'Addysg Gymraeg i Bawb' medd arolwg barn

Mae mwyafrif clir o bobl Cymru eisiau gweld cwricwlwm addysg sy'n sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol gyda'r gallu i gyfathrebu'n Gymraeg yn effeithiol, yn ôl canlyniadau arolwg barn YouGov/Cymdeithas yr Iaith a gafodd ei ryddhau heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 10fed). 

Daw'r newyddion wrth i'r Athro Graham Donaldson baratoi adolygiad o'r cwricwlwm a fydd yn argymell newidiadau i Weinidogion Cymru ar droad y flwyddyn. Mae'r adolygiad yn ystyried canlyniadau adroddiad annibynnol gan yr Athro Sioned Davies, a feirniadodd y system addysg Gymraeg ail iaith yn hallt, gan ddweud “Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith”. 

Ag eithrio'r rhai a nododd nad oeddent yn gwybod, roedd 63% o'r bobl a holwyd yn yr arolwg yn cytuno y "dylid dysgu pob disgybl i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg", gyda dim ond 37% yn anghytuno. 

Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith: "Mae'n galonogol iawn gweld bod pobl Cymru yn cytuno gyda ni. Ddylai ein trefn addysg ddim amddifadu'r un plentyn o'r hawl i allu cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae'r system yn methu ac yn creu dinasyddion eilradd, nad ydyn nhw ddim yn cael yr un cyfleoedd gwaith a diwylliannol ag eraill, a hynny oherwydd hap a damwain daearyddol, eu sefyllfa ariannol, neu ddewis eu rhieni. 

"Wrth i ni siarad â phobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol, mae consensws ynghylch hyn. Yr her i'r Athro Donaldson a Llywodraeth Cymru nawr yw gweithredu yn ôl ewyllys y bobl i sicrhau bod y system yn cyflawni ar gyfer pob un plentyn, nid y rhai ffodus yn unig. Does dim lle bellach i'r Athro Donaldson fod dan unrhyw gamargraff am farn pobl Cymru, a does dim esgus i'r llywodraeth ohirio gweithredu."

Mae'r Gymdeithas yn dadlau y dylai pob ysgol yng Nghymru addysgu rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod holl bobl ifanc Cymru yn gadael yr ysgol yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg. Mae barn y cyhoedd yn fwy rhanedig ar y mater hwn, gyda 42% yn credu y dylid dysgu rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion Saesneg a 48% yn erbyn. Fodd bynnag, roedd mwy o gefnogwyr y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn cytuno y dylid dysgu rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol nag oedd yn anghytuno. Roedd pobl ifanc 18-24 sydd newydd adael y gyfundrefn addysg eu hunain hefyd yn cytuno gyda'r polisi. 

Ychwanegodd Ffred Ffransis: "Dw i'n credu bod y canlyniadau yma yn rhai cadarnhaol iawn o ystyried mor gyfyngedig y bu'r drafodaeth gyhoeddus. Mae profiad addysgwyr yn dangos yn glir mai addysg cyfrwng Cymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod disgyblion yn gallu cyfathrebu'n Gymraeg. Mae'r Athro Sioned Davies hefyd wedi dweud bod angen symud pob ysgol ar hyd un continwwm tuag at sefyllfa lle bydd o leiaf beth addysg Gymraeg ym mhob ysgol. Dylai fod dechrau trefn yn syth o gynlluniau peilot."

Cliciwch yma am y canlyniadau llawn