Ad-drefnu'r Llywodraeth: y Gymraeg yn ôl yn y cabinet

Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb i benodiad Eluned Morgan fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol o fewn y cabinet.  

Meddai Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

“Mae’n dda gweld bod Gweinidog y Gymraeg bellach yn eistedd o fewn y cabinet. Rhan bwysig o’i gwaith fydd sicrhau bod pob un o’r gweinidogion eraill yn cymryd eu cyfrifoldeb dros y Gymraeg hefyd. Mae angen holl rym y Llywodraeth y tu ôl i strategaeth y miliwn. Mae’n hanfodol hefyd bod adran lawn, nid is-adran, o fewn y gwasanaeth sifil i'w chefnogi hi a’r Llywodraeth gyfan yn y gwaith mawr sydd o’u blaenau. 

“Rydyn ni’n obeithiol y gwelwn ni newid agwedd yn y Llywodraeth gyda Mark Drakeford wrth y llyw. Roedden ni’n falch bod maniffesto arweinyddol y Prif Weinidog newydd yn canolbwyntio ar gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Doedd dim sôn am y cynlluniau annoeth presennol i wanhau'r Ddeddf Iaith sy’n tynnu sylw oddi ar y gwaith o gyflawni'r strategaeth. Mae’n edrych yn fwy a mwy tebygol y bydd y cynlluniau deddfwriaethol hynny, a fyddai'n gwanhau hawliau iaith ac yn dileu swydd Comisiynydd newydd y Gymraeg, yn cael eu gollwng.”