Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Strategaeth Ddrafft "Moderneiddio Cymunedau Dysgu A Datblygu'r Gymraeg" Cyngor Ynys Môn

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Strategaeth Ddrafft "Moderneiddio Cymunedau Dysgu A Datblygu'r Gymraeg" Cyngor Ynys Môn

  1. Mae'n anodd derbyn fod y ddogfen yn ymgais ddifrifol I werthuso opsiynau I "foderneiddio" cymunedau dysgu nac i ddatblygu'r Gymraeg. Yn hytrach mae swyddogion y Cyngor wedi dychwelyd at yr obsesiwn parhaus a amlygwyd dros y ddwy ddegawd ddiwethaf o gau ysgolion pentrefol Cymraeg fel yr unig opsiwn. Yn hyn o beth, nid yw diwylliant y Cyngor wedi newid o gwbl, nid yw wedi dysgu dim o gyfnod ymyrraeth y Comisiynwyr – ac yn enwedig y Comisiynydd Addysg Gareth Jones – yn 2013, nac wedi dysgu chwaith o ymyrraeth y Gweinidog Addysg dair blynedd yn ôl.
     
  2. Nid yw'r ymgais i wisgo hen obsesiwn a rhagfarn yn nillad newydd agenda gwrth-dlodi na lleihau ôl-troed carbon yn argyhoeddi chwaith. Mae'n amlwg fod cau ysgolion mewn cymunedau pentrefol yn gorfodi mwy o deithio, ac yn effeithio teuluoedd tlawd waethaf. Dadleuir fod demograffeg y sir wedi newid a bod cyfran llai o bobl ifainc yn ein cymunedau. Ond o gau ysgol mewn pentre, bydd yn llai tebyg fyth y bydd teuluoedd ifainc yn ymgartrefu ynddynt.
     
  3. Daw'r wers gyntaf o'r gorffennol o gyfnod y Comisiynydd Addysg Gareth Jones 2013 https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/79132-cyngor-ynys-mon-am-ail-ymgynghori-ar-ddyfodol-tair-ysgol.
    Ar y pryd, cynigiodd Mr Jones strategaeth ragorach i foderneiddio cymunedau dysgu, gydlynu darpariaeth addysg a sicrhau arbedion cyllidol. Ei gynllun oedd i ddarparu addysg fesul dalgylch ysgol uwchradd gydag un bwrdd llywodraethol ar gyfer y dalgylch fel cyngor cynrychioladol i gymryd penderfyniadau o ran rhannu adnoddau rhwng ysgolion, cynllunio gweithgareddau ar y cyd, hyrwyddo trosglwyddiad o'r cyfnod cynradd i uwchradd, gweinyddu a phwrcasu canolog gan ryddhau prifathrawon ysgolion unigol i ganolbwyntio ar arweinyddiaeth addysgol ac addysgu gyda phwyllgorau cyswllt cymunedol lleol. Deuai'r arbedion wedyn o'r drefn weinyddol yn hytrach na thrwy amddifadu cymunedau o ddarpariaeth addysgol. Gallai ysgolion 3-16 oed mewn ardaloedd trefol fod yn rhan o aildrefnu o'r math. Nid yw'r ddogfen yn trafod nac yn gwerthuso hwn nac unrhyw opsiwn amgen.
     
  4. Mae'r strategaeth hon yn camddeall yn llwyr polisi a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Dywedir fod y Gweinidog Addysg yn ceisio hyrwyddo "Ysgolion Bro". Ond nid ysgolion canolog (wedi cau ysgolion pentrefol) yw ystyr yr ymadrodd, ond yn hytrach ysgolion sy'n agored i'w cymunedau, ac yn gallu bod yn gyfraniad at adfywiad cymdeithasol-economaidd. Wrth ganoli darpariaeth addysgol, byddai'r Cyngor o ddiffiniad yn symud addysg yn bellach o gyfranogiad cymunedau – o ran cefnogi addysg eu plant ac o ran defnyddio adnoddau eu hunain.
     
  5. Mae'r dehongliad o addysg gymunedol yn rhy simplistaidd. Wrth gwrs fod angen datblygu adnoddau arbennig mewn mannau canolog. Byddai'r rhain at wasanaeth disgyblion yr ysgol ganolog a disgyblion ysgolion cylchynol ac hefyd oedolion tu allan i oriau ysgol. Ond mae gweithgareddau eraill o ran addysg gymunedol – rhai anffurfiol yn bennaf – lle mae'n fwy addas i ddarparu'r addysg gymunedol yn yr ysgol bentre (weithiau gyda chymorth mudiadau gwirfoddol) e.e. Llythrennedd, dysgu teuluol, cylchoedd cyn-ysgol a chymhathu mewnfudwyr gyda gwersi Cymraeg ac addysg bro fel y teimlant berchnogaeth ar yr addysgu. Mae angen cynllunio addysg gymunedol fesul cylch.
     
