Eich Hawliau i’r Gymraeg
Hawliau Gweithwyr i’r Gymraeg
Hawliau Penodol
Rheoliadau Safonau'r Gymraeg
Sut ydw i'n cwyno am ddiffyg gwanasaeth Cymraeg?
Hawliau i Wersi Nofio Cymraeg
Defnyddiwch eich hawl newydd i wersi nofio Cymraeg!
-
Ar ddechrau 2015, pasiodd y Cynulliad hawliau newydd i'r Gymraeg (rheoliadau sy'n cael eu galw Safonau'r Gymraeg). Mae dros 100 o hawliau i'r Gymraeg yn y rheoliadau – o'r hawl i ohebiaeth Gymraeg, peiriannau hunanwasanaeth Cymraeg, dysgu'r Gymraeg yn y gweithle i gyrsiau yn Gymraeg.
-
Un o'r hawliau newydd hynny i'r Gymraeg ydy'r hawl i gyrsiau addysg yn Gymraeg, sy'n cynnwys gwersi nofio: "Os byddwch yn cynnig cwrs* addysg sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg."** (Safon 84, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015)
-
Ers 30 Mawrth 2016, mae pob un cyngor wedi gorfod gweithredu'r hawl hon**.
-
Gallwch weld popeth mae'ch cyngor lleol yn gorfod darparu o ran hawliau i'r Gymraeg drwy fynd yma.
*Ystyr 'cwrs' yn y rheoliadau yw: "At ddibenion safonau 84, 85 a 86 (cyrsiau), ystyr cwrs addysg yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd..."
**Mae amod ar yr hawl yn y rhan fwyaf o siroedd sy'n golygu nad oes rhaid cynnig y cwrs os oes asesiad wedi ei gynnal gan y cyngor sy'n dangos nad oes galw am y cwrs yn Gymraeg. Does dim amod o'r fath ym Mhowys na Gwynedd, felly mae rhaid iddyn nhw gynnig gwersi yn Gymraeg bob tro.
Sut alla i gysylltu â'm cyngor lleol i drefnu gwersi nofio Cymraeg?
Ffoniwch eich cyngor ar y rhif ffôn isod:
Cyngor | Cyswllt |
Ceredigion |
01545 570881 |
Caerfyrddin |
01267 234567 / galw@sirgar.gov.uk |
Sir Benfro |
01437 764551 |
Gwynedd |
01766 771000 |
Blaenau Gwent |
01495 311556 / info@blaenau-gwent.gov.uk |
Pen-y-bont ar Ogwr |
01656 643643 / talktous@bridgend.gov.uk |
Caerffili |
01443 815588 |
Caerdydd |
029 2087 2088 / activesales@caerdydd.gov.uk |
Castell Nedd Port Talbot |
01639 686868 / info@celticleisure.org |
Conwy |
01492 574000 / gwybodaeth@conwy.gov.uk |
Dinbych |
01824 706100 |
Fflint |
01352 752121 |
Ynys Môn |
01248 750057 |
Merthyr Tudful |
01685 725000 |
Powys |
01597 827484 / cwsmer@powys.gov.uk |
Sir Fynwy |
01633 644544 |
Casnewydd |
01633 656656 |
Rhondda |
01443 525005 |
Abertawe |
01792 636000 |
Torfaen |
01495 762200 |
Bro Morgannwg |
01446 700111 |
Wrecsam |
01978 292000 |
Beth ddylwn i ei ddweud wrth swyddog y cyngor?
Dyma'r hyn y gallwch chi ddweud wrth y cyngor:
"S'mae. Dwi eisiau manylion am eich gwersi nofio. Dwi'n deall bod gen i'r hawl i wersi nofio yn Gymraeg ers 30 Mawrth 2016.
Dwi eisiau'r wers fod yn Gymraeg, rwy'n edrych ymlaen at fynd.
Diolch am eich amser."
Beth oedd yr ymateb? Gadewch i ni wybod!
Wedi i chi gysylltu â'ch Cyngor Sir, mae croeso i chi daro nodyn at post@cymdeithas.cymru neu alw 01970 624501 i adael i ni wybod pa ymateb gaethoch chi. Gallech hefyd gysylltu â'n Grŵp Hawl i'r Gymraeg ar twitter.