Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018
Ymateb Cymdeithas yr Iaith
1.1. Os gweithredir cynigion yr ymgynghoriad, pryderwn na fydd y cyhoedd yn gallu gweld sut mae addysg cyfrwng Cymraeg yn tyfu (neu’n crebachu) fesul awdurdod lleol o hyn allan. Rydym ar ddeall y byddai gweithredu'r cynigion yn golygu y byddai data am asesiadau athrawon y Cwricwlwm Cenedlaethol sydd wedi bod yn cael ei gyhoeddi ar wefan StatsCymru y Llywodraeth yn diflannu.
1.2. Ym mharagraff 37 dywed y Llywodraeth y byddwch yn “rhoi’r gorau i gyhoeddi data’n rhagweithiol ar gyfer awdurdodau lleol yn y datganiad ystadegol blynyddol ar berfformiad cenedlaethol a’r tablau StatsCymru cysylltiedig.” Gwrthwynebwn y cynnig gan y byddai'n ei gwneud yn anodd i’r cyhoedd gael gafael yn y data yw hwn, sy’n gyfan gwbl yn erbyn yr egwyddor o ddata agored – ac yn groes i gynllun data agored Llywodraeth Cymru ei hun.
1.3. Nodwn fod data am yr asesiadau mewn Cymraeg yn sail i ddau darged sy’n cael eu gosod yng nghynllun gweithredu 2017-21 strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg newydd y Llywodraeth. Heb ddata ar lefel awdurdod lleol ni fydd modd cadw llygad ar y cynnydd (ai peidio) at y targedau hyn. Bydd yn rhaid i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gynnwys y manylion ar lefel awdurdod lleol neu byddant yn ddiystyr, ond prin y gellir ystyried y rheini’n ffordd addas o gyhoeddi data.
Grŵp Addysg
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Ionawr 2018