau gorff gwahanol wedi eu
rhoi mewn un blwch. Er mai manion yw’r rhain ar un olwg, diffygion fel hyn sy’n gallu arwain
at amryfusedd a fydd yn golygu bod camau gweithredu yn mynd drwy’r rhwyd, ac arwain at
fethiant strategaethau. Mae angen creu cynlluniau gweithredu cwbl dynn nad oes modd iddynt
gael eu camddehongli a’u camweithredu.
8. A oes unrhyw sylwadau perthnasol eraill yr hoffech eu cyflwyno?
Y sefyllfa bresennol a’r newid sydd ei angen
Mae’r Strategaeth yn cynnig dadansoddiad teg o’r sefyllfa bresennol, sefyllfa sy’n gwbl
annigonol, ac yn cyflwyno tystiolaeth helaeth dros yr angen am newidiadau sylfaenol yn y maes.
Mae’r Strategaeth fwy neu lai yn gydnabyddiaeth gan y Llywodraeth o fethiant strategol o ran y
Gymraeg mewn iechyd a gofal ers 1999, ac mae’n amlygu bylchau dybryd. Mae paragraff 2.21,
er enghraifft, yn syml ond yn ddadlennol tu hwnt:
“Yn gyffredinol Saesneg yw’r norm wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
yng Nghymru, a dim ond drwy hap a damwain y mae defnyddwyr yn derbyn gwasanaethau yn
eu hiaith eu hunain”
Rhaid canmol gonestrwydd y Llywodraeth yn hyn o beth, a does dim dwywaith na fydd darllen
y Strategaeth yn fuddiol i rai nad ydynt yn deall yr anawsterau sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg
mewn iechyd, gofal a gwasanaethau, yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaethau hynny
o ran unioni’r sefyllfa. Fel strategaeth gan y Llywodraeth, mae hynny ynddo’i hun yn rhywbeth
i’w groesawu, ac mae dadansoddiad o’r gwendidau presennol yn fan cychwyn da er mwyn
creu newid. Fodd bynnag, rhaid sicrhau bod yr hyn sy’n dilyn hynny yn asesiad realistig o faint
y dasg o fynd i’r afael â’r gwendidau, a bod adnoddau digonol yn cael eu neilltuo i’r gwaith. Yr
unig gasgliad y gellir dod iddo ar sail tystiolaeth y dogfennau ymgynghori eu hunain yw bod
angen gweithredu radical iawn er mwyn dod â gwasanaethau iechyd a gofal i sefyllfa dderbyniol
o safbwynt y Gymraeg, ac o ystyried y ffaith bod gennym ein Llywodraeth a’n gwasanaeth
iechyd ein hunain ers dros ddeuddeg mlynedd bellach, mae’n hen bryd mynd i’r afael â’r
anghyfiawnder hanesyddol hwn.
Prif ffrydio
Er mwyn i siaradwyr Cymraeg gael chwarae teg yn y meysydd hyn, mae angen i ddarparwyr
gwasanaeth fod yn gwbl eglur ynghylch yr hyn sy’n ofynnol ganddynt. Mae diffyg prif ffrydio ar
hyn o bryd yn cael ei nodi yn y Strategaeth:
5.2.1 Er bod enghreifftiau o ddulliau systematig o brif-ffrydio gwasanaethau Cymraeg fel rhan
o gynllunio a darparu gwasanaethau, nid yw hyn yn norm ar draws Cymru. Ceir hefyd lefelau
gwahanol o ddealltwriaeth ymysg y gweithlu ynglŷn â phwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel un o
hanfodion gofal. Arwain hyn at ddiffyg cysondeb yn agweddau’r gweithlu tuag at y Gymraeg,
ynghyd ag anghysondeb yn narpariaeth gwasanaethau.
Mae hyn yn amlygu’r angen am arweiniad oddi uchod. Daw hyn â ni yn ôl at gyfrifoldeb
Llywodraeth Cymru, sef yr unig gorff a all gynnig arweiniad polisi cadarn Cymru gyfan ar y
materion hyn, fel nad oes cwestiwn o ddiffyg dealltwriaeth am bwysigrwydd y Gymraeg ym
maes iechyd a gofal.
Teg codi’r pwynt hefyd bod y Strategaeth hon ynddi’i hun, fel y mae, y tu allan i brif ffrwd y
meysydd y mae’n gobeithio’u newid. Cytunwn fod angen am strategaeth benodol ar gyfer
y Gymraeg ym maes iechyd a gofal, a hynny oherwydd y sefyllfa ddifrifol bresennol, ond er
mwyn iddi lwyddo mewn gwirionedd mae’n rhaid i’w hamcanion fod yn rhan o bolisi prif ffrwd yn
ogystal.
