Ymgynghoriad ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol drafft y Cynulliad Cenedlaethol – Tystiolaeth

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

PWNC Y PAPUR: Ymgynghoriad ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol drafft y Cynulliad Cenedlaethol – Tystiolaeth Ysgrifenedig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

I SYLW: Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

PARATOWYD GAN: Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

DYDDIAD: 30 Mawrth, 2017

1. Cefndir

1.1. Cyflwynir y sylwadau isod mewn ymateb i gais am dystiolaeth gan y Gymdeithas ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Drafft y Cynulliad Cenedlaethol.

1.2. Mae gan y Cynulliad gyfrifoldeb arbennig ac unigryw i fod yn arweinydd i bob corff arall yn y wlad o ran polisi iaith. Er bod llawer o gynnydd wedi bod hyd yma, mae'n rhaid cydnabod hefyd bod rhai cyrff eraill ymhell o flaen y Cynulliad o ran eu polisïau iaith ar hyn o bryd

1.3. Amcangyfrifwn fod tua hanner cant y cant o Aelodau Cynulliad yn meddu ar sgiliau Cymraeg yn y Cynulliad hwn. Nodir yn y Cynllun bod tri chwarter staff y Comisiwn yn meddu ar ryw lefel o sgiliau iaith. Fodd bynnag, mae defnydd y Gymraeg ym musnes y sefydliad a'r weinyddiaeth mewn nifer o adrannau yn parhau i fod yn isel o gymharu â chyrff eraill. Mae’n rhaid cydio felly yn y cyfle mae’r Cynllun diweddaraf hwn yn ei gynnig o ran tyfu defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad dros gyfnod y Pumed tymor.

2. Sylwadau cyffredinol

2.1. Croesawn y ffaith bod rhagor o bwyslais ar gynllunio'r gweithlu yn y Cynllun hwn, yn enwedig y cyfeiriad at fabwysiadu polisi recriwtio Heddlu’r Gogledd. Fodd bynnag, credwn fod lle i wella'n sylweddol o hyd. Mae'r Strategaeth Sgiliau bresennol yn wan iawn, ac yn gwbl annigonol. Mae angen i'r Cynulliad fabwysiadu'r un polisi o ran ystyried y Gymraeg wrth ddyrchafu staff ag sydd gan Heddlu'r Gogledd yn ogystal â'r polisi recriwtio.

2.2. Yn y rhagymadrodd i’r Cynllun ar dudalen 7 lle amlinellir y cyd-destun deddfwriaethol, nodir er nad yw’r Cynulliad yn destun cyfundrefn Safonau’r Gymraeg, mai dyhead y Cynulliad yw bod yn fwy uchelgeisiol o ran polisi iaith na gofynion y Safonau, gan beidio mynd “islaw” y Safonau. O’r herwydd, credwn y dylai fod ymrwymiad i ddarparu cyfieithu ar y pryd o'r Saesneg i'r Gymraeg mewn rhai mannau yn y Cynllun hwn, fel y mae disgwyl i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ei wneud o dan y Safonau erbyn hyn.

2.3. Credwn y dylai fod targedau meintiol penodol mewn nifer o fannau yn y ddogfen. Dylid mabwysiadu'r targedau canlynol: 

  1. sicrhau bod dros 50% o staff yn cyrraedd lefel 4 neu 5 yn y Gymraeg erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn;

  2. sicrhau bod 50 o staff y flwyddyn yn mynychu cyrsiau trochi Cymraeg am gyfnodau llawn amser mewn bloc o tua mis – byddai hynny'n gwneud cyrraedd targedau o ran sgiliau staff yn rhwydd iawn; a

  3. targed i gynyddu nifer yr adrannau sy'n gweinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg

    2.4. Ieithoedd swyddogol: credwn fod yr uchelgais gychwynnol – "lle caiff y defnydd o'r ddwy iaith ei annog a'i hwyluso yn frwd" – yn amlygu diffyg ym meddylfryd y sefydliad o safbwynt egwyddorion sylfaenol. Nid oes angen annog na hwyluso defnydd o'r Saesneg, y Saesneg yw iaith ddiofyn y Cynulliad ar hyn o bryd. Er mwyn newid hynny, mae angen hybu'r Gymraeg. Nid oes anghysondeb rhwng hynny â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012. Mae'n amlwg nad yw'r ddwy iaith yn gyfartal ar hyn o bryd, ac er mwyn cyflawni eich dyletswydd o dan y Ddeddf i drin y ddwy iaith yn gyfartal, mae angen hybu'r iaith sy'n cael ei hisraddio ar hyn o bryd, sef y Gymraeg. Mae'n hanfodol newid y meddylfryd hwn felly.

