Llythyr i'r Prif Weinidog - Cadoediad yn Gaza (11/2023)

Darllenwch y llythyr yn llawn yma
The letter can ben seen in English below

Annwyl Brif Weinidog,

Ysgrifennwn atoch ynghylch y sefyllfa ofnadwy ym Mhalesteina ac i ofyn i Lywodraeth Cymru ddatgan cefnogaeth i gadoediad.

Mae mwy na 9,000 o Balesteiniaid wedi’u lladd, gan gynnwys 3,500 o blant. Nid yw ysbytai yn gallu darparu gofal hanfodol; mae diffyg mynediad at ddŵr glân, meddyginiaethau a bwyd ac mae miloedd wedi'u hanafu, wedi colli eu cartrefi ac wedi gweld eu teuluoedd yn cael eu lladd. Mae hwn yn drychineb dyngarol.

Mae’n drueni mawr ar y mater hwn fod Cymru’n cael ei chynrychioli gan Lywodraeth y DU sydd wedi rhoi ei chefnogaeth ‘ddigamsyniol’ i Lywodraeth Israel ac wedi gwrthod cefnogi cynigion yn galw am gadoediad yn y Cenhedloedd Unedig. Nid ydym am i’r camau hynny gynrychioli cyfraniad Cymru ar y foment hollbwysig hon. Ni fydd hanes yn edrych yn ôl yn garedig ar y rhai a gefnogodd y gyflafan hon, na'r rhai a safodd o'r neilltu.

Nodwn eich cefnogaeth i ‘saib dyngarol’, ond nid yw ‘saib’ yn ddigon. Mae toriad yn y bomio, dim ond i fwy o sifiliaid farw unwaith y bydd yn ailddechrau, yn annigonol. Mae angen cadoediad ar fyrder, a dyma'r unig ffordd i atal rhagor o farwolaeth a dechrau cymryd camau tuag at drafodaethau dros heddwch. Cefnogir cadoediad gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, llywodraethau ar draws y byd ac asiantaethau gan gynnwys UNICEF, Achub y Plant, Amnest Rhyngwladol ac Oxfam, yn ogystal â 76% o bobl Prydain.

Gofynnwn ichi gyfarwyddo’ch cyd-Weinidogion ac Aelodau o’r Senedd i bleidleisio o blaid cynnig NDM8391, a fydd yn cael ei drafod yn y Senedd ar 08/11/2023 a’ch bod yn cefnogi’r galwadau hyn yn gyhoeddus ac yn ddiamwys:

  • Cadoediad ar unwaith i bob parti a diwedd ar y gwarchae ar Gaza.

  • Agor llwybrau brys ar gyfer cymorth dyngarol i mewn i Gaza ac adfer pŵer, dŵr, bwyd digonol a chyflenwadau meddygol.

  • Ymchwiliad i droseddau rhyfel sydd wedi eu cyflawni yn ystod y gwrthdaro.

  • Ymrwymiad i drafodaethau heddwch a'r defnydd o dactegau di-drais gan y gymuned ryngwladol megis boicotio, dad-fuddsoddi a sancsiynau ar Lywodraeth Israel.

  • Diwedd ar feddiannaeth anghyfreithlon tiriogaethau Palestina a gorthrwm y Palesteiniaid, gyda hawl i ddychwelyd i ffoaduriaid ac ymrwymiad i gyfiawnder a heddwch i holl ddinasyddion Israel a Phalestina.

Mae Prif Weinidog yr Alban, arweinydd Llafur yr Alban a Meiri Llundain a Manceinion wedi galw am gadoediad, yn ogystal ag ASau Cymru a San Steffan o bob plaid, a gwleidyddion etholedig ledled y byd. Byddai’n drueni pe na bai ein Prif Weinidog, arweinydd Cenedl Noddfa sydd â thraddodiad balch o ryngwladoliaeth, yn ymuno â’r galwadau hynny.

Efallai nad oes gan Gymru bwerau dros faterion rhyngwladol ond mae gennym lais. Mae gennych chi ddyletswydd ddemocrataidd i gynrychioli’r mwyafrif o bobl yng Nghymru sydd am weld cadoediad, yn ogystal â dyletswydd foesol i ddefnyddio’ch safle i ymuno â’r corws rhyngwladol cynyddol dros heddwch.