Nodir ym mharagraff 5.6.2 bod angen i sefydliadau ddilyn diffiniad Llywodraeth Cymru o brif
ffrydio’r Gymraeg. Awgrymwn fod llawer o waith gan y Llywodraeth ei hun i’w wneud yn hynny
o beth. Mae Mesur Iechyd Meddwl 2010 yn enghraifft o ddeddfwriaeth berthnasol y dylai’r
Gymraeg fod wedi bod yn rhan ohono heb os nac oni bai, er teg nodi mai Llywodraeth flaenorol
Cymru’n Un oedd yn gyfrifol am y Mesur hwn a’r methiant i gynnwys y Gymraeg fel elfen ohono.
Fodd bynnag, mae’n amlygu’r angen i edrych yn fanwl ar brif ffrydio’r Gymraeg ym mholisi’r
Llywodraeth yn gyffredinol, ac ym meysydd iechyd a gofal yn benodol. I ba raddau y bydd Bil
Gwasanaethau Cymdeithasol newydd y Llywodraeth, er enghraifft, yn cyd-fynd ag amcanion y
Llywodraeth yn y Strategaeth hon? A fydd y Gymraeg yn ganolog i’r Bil?
Cynnig rhagweithiol
Sonnir am egwyddor y “cynnig rhagweithiol” ym mharagraff 6.2.1. Mae symud tuag at gynnig
rhagweithiol yn gam hanfodol bwysig. Mae’n golygu y bydd defnyddwyr yn cael cynnig
defnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg wrth ddechrau defnyddio’r gwasanaeth, yn hytrach na bod
tybiaeth dros ddefnyddio’r Saesneg a bod rhaid i ddefnyddiwr ofyn am wasanaeth Cymraeg;
dylai’r dewis hwnnw wedyn gael ei barchu drwy gydol y gwasanaeth. Gall pawb wneud y
cynnig hwnnw wrth gwrs, p’un a ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio. Nid yw’n amlwg i ni bod
yr enghraifft a roddir yn y paragraff, o newid rota staffio, yn gyfystyr â’r cynnig rhagweithiol.
Mae addasu rota staffio er mwyn sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg ar gael bob amser yn
hanfodol ac yn rhywbeth i’w groesawu wrth gwrs, ac mae’n sicr bod hynny’n hwyluso’r broses o
wneud cynnig rhagweithiol, ond dylid gwneud yn amlwg yn yr enghraifft, rhag peri dryswch, bod
y rota staffio yn cael ei haddasu a bod cynnig rhagweithiol yn cael ei wneud i bob claf.
Grwpiau blaenoriaeth
Mae’r Strategaeth yn cyfeirio at grwpiau blaenoriaeth y mae’n arbennig o bwysig eu bod yn
cael gwasanaethau yn Gymraeg, sef plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu,
a phobl ag anhwylderau iechyd meddwl. Derbynnir bod y grwpiau hyn o bobl yn arbennig o
fregus a bod angen ymdrechion arbennig i sicrhau gwasanaethau Cymraeg cyflawn i’r bobl hyn.
Wedi dweud hynny, gall pob grŵp ddioddef o afiechydon sy’n eu gwneud yn arbennig o fregus
- er enghraifft strôc, clefyd Alzheimer - ac fel mae’r ddogfen ei hun yn ei gydnabod, rydym i gyd
yn fregus wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd, gofal a gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid
gofalu felly bod gwasanaethau cyflawn drwy’r Gymraeg yn flaenoriaeth i’r gwasanaethau hyn ar
gyfer pob grŵp o’r boblogaeth, ac mae’n hanfodol sicrhau nad yw canolbwyntio ar rai carfanau
yn golygu colli golwg ar bobl eraill, gan fod pawb yng Nghymru â hawl i wasanaethau iechyd a
gofal yn Gymraeg.
Gofal sylfaenol
Wrth ddefnyddio’r gwasanaeth iechyd, ni fydd llawer ohonom yn gorfod mynd i’r ysbyty yn
aml iawn. Mae ymweliadau â meddyg teulu yn llawer mwy cyffredin. Yn wyneb hynny, mae’r
un cyfeiriad at ofal sylfaenol ym mharagraff 5.4.6 y Strategaeth (ac adran 1.3 yn y cynllun
gweithredu) yn esgeulustod mawr:
5.4.6 Mae’r broses o gaffael gwasanaethau gofal sylfaenol gryn dipyn yn wahanol, ac yn aml
cânt eu cytuno ar lefel y DU. Er mwyn ceisio diwallu’r angen am wasanaethau gofal sylfaenol yn
y Gymraeg, mae rhai byrddau iechyd wedi ychwanegu rhai amodau lleol i’r cytundebau
cenedlaethol yma.
