Ar bumed pen-blwydd Mesur y Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu'n gyflymach i gryfhau hawliau iaith, wrth fynegi pryder mai dim ond un set o Safonau fydd wedi dod i rym dros dymor y Cynulliad presennol.
Daeth Mesur y Gymraeg i rym ar 9 Chwefror 2011, bum mlynedd i heddiw, wedi iddo gael ei basio'n unfrydol yn y Cynulliad fis Rhagfyr 2010. Pasiwyd y set gyntaf fis Mawrth 2015, ac fe fydd yr Aelodau Cynulliad yn pleidleisio ar yr ail set heddiw. Bydd 32 corff yn ddarostyngedig i’r Safonau hyn yn y misoedd nesaf, gan gynnwys S4C, Y Llyfrgell Genedlaethol, Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a’r Ardd Fotaneg.
Wrth i Aelodau Cynulliad gymeradwyo'r ail gylch heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi eu pryder fod cyn lleied wedi ei gyflawni mewn pum mlynedd.
Meddai Manon Elin, cadeirydd Grŵp Hawl y Gymdeithas:
“Rydym wir yn gobeithio y bydd y Llywodraeth nesaf yn gweithredu'n llawer iawn yn gynt. A hithau’n union bum blynedd ers i’r Mesur ddod i rym heddiw, mae’n syndod cyn lleied sydd wedi ei gyflawni. Mae’n annerbyniol nad ydy’r awdurdodau sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith wedi gweithredu’r ddeddfwriaeth yn llawn. Cyn heddiw, un cylch yn unig o Safonau sydd wedi eu pasio mewn pum mlynedd. Mae hyn yn peri pryder wrth feddwl ein bod yn disgwyl y bydd o leiaf tair pleidlais arall nes fod gobaith y bydd cwmnïau ffôn a thelathrebu yn gorfod darparu gwasanaethau Cymraeg."
"Rydyn ni’n dal i aros i glywed pryd fydd cwmnïau telathrebu, sy'n cynnwys cwmnïau ffôn, yn dod o dan y Safonau, er i’r Comisiynydd addo ryddhau’r amserlen hwnnw cyn diwedd 2015. Hefyd, addawodd y Llywodraeth yn gwbl glir, yn ei strategaeth iaith, y byddan nhw’n gosod safonau ar y sector telathrebu. Felly, ble mae’r amserlen i sicrhau eu bod nhw’n cyflawni eu haddewid? Mae technoleg yn rhan hanfodol o’n bywydau bellach, felly mae cwmnïau o’r fath yn hollbwysig o ran cynyddu defnydd o’r Gymraeg. Mae’r diffyg gweithredu yma o du’r Comisiynydd a’r Llywodraeth yn amddifadu pobl o’u hawliau iaith ac yn colli cyfle euraidd i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.
"Credwn hefyd ei bod hi’n hen bryd diwygio’r Mesur. Mae angen ehangu ei sgôp er mwyn cynnwys yr holl sector preifat. Mae’n hymchwil diweddar ni i mewn i’r ddarpariaeth Gymraeg gan archfarchnadoedd yn dangos yn glir na fydd mwyafrif y cyrff yn y sector preifat yn darparu gwasanaethau Cymraeg o’u gwirfodd heb orfodaeth.”