Menter Ddigidol Gymraeg

Menter Ddigidol Gymraeg

Papur Trafod Cymdeithas yr Iaith

 

Cynnwys

 

Cyflwyniad

Y Sefyllfa Bresennol

Defnydd o'r Gymraeg

Darpariaeth Cynnwys

Darganfod Cynnwys

Diffyg Mewn Profiadau Cymraeg

Menter Ddigidol Gymraeg: Yr Angen

Cylch Gwaith y Fenter

Pwerau a Dulliau Gweithredu

Asesu Cyfleoedd

Creu Cynnwys a Phrofiadau

Dosbarthu ac Amlygrwydd Cynnwys

Enw, Annibyniaeth a Strwythur y Fenter

Gwireddu'r Fenter

Ystyriaethau Cyfansoddiadol, Deddfwriaethol, a Pholisi Llywodraethol

Datganoli Darlledu

Ystyriaeth digonol i'r Gymraeg

Atebolrwydd Algorithmaidd

Casgliadau

 

Cyflwyniad

Mae datblygu’r Gymraeg ar-lein ac yn ddigidol yr un mor bwysig i’r Gymraeg ag oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg, datblygiad y wasg brintiedig yng Nghymru, a datblygiad radio a theledu – mae’n hanfodol.

Mae symudiadau amlwg wedi bod yn y cyfryngau yn y blynyddoedd diwethaf tuag at gynnwys ar-lein, gyda chyfryngau ar ffurfiau traddodiadol yn chwarae rôl llai a llai pwysig ym mywydau pobl yng Nghymru – yn enwedig ymhlith rhai grwpiau fel yr ifanc. Er hyn, yn baradocsaidd efallai, yn y blynyddoedd diwethaf mae cwmnïau cyfryngol traddodiadol, y rhai mawr yn arbennig, wedi llwyddo i addasu i’r byd rhyngrwydol yr ydym bellach yn byw ynddo, gyda’u presenoldeb ddigidol yn ehangu'n aruthrol. 

Mae tueddiadau diweddar ar y wê, y cyfeiriwyd atynt fel ‘trydydd ton’ hanes y rhyngrwyd, yn dangos fod y cyfnod o blwraliaeth ddigidol ar fin dod i ben, gyda nifer llai o gwmnïau cyfryngol mawr, byd-eang, yn darparu cyfran cynyddol o gynnwys ar-lein. Ac fe ddarperir y cynnwys hwn drwy gyfrwng prif ieithoedd y byd ac nid drwy gyfrwng ieithoedd lleiafrifol sydd wedi cael eu lleiafrifoli, fel y Gymraeg. Wrth i’r cyfnod digidol yn hanes y ddynoliaeth ddwysáu, mae perygl gwirioneddol y bydd miloedd o ieithoedd yn marw yn y degawdau i ddod. Amcangyfrifir mai dim ond tua 250 (o’r rhyw  7,000 o ieithoedd byw cyfredol) fydd yn llwyddo i addasu’n ddigonol i’r oes ddigidol, tra bod disgwyl i 2,500 iaith arall fydd ddim wedi addasu’n ddigonol i’r oes ddigidol barhau i fodoli am ganrif arall

Mae perygl gwirioneddol na fydd y Gymraeg yn addasu’n llawn i’r oes ddigidol ac o ganlyniad yn parhau am gyfnod byr cyn marw. Dyma fydd yn digwydd heb weithredu ar ymyraethau polisi cyhoeddus.

Gwelwn y gall y Gymraeg gael ei hennill neu ei cholli fan hyn.

Ond nid yw hyn yn anochel. Os gweithredwn, gallwn osgoi’r dynged hon. Ond er mwyn gwneud hyn, bydd rhaid i’r Gymraeg gofleidio’r cyfleoedd y mae’r oes ddigidol yn eu cynnig yn ogystal â chynnig atebion i’w heriau. 

Y Sefyllfa Bresennol

Defnydd o'r Gymraeg

Mae tystiolaeth o’r Ffindir yn awgrymu fod siaradwyr iaith gyntaf ieithoedd lleiafrifol, yn enwedig pobl ifanc, yn fwy tebygol o gyfathrebu a chreu cynnwys ar-lein yn eu hiaith frodorol, nag y maent o dderbyn cynnwys, megis drwy bori’r wê, yn yr iaith honno.