Nid yw’r Strategaeth yn esbonio i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael â’r
mater hwn; a fu trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig?
Dyma faes lle gall Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth mawr ar lefel genedlaethol. Mae’r
ail frawddeg yn cyfeirio at rai camau gan rai byrddau iechyd, ond nid oes camau gweithredu
sylweddol yn unman yn y Strategaeth o ran mynd i’r afael â phroblemau’r Gymraeg ym maes
gofal sylfaenol.
Nid yw’r Strategaeth fel y mae yn rhoi dim math o sicrwydd na threfniadaeth o ran gwella
gwasanaethau gan feddygon teulu, deintyddion ac ati yn y dyfodol. Mae gofal sylfaenol yn faes
cwbl greiddiol ac nid yw’r diffyg sylw sydd iddo yn y Strategaeth o gymharu â gwasanaethau
eraill yn adlewyrchu’n agos at faint y cyswllt sydd rhwng y cyhoedd â meddygon teulu,
deintyddion, fferyllwyr ac ati. Teimlwn fod hyn yn un o brif wendidau’r Strategaeth fel y mae, gan
mai prin y mae’n ymdrin â’r maes hwn o gwbl. Mae angen llawer mwy o ystyriaeth o’r mater hwn
felly cyn paratoi strategaeth derfynol, er mwyn cynnwys ymrwymiadau pendant yn y Strategaeth
sy’n mynd i’r afael â’r diffygion difrifol presennol ym maes gofal sylfaenol.
Addysg
Croesawn y cyfeiriadau at bwysigrwydd addysg yn y Strategaeth sydd i’w gweld yn adran 5.5.
Mae’n bwysig ystyried ble yn y gyfundrefn addysg i ganolbwyntio ymdrechion, ac felly mae’n
dda gweld ystyriaeth i hynny, gan edrych yn arbennig ar hyfforddiant penodol mae gweithwyr
iechyd, gofal a chymdeithasol yn ei gael. Credwn ei bod yn bwysig yn hynny o beth bod sgiliau
dwyieithog yn cael eu meithrin a’u cydnabod fel rhan o gymwysterau proffesiynol gweithwyr yn y
meysydd perthnasol, ac fe ddylai’r Strategaeth fynd i’r afael â hynny.
Mae’n bwysig cofio hefyd bod llawer o weithwyr yn y meysydd hyn heb gael hyfforddiant
penodol nac addysg i lefel addysg uwch, er enghraifft gweithwyr gofal yn y cartref i enwi
un maes amlwg. Mae angen ystyried felly sut i fynd i’r afael â hynny yng nghyd-destun y
drafodaeth yn adran 5.5.
Cynnwys pobl Cymru/parhau trafodaeth ddemocrataidd
Mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn cael barn pobl Cymru, a siaradwyr Cymraeg yn benodol,
wrth greu a gweithredu’r Strategaeth hon. Mae hynny’n cynnwys grwpiau sy’n siarad ar
ran cleifion ac ar ran siaradwyr Cymraeg. Ni chawsom fel Cymdeithas ein gwahodd i un
o’r digwyddiadau ymgynghori a fu yn ddiweddar, ac nid oeddem yn ymwybodol ohonynt
yn anffodus. Byddem wedi croesawu cyfle i fynychu ac i annog ein haelodau i fynd i un o’r
digwyddiadau. Wrth gwrs, croesawn y ffaith bod profiadau defnyddwyr yn cael sylw blaenllaw yn
y Strategaeth fel y mae ar hyn o bryd.
Credwn fod mewnbwn pobl Cymru yn bwysig o ran monitro cynnydd y Strategaeth yn benodol.
Rydym o’r farn y byddai rhyw fecanwaith ar gyfer cael mewnbwn defnyddwyr Cymraeg yn
benodol yn fuddiol tu hwnt o ran gwerthuso’r Strategaeth. Byddem hefyd yn barod i gyfrannu yn
hynny o beth, ac yn barod i roi tystiolaeth bellach i’r Llywodraeth, ar lafar neu ar bapur, wrth i chi
baratoi’r Strategaeth derfynol, pe bai hynny o fudd.
Yn ogystal â safbwyntiau y cyhoedd yng Nghymru, credwn ei bod yn bwysig bod ymarferwyr
Cymraeg yn gallu dod at ei gilydd i rannu a datblygu arfer da. Credwn y dylid sefydlu fforymau
proffesiynol at y diben hwnnw o dan y cyrff proffesiynol perthnasol (e.e. Cyngor Gofal Cymru)
er mwyn hwyluso’r broses hon, ac fe ddylid rhoi camau gweithredu yn hynny o beth yn y
Strategaeth hon.
