
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i adroddiad Grŵp Gorchwyl yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau’r Gymdeithas: “Gyda’r argyfwng sydd yn wynebu’r Gymraeg oherwydd y gyfundrefn gynllunio, diffyg hawliau, a system addysg sy’n amddifadu mwyafrif y genhedlaeth nesaf o’r Gymraeg, dyw hi ddim ond yn deg ein bod ni’n codi cwestiynau am ddiben adolygiad sydd wedi argymell cyn lleied. Wedi dweud hynny, rydyn ni’n croesawu’r ffaith y bydd yr Eisteddfod yn parhau fel gwŷl symudol, a’r gydnabyddiaeth y gellid gwneud llawer mwy er mwyn sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa. Rydyn ni’n cynnal gigs yng nghanol y cymunedau mae’r Eisteddfod yn ymweld â nhw. Mae’n bwysig hefyd bod yr Eisteddfod ei hunan yn gwneud mwy yn y cyfeiriad yna.”