A cheir tystiolaeth debyg am Gymru hefyd o 2013: pan ofynnwyd i siaradwyr rhugl Gymraeg a oeddent wedi ysgrifennu e-bost drwy gyfrwng y Gymraeg ynteu’r Saesneg yn ystod yr wythnos flaenorol, dywedodd 33% eu bod wedi gwneud yn Gymraeg, a 42% oedd wedi gwneud yn Saesneg. Roedd y canlyniadau’n wahanol ar gyfer ymweld â neu ddefnyddio gwefannau, gyda 75% yn dweud y gwnaethon nhw wneud hynny drwy gyfrwng y Saesneg yn ystod yr wythnos flaenorol, ond dim ond 28% oedd wedi gwneud yn Gymraeg.

O ganlyniad, mae angen i bolisi llywodraeth ddelio â’r ddwy agwedd wahanol yma: mae angen strategaethau ar-wahân (ond sy’n gweddu i’w gilydd) ar gyfer cynyddu allbwn pobl o’r wê yn ogystal â’u mewnbwn iddo drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae angen gweld cynnydd sylweddol yn y ddau faes, gan fod bylchau’n bodoli. Ond, credwn fod angen pwyslais sylweddol a phenodol ar gynyddu’r allbwn fel y prif flaenoriaeth gan fod y diffyg presennol mor ddifrifol. 

Er fod y ffeithiau hyn yn destun pryder mewn llawer o ffyrdd, mae potensial yma y gellir adeiladu arno, gan fod y ffigyrau hyn yn dangos, er gwaethaf diffyg derbyniad siaradwyr Cymraeg o gynnwys Cymraeg ar y wê (sydd yn bennaf yn deillio o’r diffyg cynnwys o safon uchel sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y wê), maent yn dal yn barod iawn i greu cynnwys ac i gyfathrebu ar y wê drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn awgrymu elfen o wytnwch yn nefnydd ieithyddol siaradwyr Cymraeg ar y rhyngrwyd, ond ni allwn ddibynnu ar y gobaith y bydd y gwytnwch yma yn parhau am byth, yn enwedig o ystyried y tueddiadau diweddar yn y byd digidol y cyfeirwyd atynt yn gynharach. 

Ond dangosodd yr astudiaeth yma fod yna alw arwyddocaol iawn ymysg siaradwyr Cymraeg i gynyddu’r cyfleoedd i dderbyn cynnwys yn Gymraeg ar y wê, gydag 84% o’r bobl a holwyd yn dweud y bydden nhw’n croesawu’r cyfle i dderbyn mwy yn Gymraeg ar y wê. Dangosa’r ffigur yma fod y galw yn bodoli o ran cynnwys cyfrwng Cymraeg ar y rhyngrwyd. Mae angen felly i’r Llywodraeth weithredu yn y maes cynyddol bwysig hwn. 

Darpariaeth Cynnwys

Mae'r angen am ragor o gynnwys o safon yn Gymraeg yn amlwg ar draws meysydd digidol – testun, fideo, a sain – gan gynnwys erthyglau nodwedd ac erthyglau ysgafn, clipiau byrion, ffilmiau dogfen a phodlediadau.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid troi at y Saesneg neu iaith arall er mwyn canfod cynnwys o safon ar sawl pwnc sydd o ddiddordeb neu o bwys i bobl. Mae hynny'n troi'n arfer dyddiol – pam ymdrechu i wneud chwiliad Cymraeg o gwbl? Mae'r Gymraeg yn cael ei hisraddio bob dydd yn llygaid pobl, yn enwedig pobl ifanc.

Er enghraifft, ar y llwyfan fideo mwyaf poblogaidd yng Nghymru dylen ni ddisgwyl llwythi o gynnwys Cymraeg ar faterion megis iechyd, gemau, chwaraeon, bwyd, diwylliant a materion rhyngwladol. Wrth chwilio YouTube am dermau a phynciau yn y categorïau hyn, fe ddaw’r diffyg cynnwys i'r amlwg.

Un eithriad pwysig i'r tueddiad ydy Wicipedia Cymraeg sydd wedi cael twf aruthrol fel adnodd cydweithiol addysgiadol.

