Ymchwiliad S4C - Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

Ymchwiliad S4C

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

1.Cyflwyniad

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru ers dros hanner canrif.

1.2. Credwn fod presenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau yn hollbwysig i bawb yng Nghymru a bod gan bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio, hawliau i’r Gymraeg. Hynny yw, nid yn unig hawliau i’w defnyddio a’i dysgu, ond hefyd i’w chlywed a’i gweld. Felly, mae presenoldeb yr iaith ar y teledu, y radio, y we a phob cyfrwng arall yn allweddol i’n gweledigaeth ni fel mudiad.

1.3. Mae S4C, yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd, yn unigryw yng ngwledydd Prydain gan iddi gael ei sefydlu a'i diogelu o ganlyniad i ymgyrchoedd torfol gan bobl Cymru. Nid sianel gyffredin mohoni. Mae gan y sianel ran bwysig iawn i'w chwarae yn nhwf yr iaith a'i defnydd.

1.4. Rydym wrthi'n ymgynghori ar bapur trafod gyda'n cynigion ar gyfer datblygu S4C a datganoli grymoedd dros ddarlledu yn eu cyfanrwydd i Gymru. Mae'r papur i'w weld yma:

http://cymdeithas.cymru/dogfen/darlledu-yng-nghymru-ii-papur-trafod

1.5. Mae nifer o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthod talu eu trwydded deledu ar hyn o bryd fel rhan o ymgyrch dros ddatganoli darlledu i Gymru.

2. Crynodeb

2.1. Crynhown ein prif gynigion a sylwadau fel y ganlyn:

  1. Dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yn ei gyfanrwydd i'r Cynulliad, sef grym rheoleiddio'r holl sbectrwm darlledu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros y ffi drwydded;

  2. Dylid sefydlu fformiwla ariannol statudol ar gyfer ein sianel Gymraeg fydd yn cynyddu yn unol â chwyddiant, gan y byddai hynny'n cynnig sicrwydd ariannol hirdymor i'r darlledwr;

  3. Rydym yn argymell codi ardoll ar gwmnïau darlledu a thelathrebu, a hefyd ar gorfforaethau sy'n gwerthu hysbysebion, megis Google a Facebook, er mwyn cyllido darlledu cyhoeddus yn y Gymraeg;

  4. Dylid newid Awdurdod S4C i fod yn "Awdurdod Darlledu Cymru" a fyddai'n rheoleiddio'r cyfryngau yng Nghymru yn lle Ofcom. Dylai aelodau'r Awdurdod newydd gael eu penodi drwy broses ddemocrataidd yng Nghymru yn hytrach na gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn Llundain.

  5. Credwn y dylai fod gan yr Awdurdod Darlledu Cymru newydd (Awdurdod S4C gynt) swyddogaethau a phwerau:

      1. i normaleiddio'r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol, o radio masnachol a theledu lleol i Netflix, YouTube ac yn y blaen;

      2. i gryfhau'r cyfryngau cymunedol a chynnwys digidol Cymraeg

  6. O gymharu'r cyfryngau yng Nghymru â rhai Catalwnia a Gwlad y Basg, gwelwn ddiffyg twf brawychus y cyfryngau Cymraeg a Chymreig

  7. Credwn, o dan gyfundrefn ddatganoledig, y dylai cylch gwaith Awdurdod Darlledu Cymru gynnwys sefydlu S4C newydd, y gellir ei galw yn ‘Sianel Cymru’. Byddai ganddi gylch gwaith llawer ehangach a fyddai’n cynnwys radio, teledu a gwasanaethau ar-lein. Er mwyn creu gwasanaethau cyfatebol i Wlad y Basg a Chatalwnia, credwn felly y dylai’r S4C newydd, neu Sianel Cymru, fod yn gyfrifol am y canlynol:

a. tair sianel deledu Gymraeg

b. tair gorsaf radio Gymraeg

c. o leiaf ddau wasanaeth newyddion aml-lwyfan Cymraeg a gynhyrchir yn fewnol

ch. cynnig cefnogaeth i fentrau cyfryngau lleol a chymunedol sy'n cynhyrchu

cynnwys Cymraeg

 

3.Cwestiynau'r Ymchwiliad

3.1. Ariannu'r Sianel

3.1.1. Mae S4C wedi dioddef toriadau o dros 40% i’w chyllid mewn termau real ers 2010; ac mae Llywodraeth San Steffan wedi paratoi'r ffordd i'r BBC draflyncu S4C. Erbyn hyn, er bod maniffesto etholiad cyffredinol y Ceidwadwyr yn 2015 yn dweud y byddent yn “diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C”, maen nhw nawr yn bygwth toriadau pellach.