  6. Mae'n anhygoel fod y strategaeth hon yn awgrymu mai'r ffordd i "ddatblygu'r Gymraeg" yw tynnu ysgolion pentrefol Cymraeg allan o gymunedau. Dyma'r sefydliadau sy'n sicrhau cyswllt rhwng y gymuned a'r Gymraeg ac yn foddion cymhathu mewnfudwyr. Pryderwn hefyd am y defnydd llac o ymadroddion fel "addysg Gymraeg a dwyieithog". Mae'n bwysig fod y Cyngor yn ymateb i drefn categoreiddio ieithyddol newydd y Llywodraeth drwy ddynodi'r ysgolion yn ysgolion Cymraeg yn y categori uchaf er mwyn osgoi unrhyw ansicrwydd.
     
  7. Mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion – hyd yn oed cyn cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig 2018 a nawr hyd yn oed yng nghyd-destun ysgolion nas rhoddwyd ar restr swyddogol Ysgolion Gwledig – yn mynnu fod ystyried a gwerthuso opsiynau yn hytrach na mabwysiadu strategaeth o gau ysgolion fel dewis cyntaf.
    Cyfeirir yn arbennig at Ffedereiddio; dylid edrych hefyd ar y cynllun a ffefrir gan yr Aelod Senedd Rhun ap Iorwerth, sef ysgolion bro aml-safle, ac mae hefyd y cynllun mwy uchelgeisiol gan Gareth Jones y cyfeiriwyd ato. Nid yw'r ddogfen hon yn gwerthuso unrhyw opsiynau amgen.
    O ran cost cynnal adeiladau, trafodwyd mewn siroedd eraill y posibiliad o drosglwyddo adeilad ysgol at ymddiriedaeth gymunedol ( a allai ddenu cyllid o ffynonellau gwahanol i wella'r adeilad) a rhentu ond y gofod yr oedd ei angen i drefnu ysgol ynddo. Ni bydd yn ddigonol i ddatgan yr ystyrir yr opsiynau amgen (mewn modd "cut & paste" clasurol) pan ddaw cynigion unigol i gau ysgolion. Bydd y ddogfen hon yn ffurfio safbwynt cychwynnol yr Awdurdod wrth fynd i mewn i unrhyw broses statudol, ac felly'n cynrychioli'n ymarferol ragdyb yn erbyn cadw ysgol wledig ar agor, yn gwbl groes i Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018.
    O fabwysiadu'r strategaeth ddrafft hon, byddai'r Cyngor yn gadael ei hun yn agored naill ai i heriau cyfreithiol drudfawr neu i ymyrraeth gan Lywodraeth ganolog. Ni ddymuna Cymdeithas yr Iaith weld y naill neu'r llall o'r senarios hyn yn digwydd gan y credwn yn angerddol mewn democratiaeth leol, ac felly erfyniwn ar y Cyngor i ddewis yn awr llwybr cydweithio gyda chymunedau lleol.
     
  8. Mae Adran 3.1 o'r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn amlygu fod y wybodaeth a roddir yn y strategaeth ddrafft hon yn ffeithiol anghywir. Dywedir yn eglur "Mae'r gyfraith achosion wedi pennu y dylai'r broses ymgynghori gael ei chynnal pan fydd cynigion yn dal ar gam ffurfiannol". Mewn geiriau eraill, y mae rheidrwydd ar y Cyngor i gynnal trafodaethau anffurfiol "gyda meddwl agored" yn gyntaf gyda llywodraethwyr a'r gymuned leol cyn ffurfio unrhyw gynnig. Ond mae'r Strategaeth Ddrafft hon yn dweud yn glir o dan "Proses Ddeddfwriaethol" mai cam 1 yw fod swyddogion yn paratoi Papur Cynnig ac wedyn yn ceisio caniatâd cynghorwyr fynd at ymgynghoriad ar eu cynllun nhw – yn hytrach na ffurfio cynnig mewn cydweithrediad a'r gymuned leol.
    Mae diwylliant "Yn ein barn proffesiynol" a dirmyg at farn cymunedau lleol yn rhedeg trwy'r strategaeth ddrafft hon. Hyd yn oed os newidir yr union eiriad nawr – o'i wrthgyferbynnu ag ailystyried yn gyfan-gwbl y strategaeth – bydd modd cyfeirio at y ddogfen hon i brofi fod yr Awdurdod wedi ffurfio rhagdyb YN ERBYN cadw ysgolion pentrefol mewn unrhyw brwydrau unigol.
     