O ran llwyfannau poblogaidd sydd yn comisiynu cynnwys, nid oes rhaglenni na ffilmiau Cymraeg ar gael yn aml trwy Netflix, Apple TV nac Amazon Prime.

Wedi dweud hyn rydym yn cydnabod bod sawl sefydliad a phrosiect yn cyhoeddi cynnwys Cymraeg ar-lein fel rhan o'u gwaith, gan gynnwys S4C Clic, Hansh, Cyw, Golwg360, Bro360, BBC Cymru Fyw, AM, rhai mentrau iaith, a phrosiectau eraill gan gynnwys rhai gwirfoddol. 

Er y llwyddiannau mewn rhai mannau, rydym yn colli'r frwydr ehangach ar hyn o bryd ac mae'r ychydig o Gymraeg sydd i'w chael ar-lein yn cael ei boddi.

Wrth ddisgrifio’r diffygion hyn, rydym yn cyfeirio at yr angen o ran cynnwys anffurfiol, celfyddydol, ac adloniadol yn bennaf. Nid oes ystyriaeth yma o gategorïau eraill fel adnoddau a dogfennaeth ffurfiol gan sefydliadau, cynnwys marchnata, nac adnoddau addysg ffurfiol. Mae diwydiannau eraill yn cyfrannu at gynnwys megis cyhoeddwyr llyfrau a labeli recordio, ond nid yw'r diwydiannau hyn yn cael eu hystyried yn ddwfn yma chwaith.

Mae Hansh yn profi y gellir, ac y dylid, creu fideo apelgar drwy gyfrwng y Gymraeg. Arddangosir yma groesdoriad eang o gymdeithas ifanc cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, yn ei lawn amrywiaeth, lle gwelir pobl ifanc o bob cwr o Gymru ac acenion o bob cornel o’n gwlad, ac sy’n cynnwys cynrychiolaeth o amlddiwylliannedd, pobl a chymunedau du a phobl o liw, LHDT+ ac o wahanol ddosbarthiadau cymdeithasol. Mae Hansh yn cyhoeddi chwech fideo bob dydd ar YouTube ar gyfartaledd.

Darganfod Cynnwys

Yn ogystal â'r diffyg cynnwys mae problem ddifrifol o ran dosbarthu ac amlygu’r cynnwys Cymraeg sy’n bodoli. Nid yw bodolaeth cynnwys o safon o reidrwydd yn arwain at gyrhaeddiad llwyddiannus. 

Mae grym y platfformau mawrion eto yn sylweddol yn hyn o beth. Mae YouTube, Google, Facebook, Spotify a Twitter yn cael blaenoriaethu’r cynnwys sydd ar gael i filoedd o bobl eu darganfod yn hwylus. Trwy algorithmau a phenderfyniadau golygyddol mae ganddynt ddylanwad enfawr ar ba gynnwys sy'n cael ei ddosbarthu'n eang a pha gynnwys sydd ddim. Mae hyn yn cynnwys chwilio sydd yn aml yn cynnwys elfen o ddewis golygyddol gan y cwmni.

Nid yw hi'n bosibl gweld yn union sut mae iaith y cynnwys yn cael ei hystyried gan algorithmau a sut mae hynny’n effeithio ar ddosbarthiad.

Mae ap AM, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn enghraifft ddiddorol o ymgais i roi sbardun i gynnwys diwylliannol wreiddiol Cymreig. Mae’r ap dwyieithog hwn yn galluogi crewyr cynnwys yng Nghymru i gyrraedd cynulleidfaeodd newydd. Gall cerddorion a darlunwyr arddangos eu gwaith ar ffurf fideo neu lun, gall cylchgronau ar-lein uwchlwytho eu herthyglau, a gall trefnwyr digwyddiadau (o gigs i wyliau bwyd) hysbysebu eu digwyddiadau – a digwydda hyn oll ar un platfform, ar ffurf ap a gwefan. Mae’r prosiect yn ei ddyddiau cynnar. Mae'r penderfyniad i roi 'popeth dan un to' yn un sydd heb ddangos llwyddiant clir eto, ond mae’n brosiect addawol y gellir ei ystyried.