    3. Sylwadau Penodol ar y Cynllun drafft

Adran 1

3.1. Nodir yn y Cynllun bod “adran un, uchod, yn nodi ein huchelgais a'n hymrwymiad”. Hyd y gwelwn, nid yw'r adran hon mewn gwirionedd yn cynnwys ymrwymiadau. Datgenir yn y cyflwyniad i'r ddogfen y "Caiff ein dwy iaith swyddogol eu cydnabod fel ieithoedd gweinyddu mewnol". Dylai fod cydnabyddiaeth yma o'r angen i gynyddu nifer yr adrannau sy'n gweinyddu drwy'r Gymraeg, gan osod nod tymor canolig i'r corff weinyddu'n Gymraeg drwyddo draw.

3.2. Argymhellwn y dylid newid y frawddeg sy'n cyfeirio at wella sgiliau staff fel ei bod yn glir y bydd strwythur yn ei lle sy'n rhoi sgiliau Cymraeg i bob aelod o staff dros amser. Felly, yn lle anelu at fod:

"yn gyflogwr sy’n cefnogi pob aelod o staff sydd am ddatblygu neu wella eu sgiliau yn y ddwy iaith swyddogol neu yn y naill iaith neu'r llall i safon sy’n briodol i’w swydd, neu ymhellach os dymunant"

argymhellwn y dylid anelu at fod:

"yn gyflogwr sydd gyda'r strwythur hyfforddiant iaith gorau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff yn meddu ar sgiliau ardderchog yn ein dwy iaith swyddogol"

Adran 2

3.3. Iaith deddfwriaeth: credwn bod angen cael gwared ar yr eithriadau yn Rheol Sefydlog 26.5 – ni welwn fod angen eithriad i'r rheol y dylai biliau sy'n cael eu hystyried gan y Cynulliad fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

3.4. Derbyn gohebiaeth gan drydydd parti: credwn y dylid newid adrannau 1.5, 1.6, 2.5 a 2.6 sy'n ymwneud â derbyn gohebiaeth a phapurau gan drydydd parti. Dylai'r Cynulliad wrthod derbyn papurau uniaith Saesneg gan gyrff sydd dan ddyletswydd i'w darparu yn Gymraeg o ganlyniad i Safonau'r Gymraeg neu'u cynlluniau iaith. Dylid nodi yn y Cynllun y bydd y Cynulliad yn gwneud cwyn i Gomisiynydd y Gymraeg (neu'r corff unigol os ydynt yn gweithredu dan gyfundrefn Deddf Iaith 1993) bob tro y derbynnir tystiolaeth bod corff yn gweithredu'n groes i'w ddyletswyddau statudol i ddarparu dogfennaeth yn Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o wir yng nghyd-destun Llywodraeth Cymru. Fel corff sy'n datgan mai un o'i bwrpasau yw 'dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif' credwn fod brawddeg olaf cymal 1.6 (a 2.6) amlygu enghraifft o esgeuluso eich dyletswydd fel sefydliad.

3.5. Credwn y dylai fod hawl gan sefydliadau ac unigolion i gyflwyno dogfennau i'r Cynulliad yn Gymraeg yn unig, ac i wneud hynny gan ddisgwyl y bydd pawb sy'n dymuno eu darllen yn gallu gwneud hynny. Dylid ychwanegu cymal felly sy’n nodi’r hawl hwn ac yn nodi y bydd y Cynulliad yn sicrhau bod dogfennau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu cyfieithu i'r Saesneg os na fydd pawb y bwriadwyd y dogfennau ar eu cyfer yn gallu darllen Cymraeg.

