Galw am wersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid

 
Flwyddyn ar ôl i’r Llywodraeth ganiatàu i geiswyr lloches fynychu gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun hwn i hefyd gynnwys ffoaduriaid. 

 

Rydym hefyd yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu cronfa i roi mynediad at y we i ffoaduriaid a cheiswyr lloches er mwyn cael mynediad at wersi ar-lein yn ystod y cyfnod COVID-19 pan nad oes gwersi wyneb yn wyneb ar gael. Mae nifer fawr o ffoaduriaid heb fynediad cyson at y we, ac nid yw’r Swyddfa Gartref yn darparu di-wifr yn llety ceiswyr lloches.  

 

Dywedodd ein swyddog rhyngwladol, Joseff Gnagbo:

“Cyn y llynedd, roedd yn rhaid i geiswyr lloches dalu i fynychu gwersi Cymraeg - mae’r ffaith fod y sefyllfa hon wedi newid ers hynny, wedi blynyddoedd o ymgyrchu ar y mater, yn bendant yn rywbeth i’w ddathlu. Er hyn, rydyn ni’n galw am wneud holl wersi Cymraeg a’u darperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am ddim i ffoaduriaid hefyd, nid dim ond ceiswyr lloches. Gan fod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn wybebu llawer o’r un mathau o anghyfiawnderau a rhagfarnau, roedd y penderfyniad i ddarparu gwersi Cymraeg i’r naill ond nid i’r llall wastad yn un mympwyol.

“Mae gan y Llywodraeth bolisi o wneud Cymru yn Genedl Noddfa - ond ymddengys ar adegau mai dim ond geiriau gwag yw hyn. Dyma gyfle i’r Llywodraeth roi cig ar yr asgwrn, gweithredu ei egwyddorion datganedig o gynhwysoldeb a thegwch, a sicrhau fod gan bawb, o bob cefndir, fynediad at yr iaith.”

Cyhoeddwyd y llynedd bartneriaeth wirfoddol newydd rhwng Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn rhoi mynediad i wersi SaySomethinginWelsh yn rhad ac am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae’r llwyddiant y cynllun hwn, yn ôl Joseff, yn profi “nad oes unrhyw reswm pam na ddylai’r Llywodraeth roi’r hawl i ffoaduriaid fynychu gwersi Cymraeg a’u darperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhad ac am ddim.”

Mae gan y Llywodraeth record gymysg yn y maes hwn: er i’r Llywodraeth gyhoeddi y llynedd y byddai cieswyr lloches yn gallu mynychu gwersi Cymraeg am ddim, ysgrifennodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, at y Gymdeithas yn 2018 gan ddweud: "Nid ydym am i'r drefn [o ffioedd am wersi Cymraeg] wahaniaethu rhwng unrhyw grwpiau penodol o ddysgwyr." Ond gyda pholisi’r Llywodraethol wedi esblygu ers hynny, rydym yn obeithiol y daw esblygiad pellach.

 

Ychwanegodd Mabli Sirol, Cadeirydd ein Grŵp Addysg:

"Mae'r ffoaduriaid, fel Joseff, sydd wedi dysgu'r Gymraeg yn ysbrydoli pobl ledled y wlad i ddysgu ac yn codi hyder pawb i ddefnyddio'r sgiliau Cymraeg sydd gyda nhw. Byddai cynnig gwersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid yn ffordd arbennig o’u cynnwys yn ein cymdeithas a gwireddu'r weledigaeth o wneud Cymru'n Genedl Noddfa. Rydym yn galw’n ogystal ar y Llywodraeth i sicrhau mynediad at y we i’r holl geiswyr lloches a ffoaduriaid er mwyn iddynt gael mynediad at wersi ar-lein yn ystod y cyfnod presennol pan nad yw gwersi wyneb yn wyneb ar gael. 

“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y pleidiau i gyd i fabwysiadu ein gweledigaeth o Ddinasyddiaeth Gymraeg i Bawb cyn yr etholiad flwyddyn nesaf, i ymestyn yr iaith i grwpiau sydd wedi’u heithrio ohoni. Byddai sicrhau mynediad i wersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gam cadarnhaol tuag at wireddu’r weledigaeth honno.”