Diffyg Mewn Profiadau Cymraeg

Mae diffyg mewn categorïau sylweddol a elwir yn ‘profiadau digidol’ yn ogystal. Rydym wedi dewis cyfeirio at 'brofiadau' i gyfleu'r math yma o weithred arbennig sydd ddim fel arfer yn dod i'r meddwl wrth gyfeirio at 'gynnwys'. Mae hefyd yn canolbwyntio ar safbwynt y defnyddwyr yn well na thermau fel 'meddalwedd'. Mae’r rhain yn cynnwys profiadau pwysig megis gêmau, realiti estynedig, rhithrealiti, apiau a systemau dysgu a siarad. 

Credwn fod llawer o botensial yn y categorïau hyn sydd heb ei wireddu'n Gymraeg. Serch hynny, dylid cydnabod bod gweithgareddau Cymraeg yn y meysydd hyn e.e. apiau S4C ac ychydig o gyhoeddwyr eraill, gan gynnwys prosiectau a ariannwyd gan gronfa Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru.

Menter Ddigidol Gymraeg: Yr Angen

Cylch Gwaith y Fenter

Prif nod y Fenter Ddigidol Gymraeg yw cynyddu cyfleoedd i weld, clywed, creu a defnyddio'r Gymraeg, ynghyd â chyrhaeddiad ac amlygedd yr iaith drwy ei normaleddio a’i phrif-ffrydio, ar draws llwyfannau ar-lein ac yn ddigidol.

Er mwyn cyflawni’r prif nôd, byddai’r Fenter Ddigidol Gymraeg yn gyfrifol am:

  • creu a chomisiynu cynnwys, profiadau a deunydd digidol newydd;

  • galluogi ac arfogi pobl ar lawr gwlad i greu deunydd o bob math yn Gymraeg, gan gynnwys grwpiau sydd wedi eu hallgau’n draddodiadol o’r byd digidol a’r iaith;

  • dadansoddi’r ddarpariaeth bresennol o gynnwys Cymraeg, gan gynnwys y bylchau, er mwyn gweithredu’n effeithiol;

  • dylanwadu ar, a gweithio gyda, wasanaethau fel Netflix, YouTube, Mubi, Now TV a Spotify er mwyn gwella amlygedd cynnwys Cymraeg;

  • cydweithio â mentrau tebyg mewn ieithoedd lleifafrifol eraill ar draws y byd;

  • gwella ymwybyddiaeth ymhlith unigolion, grwpiau a sefydliadau o gynnwys a phrofiadau digidol Cymraeg;

  • creu a chynnal platfformau newydd cynaliadwy, ar sail ymchwil a thystiolaeth gadarn;

  • ystyried heriau technolegol eraill sydd yn wynebu’r Gymraeg gan gynnig atebion.

Ymhellach, bydd y Fenter Ddigidol hefyd yn:

  • gweithredu a gweinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig;

  •  gweithredu yn annibynnol o unrhyw sefydliad neu gwmni arall o ran ei benderfyniadau creadigol;

  • ffurfio partneriaethau ar brosiectau gyda sefydliadau a grwpiau yng Nghymru, ynghyd â chymunedau o ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws y byd;

  • cymryd gofal i sicrhau'r gorau o fuddsoddiad heb ddyblygu gwaith;

  • hybu a hwyluso plwraliaeth mewn darpariaeth cynnwys Cymraeg ar y rhyngrwyd;

  • cyfrifol am farchnata ap AM, gyda buddsoddiad ariannol ychwanegol yn benodol ar gyfer datblygu cynnwys cyfrwng Gymraeg yr ap hwn;

  • rhoi cymorth ariannol i, ac uwch-sgilio, grewyr cynnwys cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys cymorth i grwpiau difreintiedig a darparu cyfarpar priodol.

Pwerau a Dulliau Gweithredu

Asesu Cyfleoedd

Bydd gwaith y Fenter yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn, gan gynnws asesiadau o anghenion a chyfleoedd ac ymchwil marchnad.

Mae angen asesu’r hyn sydd ar gael ar-lein ac yn ddigidol yn barod yn Gymraeg, a hynny ym mhob maes a chategori. Yn ogystal, mae angen asesu'r hyn sydd ar gael mewn ieithoedd eraill gan gynnwys Saesneg, gan ei gymharu gyda’r hyn sydd ar gael yn Gymraeg. 