3.6. Cyfieithu ar y pryd: cred Cymdeithas yr Iaith y dylai fod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Saesneg i'r Gymraeg fod ar gael yn nhrafodion swyddogol y Cynulliad, yn ogystal â chyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg. Dyna'r unig ffordd o sicrhau bod pawb yn cael dewis clywed y trafodion yn eu dewis iaith, a byddai'n llawer haws i'r rhai sy'n siarad Cymraeg gyfrannu at drafodion yn Gymraeg petaent yn gallu clywed y drafodaeth gyfan yn yr iaith honno. Byddai hefyd yn hwyluso’r llwyth gwaith cofnodi chyfieithu – fel sy’n digwydd yn achos y cyfieithiad o’r Gymraeg i’r Saesneg ar hyn o bryd ac yn fodd o sicrhau nad yw darpariaeth Gymraeg y Cynulliad yn mynd islaw gwaelodlin cyfundrefn Safonau’r Gymraeg yng ngweddill y sector cyhoeddus.

3.7. Y Cofnod: dylid newid paragraffau 4.1 i 4.3 er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg. Dylai fersiwn Gymraeg o'r Cofnod fod ar gael ar yr un pryd â'r Saesneg, gan gynnwys y fersiynau drafft. Os yw hynny'n golygu oedi cyn ei gyhoeddi o gwbl, dyna y dylid ei wneud, yn hytrach na’r sefyllfa bresennol sy’n rhoi blaenoriaeth i gyhoeddi drafft Saesneg. Drwy gynyddu capasiti mewnol ac ad-drefnu, ni fyddai dim i rwystro cyhoeddi fersiwn dreigl yn y ddwy iaith ar yr un pryd os oes dymuniad i wneud hynny.

3.8. Yn yr un modd dylid newid paragraffau 5.1 a 5.2. Credwn y dylai fod cofnodion y pwyllgorau ar gael yn gwbl ddwyieithog, fel cofnodion y Cyfarfod Llawn.

3.9. Grwpiau trawsbleidiol: dylid ail-ystyried paragraff 7.1. Dylid darparu cyfieithu ar y pryd ym mhob cyfarfod grŵp trawsbleidiol (oni nodir neu ddisgwylir yn rhesymol bod pawb sy'n mynychu yn medru'r Gymraeg) er mwyn gwireddu hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, a meithrin yr arfer ymhlith Aelodau Cynulliad i ddefnyddio'r Gymraeg i drafod busnes y Cynulliad. Fel arall, dylid manylu ar ac esbonio ystyr 'ar gais'. Fan leiaf, dylai fod dyletswydd ar y rhai sy'n trefnu'r cyfarfodydd hyn i holi pobl ynghylch pa iaith neu ieithoedd y maent yn dymuno eu defnyddio yn y cyfarfodydd. A dylai fod dyletswydd i drefnu cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd pan nad yw pawb sy'n mynychu yn medru'r Gymraeg.

3.10. Hysbysebion a gohebiaeth etholaethol Aelodau'r Cynulliad: croesawn adran 8 fel modd o sicrhau bod modd i bob Aelod Cynulliad gyfathrebu yn Gymraeg gyda'u hetholwyr. Fodd bynnag, dylid ychwanegu cymal sy'n ymrwymo i annog Aelodau Cynulliad i ohebu a hysbysebu yn Gymraeg. Ymhellach, ym mharagraff 8.5 dylid defnyddio'r gair 'Anogir' yn lle 'Gall' ar ddechrau'r frawddeg.

3.11. Cefnogi a datblygu sgiliau iaith: nid oes rheswm pam na ddylai Cysgliad fod ar bob cyfrifiadur felly dylid dileu ail frawddeg paragraff 9.4 a mewnosod yn lle:

"Darperir Cysgliad, y feddalwedd gramadeg a gwirio sillafu Cymraeg,  i bob Aelod Cynulliad a’u staff cymorth o’r cychwyn cyntaf."

3.12. Deunydd cyfathrebu i Aelodau'r Cynulliad gan staff y Cynulliad: dylid ychwanegu ymrwymiad i baragraff 10.1 y bydd pob tudalen ar y rhyngrwyd yn Gymraeg ac yn gweithio yn llawn yn Gymraeg, a hynny ar yr un pryd â'r Saesneg

3.13. Galwadau ffôn: ar ddiwedd paragraff 10.4, dylid dileu'r geiriau "neu, os yw'n well gan y sawl sy'n galw, parhau yn Saesneg."