  9. Mae'r rheidrwydd statudol i drafod yn anffurfiol ac anstatudol gyda chymunedau lleol cyn ffurfio cynigion, a'r rheidrwydd i adolygu'n llwyr y strategaeth ddrafft hon yn golygu fod yr amserlen gweithredu arfaethedig yn gwbl anymarferol. OND ni ddylai hynny olygu oedi ceisiadau am gyllid o Gronfa Cymunedau Dysgu – fel y bu oedi yn achos Ysgol Corn Hir tra bu ymdrechion ofer i gau Ysgol Bodffordd. Mae llythyr gan y Gweinidog Addysg presennol at Gymdeithas yr Iaith yn amlygu na raid i gais am gyllid o'r Gronfa fod yn ddibynnol ar gau ysgolion eraill, a bod modd gwneud cais am gyllid i uwchraddio ysgolion bach hefyd. Dylai'r strategaeth hon ddatgan yn glir fod hawl gan gymunedau gwledig hefyd i fuddsoddiad, wedi degawdau o esgeulustod.
     
  10. Mae "Canllawiau Llywodraeth ar gyfer ffurfio ceisiadau am gyllid o gronfa Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy" (Cronfa Ysgolion a Cholegau 21ain ganrif ynghynt) yn datgan yn gwbl eglur:

    "Mewn cais dylai hefyd fod ymrwymiad at wella gwasanaethau cyhoeddus a defnydd cymunedol. Ymhlith yr ystyriaethau yma –
    * A yw'r opsiwn yn dderbyniol yn gymdeithasol/wleidyddol ?
    * Ydyn nhw'n cefnogi dysgwyr sy'n cerdded a reidio i'r ysgol ?
    * Mae cais am gyllid llai na £5miliwn yn symlach ac angen ond un ddogfen "Achos Cyfiawnhad Busnes"
    * Geiriau allweddol yn dynodi gwariant Refeniw - "Atgyweirio, Cynnal a Chadw, Newid, tebyg am debyg, Adfer neu Adnewyddu "

    Dyma ganllawiau eglur iawn yn rhybuddio'n erbyn ymgais i wthio trwodd newidiadau biwrocrataidd ar gymunedau anfodlon ac yn gwahodd ceisiadau cymedrol i wella adeiladau presennol ysgolion bach. Ni raid canolbwyntio'n ecsliwsif ar geisiadau mawr ar gyfer ysgolion newydd sy'n denu sylw.
     

  11. Mae cryn bwyslais yn y ddogfen ar ofod mewn ysgolion pentre nad sy'n cael ei ddefnyddio. Ond mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018) yn annog Awdurdodau i chwilio am ddefnydd amgen o ofod dros ben, at ddibenion cymunedol neu at ddibenion y Cyngor, yn hytrach na bod yn rheswm i gau ysgol. Gellid hefyd dad-gomisiynu gofod felly, neu greu ynddo Gofod Celf at ddibenion disgyblion ysgolion lleol a'r gymuned.
     
  12. Mae pwyslais mawr hefyd ar "Cost y Pen" o addysgu disgyblion. Fformiwla mathemategol yw hwn gan mai'r un yw'r gost real o gynnal yr ysgol, ac mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion eto'n rhybuddio'n erbyn gorbwysleisio y ddadl hon wrth benderfynu ar ddyfodol ysgolion gwledig. Wrth gwrs fod pob gwasanaeth cyhoeddus yn costio'n fwy i'w gyflwyno mewn ardal wledig nag mewn ardal drefol boblog, ond mae llai o wasanaethau cyhoeddus yn gyfan gwbl mewn ardaloedd gwledig ac felly y mae'r gwariant cyfan y pen yn debyg o fod yn llai. Cydnabyddwn mai pryder diffuant sydd yma nad oes cyllido digonol ar gyfer costau ychwanegol darparu addysg mewn ardaloedd gwledig. Ond dylid unioni'r cam trwy bwysau gwleidyddol ar lywodraeth ganolog yn hytrach na thrwy amddifadu cymunedau gwledig o fwy fyth o wasanaethau fel na all ond mewnfudwyr cyfoethocach fforddio byw ynddynt.
     
  13. Ni ellir ond casglu fod hon yn strategaeth ddigalon a di-ddychymyg, yn barhad o ddiwylliant biwrocrataidd o drefnu addysg, ac yn ddiffygiol o unrhyw ymgais i harneisio egni cymunedol i wella'n haddysg ac adfywio ein cymunedau. Galwn ar Aelodau etholedig y Cyngor i fynnu ymagwedd cwbl newydd, ond i fynd ymlaen yn ddi-oed o ran ceisiadau am gyllid lle mae achos wedi ei baratoi. Ni raid i geisiadau cadarnhaol am gyllid lle mae mawr angen gwelliannau ac adnoddau newydd fod yn ddibynnol ar benderfyniadau negyddol i amddifadu cymunedau eraill o'u hysgolion.

Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith
Mai 2023