80% o Gymry Cymraeg o blaid hawliau iaith

gwasaniaithau.jpgMae siaradwyr Cymraeg eisiau derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ôl ymchwil gan Lais Defnyddwyr Cymru - Gwasaniaithau, Defnyddwyr â'r laith Gymraeg (PDF) - ond mae yna bethau sy'n eu rhwystro nhw rhag gwneud hynny. Mae'r arolwg yn dangos bod 80% o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylent gael yr hawl i gael mynediad at yr holl wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.Dywedodd Rhys Llwyd, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r adroddiad hwn yn tanlinellu nifer o bryderon sydd gennym fel cymdeithas am y drafft Fesur Iaith - mae hawliau'r unigolyn wedi cael eu hanwybyddu yn llwyr. Mae'n rhoi hawliau i gwmnïau mawr, ond nid i bobl."Ble mae'r synnwyr yn hynny? Fe waneth y Llywodraeth addo hawliau, ond nid ydynt wedi cadw at ei gair. Mae'r methiant yma yn golygu bod rhwystrau aruthrol i ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn parhau."Rhwystrau'n atal pobol rhag defnyddio gwasanaethau Cymraeg - Golwg360 - 07/09/10Angen i'r comisiynydd iaith 'wrando ar y cwsmer' BBC Cymru - 07/09/10Welsh speakers face 'hidden barriers' to services says consumer report - Daily Post - 07/09/10Welsh Language Commissioner 'must listen to consumers' - Western Mail - 07/09/10