Aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Llys

Steffan Cravos a Osian Jones yn y LlysBydd dau aelod amlwg o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Pwllheli am 10.30 bore dydd Gwener, Hydref 17. Cyhuddir Steffan Cravos, cyn- gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngogledd Cymru o ddifrod troseddol. Digwyddodd hyn ar ôl i'r ddau gael eu harestio (gyda dau aelod arall nad ydynt yn wynebu achos llys) am beintio sloganau ar waliau siopau Boots a Superdrug yng Nghaernarfon, Llangefni, Porthmadog a Chaernarfon. Roedd hyn fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd fyddai yn meddu ar bwerau yn ymestyn i'r sector breifat.

Dywedodd Osian Jones ar ran y ddau ddiffinydd:"Am ryw reswm bu llawer o oedi cyn i'r achos hwn ddod i'r llys, ond mae'n digwydd ar amser cwbwl dyngedfennol yn yr ymgyrch dros Fesur Iaith gan ein bod yn disgwyl yn eiddgar am gyhoeddiad ar y mater gan Lywodraeth y Cynulliad. Teimlwn ein bod eisoes wedi bod yn rhy amyneddgar ac mae'n arwyddocaol fod yr achos hwn yn digwydd wythnos cyn ein Rali Genedlaethol yn Aberystwyth gynhelir yng Nghanolfan Morlan am 2 o'r gloch dydd Sadwrn Hydref 25 am 2 o'r gloch. 'Mesur Iaith Cyflawn – Y Rhybudd Olaf[ yw teitl y rali honno ac mae'n arwydd clir a phendant fod amynedd Cymdeithas yr Iaith gyda llywodraeth y Cynulliad ar fin dod i ben."