3.14. Dylid ychwanegu ymrwymiad i ateb pob galwad ffôn gyda chyfarchiad Cymraeg.

3.15. Ar ddiwedd paragraff 12.3, dylid dileu'r geiriau "neu, os yw'n well gan y cwsmer, parhau yn Saesneg."

3.16. Dylid ychwanegu brawddeg yn yr adran hon sy'n ymrwymo i sicrhau bod pob neges awtomatig ar y ffôn yn Gymraeg, yn unol ag ymrwymiadau Safonau'r Gymraeg ar gyrff eraill. Ar hyn o bryd, dyw paragraff 12.4 ddim ond yn cyfeirio at ffonau ar eich switsfwrdd a'ch derbynfeydd.

3.17. Ein delwedd gyhoeddus: dylid ychwanegu eithriad i baragraff 13.1. fel bod modd i'r Cynulliad ddefnyddio deunydd uniaith Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol a digwyddiadau uniaith Gymraeg eraill. Croesawn baragraff 13.2. Gobeithiwn weld y Cynulliad fel sefydliad yn mabwysiadu enw uniaith Gymraeg os bydd yn newid ei enw yn y dyfodol.

3.18. Gwasanaethau ymgysylltu â gwybodaeth gyhoeddus: dylid ychwanegu ymrwymiad i is-deitlau Cymraeg a chyfieithiadau o'r Saesneg i'r Gymraeg ym mharagraff 14.11.

3.19. Ymwelwyr ag ystâd y Cynulliad Cenedlaethol: dylid ychwanegu ymrwymiad y bydd pob aelod o staff yn cyfarch pob ymwelydd a chwsmer yn Gymraeg.

3.20. Credwn ei bod yn bwysig cefnogi'r hawl i gyrff weithredu'n uniaith Gymraeg, ym mharagraff 17.1 felly, dylid newid "gwahoddiadau dwyieithog" i "gwahoddiadau Cymraeg neu ddwyieithog".

3.21. Cyfathrebu â staff: dylid ail-ystyried paragraff 21.4. Dylid darparu cyfieithu ar y pryd ym mhob cyfarfod (oni nodir neu y disgwylir yn rhesymol bod pawb sy'n mynychu yn medru'r Gymraeg) er mwyn gwireddu hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, a meithrin yr arfer ymhlith staff a rheolwyr o ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith. 

3.22. Dylid manylu ar ac esbonio ystyr 'ar gais'. Fan leiaf, dylai fod dyletswydd ar y rhai sy'n trefnu'r cyfarfodydd hyn i holi pobl ynghylch pa iaith neu ieithoedd y maent yn dymuno eu defnyddio yn y cyfarfodydd. Dylai fod dyletswydd hefyd i drefnu cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd pan nad yw pawb sy'n mynychu yn medru'r Gymraeg. 

3.23. Dylid dileu paragraff 21.6 a mewnosod yn lle:

"Mae gan staff yr hawl i drafod materion yn ymwneud â'u chyflogaeth yn Gymraeg, gan ddefnyddio offer lle bo angen. Mae hynny'n cynnwys ymrwymiad i gynnal cyfarfodydd adolygiadau perfformiad, cwynion a phrosesau disgyblu yn Gymraeg".

3.24. Gweithio'n ddwyieithog: yn yr adran hon, dylid gosod targed i gynyddu nifer yr adrannau sy'n gweinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg, gan osod amserlen ar gyfer adrannau unigol.

3.25. Dylid dileu ail frawddeg paragraff 22.5 a mewnosod yn lle:

"Darperir Cysgliad, y feddalwedd gramadeg a gwirio sillafu Cymraeg,  i bob Aelod Cynulliad a’u staff cymorth o’r cychwyn cyntaf." 

3.26. Strategaeth Sgiliau Dwyieithog: yn yr adran hon, dylid gosod targed i sicrhau bod dros 50% o staff yn cyrraedd lefel 4 neu 5 yn y Gymraeg erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. 