3.1.2. Dywedwyd mai'r dirwasgiad a ddechreuodd yn 2008 oedd y rheswm dros doriadau i gyllid y darlledwr. Credwn felly y dylai cyllideb y darlledwr ddychwelyd nawr i'r un lefel â'r hyn oedd cyn y dirwasgiad.

3.1.3. Gwrthwynebwn ariannu S4C drwy'r ffi drwydded a chredwn y dylid dychwelyd i fodel grant. Fodd bynnag, os penderfynir y dylid parhau i ariannu drwy'r ffi drwydded, credwn y dylai rheolaeth dros y ffi drwydded gael ei datganoli i Gymru gyda chyfran uniongyrchol yn mynd at ddarlledwr Cymraeg sy'n annibynnol ar y Llywodraeth a darlledwyr eraill.

3.1.4. Credwn y dylid ail-sefydlu fformiwla gyllido annibynnol ar gyfer y sianel Gymraeg mewn statud, gyda'r cyllid yn cynyddu yn unol â chwyddiant. Mae angen llawer mwy o sicrwydd ariannol hirdymor ar y Sianel Gymrae na darlledwyr eraill, oherwydd ei statws fel darlledwr mewn iaith leiafrifoledig.

3.1.5. Dylid ychwanegu at yr adnoddau sydd ar gael i’r darlledwr drwy ddilyn esiampl gwledydd eraill a chodi ardoll ar ddarlledwyr preifat ynghyd â chwmnïau sy’n rhannu cynnwys megis Facebook a Google.

Ardoll

3.1.8. Mae darlledwyr cyhoeddus yng ngwledydd Prydain wedi dioddef toriadau mawr yn eu cyllid yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn ystod yr un cyfnod, ac er gwaethaf y dirwasgiad, mae darlledwyr preifat, megis British Sky Broadcasting (Sky) ac ITV, wedi gweld cynnydd mawr yn eu helw. Mae llwyfannau ar-lein, megis Google a Facebook, hefyd yn parhau i weld cynnydd mawr yn eu trosiant blynyddol, ac yn defnyddio strwythurau busnes cymhleth er mwyn osgoi talu trethi llawn i‘r wladwriaeth. Gallwch weld rhagor o fanylion am ein cynigion yma: http://cymdeithas.cymru/dogfen/ariannu-darlledu-cymraeg-treth-newydd-i-ariannu-darparydd-amlgyfryngol-cymraeg-newydd

3.2. Cylch Gwaith Statudol

3.2.1. Tra bu cynnydd aruthrol yn nifer y llwyfannau Saesneg eu hiaith, ni bu twf cyfatebol yn y gwasanaethau Cymraeg eu hiaith. Wedi sefydlu S4C, roedd un sianel deledu ac un orsaf radio Gymraeg: yng Ngwlad y Basg mae chwe sianel deledu a phum gorsaf radio; ac yng Nghatalwnia mae chwe sianel deledu a phedair gorsaf radio Gatalaneg.

3.2.2. Mae Ofcom wedi methu â gwasanaethu Cymru a’r Gymraeg, ac mae'n parhau i fethu – gan ffafrio cwmnïau mawrion sy'n cwtogi'n ddifrifol ar allbwn Cymraeg a lleol ar radio masnachol a thrwy hynny yn tanseilio gorsafoedd radio cymunedol.

3.2.3. Yn lle Ofcom, credwn y dylid gweddnewid ac ehangu Awdurdod S4C i fod yn ‘Awdurdod Darlledu Cymru’ a fydd yn gyfrifol am reoleiddio darlledu yng Nghymru, yn lle Ofcom. Byddai cylch gwaith, dyletswyddau a grymoedd y corff newydd yn cynnwys hyrwyddo a normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol (gan gynnwys Netflix ac Amazon Prime er enghraifft), a byddai ganddo rymoedd i osod cwotâu ar radio masnachol a theledu lleol o ran y ganran o’u darlledu sydd yn Gymraeg.

3.2.4. Byddai gan yr Awdurdod ddyletswydd dros hyrwyddo cyfryngau cymunedol, ac yn benodol rhai Cymraeg. Er mwyn sicrhau plwraliaeth ac ystod o leisiau amgen, mae’n bosib y byddai gan yr awdurdod reolaeth dros ‘gronfa cynnwys cymunedol’ a hynny i hyrwyddo cyfryngau a llwyfannau lleol er mwyn creu system ddarlledu o’r gwreiddiau i fyny. Yn ychwanegol at hyn, dylid newid model S4C er mwyn iddi allu cynhyrchu gwasanaeth newyddion ei hun neu gomisiynu cwmni(au) Cymraeg i wneud hynny.