Casgliad
Mae’r Strategaeth yn nodi amcanion na ellir yn rhesymol anghytuno â nhw er mwyn dechrau
mynd i’r afael â’r diffygion sy’n bodoli ar hyn o bryd o ran y Gymraeg ym maes iechyd, gofal a
gwasanaethau cymdeithasol. Mae bwriad y Llywodraeth yn hynny o beth yn glodwiw, ac mae’r
weledigaeth ar gychwyn y Strategaeth, ar y cyfan, yn uchelgeisiol.
Fodd bynnag, ni ellir gorbwysleisio mor annigonol yw’r sefyllfa ar hyn o bryd: yn y rhan fwyaf
o Gymru, nid oes fawr ddim darpariaeth yn Gymraeg fel mater o drefn ym maes gofal ac
iechyd; damwain a hap yw unrhyw ddarpariaeth sydd ar gael. Mae maint y dasg o fynd i’r
afael â’r sefyllfa, felly, yn enfawr, ac angen buddsoddiad amser ac arian i newid holl ethos y
gwasanaethau dan sylw. Ein prif bryder, fel y nodwyd eisoes, yw bod y cynlluniau gweithredu yn
anghyflawn ac felly yn syrthio’n brin o’r weledigaeth sydd yn y Strategaeth ei hun. Mae perygl
bod y Llywodraeth yn ceisio codi tŷ ar dywod. Nid ydym yn credu bod modd i’r Strategaeth
lwyddo heb newidiadau sylweddol i’r cynlluniau gweithredu.
Un pwynt pwysig yn hyn o beth yw sut yn union y caiff y Strategaeth gyfan ei monitro; pwy fydd
yn gyfrifol am sicrhau ei bod yn digwydd a rheoleiddio’r holl broses? Beth fydd y meini prawf
ar gyfer llwyddiant y Strategaeth? Yn ychwanegol at gynnydd y Strategaeth yn benodol, mae’n
bwysig bod darpariaeth Gymraeg y gwasanaethau hyn yn cael eu harolygu’n gyson ar lefel fwy
cyffredinol, a bod y cyrff arolygu perthnasol yn cynnal ymchwiliadau statudol cyson i natur y
ddarpariaeth Gymraeg. Credwn y dylai’r Strategaeth hon amlinellu camau tuag at sicrhau bod
hynny’n digwydd.
Fel y nodwyd, un o brif wendidau’r Strategaeth o ran iechyd yn benodol yw’r diffyg sylw i ofal
sylfaenol. Mae’n hanfodol cywiro’r diffyg cydbwysedd hwn yn y Strategaeth. Bydd mynd i’r afael
â gofal sylfaenol yn her, wrth gwrs, ond o ystyried cyswllt pobl Cymru â’r gwasanaethau hynny,
mae’n hanfodol bod gwaith ar unioni’r diffygion yn dechrau yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
Un o elfennau pwysicaf oll y Strategaeth yw capasiti adnoddau dynol digonol i gynnig
darpariaeth ddwyieithog, ac yn y cynlluniau gweithredu y mae sicrhau hynny. Mae angen gosod
targedau o fewn amserlen bendant yn y cynlluniau hyn i adeiladu gweithluoedd iechyd a gofal
sydd â chapasiti digonol, a hynny drwy hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle, recriwtio bwriadus a
chynllunio strategol, gan adeiladu ar hynny’n barhaus.
Fel y nodwyd felly, croesawn ddymuniad y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r mater dyrys hwn,
ond rhaid sylweddoli hefyd beth yw maint y dasg sydd o’n blaenau. Nid yw’r awgrym y bydd
modd gweithredu’r Strategaeth heb adnoddau ychwanegol yn gwneud cyfiawnder â hynny, yn
ein barn ni. Yn un peth, fel y nodwyd, bydd buddsoddi helaeth yn y gweithlu yn gwbl hanfodol,
o ran creu newid agwedd ac ethos, a hefyd yn hanfodol o ran sgiliau a hyder y gweithlu i
ddefnyddio’r Gymraeg, a dylai’r cynlluniau gweithredu adlewyrchu hynny. Yn fwy na hynny, mae
angen cynlluniau gweithredu cynhwysfawr sy’n fwy uchelgeisiol a mwy pellgyrhaeddol. Mae
gormod o fylchau ar hyn o bryd, ac er bod llawer i’w ganmol o ran gonestrwydd y Llywodraeth
am y sefyllfa bresennol, a’i dymuniad i newid hynny, mae perygl i’r Strategaeth hon foddi wrth
y lan oherwydd prinder targedau uchelgeisiol a phendant - oherwydd diffygion y cynlluniau
gweithredu. Yn sicr mae’n dweud llawer o’r pethau cywir, ond fel mae teitl y Strategaeth ei hun
yn ei awgrymu, mae angen mwy na geiriau.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Ebrill 2012