Yn dilyn hyn, mae angen cynnig atebion fyddai’n cryfhau ac ehangu darpariaeth Gymraeg. Mae bylchau sydd angen eu llenwi, ond ni fydd y ddarpariaeth Gymraeg newydd yn ddim ond copi na chyfieithiad o'r hyn sydd ar gael mewn iaith arall. Yn sicr, mae cyfleoedd i ganfod a datblygu datrysiadau cwbl amgen yn Gymraeg.

Bydd angen i’r Fenter ddadansoddi patrymau derbyn cynnwys cyfryngol cyfoes ac i’r dyfodol, a sut y gellir gwella mynediad i gynnwys Cymraeg drwy olrhain a rhagweld y patrymau a’r newidiadau hynny. Bydd rhaid mynd ati i adnabod anghenion megis creu mwy o ddeunydd, hyrwyddo deunydd a chreu platfformau newydd sy’n cyfateb i’r rhai sydd ar gael mewn ieithoedd eraill, gan ddatblygu syniadau gwreiddiol yr un pryd.

Disgwylir y bydd angen blaenoriaethu gweithio i lenwi’r bwlch sydd yn bodoli mewn cynnwys digidol ac ar-lein yn Gymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc. Cydnabyddir bod bwlch amlwg yn y ddarpariaeth Gymraeg bresennol i bobl ifanc sydd rhwng oedran targed Cyw a Hansh.

Ymhellach, bydd angen ymchwilio i’r rhwystrau sy’n wynebu pobl wrth greu a dod o hyd i ddeunydd ar-lein yn Gymraeg ac ymchwilio i’r atebion i oresgyn y rhwystrau hyn. Bydd rhaid hefyd edrych ar yr heriau technolegol sy’n wynebu’r Gymraeg ar-lein a chynnig atebion iddynt.

Creu Cynnwys a Phrofiadau

Bydd y Fenter yn creu cynnwys gwreiddiol ar draws pynciau, fformatiau, cyfryngau a llwyfannau er mwyn cyfrannu at ffyniant y Gymraeg.

Credwn y dylai’r Fenter hybu diwylliannau cyffrous, ifanc, datganoledig a gynhyrchwyd yn wreiddiol yng Nghymru ar y wê trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid sicrhau bod y cynnwys ar gael yn rhad ac am ddim.

Mae’n bwysig fod y byd ar-lein Cymraeg yn un y gall siaradwyr Cymraeg o bob cefndir uniaethu ag ef. Bydd yn trin a thrafod bywyd pob dydd ym mhob cornel o Gymru, a bydd yn rhyngweithiol er mwyn i siaradwyr Cymraeg gyfrannu ato a chymryd rhan uniongyrchol ynddo. 

Mae angen datblygu ffyrdd technolegol o greu profiadau hefyd, megis gwasanaethau sydd yn cynnig cyfleoedd i gwrdd all-lein, sgwrsio, cynnal grwpiau diddordeb, a gwasanaethau dêtio hyd yn oed.

Mae’r Fenter Ddigidol Gymraeg yn cynnig cyfle i ail-ddychmygu defnydd o dechnoleg sydd ddim yn dibynnu’nn llwyr ar hysbysebion, sydd ddim yn arwain at or-ddefnydd, caethiwed i'r corfforaethau, sarhad, hiliaeth, a newyddion ffug ac anghywir. Yn hytrach, byddai’r Fenter yn rhoi blaenoriaeth i dechnoleg sy'n ymateb i anghenion a dyheadau pobl a chymunedau, sy'n parchu preifatrwydd, ac sy'n arwain at greu gofodau diogel a chynhwysol. O bryd i'w gilydd, mae pobl eisiau chwarae gêm gyfrifiadurol yn yr un ystafell â ffrind neu hyd yn oed ddiffodd y sgrîn a chwrdd â rhywun am sgwrs all-lein. Bydd hyn yn amlwg yn ddefnyddiol i ddysgwyr neu bobl llai hyderus eu Cymraeg, a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd lle nad oes llawer o siaradwyr Cymraeg.