3.27. Rhaglen gynefino ac ymwybyddiaeth: mae'n hollbwysig bod pob aelod o staff nad ydynt yn gallu gweithio drwy'r Gymraeg yn cael hyfforddiant Cymraeg yn ddiofyn. Credwn felly y dylid dileu paragraff 24.2. a mewnosod yn lle:

"Bydd pob aelod newydd o staff, nad ydynt yn rhugl yn Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn derbyn cynllun a fydd yn esboniad o'r hyfforddiant a ddarperir iddynt er mwyn datblygu neu wella eu sgiliau iaith fel rhan o'r broses gynefino." 

Adran 3

3.28. Thema 1:Recriwtio: yn gyffredinol, croesawn yr ymrwymiadau yn yr adran hon. Credwn ei fod yn ddatblygiad a allai gael effaith gadarnhaol iawn ar y sefydliad. 

3.29. Er mwyn sicrhau bod y polisi yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol bosibl a threiddio drwy'r sefydliad i gyd, mae'n rhaid i ddatblygu sgiliau Cymraeg fod yn rhan o'r polisi dyrchafu staff yn ogystal â'u recriwtio a'u cynefino fel y gwneir gan Heddlu Gogledd Cymru.

3.30. Yn y frawddeg olaf yn y paragraff cyntaf, dylid newid "byddai llawer ohonynt ar y lefel isaf" i "byddai rhai ohonynt ar y lefel isaf".

3.31. Er mwyn sicrhau bod pob aelod newydd o staff yn cael datblygiad iaith digonol, dylid mewnosod y canlynol yn lle'r trydydd pwynt bwled:

"darparu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer pob aelod newydd o staff nad yw'n rhugl yn Gymraeg"

3.32. Thema 2: Sgiliau iaith: yn yr adran hon, dylid gosod targed i sicrhau bod o leiaf 50 o staff y flwyddyn yn mynychu cyrsiau trochi Cymraeg am gyfnodau llawn amser mewn bloc o tua mis. Byddai cyrraedd y targed hwnnw yn gallu gweddnewid defnydd y Gymraeg o fewn y sefydliad yn ogystal â chyfrannu at dargedau cenedlaethol o ran cynyddu defnydd yr iaith.

3.33. Dylid cydnabod dyletswydd gymdeithasol ehangach y Cynulliad i addysgu'r Gymraeg i'w staff. Gyda hynny mewn golwg, dylid ychwanegu ymrwymiad i gynorthwyo staff i fod yn rhugl yn Gymraeg, nid yn unig at ddibenion eu swyddi, ond yn ogystal er mwyn eu galluogi i fyw eu bywydau yn Gymraeg fel dinasyddion Cymru. Dylid ychwanegu nod i sicrhau, dros amser, bod holl staff y Cynulliad yn rhugl eu Cymraeg er lles ein cymdeithas yn gyffredinol, nid yn unig eu lles yn y gweithle. 

3.34. Yn y pwynt bwled olaf, nid yw'n gywir cyfeirio at "secondiadau a chynlluniau trochi" fel modelau newydd ac arloesol. Dylid yn ogystal cydweithio â'r endid newydd Cymraeg i Oedolion ar y mater hwn. Yn lle'r pwynt hwnnw felly, dylid mewnosod: 

 "cydweithio â Chymraeg i Oedolion er mwyn sefydlu cynlluniau newydd i helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith, er enghraifft secondiadau a chynlluniau trochi ieithyddol, dros gyfnod y cynllun hwn."

3.35. Thema 3: Cynllunio ieithyddol: croesawn yn fawr yr ymrwymiad i "roi mwy o gydnabyddiaeth ffurfiol sy'n gysylltiedig â gyrfa i aelodau o staff sy'n manteisio ar gyfleoedd hyfforddi gyda'r Tîm Sgiliau Iaith." ac y bydd yn cael ei gydnabod yn y system reoli perfformiad.

3.36. Thema 5: Datblygu ethos dwyieithog y sefydliad: ar dudalen 38, y trydydd pwynt bwled, dylid newid "ymchwilio i ffyrdd o ddarparu rhyngwynebau cyfrwng Cymraeg" i "ddarparu rhyngwynebau cyfrwng Cymraeg".

Adran 4

3.37. Trefniadau ar gyfer monitro ac adrodd yn ôl: er mwyn sicrhau craffu digonol a gwelliant parhaus, credwn y dylai fod pwyllgor allanol i fonitro'r cynllun a'i weithredu.