AC yn 'wrth-Gymraeg' - ymateb Cymdeithas i sylwadau am addysg Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu Aelod Cynulliad am ddadlau yn erbyn addysg Gymraeg i bob disgybl. 

Mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, dadleuodd yr Aelod Cynulliad sy'n cynrychioli'r De-Orllewin Caroline Jones na ddylai pob disgybl ddysgu'r Gymraeg yn yr ysgol. 

Mae arolygon barn diweddar wedi adrodd cefnogaeth gref iawn y cyhoedd i'r Gymraeg. Dywedodd Toni Schiavone, cadeirydd grwp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

"Mae'r sylwadau hyn yn wrth-Gymraeg ac yn adweithiol. Mae mwyafrif pobl Cymru yn cytuno gyda ni fod y Gymraeg yn sgil hanfodol i bob person ifanc; mae pobl eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu. Felly'r hyn sydd ei angen yw cynigion er mwyn sicrhau bod 'na addysg cyfrwng Cymraeg i bawb, nid i'r rhai ffodus yn unig." 

Yn ôl canlyniadau arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd yn 2014, roedd mwyafrif clir o bobl Cymru eisiau gweld cwricwlwm addysg sy'n sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol gyda'r gallu i gyfathrebu'n Gymraeg yn effeithiol. Ag eithrio'r rhai a nododd nad oeddent yn gwybod, roedd 63% o'r bobl a holwyd yn yr arolwg yn cytuno y "dylid dysgu pob disgybl i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg", gyda dim ond 37% yn anghytuno.