Yn ogystal, mae'r egwyddor o greu cynnwys a phrofiadau er budd pobl a chymunedau yn golygu y byddai angen i’r Fenter arddel agweddau a dulliau gweithredu penodol. Mae eisiau dosbarthu unrhyw gynnwys, meddalwedd, neu ddata a grëwyd dan drwyddedau rhydd a chod agored sy'n caniatáu ailddefnydd ac yn cyfrannu at dwf y maes yn ehangach – lle bo hynny'n bosibl.

Bydd modd adeiladu ar waith perthnasol gan academwyr, Prifysgol Bangor yn enwedig, i ddatblygu seilwaith fel systemau Cymraeg, megis technoleg llais. Prif ffocws gwaith Prifysgol Bangor yw adeiladu seilwaith technolegol.Mae potensial pendant i’r Fenter Ddigidol Gymraeg ategu at, ac adeiladu ar, y gwaith pwysig hwn drwy greu cynnwys a phrofiadau newydd sydd wedi’u hanelu at ddefnyddwyr cyffredin.

Dosbarthu ac Amlygrwydd Cynnwys

Fel Menter sydd yn creu cynnwys a phrofiadau ar draws platfformau bydd angen cydnabod yr her fod grym y corfforaethau yn anferth.

Gyda datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu, bydd modd defnyddio pwerau rheoleiddio er mwyn sicrhau amlygrwydd cynnwys Cymraeg ar y llwyfannau corfforaethol mawr. Yn y cyfamser, credwn y dylai’r Fenter Ddigidol Gymraeg ddefnyddio sgiliau dylanwadu a negodi er mwyn pwyso ar y corfforaethau hyn i wella amlygrwydd y Gymraeg.  

Ar lefel ddeddfwriaethol, bydd angen rheoliadau ieithyddol statudol sy’n gorfodi llwyfannau corfforaethol fel Facebook, YouTube a Twitter i roi ystyriaeth ac amlygedd digonol i'r Gymraeg. Mae pob un o'r corfforaethau a enwir, ac eraill, yn cael ffafrio rhai darnau o gynnwys dros rai eraill trwy algorithmau, systemau chwilio a phenderfyniadau golygyddol. Mewn rhai achosion bydd rhaid gorfodi nhw i ddarparu isafswm clir o gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond yn absenoldeb pwerau rheoleiddio, dylid defnyddio pwerau ymchwilio, dylanwadu a chymhellion eraill er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Enw, Annibyniaeth a Strwythur y Fenter

Mae datblygiadau yn y maes hwn o bwys mawr i ffyniant y Gymraeg dros y blynyddoedd a’r degawdau i ddod, ac mae angen sefydlu corff pwrpasol i fynd i’r afael â’r her.

Rydym wedi rhoi’r enw ‘Menter Ddigidol Gymraeg’ ar y corff hwn am fod cysyniad ‘mentrau iaith' yn agosach at gyfleu'r syniad na llawer o sefydliadau a chyrff eraill, gan eu bod yn fudiadau sy’n gweithio gyda chymunedau lleol. Fodd bynnag, nid yw'r sefydliad newydd o reidrwydd yn efelychu mentrau iaith o ran strwythur a dulliau gweithredu.

Mae’n rhaid pwysleisio y credwn ei bod yn bwysig mai corff ar wahân fydd y Fenter Ddigidol Gymraeg, ar wahân i fentrau iaith eraill yn ogystal â chyrff a sefydliadau eraill yng Nghymru.

Bydd rhyddid ac annibyniaeth y Fenter newydd yn bwysig er mwyn iddi allu canolbwyntio'n llwyr ar y nod o ehangu’r cyfryngau digidol yn Gymraeg heb fod yn adran o sefydliad sydd eisoes yn canolbwyntio ar amcanion eraill. Serch hynny, disgwyliwn y bydd cyfleoedd yn codi i gydweithio ac i bartneriaethu â sefydliadau eraill.

Nid ydym yn galw am bencadlys penodol o ran swyddfa i’r Fenter hon – byddai natur y swyddogaethau yn golygu mai allan yn y maes ac ar-lein y byddai angen i unrhyw gyflogai fod.

Bydd Bwrdd Rheoli i’r Fenter ac mi fyddai’n hanfodol i aelodau’r Bwrdd feddu ar sgiliau a phrofiad perthnasol, gan gynnwys creu deunydd. Dylai fod cynrychiolaeth arno o fudiadau ieuenctid Cymru ac arweinwyr yn y maes penodol hwn.