3.2.5. O dan gyfundrefn ddatganoledig, credwn y dylai 'Awdurdod Darlledu Cymru' sefydlu S4C newydd, y gellir ei galw yn ‘Sianel Cymru’. Byddai ganddi gylch gwaith llawer ehangach a fyddai’n cynnwys radio, teledu a gwasanaethau ar-lein. Er mwyn creu gwasanaethau cyfatebol i Wlad y Basg a Chatalwnia, credwn felly y dylai’r S4C newydd, neu Sianel Cymru, fod yn gyfrifol am y canlynol:

dair sianel deledu Gymraeg

tair gorsaf radio Gymraeg

o leiaf ddau wasanaeth newyddion aml-lwyfan Cymraeg a gynhyrchir yn fewnol

cynnig cefnogaeth i fentrau cyfryngau lleol a chymunedol sy'n cynhyrchu cynnwys Cymraeg

3.2.6. Byddai nifer o’r gwasanaethau hyn yn rhai heb hysbysebion a byddent yn targedu gwahanol grwpiau demograffig a grwpiau diddordeb.

3.2.7. Byddai cylch gorchwyl Awdurdod Darlledu Cymru yn esgor ar dwf o ran cyfryngau cymunedol a chynnwys digidol Cymraeg. Byddai’n diogelu ac yn ehangu radio a theledu cymunedol Cymraeg, gan ffafrio’r darpariaethau hynny yn lle cyfundrefn Ofcom sydd wedi arwain at gwmnïau mawrion yn cwtogi ar gynnwys Cymraeg a Chymreig.

3.2.8. Byddai Awdurdod Darlledu Cymru hefyd yn sefydlu endid darlledu dwyieithog newydd. Byddai’r endid newydd yn gyfrifol am:

un sianel deledu ddwyieithog Gymreig

un orsaf radio ddwyieithog Gymreig

un gwasanaeth dwyieithog ar-lein Cymreig

3.3. Datganoli Darlledu

3.3.1. Mae 60% o bobl Cymru yn cefnogi datganoli darlledu i Gymru, yn ôl arolwg barn a gynhaliwyd gan Gomisiwn Silk a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain. Yn ogystal, cefnogodd Comisiwn Silk ddatganoli rhan o gyllideb S4C i Lywodraeth Cymru, ond dyw Llywodraeth Prydain ddim wedi gweithredu ar yr argymhelliad.

3.3.2. Credwn y dylid datganoli grym dros ddarlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru, nid S4C yn unig. Drwy ddatganoli’r cyfrifoldeb i Gymru, byddai modd troi Awdurdod S4C yn “Awdurdod Darlledu Cymru”, sef rheoleiddiwr ar gyfer yr holl sbectrwm, yn naturiol. Byddai’n gyfrifol am ehangu a normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol.

3.3.3. O dan gyfundrefn ddatganoledig, credwn y dylai S4C, neu Sianel Cymru, fod yn atebol i Awdurdod Darlledu Cymru.

3.4. Annibyniaeth ar y BBC

3.4.1. Credwn y dylai fod gan S4C annibyniaeth ariannol, strategol a golygyddol lwyr. Pryderwn yn fawr bod y BBC, yn araf deg, yn traflyncu S4C ac yn ei dinistrio fel darlledwr annibynnol. Credwn fod y cynllun i symud darlledu S4C i bencadlys newydd y BBC yng nghanol Caerdydd yn enghraifft o hyn. Ac mae BBC yn cadw'r hawl i dynnu arian oddi ar S4C neu osod amodau ar arian a ddaw i S4C drwy'r ffi drwydded. Nid yw'n bartneriaeth gytbwys, ond yn draflynciad graddol.

3.4.2. Pryderwn ymhellach am y monopoli sydd gan y BBC dros newyddion Cymraeg cenedlaethol. Fel sy'n cael ei amlinellu uchod mae angen rhoi'r hawl i S4C sefydlu gwasanaeth newyddion annibynnol er mwyn sicrhau plwraliaeth.

3.4.3. Er mwyn sicrhau annibyniaeth go iawn, dylid sefydlu fformiwla ariannol statudol a ffynonellau ariannu sy'n gwbl annibynnol ar y BBC. Os oes rhaid ariannu S4C drwy'r ffi drwydded, dylai cyfran fynd yn uniongyrchol i'r darlledwr yn hytrach na gadael i'r BBC gael unrhyw ddylanwad dros ddefnydd yr arian.

Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mawrth 2017