Mae Cymdeithas yr Iaith yn gymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.
Tra yn cydnabod bod dylanwad y cyngor wedi ei gyfyngu i'w ddarpariaeth ei hun yn bennaf rydyn ni o'r farn bod lle gan y Cyngor i osod nod mai'r Gymraeg fydd prif iaith y sir a bod cydweithio gyda a phwyso ar sefydliad sefydliadau eraill y mae eisoes yn ymwneud â nhw, fel y Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Prifysgol Bangor, Gwasanaeth Tân ac Achub, Heddlu Gogledd Cymru a chyrff y mae'n dyrannu grantiau iddyn nhw i osod yr un nod trwy fabwysiadau'r egwyddor o wneud y Gymraeg yn brif iaith yn eu sefydliadau.
Mae Cyngor Gwynedd mewn lle da i rannu arfer da gyda chyrff eraill, a mynnu bod gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar ran neu mewn cydweithrediad â'r Cyngor yn cael eu darparu yn Gymraeg.
Er bod cyfeirio at drafferthion recriwtio, fel corff sy'n gweinyddu trwy'r Gymraeg does dim angen dweud bod angen i staff allu gweithio trwy'r Gymraeg.
Yn hytrach na dweud y bydd "y Gymraeg yn cael sylw teg wrth ddatblygu unrhyw gynlluniau recriwtio/datblygu gweithlu" felly mae angen sicrhau bod staff sy'n cael eu penodi yn gallu defnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u gwaith neu bod disgwyl iddynt gyrraedd y lefel hynny o fewn cyfnod penodol
Gellid dadlau maes gweithredu 4, sydd yn ymwneud â chymunedau yw maes pwysicaf y strategaeth gan fod nifer o elfennau eraill yn golygu nad yw pobl yn gallu aros yn eu cymuned i fyw a gweithio.
Mae'r strategaeth yn cyfeirio at "datblygu dealltwriaeth o be mae “cymuned” yn ei olygu yn y Gwynedd fodern."
Byddai'n anodd diffinio cymuned yn Ngwynedd gan y bydd pob cymuned a'i hanghenion yn wahanol a mesur defnydd cymunedol o'r Gymraeg felly mae'n bwysig creu amodau ffafriol i gymunedau a galluogi pobl i fyw ynddynt.
Cyfeirir at broblemau tai, ond does dim byd yn y strategaeth fyddai'n mynd i'r afael â hynny. Mae grymoedd newydd gan y cyngor sir i godi 300% o dreth ar ail dai, ond dydy'r cyngor ddim wedi arfer y grym hynny yn llawn.
Dydyn ni ddim wedi cael gwybod eto a fydd yn rhoi amod erthygl 4 yn unrhyw wardiau yn y sir, er mwyn mynnu cais cynllunio i newid cartref yn ail dŷ.
Wrth gwrs mae'r broblem yn ehangach nag ail dai a llety gwyliau, mae'r strategaeth ei hun yn cyfeirio at y farchnad dai fel un o'r heriau sylweddol i hyfywedd cymuned:
"pwysau ar y farchnad dai, sydd yn golygu bod pobl yn gorfod symud i gymunedau eraill er mwyn byw a gweithio."
Mae colli pobl o'n cymunedau am bod prisiau tai y tu hwnt i gyrraedd pobl ar gyflog lleol yn broblem sylweddol.
Gallai'r cyngor alw ar y Llywodraeth i ddefnyddio'r cyfle trwy'r Ddeddf Eiddo sydd wedi ei haddo i reoleiddio'r farchnad dai a'i gwneud yn haws i fentrau a arweinir gan gymunedau i allu cynnig amrywiaeth o atebion lleol addas i'w cymuned.
Mae cynigion Cymdeithas yr Iaith ar gyfer Deddf i'w gweld yma.
Mae'r strategaeth yn nodi hefyd bod diffyg cyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn ffactor arall sy'n effeithio ar allu pobl i aros yn eu cymuned.
Eto, credwn bod lle gan y cyngor ei hun i fynd i'r afael a hyn. Mae'r strategaeth iaith yn cyfeirio at gynllun Arfor a'r grantiau fydd ar gael yn sgil hynny. Dylai'r grantiau ar gyfer busnesau gael eu blaenoriaethu i fentrau cymunedol fydd yn creu gwaith yn lleol.
Ar ben hynny mae lle gan y cyngor i osod amodau ar grantiau mae'n eu dyrannu bod y Gymraeg yn dod yn brif iaith a'u bod yn creu cyflogaeth yn lleol.
Yn ogystal â'r ddau beth yma mae diffyg buddsoddiad mewn cymunedau yn her sylweddol ac yn ei gwneud yn anodd i bobl fyw mewn cymunedau gwledig.
Byddai'n anodd i rywun sy'n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus deithio i'r gwaith mewn rhai ardaloedd. Mae angen i rywle fod yn lle apelgar i fyw hefyd, os nad oes cyfleoedd cymdeithasol neu fodd i deithio gyda'r hwyr bydd pobl yn llai tebygol o fod eisiau byw mewn cymunedau gwledig.
Mae poblogaeth ifanc y sir yn achos pryder ym maes addysg. Yn ddiweddar fe wnaeth yr aelod cabinet â chyfrifoldeb dros addysg nodi y bydd strategaeth ar gyfer moderneiddio'r gyfundrefn ysgolion yn digwydd dros yr Haf, ac y bydd yn cymryd y cwymp yn nifer y disgyblion yng Ngwynedd i ystyriaeth.
Mae ysgolion yn cael eu gweld fel adnoddau addysgol i blant yn unig ond gallant fod yn ganolbwynt i weithgareddau a bywyd cymuned. Mae cyfle felly trwy'r strategaeth newydd i gryfhau profiad cymunedau Gwynedd yn ogystal â phrofiad addysgol pobl ifanc. Mae amryw fodelau sy'n bosibl er mwyn cynnal ysgolion gwledig tra hefyd yn eu gwneud yn adnodd cymunedol.
Pryder arall ym maes addysg yw bod y strategaeth iaith yn cyfeirio at "Rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc nad ydynt eto yn siaradwyr Cymraeg, i ddysgu a dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus."
Dydy "rhoi cyfle" i bawb gael addysg Gymraeg ddim yn ddigon. Er bod mwyafrif helaeth ysgolion y sir yn rhai Cymraeg mae'n bryd symud Ysgol Friars ym Mangor ac Ysgol Uwchradd Tywyn at fod yn ysgolion Cymraeg. Does dim rheswm amlwg pam bod y ddwy yn ysgol Saesneg o hyd.
Dydy hi ddim yn glir chwaith sut fydd mesur effaith y strategaeth. Un targed sydd yn y strategaeth:
"Rydym am osod targed cyffredinol i weld cynnydd yn y defnydd rheolaidd o’r Gymraeg. Rydym hefyd eisiau gweld 100% o blant Gwynedd yn cael y cyfle i siarad Cymraeg a defnyddio’r iaith yn rheolaidd."
Mae'n darged annelwig sy'n rhy gyffredinol. Os mai'r bwriad yw creu cynllun er mwyn gweithredu'r strategaeth mae angen targedau pendant i anelu atynt.
Cymdeithas yr Iaith
Mai 2023