Gwireddu'r Fenter

Bydd yn rhaid i’r Fenter Ddigidol Gymraeg dderbyn arian sylweddol gan y Llywodraeth – swm a fyddai’n adlewyrchu’r brys sydd i fynd i’r afael â’r maes hwn wrth i ni ymdrechu tuag at y miliwn o siaradwyr Cymraeg. Bydd y swm yn adlewyrchu pwysigrwydd y maes yn hynny o beth a hefyd yn swm a fydd yn adlewyrchu anferthedd y dasg.

Bydd y Fenter yn fuddsoddiad mewn sgiliau yng Nghymru ac yn creu cyfleoedd i bobl fyw a gweithio oddi fewn i’w cymunedau lleol yn hytrach na theimlo'r angen i symud i ddinasoedd er mwyn datblygu gyrfa arbenigol.

Yn ein papur ‘Yr Achos dros Ddatganoli Darlledu i Gymru’, amcangyfrifwn y gellid buddsoddi hyd at £9 miliwn y flwyddyn mewn prosiectau creu cynnwys Cymraeg, ac amlinellir yn y papur hwnnw ardoll newydd er mwyn ariannu’r prosiect. Credwn y byddai buddsoddiad o’r fath yn ddigonol er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y maes hollbwysig hwn. 

Ystyriaethau Cyfansoddiadol, Deddfwriaethol, a Pholisi Llywodraethol

Datganoli Darlledu

Mae gan ein Senedd genedlaethol bresennol y pwerau sydd eu hangen i sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg. Wedi dweud hynny, byddai trosglwyddo pwerau darlledu i Gymru yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys agweddau ariannol, yn galluogi’r Llywodraeth: 

  • i leoli’r Fenter fel rhan o strategaeth ddigidol a thelathrebu ehangach fyddai’n cynnwys corff rheoleiddio newydd

  • i ddatblygu’r Fenter ymhellach gan ei wneud yn gorff gwirioneddol arloesol a chreadigol gyda chylch gorchwyl eang a chynhwysfawr; 

  • i ariannu’r corff yn effeithiol. 

Atebolrwydd Algorithmaidd

Wedi datganoli pwerau cyfathrebu a darlledu i Gymru, gallai Llywodraeth Cymru fynnu tryloywder am algorithmau er mwyn datgelu yn iawn sut mae corfforaethau megis Facebook, Twitter, YouTube yn argymell un darn o gynnwys dros y llall. Dylid defnyddio’r wybodaeth a phwerau rheoleiddio perthnasol er mwyn blaenoriaethu cynnwys Cymraeg a chynyddu’r galw.

Mae galwadau cynyddol am atebolrwydd o'r fath o du academyddion ac ymgyrchwyr ledled y byd: gobeithiwn felly y bydd rhaid i'r corfforaethau adrodd yn glir ac yn dryloyw am y ffactorau sy'n gyrru dewis a dethol cynnwys. 

Casgliadau

Amlinellir yn y ddogfen hon weledigaeth ar gyfer corff a allai weddnewid sefyllfa’r Gymraeg ar y wê; mae’n ddiamheuol fod diffygion difrifol o ran cynnwys Cymraeg ar-lein. 

Gyda’r defnydd o lwyfannau ar-lein yn uwch nag erioed o’r blaen, mae’r diffyg Cymraeg ar y llwyfannau hynny’n tanseilio defnydd yr iaith yn ein cymunedau. Gall y Gymraeg gael ei hennill neu ei cholli fan hyn.

Rydyn ni’n colli’r frwydr ar hyn o bryd, ac mae’r ychydig o Gymraeg sydd i’w chael ar-lein yn cael ei boddi, ac ar goll. Rhaid mynd ati i adnabod anghenion megis creu mwy o ddeunydd, hyrwyddo deunydd a chreu llwyfannau newydd sy’n cyfateb i’r rhai sydd ar gael mewn ieithoedd eraill ac hefyd datblygu syniadau gwreiddiol.

 

Er gwaethaf yr holl heriau presennol ac i’r dyfodol, mae sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg yn cynnig ffordd bendant ymlaen i droi’r lli o blaid y Gymraeg yn y byd digidol. 

 

Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith

Awst 2020